Hide Articles List

1 article on this Page

YMYLON Y FFOEDD.

News
Cite
Share

YMYLON Y FFOEDD. Nos Sadwrn, Mehefin 14eg. YR wyf yn meddwl i mi flynyddoedd yn ol alw sylw at Y CWMWL TYSTION," gan y Parch J. Jones, Llangiwc ond ymae, yr "HoIwyddoreg" werthfawr yma ar Hanes teulu y ffydd" wedi myned er hyny trwy ddau argraffiad ychwanegol o rai miloedd bob un ac y mae trydydd argraff- iad sydd yn awr o'm blaen yn cynwys am- ryw benodau nad oeddynt yn yr argraffiadau cyntaf. Nid rhaid iddo wrth ganmoliaeth I i'r neb a'i darllenodd. Cwynir gan rai fod I yr oes yn dirywio mewn gwybodaetb Ys- grythyrol. Os ydyw hyny yn wir, y gwlth- weithiad mwyaf effeithiol fyddai dysgu yr Holwyddoreg yma trwy ein boll Ysgol- ion Sabbothol. Ni cbeir yma bron ddim ond pur Air Duw; ac y mae yr addysg oil yn y ffurf symlaf a mwyaf dealladwy, ac eto heb ddim yn blentynaidd. Gallaf yn galonog ei gymeradwyo i deuluoedd yn gystal ag i'n holl Ysgolion Sabbotbol. Cefais yn ddiweddar trwy law cyfaill Adroddiad CYFUNDEB MYNWY. Yn fy nghof cyntaf yr oedd Cyfundeb Mynwy yn cymeryd lie amlwg yn mysg cyfundebau Cymru. Carient eu gweithred- iadau allan yn fwy cyfundrefnol nag odid un o'n cyfundebau. Cromwell o Went, fel ei badnabyddid y pryd bwnwây Parch Hugh Jones, Tredegar-Caerfyrddin, wedi â hyny-oedd ysgrifenydd y Cyfundeb, ac efe oedd y meddwl arweiniol yn y sir. Ysgrif- enodd lawer ar Annibyniaeth Gyfundrefnol, ac ysgrifenodd yn gryf unwaith fod Pres byteriaeth,. yn well yn Nghymru nag Annibyniaeth. Cariwyd pethau yn rhy bell, yn ddiau, fel y daeth gwrthweithiad, ac o'r braidd y diangodd y sir rhag Anni- byniaeth benrydd. Yr oedd Cromwell ohono yntau wedi myned yn Annibynwr mawr cyn diwedd ei oes, fel y gwelais fwy nag un o'r rhai oeddynt yn Annibynwyr mwyaf cyfundrefnol yn moreu eu hoes. Mae oes arall er hyny wedi codi yn Mynwy, a dengys yr Adroddiad hwn eu bod am y chwarter canrif diweddaf wedi bod yn gweithio yn egn'iol, er nad yw eglwysi y Cyfundeb Cymreig, oblegid fod y gweith- feydd wedi cilio, mor lluosog ag yr oeddyut ddeugain mlynedd yn ol; er fod yn bur sicr, pe cyfrifasid hwy y pryd hwnw gyda'r un manylwch ag y gwneir yn awr, y cawsid nad oedd eu nifer mor lluosog ag y tybid. Mae yr ystadegaeth a geir yma yn un y gellir dibynu arni, gan y rhoddir manylion pob lie; ac nid yw nifer yr aelodau mewn unrhyw le yn cael ei roddi i lawr uwchlaw yr hyn y dysgwyliaswn ei gael, ac oblegid hyny nid oes temtasiwn i amheu eu cywir- deb. Yr wyf bellach mor gyfarwydd a holl eglwysi Cyiniu, ac wedi talu y fath sylw i'r mater, fel y mae genyf amcan lied gywir o'r nifer yn mhob lie. Ni frawychwyd rhyw lawer arnaf gan y cri a gyfodwyd am yr anghyfavtaledd rhwng rhif ein haelodau a nifer ein Hysgolion Sabbothol; ac nid wyf; yn meddwl ein bod yn ol i un o'r enwadau, ond i ni gael cyfrif cywir a manwl, er fod yn dda genyf ar yr un pryd am y symbyliad a roddodd hyny i'n Hysgolion Sabbothol mewn amryw fanau, yr hyn oedd yn wir angenrbeidiol. Nid yw ein Hysgolion Sab- bothol yn Mynwy yn ymddangos i anfantais fawr ar y cyfan yn y daflen hon, er yn sicr dylasent fod yn lluosocach mewn rhai man- au, os yw y cyfrif a roddir o rif yr aelodau yn gywir. Pe ceid tafleni fel hyn o bob cyfundeb, byddai genym rywbeth i gyfeirio ato, a rhywbeth na allai ein holl wrthwyn- ebwyr ei wrthddywedyd. Diolch yn fawr i'r cyfeillion a gymerodd drafferth i gael hyn oddiamgylch.-Mae Adroddiad pedwar cyf- arfod cyntaf UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMREIG wedi ei gyhoeddi yn llyfr trwchus 296 o du- dalenau, o'r un blyg a'r Adroddiadau ereill. Cwynai llawer nad oedd Adroddiadau cyf- lawn wedi en cyhoeddi o gyfarfodydd Caer- fyrJdin, Caernarfon, Merthyr Tydfil, a Threffynon. Yr oeddynt wedi eu cyhoeddi yn wasgaredig ond ymgymerodd y Pwyll- gor a'u crynhoi oil yn un llyfr, ac y mae yn debyg mai y Parch J. B. Parry, Llansamlet, a gyflawnodd hyn o orchwyl, ac y mae wedi ei wneyd yn ganmoladwy. Caffaeliad gwerthfawr ydyw cael yr oil fel byn yn un llyfr, a gwertbir ef i'r rhai a roddodd eu henwau yn mlaen am Is 6c, ac i ereill, os bydd gweddill, am 2s. Ni chynygiwyd dim rbatach erioed yn ein hiaith, hyd yn nod i'r rhai y bydd raid iddynt dalu 2s am dano. Nid rhaid iddo wrth ganmoliaeth yn ei gynwysiad mewnol na'i ymddangosiad all- anol. Ni ddylai fod copi ohono yn mhen y mis heb ei werthu, a goreu pa gyntaf y ceir ef o'r ffordd er cael y lie yn rhydd i Adrodd- iad cyfarfodydd yr Undeb yn Llanelli, am y rhai y mae y fath ddysgwyliad ac fel y deallaf, y mae cyfeillion selog Llanelli yn parotoi o ddifrif. Anforied pawb sydd yn bwriadu d'od at un o'r ysgrifenyddion. Llawen iawn oedd genyf ddoe glywed gan gyfaill a ddychwelai o Aberhonddu fod Cyfarfod Blynyddol y Coleg yno wedi dewis Y PARCH R. S. WILLIAHTS, BETHESDA, yn gadeirydd y Coleg am y flwyddyn. Nid bob amser y mae ein sefydliadau cyhoeddus yn anrhydeddu eu gwir gymwynaswyr. Rbaid i'r bobl sydd yn gweithio yn ddyfal gilio o'r golwg ar bob achlysur pwysig er rhoddi cyfle i rywrai dd'od i'r golwg na welir byth mohonynt ond ar achlysuron felly. Dywedodd uu hen frawd crafit'mai y ffordd sicraf i ddyn gael ei ddewis yn ddi- acon mewn eglwys yw trwy wrthwy nebu yr hen ddiaconiaid, a gosod ei hun i fyny yn arweinydd plaid wrthryfelgar. Beth bynag, yr wyf yn gwybod fod pwyllgorau sefydliad- au cyhoeddus yn ami yn abertbu eu cyfeill- ion ffyddlonaf trwy eu troi o'r neilldu yn ffafr rhywun y dymunid enill ei ffafr, neu ladd ei wrthwynebiad. Nid wyf yn sicr nad ydyw Pwyllgor Coleg Aberhonddu wedi gwneyd hyny weithiau ond yn yr amgylch- iad yma y mae wedi anrhydeddu un o'i gyfeillion ffyddlon. Mae Mr Williams yn hen fyfyriwr o'r Coleg, ac wedi bod am flyu- yddoedd yn weinidog yn nhref y Coleg, ac yn aelod o'r Pwyllgor, ac am dymhor yn ysgrifenydd iddo, bob amser yn cyfranu ato, a'r eglwysi dan ei ofal yn casglu yn baelion- us. Cafodd y sefydliad efyn gyfaill trwyadl, a chafodd y myfyrwyr ef bob amser yn ffyddlon iddynt, er nas gallasai ar bob ach- lysur gymeradwyo pob peth a wnaent; ac y mae wedi parhau felly am fwy Dag ugain mlynedd, fel mai nid ffafr ag ef oedd ei ddewis i'r gadair, ond yr oedd ganddo ar dir teilyngdod bawl iddi. Bum yn synu lawer gwaith weled pwyllgorau yn chwilio am ddyn i'w anrhydeddu, gan fyned heibio i rai llawer teilyngach. Er nad wyf er's blyn- yddau yn gallu dilyu pwyllgorau ein coleg- au fel cynt, eto yr wyf yn gwylio yn fanwl eu holl symudiadau, ac yn teimlo dyddordeb mawr yn eu llwyddiant. Tra yr ydwyf eisoes gyda Choleg Aber- honddu, caniataer i mi eto ddatgan fy llawenydd ar y penderfyniad y daeth v cyf- arfod blynyddol iddo ar berthynas Y COLEG A'R OOLEGAU CENEDLAETHOL. Nid oes dim yn egluraeh na bod ein colegau enwadol mewn argyfwng difrifol, ac y mae yn ofynol wrth ddoethineb mawr i weiihredu yn briodol yn y sefyllfa drawsnewidiol. Ehwng yr addysg elfenol sydd yn awr wedi dyfod mor gyffredinol, a'r ysgolion canol- raddol, y rhai, yn ddiau, a sefydlir yn fuan ar gynllun teg ac anmhleidiol, a'r colegau cenedlaethol, bydd cyfleusderau i gael yr addysg oreu yn nghyrhaedd yr holl genedl. Wedi cael y rhai hyn oil, bydd raid i ym- geiswyr am y weinidogaetb, fel pawb arall, sicrhau en manteision drostynt eu hunain, fel na byddo gan yr eglwysi ond eu cynorth- wyo yn unig i gael yr addysg dduwinyddol i'w cymhwyso i'r weinidogaeth. Nis gellir cario hyn allan ar unwaith, ond cyn yr a deng mlynedd arall heibio, bydd cyfnewid- iad trwyadl ar bethau. Da genyf fod y eyf- arfod blynyddol wedi cymeradwyo anfon y myfyrwyr y ddwy flynedd gyntaf i'r colegau cenedlaethol am eu haddysg a da genyf hefyd nad ydynt yn eu hanfon i ryw un coleg, ond i'r naill neu y Hall o'r tri choleg, yn ol fel y barno y Pwyllgor yn oreu. Mae hyny yn sicro ddyogelu cydymdeimlad mwy cyffredinol, oblegid y mae y sel yn rhedeg yn uchel dros bob un o'r tri, a chredaf y bydd y cydymgais yn iachus. Yr wyf yn argyhoeddedig er's blynyddau fod yn rhaid i ymgeiswyr am y weinidogaeth wneyd mwy eu huuain er cael addysg, neu gael gan eu cyfeillion sydd yn eu cymhell i'r gwaith i'w cvnorthwyo. Nid wyf yn meddwl fod casglu at golegau i barhau byth yn yr eglwysi, ac y mae llawer o'r eglwysi yn teimlo eu bod yn cael eu beichio yn ormodol. Nid oes unrhyw ymwared rhag hyn ond i'r ymgeis- wyr wneyd mwy drostynt eu hunain, ac nid oes unrhyw berygl y bydd i hyny gadw o'r weinidogaeth neb y bydd y weinidogaeth ar ei cholled o fod hebddo. Ond rhaid dwvn hyn oddiamgylch yn bwyllog, fel y sicrhaer diwygiad heb greu chwildroad. Mae fy llythyr wedi myned yn faith iawn eisoes, ond mae yn rhaid i mi gael crybwyll un peth arall. Gvvyr pawb fod fy hen gyfaill I Dr Rees wedi ei ethol yn Gadeirydd Undeb