Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

YMYLON Y ITOEDD. -

News
Cite
Share

YMYLON Y ITOEDD. Nos Sadwrn, Awst 11 eg. MAE cyfarfodydd yr Undeb Cymreig wrth y drws, ac yr wyf yn clywed fod swn tyrfa yn dyfod; ac y mae y Pwyllgor Lleol yn Ffestiniog wedi cwblhau eu trefniadau yn rhagorol. Nid wyf yn cofio gweled y tocyn- au yn cael eu hanfon i'r ymwelwyr mor i gynar o unrhyw le y bu yr Undeb ynddo o'r blaen, ac y mae hyny yn bwylusdod mawr i'r cyfeillion o bell sydcl yn cychwyn o'u cartrefi gryn ysbaid o flaen y cyfarfod. Yr oedd dau neu dri o betbau ar fy meddwl pan ysgrifenais air ar yr Undeb ycbydig wythnosau yn ol, ond o ddiffyg lie nis gellais eu crybwyll. Dicbon yr esgus- odir fi, os gwnaf hyny beno. Ai ni byddai modd gwneyd defnydd helaetbach o'r wasg newyddiadurol er rboddi cyhoeddusrwydd i'r gweitbrediadau. Mae y TYST yn rhoddi adroddiad belaetb iawn or cyfarfodydd bob blwyddyn, a cheir mewn rhai newyddiaduron ereill gofnodiad obonynt, er nad yn helaetb. Yn nghyfar- fodydd y De, o leiaf mewn rhai ohonynt, rboddodd y newyddiaduron Seisonig adrodd- iad lied gyflawn, ond ycbydig o sylw hyd yma a wnaed yn y papyrau Seisonig o'r cyfarfodydd a fu yn y Gogledd. Ai ni ellid darparu iddi fod yn amgen y tro yma? Mae y Liverpool Mercury,yn enwedig, ynlledaenu yn helaeth trwy Ogled d Cymru. Beth sydd yn rhwystr i gael adroddiad da yn ei golofn- au o'r cyfarfod nesaf yn Ffestiniog V Mae enwadau ereill yn gwneyd byny a'u gwyliau arbenig, a phaham y byddwn ninau ar ol ? Nis gellir dysgwyl i'r papyrau gyboeddi banes y cyfarfod oni anfonir ef iddynt, neu ddyfod i ddealldwriaeth a bwy i anfon cof- nodydd yno. Nis gwn i bwy y perthyn dar- paru ar gyfer hyn, ond gwn na ddigir wrth neb a sicrhao fod hyn yn cael ei wneyd, er nn, bydd neb wcdi ei awdurdodi i'r gwaith. Yr awdurdodiad uchaf at bob gorcbwyl o'r fath ydyw medr ato, ac ewyllys i'w gyflawni. Tra yr ydwyf yn son am gofnodiad o'r cyfarfodydd, ai ni byddai modd dyogelu i adroddiad swyddogol yr Undeb dderbyniad llawer helaethach na dim y mae wedi ei gael hyd yma ? Deallaf mai prin y mae yn talu ei dreuliau ar ol rboddi copi i bob un sydd yn tanysgrifio at yr Undeb a dywedir fod cryn nifer o gopïau o'r Adroddiad am rai blynyddoedd yn gorwedd yn segur. Ni ddylai hyny ar un cyfrif fod, ac ni byddai ychwaith gyda chynllun priodol i'w gwerthu. Nid yw y drefn bresenol o dderbyn archeb- ion am yr Adroddiad ddiwrnod y cyfarfod yr oreu y gellir meddwl am dani, er na byddai yn ddoeth ei throi o'r neilldu nes cael rhyw un amgenach yn ei lie. Ai tybed nad yw newidiad yr Ysgrifenydd sydd i ofalu am yr Adroddiad bob blwyddyn yn anfantais ? Mae yn wir fod pob un sydd wedi bod wrthi yn teimlo fod ei wneyd am flwyddyn yn ddigon, ac y bydd yn dda gan- dd) weled ei dymhor yn d'od i ben, fel y gosoder y baicb ar ysgwydd rhywun arall. Ond nid y peth sydd fwyaf dymunol i'r teimlad sydd oreu bob amser. Gvvyr pob un a fu yn y gwaith y gwnelsai ef yn well pe buasai yn cynyg arno flwyddyn arall, er fod yn bur sicr nad oes neb a'i gwnaetb yn awyddus am ei wneyd eilwaitb. Pe gellid cael gan rywun gymeryd at ddwyn yr Adroddiad allan am dair neu bum' mlyncdd, ac i'r cyfryw gymeryd dyddordeb yu y gwaitb, nid oes dadl yn fy meddwl na bydd- ai ei ledaeniad yn ddau cymaint, fel y bydd- ai ei gyboeddiad nid yn unig yn ddigolled, ond yn ffynonell o elw i drysorfa. yr Undeb. Nis gellid dysgwyl i neb ei wneyd yn ddi- dal, ac y mae y peth a wneir yn dnvyadl yn werth talu am dano. Yr wyf yn synu fod y gwaith yn cael ei wneyd cystal o dan y drefn bresenol, ac y mae yn rbaid fod y rhai a fu yn gofalu am yr Adroddiad trwy y blynydd- au, wedi bod yn ffyddlon dros ben ond gyda'r newidiad dwylaw bob bhvyddyu ofn- wyf nas gellir cael i'r Adroddiad ledaeniad mor helaeth ag a ellid gael pe cymerai ryw- un cymhwys ei ofal dros nifer o flynydd- oedd. Clywais amryw o bryd i bryd yn awgrymu y dymunoldeb, pe byddai yn bosibl, fod mwy o ryddid yn y cyfarfodydd i alw sylw at gwestiynau pwysig fyddo ar y pryd yn tynu sylw. Mae y cyfarfodydd yn awr yn cael eu llenwi i fyny mor djtofelnad oes lie i wtbio dim i mewn oddigerth mewn ffurf o benderfyniad yn y Gynadledd foreu y dydd diweddaf, ac nid oes ond ycbydig yn dyfod i bono, a chynifer o bethau i'w dwyn ger bron, fel nad oes fawr bamdden at ddim. Cymerer, or engraifft, yn awr sefyllfa Mada- gascar. Mor amserol a fuasai papyr neu I araetb arno yn egluro amgylcbiadau yr belynt bresenol, a'r hawl sydd ganddynt ar ein cydymdeimlad. Neu, cymerer terfysg yr Iwerddon, er esiampl. Ni bu erioed well cyfle i dalu teyrnged i Ymneillduaeth Cymru. Oni buasai am ddylanwad Ym- neillduaeth ar ein gwlad, buasai meddianau a bywydau tirfeddianwyr a'u gorucbwylwyr mor annyogel yn Ngbvmru ag ydyw yn yr Iwerddon. Mae rhai testynau y maent yn eu bias bob amser, a gellir eu gohirio heb wneyd un cam a hwy; ond y mae materion ereill, oni cbyfeirir atynt yn eu hadeg, collir yr unig gyfle at hyny. Ond y mae pynciau yr Undeb yn cael eu trefnu gy- maint yn mlaen, a'u trefnu mor dyn, fel nad oes lie yn cael ei adael i gymeryd i mown bethau pwysig, ac o ddyddordeb cyffredinol a all droi i fyny. Yn nglyn a byn dymunwn awgrymu, Ai tybed nad oes gormod o frys mewn gwneyd y trefniadau cyn terfyn un cyfarfod ar gyfer y cyfarfod dilynol ? Gwn fod llawer' i'w ddyweyd dros y drefn bresenol, oblegid y bydd y rhan fwyaf o'r Pwyllgor yn bresenol ar y pryd ac y bydd yn anhawdd oblegid y draul gael cynifer yn nghyd ar unrhyw adeg arall; ond credaf fod ystyriaethau ereill sydd bwysicach yn gorbwyso. Yn y Gynadl- edd foreu y *dydd diweddaf yr etholir y Pwyllgor am y flwyddyn, a cbyn pen dwy awr bydd y Pwyllgor hwnw yn eistedd i ymgyngbori ar gyfer y cyfarfod dyfodol, a fynycbaf i wneyd rhai pethau yn derfynol. Mae rhai o'r rhai a ddewiswyd heb fod yn bresenol yn y cyfarfod, ac felly nid yw bosibl iddynt fod yn y Pwyllgor, ac a siarad yn fanwl, nid yw un Pwyllgor yn rheolaidd heb i bawb sydd arno gael rbybudd i fod ynddo. Ond y mae yn dygwydd yn ami fod amryw o'r rhai fyddo yn y cyfarfod y flwyddyn hono, yn absenol o'r Gynadledd boreu Iau, ac felly heb wybod am eu dewisiad ar y Pwyllgor, a llawer gwaith y gwelais rai yn myned allan o'r oedfa ddeg o'r gloch wedi deall fod y Pwyllgor yn eistedd, a'u bod hwytbau wedi eu hethol arno. Mae fod y Pwyllgor yn eistedd mor fuan ar ol ei ethol- iad, cyn bod yn bosibl i bawb sydd arno wybod hyny, ar ei wyneb yn anghyfleustra. Wel, ar ol cyfarfod y mae eu haner yn newydd, ac yn hollol anmharod. Nid ydynt I wedi cael hamdden i feddwl am destyn papyr nac araetb, na neb i'w cymeryd i fyny. Os dygwydd fod yno rywun mwy craff*a darbodus, a cbanddo raglen yn haroc1, y mae yn cymeryd y lleill yn annysgwyliadwy. Nid wyf yn beio y cyfryw. Nid yw y dyn nad yw yn cynllunio ac yn darparu yn gvmbwys i eistedd ar bwyllgor. Ni wneir byth waith beb i rywrai ddarparu, a dylai pob aelod wneyd hyny ond y mae yn an- mbosibl i'r rhai na wyddent hyd o fewn dwy awr yn ol eu bod ar y Pwyllgor i wneyd byny. Nid y trefniadau a wneir yn frysiog yw y rhai goreu. Gwell o lawer fyddai i un cyfarfod fyned heibio a phawb iymadael heb unrhyw drefniadau wedi eu gwneyd ar gyfer y cyfarfod dilynol. Yna yn mhen trf neu bed war mis cyfarfydded y Pwyllgor, wedi rhybudd rheolaidd i bob aelod, mewn rhyw fan canolog, ac eistedded yn hamddenol am ddiwrnod i wneyd yr holl drefniadau. Mae hyny wedi bod yn arferiad agos bob blwydd- yn er cychwyniad yr Undeb. Ni bydd ond traul am unwaith, a gwyr pawb sydd wedi arfer gwasanaethu y cyboedd fod yn rhaid talu yn ddrud am hyny. Yr wyf wedi talu cryn sylw i'r mater yma, ac wedi meddwl am dano o'r ddeutu, ac yr wyf yn gwbl ar- gyhoeddedig mai mantais ddirfawr i'r Pwyllgor, fyddai oedi penderfynu dim na. chrybwyll enw neb i gymeryd unrhyw ran yn y cyfarfod dilynol nes cael cyfarfod wedi ei alw yn rheolaidd i'r perwyl, a cbael amser a hamdden i benderfynu pob petb, yr byn nis gellir ei gael mewn Pwyllgor wedi ei alw yn frysiog ar ddydd mawr yr wyl, pan y mae llawer yn awyddus am fyned adref, neu am wrando y pregethau a dra- ddodir mewn lie arall. Yr wyf yn gadael yr awgrymau hyn i ys- tyriaeth bwyllog cyfeillion yr Undeb, y rhai y gwn ydynt fel finau o galon yn dymuno ei lwyddiant, ac am ychwanegu ei effeithiol- aeth. Nid oes genyf fi yn bersonol ddim i'w enill nag i'w golli, pa fodd bynag y cerir ef yn mlaen ond fel un o'r ychydig sydd yn aros oedd a fynent a'i gycbwyniad, yr wyf yn teimlo mawr ofal calon am dano ac oblegid byny yn cymeryd fy rhyddid— gobeithio heb fod hyny yn dramgwydd i neb-i awgrymu yr hyn a ymddengys i ml a fydd yn help i ychwanegu ei ddylanwac1 er daioni yn ein Henwad, ac ar ein gwlad. Gobeithio y bydd gWYlwb yr Arglwydd yu amlwg ar holl gyfarfodydd yr Ulldcb yn Ffestiniog; ac y ceir, fel y cafwyd mown mwy nag un cyfarfod cyn yma, arwyddion eglur o'r amddiffyn ar yr holl ogoniant. LLADMERTDD.