Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
CYFARFOD CHWARTEROL MON.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
CYFARFOD CHWARTEROL MON. Cynaliwyd y Cyfarfod uchod yn Salem, Bryngwran, Awst 6ed a'r 7fed. Llywydd, Parch E. C. Davies. Wedi darllen cofnodion y cyfarfod diweddaf a'u cadarnhau, penderfynwyd— 1. Fod y Cyfarfod Chwarterol nesaf i'w gynal yn Cana, Llanddaniel, Tachwedd 12fed a'r 13eg. 2. Darllenwyd llythyr cyflwyniad y Parch J. Alun Roberts, B.D., o Gyfundeb Arfon, i'r cyfar- fod, yr hwn a gynwysai arwyddion amlwg o deimlad dwys Cyfundeb Arfon oherwydd colli un a garent mor fawr, a'r hwn ydoedd mor wir ddefnyddiol a gweithgar gyda phob rhan o waith yr Arglwydd yn ei eglwys barchus gartref yn Pendref, Caernarfon, a thrwy yr holl wlad. Yna cynygiwyd gan y Parch W. Lloyd, Caer- gybi, ac eiliwyd gan Mr H. Lewis, Llewelyn Lodge, a chefnogwyd gan amryw o frodyr yn gynes iawn-Ein bod fel Cyfarfod Chwarterol yn Mon yn dymuno datgan ein mawr lawenydd ar ddyfodiad y Parch J. Alun Roberts, B.D., Caer- narfon, i Gaergybi ac i Undeb Mon, ac yn mawr ddymuno ei gysur a'i lwyddiant yn y dyfodol fel yn y gorphenol. 3. Cynygiwyd gan Mr H. Lewis, ac eiliwyd gan y Parch D. S. Jones ac ereill-Ein bod fel Cyfun- deb yn dymuno datgan ein cydymdeimlad a'r cen- adon a'r eglwysi yn Madagascar, ac yn hyderu y bydd i Gyfarwyddwyr Cymdeithas Gonadol Llun- dain anfon atynt y teimlir yn ddirfawr drostynt, ac y gweddir ar eu rhan gan eu brodyr a'i chwi- orydd yn eglwysi Cynulleidfaol Cymru yn nydd eu profedigaeth. Yr oedd teimlad dwys a phryderus gan yr holl gyfarfod mewn perthynas i'r amgylch- iadau annedwydd presenol yn yr ynys, ac amlwg ydoedd fod gweddi yn esgyn o bob mynwes at yr f' Arglwydd yr hwn sydd yn teyrnasu ar ei rhan. 4. Cynygiwyd gan y Parch T. Evans, Amlwcb, ac eiliwyd gan Mr H. Lewis, fod y Cadeirydd, y Trysorydd, ac Ysgrifenydd y Cyfundeb i aros yn eu swydd am y flwyddyn ddyfodol, yr byn a bas- iwyd yn unfrydol. 5. Cynygiwyd gan Mr II. Lewis, ac eiliwyd gan yr Ysgrifenydd—Ein bod fel bfawdoliaeth yn teimlo yn chwith iawn wrth feddwl colli o'n plith y brawd cywir a ffyddlawn y Parch D. S. Jones, Cana, a chyflwynir of i Undeb gweithgar Lleyn ac Eifionydd gyda'r teimladau goreu am ei ddaioni, ei lwyddiant, a'i gysur yn Abererch a Chwilog, fel y bu yn Cana a thrwy ein gwlad. 6. Cynygiodd eglwys newydd Rbosybol ar fod iddi gael derbyniad i'r Cyfundeb trwy y Parch W. Davies, ei gweinidog, ac eiliwyd ef gan y Parch T. Evans, Amlwch, a cbefnogwyd gan Mr H. Lewis. Derbyniwyd hi gyda llawenydd cyffredin- ol, a rhoddwyd oymeradwyaeth wresog i'r Parch W. Davies i fyned drwy'r sir i gasglu er cynorth- wyo yr eglwys newydd a gweithgar hon i gael y capel newydd sydd yn cael ei adeiladu yn ddi- ddyled ddydd yr agoriad, os gellir. 7. Fod Pwyllgor Trysorfa y Jubili i gyfarfod yn fuan yn Llangefni, i gymeryd sylw o'r gwabanol apeiiadau am gymhorth o'r Drysorfa, a'i rhanu fel yr ymddengys y teilyngdod. Fe gaiff pob aelod rybudd prydlon gan yr Ysgrifenydd am am- ser y cyfarfod. 8. Gwnaed sylw manwl mown porthynas i Brif- ysgol Gogledd Cymru yn y Gynadledd, oherwydd fod genym deimlad o ofn i'r sefydliad gael ei fedd- ianu gan ysbryd enwadol. 9. Darllenwyd llythyr Mr D. Jones, o Lundain, yn dymuno am ein cyrnhorth tuag at Gapel Coff- adwriaethol y Gohebydd. Y MODDION CYHOEDDUS. Am 6, nos Lun, pregethwyd gan y Parchn VV. Davies, Seion, a J. Alun Roberts, B.D., Caer- gybi. Boreu Mawrth, am 10, pregethodd y Parch W. V. Davies, Moelfro, a T. Evans, Am- lwch. Am 2, y Parchn J. S. Evans, Bodedcyrn, a D. S. Jones, Cana. Am 6, y Parchn O. L, Roberts, Penarth, Maldwyn, a J. A. Roberts, B.D., Caergybi. Yr oedd nifer pur luosog yn y Gynadledd, n. phawb o'r brodyr yn un a chytun. Cafwyd j62 9s Gc o gasgliadau yr cglwysi, a jEl 3s 2c o gasgliad yn oedfa olaf y cyfarfod tuag at Drysorfa y Lleoedd Gweiniaid. Yr oedd yr Efengyl yn cael ei phregethu mewn nerth. Arosed eto wlith bendith ar yr holl wasanaeth, a'r gogoniant fyddo yn cael ei amddiffyn yn hen eglwys barchus Salem ddyddiau y ddaear. O. THOMAS, Ysg.
TALYBONT.
News
Cite
Share
TALYBONT. Cynaliwyd Cyfarfod Chwarterol Cyfundeb Ceredigion, yr hwn hefyd oedd yn gyfarfod urddiad Mr D. G. Davies yn y lie uchod, ar y Mercher a'r Iau, Awst laf a'r 2il. Yn herwydd cyfnewidiad yn amser y gerbydres, a'r urddiad yn Llanbadarn ar y dydd, ni ddaeth ond nifer fechan iawn i'r Gynadledd. Etholwyd Proff. Jones, M.A., Caerfyrddin, i'r gadair. Pender- fynwyd- 1. Fod y cyfarfod nesaf i fod yn Horeb yn Tachwedd. 2. Ein bod yn cymeradwyo i sylw caredig yr eglwysi gais y cyfeillion yn Barrett's Grove am gymhorth at dalu dyled Capel Coffadwriaethol y Gohebydd." 3. Awdurdodwyd y Cadeirydd i arwyddo y Memorial o blaid Prifysgol Aberystwyth. 4. Fod adroddiad o weitbrediadau y Gymdeithas Sirol i gael ei gyhoeddi. 5. Ein bod yn dymuno ar y brodyr Thomas, Salem; Davies, Clarach; Jones, Cilcenin; a Morris, Aberteifi, i ddwyn achos y gymdeithas ger bron eglwysi y sir. Pregethwyd am 7 o'r gloch gan Mri Jones. Gwernllwyn, Dowlais, a Penry Evans, Pontar- dulais. Dranoeth oedd dydd yr urddiad. Sylwyd ar Natur yr Eglwys gan Proff. Jones, 'v I M.A., Caerfyrddin holwyd y gofyniadau gan Mr Miles, Aberystwyth gweddïwyd am fendith ar yr undeb gan Mr Jones, Llwyncelyn; rhoddwyd siars i'r gweinidog ieuanc gan Mr Penry Evans; ac i'r eglwys gan Mr Adams, B.A., Hawen. Pregethwyd am 2 gan Mri Thomas, Llanbedr, a Jones, Pencader a phregethwyd am G gan Mri Miles, Aberystwyth, a Davies, Bangor. Hyderwn y bydd yr undeb yn un dedwydd a pharhaus. J. M. P.
NODIADAU 0 GAERLLEON A'R CYFFINIAU.
News
Cite
Share
NODIADAU 0 GAERLLEON A'R CYFFINIAU. Nos Fawrth diweddaf, bu yma ymladdfa rhwng nifer o'n dineswyr Gwvddelig a'r beddgeidwaid. Tua blwyddyn yn ol, sefydlwyd gorsaf heddgeidwadol yn y rhan hon o'r ddinas lie y triga y Gwyddelod, ac ym- ddengys nad yw hyn wedi bod yn gymeradwyol i'r oil o'r trigolion; a'r wythnos ddiweddaf ymosododd pedwar o'r Gwyddelod ar yr heddgeidwaid, ac oni bai i'r swyddoaion gael cymhorth mewn pryd, diau y buasai yr Hiberniaid wedi cyfodi terfysg mawr end yn ffodns, gorchfygwyd hwynt, a chymerwyd y pedwar i'r ddalfa. Dedfrydwyd un i'r carchar am naw mis, arall am chwe' mis, a'r lleill am dri mis yr na. Collodd dyn dall ei ffordd yma y dydd o'r blaen, a chafwyd ef wedi boddi yn yr afon Ddyfrdwy. Bu Signor Gavazi yma yr wythnos ddiweddaf, ar ran eglwysi rhydd Itali, yn pregethu, darlithio, a cliasglu. Bu y Parch W. Glanffrwd Thomas yn traddodi darlith y dydd o'r blaen yn Llanelwy ar Emyn- yddiaeth Gymreig," yr Arglwydd Esgob yn llywyddn. I Gaergwrle yr aeth Annibynwyr Sychtyn yr wythnos ddiweddaf i dreuiio eu gwyl flynyddol. Mae y Due Westminster wedi rhoddi mil o bunau a chwe' acer o dir tuag at ficeriaeth Caerfallweh, sir Fflint. Mae y Parch D. P. Davies wedi rhoddi gofal eglwys Seisonig Penmaenmawr i fyny, ond yn parhau i was- anaethn y Cyml y. Bwriada ein Prif AVeitiidog, Mr Gladstone, anrhegu plwyfolion Penmaenmawr a chloch, i'w gosod yn yr Eglwys newydd sydd i'w chysegru yno yr wythnos nesaf. # Mae milwr wedi dianc o Wrexham gyda thros ddeunaw punt o eiddo ei gydfilwyr. Boreu Iau diweddaf, tra yr ydoedd dyn o'r enw Thomas Parry gyda ei orchwyl yn Penygroes, Arfon, syrthiodd i'r llawr yn farw.
CIFAEFOFT CHWARTEROL CYFUNDEB…
News
Cite
Share
CIFAEFOFT CHWARTEROL CYFUNDEB UCHAF SIR GAERFYRDDIN. Cynaliwyd yr uchod ar y dyddiau Mercher a Iau, Awst laf a'r 2il, yn Bethlehem, ger Llan- gadog. Cynadledd am 2 o'r gloch y dydd cyntaf. Cadcirydd, Mr Davies, Llanelli. Dechrcuwyd trwy weddi gan Mr Bishop, Llan. ymddyfri, ac wedi cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol, penderfynwyd :— 1. Fod y cyfarfod nesap, yn ol y gylchres, i fod yn y Bryn, Llanelli. 2. Fod y Mri Thomas, Capel Isaac, a Davies, Bethlehem, i bregethu ar y pynciau. Y blaenaf oddiar loan xvi. 8, a'r olaf ar fater a roddir iddo gan eglwys y Bryn. 3. Fod Mr Richards, Pembre, i gael llythyr tt'osglwyddiad i Gyfundeb Dwyreiniol Morganwg. Teimlid hiraeth a cholled yn y Cyfundeb hwn ar ol brawd mor rinweddol a da, ond try byny yn llawenydd ac enill i'r frawdoliaeth a'r eglwysi yn ei gylch newydd. 4. Fod Mr Jonathan Evans, Ammanford, yn cxel ei gymeradwyo yn wresog i Athrofa y Bala yn mis Medi nesaf, ar dystiolaeth Mri Richards, Pembre, a Bowen, Penygroes. 5. Fod Capel Coffadwriaethol Y GohebyddV (capel mewn parth o Lundain), yn cael ei argym- hell i sylw yr eglwysi fel un teilwng iawn o gy nor thwy. 6. Teimlid yn foddhaus fod y Parch J. Evans, Llansawel, wedi dwyn allan Gofiant gwerthfawr a chryno i'r diweddar a'r hybarch E. Jones, Crug- ybar, ac byderid y cai dderbyniad cyffredinol ar gyfrif teilyngdod y gwrthddrych, a rhagoroldeb y gwaith. 7. Cafwyd adroddiadau calonogol am weithred- iadau rhai eglwysi at Fadiad y Jubili. Amryw eisoes wedi casglu yn dda, ac wedi trosglwyddo en cas^liadau i eglwysi a ystyrient yn fwyaf teil- wng- o'u cynorthwy. Ereill eto ar wneyd, ac ar- goelion ffafriol am gyd-uniad cyffredinol. 8. Derbyniwyd i'r Cyfundeb hwn Y,60 oddiwrth y Pwyllgor Canolog, i'w rhanu rhwng yr eglwysi mwyaf angenus. Wedi gwrando am ddyledion eglwysi, ac apel oddiwrtbynt am gyfran o'r swm crybwylledig, etholodd y Gynadledd nifer o ber- sonau—gweinidogion a lleygwyr-i ddosrauu yr arian, yr hyn a wnaethant yn ol y drefn a ganlyn: —Moriah, Llaneli, £13¡ Llangennech, .£13; Seion, Pembre, zCl3 Ebenezer, Llanelli, £8; Taber- nacl, Llanon, £8; a Libanus, Pembre, £5. Terfynwyd y Gynadledd trwy weddi gan y Cadeirydd. Y MODDION CYHOEDDUS. Am 7 o'r gloch, deehreuwyd gan Mr Thomas, Llangadog, a phree:ethwyd gan y Mri Bowen, Penygroes, a Evans, Capel Scion. Pregethodd ¡ Mr Bowen ar y pwnc rhoddedig iddo gan y cyfarfod o'r blaen, sef Perthynas yr Hen Destament a'r Newydd." Pregeth ragorol, a diolchwyd iddo dranoeth yn gynes am dani. Dydd Iau, am 10, dechreuwyd gan Mr Evans, Llansawel, a phregethwyd gan Mri Davies, Llanelli, a Thomas, Bryn. Am 2, dechreuwyd gan Mr Francis, Perry- side, a phregethwyd gan Mri Davies, Bethania, a Johns, Llanelli. Cyhoeddwyd i bregethu am 6 y Mri Morgans, Moriah, Llanedi, a Jones, Rhydyfro, Pontar- dawe. Cafwyd cyfarfodydd rhagorol trwyddynt, pregethau grymus, a chynulleidfaoedd mor lluosog ag a allesid ddysgwyl ag ystyried i'r cyfarfodydd a'r cynhauaf gwair wrthdaro yn erbyn eu gilydd. Yr oedd eglwys a gweinidog parchus Bethlehem yn llawn caredigrwydd fel arfer-cyflawnder o ddarpariadau ar gyfer croesawu dyeithriaid ond siomwyd hwynt i gryn fesur yn Uuosogrwydd eu gwrandawyr trwy brysurdeb gyda'r cynhauaf. Yn eu cyfar- fodydd nesaf, hyderir y bydd yr holl wlad wedi galiu dyfod yn nghyd i fwynhau o'r bendithion amryfath fyddo yn ddarparedig ar eu cyfer. Ar ddiwedd y cyfarfod 10, cafwyd yr hyfryd- welt o weled Mr Thomas, Gwynfe, Ysgrifenydd Cyfundeb, yn cael ei anrhegu gan weinidog- yon ab aelodau y cylch, a rhai o gylchoedd ercill, a 'spectol aur a case arian, ac argrafF Jbriodol arno i'r perwyl, pencil aur, a chyfrol o ailargraffiad y 'Nonconformity in Wales, gan Dr Rees, Abertawy, yr holl yn werth swm mawr o aur. Fel y gall yr ystyriol ddychymygu, mae llawer o draul trwy wahanol ffyrdd yn nglyn ag s,,ri ysgrifcnyddiaeth y Cyfundebau, heblaw fod y gwasanaeth da a ffyddlawn yn cael ei wneyd yn rhad a phleseraidd; felly teimlodd brawdol- iaeth y Cyfundeb hwn eu rhwymedigaetk i'w hysgrifenydd parchus, a dangoswyd hyny yn sylweddol trwy yr anrheg grybwylledig gan hyderu y caiff Mr Thomas flynyddau meithion i'w mwynhau a'u defnyddio yn y gorchwyl mae wedi gyflawni mor foddhaus am gymaint o amser. Yr oedd y frawdoliaeth yn teimlo yn wir ddiolchgar i Dr Emrys Jones, Manchester, am v cynorthwy gwerthfawr a roddodd i ddewis y gwydrau aur goreu, ac am ei ddatganiad o'i bleser i weithredu a'r parch a deimlai at y weinidogaeth. Dyma y cyfarfodydd hyn eto yn mysg y pethau a fu, ond gobeithir fod gwaith ysbrydol wedi ei gyflawni trwyddynt fydd yn ogoniant i Dduw, ae yn achos o lawenydd diddiwedd i ugeiniau lawer oeddynt yn bresenoi. Amddi- ffyn yr Arglwydd fyddo dros ei achos yn y lie. Llanymddyfri. W. GIBBON, Ysg., pro tern.