Hide Articles List

5 articles on this Page

♦ A THRO PA FFEWDTAL A'T…

News
Cite
Share

⦠A THRO PA FFEWDTAL A'T II AN K SI < > N. 's 5 G A N S I L U R Y D P. PENOD VII. FE gafodd y myfyrwyr rai dyddiau i ymbleseru hwnt ac yma gan yr athraw, sef yn awr Dr Daviea, ar ol iddo gael y teitlau anrhydeddus gan y prifysgolion. Fe aeth amryw ohonom i ymweled a'r ogofeydd a wnaeth yr hen Rufein- iaid wrth chwilio am yr aur, yn yr ogofau sydd ger Pumpsaint, yn mhlwyf Caio. Yr oedd y dydd hwnw yn ddiwrnod clir, tawel, a heulog. Darfu i ni gyfarfod ag un o'r myfyrwyr yn ymyl yr ogofau, sef Thomas Davies, yr hwn oedd yn byw yn agos i'r lie, ac mor gyfarwydd a'r ogofau ag oedd o ystafelloedd ei dy. Gwnaethom iddo ef i fod yn arweinydd i ni i fyned i mewn ac i ddyfod allan o'r ogofau, rhag ofn i ryw anffawd ddygwydd i ni dan y ddaear. Yr oeddem wedi prynu amryw ganwyllau a matches i weled y lie y dydd blaenorol. Yr oedd yno i gyd tua 17 o ogofiiu; aethom trwy- ddynt oil, a daethom allan yn ddyogel. Sylw- asom ar olion y mandrelau ar y creigiau yno, a rhyfeddem wrth weled maintioli a pheJlder yr ogofau i'r Rhufeiniaid dyllu y creigiau mor wych, a hwythau heb bylor, canys nid oedd neb yr amser hwnw wedi darganfod y ddyfais i wneyd pylor. Buom yn casglu amryw ddarnau o'r quartz a'r felspar yno, ac yn chwilio am ron- ynau o'r aur yn mysg y sand gwyn a adawodd y Rhufeiniaid ar eu hoi, ac edrychem trwy magnifying lenses arno er gweled a oedd yno ddim gronynau o aur i'w cael; oud methem weled dim. Aethom i fan arall yn ymyl naut o ddwfr a redai trwy y cwm, a chawsom sand gwyn eto, a buom yn golchi y sand gwyn mewn pedyll, ac yn tywallt y dwfr brwnt ymaith yn bwyllog, a chawsom ryw dri gronyn o aur. Gosodasom y morthwyl arno, ac os daliai heb friwio i ffwrdd megys gwydr, barnem ei fod yn aur. Yr oeddem yn gwybod yn eithaf sicr fod aur yn yr ogofiiu, oblegid yr oedd Dr J. Percy a Proflfeswr A. C. Ramsay wedi cael aur yno .1' rai blynyddoedd yn ol, ac yr oeddynt wedi hys. byau hyny hefyd yn y Geological Memoirs am sir Gaerfyrddin. Aethom gyda'r arwein- ydd, ar ol hyo, i weled Melin y Milwyr (Soldier's Mill) a'r Roman Encampment otedd yn ymyl Lodge yr ogofau ac aethom oddiyno i weled Caregfawr Pumpsaint, lie yr oedd olion penau y pump sant gynt i'w gweled ami. Yr oedd y chwedl hon yn rhedeg fel y canlya âBu yn mhentref Pumpsaint gapel Pabyddol, ac yr oedd pump sant nodedig o dduwiol- yn perthyn i'r capel hwnw, ac fe elai y pump sant da hyn i ymweled a'r cleifion, ac i weddio a darllen iddynt; ond wrth ddychwelyd ar eu taiib. adref, trodd yn ystorm o felit a tharanau a chenllysg ofnadwy, a gorfu iddynt osod eu penau i orwedd ar y gareg fawr hon, a churodd y cenllysg eu penau mor ofnadwy nes i 61 eu penau gael eu gosod yn amlwg ar y gareg hon hyd y dydd heddyw. Pallodd un o'r myfyrwyr gredu y chwedl hon, a haerai mai olion pwnio y ceryg gwynion arni oedd yr olion. Aethom wedi hyny i weled Clochdy y Gwr Drwg. Y mae y chwedl am hwn yn rhy faith i'w hadrodd, ac eithaf diles. Aethom oddiyno i weled Ogof Gweno. Gelwir hi felly am i ryw hen fonedd- iges a ddaeth i ymdroehi yno flynyddoedd yn ol fyned i lawr i ryw bwll, a boddi yno. Cyrchai yr hen bobl a'r scurvy arnynt i'r ogof vma i gael gwellhad. Wrth ymweled a'r Ogof Fawr cafodd un Mr John Griffiths (sef y di- weddar Barch J. Griffiths, Lianwrtyd) afael mewn careg lwyd a gronynau melyn dysglaer yn llawn trwyddi. Meddyliodd ei fod wedi cael trysor gwerthfawr, a chariodd hi ganddo i Gwargorof, ac oddiyno i'r Athrofa i'r Doctor i gael ei gweled, a rhoddi barn arni. Gwelodd yntau hi, a dywedodd mai mica oedd yn y gareg, ac nad oedd yn werth dim Mawr oedd siomedigaeth Mr Griffiths, canys yr oedd y gareg tua deuddeg pwys, a tliaflwyd hi ymaith i'r cae ger Haw. "Everything that glittery is not gold," meddai y Doctor. --+-

IY GYMANFA DDE-ORLLE WlNOL.

CYMANFA EHYDYCEISIAID YN 1823v

MAGWBAETH GREFYDDOL IEUENCTYD…

YMYLON Y FFOEDD.