Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
Cyfarfodydd, &c.
News
Cite
Share
Cyfarfodydd, &c. CILGWYN.—Nos Sadwrn a dydd Sul, Gorphenaf 28ain a'r 29 lin, cynaliodd yr eglwys uchod ei gwyl flynyddol- Gwasan'aethwyd gan y Parchn Mr Jones, Tabor Mr Williams, Waunfawr; a J. Bcynon Davies, Talysarn. DRWSYCOED. — Ail-agorwyd capel Drwsycoed dydd Sul, Gorphenaf 29iin, ar ol ei adgyweirio a'i baentio. Y mae gan bobl Drwsycocd "galon i weithio," ac y maent yn credu y dylai y DUA> dynodd gynllun y Demi gael ei addoii mewn teml hardd- Gweinyddwyd gan J. Beynon Davies, Talysarn. Y mae y ddwy eg- Jwys yma mewn undeb a'u gilydd, a da genym allu dyweyd fod golwg lewyrchus ar achos y Gwaredwr yn y ddau le- Yr Arglwydd fyddo yn ogoniant yn eu c-inol, ac yn fur o dan o'n hamgylch.—Ymwclydcl. PEMB RE. Cynaliwyd cyfarfod cystadleuol yn Carmel nos Sadwrn, Gorphenaf 28iin. Wedi cael an. erchiarl gan y cadeirydd awd trwy y rhaglen, mewn canu, areithio, traethodi, a barddoni. Clorianwyd y cerddorion gan Mr Henry Griffiths, Aberdar, a'r traeth- odwyr, &c., aan y Parch D. Evans, Burry Port. Caf- wyd cyfarfod dyddorol ac adeiladol iawn.-Gohebycld. YNYSOWEN.—Cynaliodd yr eglwys Ant ibynol yn y lie uchod « chyfarfodydd blynyddol dydd Sul a Llun, Gorphenaf 29ain a 30ain. Pregethwyd y Sabboth gan y Parchn J. Thomas, Soar, Merthyr; D. Onllwyn Brace, Ystalyfera a Hywel Cynon, Aberaman. Nos Lnn pregethvvyd gan y Parchn G. Williams, Libanus, a — Williams, Salem, Merthyr. Cafwyd cyfarfodydd a hir gofir, a chasgliadan da y cenadau ar eu huchel fanau, a chalon gan y bobl i roddi — Gomcr. BETHEL, MYNYDDISLWYN-Cynaliwyd cyf- arfod blynyddol yn y lie uchod dydd Llun, Gorphenaf 30ain. Yn y boren dechreuocld y Parch D. Williams, Brynmawr, a phregethodd y Parchn J. Thomas, Mer- thyr, a D Silyn Evans, Aberdar. Yn y prydnawn dechreuodd J. C. Williams, Risca, a phresethwyd gan y Parchn J. Thomas yn Saesoneg, a Mr Evans yn Gymraes. Yn yr hwyr dechreuwyd gan y Parch T. J Hughes, Maesycwmwr, a phregethodd y Parch D. LI. Williams, Machen, yn Saesoneg, a Mr Evans a Mr Tho- mas yn Gymraeg, a diweddwyd trwy weddi gan y Parch T. D. Evans, Victoria. Cafwyd cyfarfodydd gwir dda, yr hin mwyaf dymunol, cynulleidfaoedd lluosog, a'r Nefoedd yn gwenu trwy nerthu y gweision i gy- hoeddi cenadwri yr Efengyl gydag arddeliad neillduol nes peri llawer calon i lawenychu a bendithio Duw, Hyderwn y ceir gweled cynhauaf toreithiog yn fuan oddiwrth yr had da a gwerthfawr a hauwyd yma.-T. ap Gwilym- BETHANIA, CWMOGWY.-Dydd Llun wythnos i'r diweddaf cynaliwyd gwyl de perthynol i'r eglwys uchod. Eisteddodd dros bedwar cant i fwynbau eu hunain. Yn yr hwyr cynaliwyd cyngherdd ardderchog gan gor Carmel, Maesteg, y rhai a roddasant eu gwas- anaeth yn rhad, ond yn unig darparu dau gerbyd i hebrwng rhai o'r merchyd a'r plant. Cafwyd capelaid llawn o bobl i wrando ar ddatganiad darnau fel y medr cor Carmel wneyd, o dan arweiniad eu blaenor galluog, Mr Philip Morgan, i'r hwn y mae clod yn ddyledus am ddylanwadu ar ei gor i wneyd gwasanaeth mor werth- fawr i gynorthwyo eglwys fechan yn eu hymdrech o dan faich o ddyled. Ni raid dyweyd fod yr eglwys yn ddiolchgar, na chwaith fod y cyngherdd wedi rhoi boddlonrwydd cyffredinol- JRhwng y cyfan gwnaed swm go lew o arian. Da genym allu dyweyd fod yr achos goreu yn myned yn'mlaen ar gynydd. Y Sab- both diweddaf ychwanegwyd un-ar-ddeg at yr eglwys —wyth o'r newydd, dau trwy lythyrau, ac adferyd un. —Cyfaill. CARMEL, CENDL.—Gorphenaf 29ain, cynaliwyd yn y lie hwn gyfarfod adroddiadol dyddorol a llwydd- ianus perthynol i'r Ysgol Sabbothol. Yn y boreu am J 9.30 bu cyfarfod gweddi ar ran ynys Madagascar, yn y pryder a'r perygl y teflir y wlad hono iddo y dyddiau preseno). Am 10.30 dechreuwyd y cyfarfod adrodd- iadol trwy i G. Evans adrocld Salm xiii. Gweddiodd John Morris, myfyriwr rhoddwyd anerchiad gan W. Griffiths, gweinidoor yr eglwys, ar natur ac amcan y cyfarfod. Wedi ton gan y cor, adroddwyd 'Where is rest' gan S. G. James What is death gan Sarah A. Jones 'iGeogre and his guinea' gan W. J. Davies ton gau v plant, Jewels,' o Moody and Sankey ad- roddiad Be polite' gan M. A. Mason; ton 'Whiter than snow' gan y cor; adrodd 'Enwau y Deuddeg Apostol' gan M. A. Griffiths; Yr Ysgol Sul' gan R. Davies Little by littte gan W. T. Jones Anerch- iad casglu gan C. A. Davies a'r d6n Pull for the shore gan y cor. Am 2 y prydnawn-adrodd Salm i. gan D. J. Evans; gweddïwyd gan Mr W.Daniel Jones; t6n gan y cor adrodd 'Consecration' gan W.T. Jones; Always speak the truth gan W. J. Rees Child's thank-offering to God gan Edith Griffiths; solo gan Mr R. Watkins adrodd The best nse of a penny' gan S. A. Edmunds The ear of corn gan R. Davies, E. Davies, D- J. Evans, a G. Evans; pryddest ar Gal- faria' gan VV. Harris, W. Griffiths, H. Parry chorus Oar faith our hope gan y cor-yn y ( on hon cafwyd anorchiad pwrpasol yn anog pawb i ymdrechu gyda'r Ysgol Sul gan David Davies, Ysw., Adelaide, Awstralia. Llawenydd m'awr oedd gan yr holl gynulleidfa gael y pleser o weled Mr a Mrs Davies, a'u teulu parchus oil. Efe yw y boneddwr caredig y soniodd y Parch W. Nicholson am dano yn ei ysgrifau dyddorol o Awstralia. Cendl ydyw hen artref Mr a Mrs Davies, ac effeithiol iawn y cyleiriodd at y teimladau cysegredig gyda pha rai y daethai yn ddiweddar i olwg yr hen ardal, ao yn arbenig cape! Carmel, a'r fynwent lie y gorphwys llwch anwyliaid a pherthynasau agos iddo ef a'i briod. Peth bendigedig yw fod dyn y byddo Rhagluniaeth yn ei ddyrchafu a'i lwyddo mor uodedig ag y gwnaeth i'r boneddwr hwn, iddo yntan ddal yn ei ffyddlondeb a'i gel grefyddol, ac yn d'od yn ol a'i grefydd yn addurn penaf ei fywyd. Rhoddodd anerchiad gallneg a thodd- edig Mr Davies wi't s a bywyd i'r cyfarfod. Yna can- odd Mrs Price, Post Office, solo, a'r cor yn uno yn y chorus, adrodd'Beth ddaeth o'r Amen' gan M. A. John Jesus died for me gan S. A. Jones; Sister's last words gan M. A. Griffiths Truth gan M. A. Davies; acweditonganycor diweddwyd cyfarfod y prydnawn trwy weddi gan Mr D. Davies. Ac 6, dech- reuwyd trwy adroddiad Salm xxiii. gan R. Davies, a Salm exxxiv. gan Willie Jones. Wedi canu emyn gweddiodd Mr J. M. Phillips; adrodd 'The child's desire gan Jennet Williams; Teitlau Dwyfol Crist' gan J. A. Jones Y Gyfeillach gan Mri J. Jones, S. Dovenalt, G. Phillips, W. Harris, J. Roes, J Jones, T. E Davies, D. Morris, a W. Rogers; wedi hyny adrodd- iadau gan M. A. John, Elvira Jones, S. James, Ann Davies a'i chwiorydd, a E. Davies; can gan Mr G. Phillips, ac anerchiadau pwrpasol gan J. Morris, W. D. Jones, a Mr Davies eto. Gwnaed casgliad da tuag at dreuliau yr Ysgol Sabbothol yn mhob cyfarfod. Aed o gylch y capel i dderbyn y rhoddion gan amryw o'r bon- eddigesau ieuainc, ac edmygwn yn fawr eu parodrwydd i wneyd hyny, ac yr ydym yn sicr iddynt hwy wneyd y casgliad mor llwyddianus i fesur helaeth. Cafwyd cyf- arfodydd da ar hyd y dydd, Llywyddwyd gan y gwein- idog, a bernir fod yr oil wedi terfynu yn hyfryd a dy- munol. Mae yma dyrfa fawr o ieuenctyd, ac yn ym- ddangos yn teimio bias mewn gweithio gyda'r Ysgol Su'. Carem yn fawr eu gweled yn aelodau cyflawn o Eglwys Dduw yn fuan. Yr ydym wedi colli llawer yn ddiweddar trwy angeu—un brawd y teimlid yn chwith iawn ar ei ol, a gwelid ei le vn wag yn y cyfarfod bwn, sef ein hanwyl frawd Evan Morris, yr hwn a symndwyd o'n mysg trwy angeu pur sydyn. Wrth derfynu dy- munwn ymweliad grymus gan Ysbryd yr Arglwydd i lanw y bylchau a wneir fel hyn yn ein mysg. Yn wir, efe sydd yn rhoi i arolygwyr ac athrawon ein H ysgo I y llwyddiant neillduol a welwyd yn ffrwytho mor bryd- ferth yn y cyfarfodydd hyn. Deued yn nes eto. SCIWEN.—Yn nghapel v Tabernacl, nos I;iu, Awst 2il, traddododd y Parch D. Jones, B.A, Abertawy, ddarlith ar Opium, &c., nad anghofir yn fuan gan y rhai a'i chlywsant. Cymerwyd y eadair gan S. T. Evans, eyfreithiwr. Pasiwyd penderfyniad anghymeradwyol o'r drafnidaeth, ar yr hwn y siaradodd Mr Morgan, y gweinidog newydd, Mr J. Evans, ac ereill. ELIM, MYNYDD CYNFFIG.-Ba y Parch D. Jones, B.A., Abertawy, yn traddodi ei ddarlith ragorol ar fasnach yr opium. Wedi gwrando y ddarlith yr oedd y lie yn teimlo y dylasai pethau y ddarlith gael eu gwneyd yn hysbys drwy'r wlad yn gyffredinol, ac fod pethau ereill yn e:n gwlad ag y dylai rhywun fel Mr Jones eu cymeryd i fyny i ddysgu y wlad ynddynt. Mawrth a Mercher, Gorphenaf Slain ac Awst laf, oedd y dyddiau y cynaliodd yr eglwys hon ei chyfarfod- ydd blynyddol, pryd y pregethwyd gan y Parchn D. Jones, B.A., Abertawv; J. Thomas, Merthyr; a Trevor Jones, Pant-teg. Cafwyd cyfarfodydd neillduol o dda.
Galwad.
News
Cite
Share
Galwad. EGLWYS SEISONIG WTDDGEUG.—Da genyf hys- bysu fod Mr D. B. Evans, o Goleg y Bala, erbyn hyn wedi ateb yn gadarnhaol yr alwad a gafodd oddiwrth yr eglwys uchod. Bwriada ddechreu ar ei waith fel gweinidog tua diwedd mis Medi. Mae yn myned yno o dan amgylchiadan cysurus iawn-amlygir yr awydd mwyaf gan yr eglwys iddo dd'od i breswylio i'w plitb, a gobeithio y parha y cariad a'r brwdfrydedd, ac yr a ar gynydd wedi ei fynediad yno. Profed ei hnn yn abl i gyfarfod dysgwyliadau y mwyaf hyderus, fel yr adlewyrcho glod i'w athraw llafnrus, ac y bydd ei lafur yn fendith i'w gyd-ddynion ac yn ogoniant i Ddnw, yw ein dymuniad.-Amicus.
Family Notices
Family Notices
Cite
Share
Genedigaethau, Priodasau, &c, DATJTETI SYLW.-—Ein telerau am gyhoeddi Barddoniaeth yn Rysylltiediff a hanes Gencdigaeth, IModas, neu Farwolacth yw tair coiniog y Hindi. PRIODASAU. EvANS—DAVlES.—Gorpheiaf Slain, yn Siloab, Llan- elli, gan y Parch T. Davies (tad y briodasferch), yn cael ei gynorthwyo gan y Parchn D. Lewis, Llanelli, ac R. P. Jones, Pencader, y Parch J. C. Evans, Tier's Cross, Penfro, a Miss M- A. Davirs, merch hynaf y Parch T. Davies, Llanelli. Y nos Wener blaenorol anrhegwyd y briodasferch gan eglwys Siloah ag awr- lais hardd a chod o aur, fel arwydd o'i theimlad da tuag ati. JONES-POWELL.-Yn Ebenezer, capel yr Annibyn- wyr, yn Nhrecynon, Aberdar, ar y 31ain o Orphenaf, gan y Parch W. Edwards, y gweinidog, yn cael ei gynorthwyo gan y Parchn Thos. Davies, Cwmogwy, ac E. Powell, Tredegar (brawd y briodasferch), Mr James Jones, ysgolfeistr, Nantymoel, a Miss ignes Powell, Aberdar- JAMES—ROBERTS.—Awst 3ydd, yn nghapel Fetter Lane, Llundain, ga-n y Parch Owen Evans, Mr John James, Brynberian, Penfro, a Miss Mary Catherine Roberts, ail ferch Mr a Mrs Edwin Roberts, Beacon's Hill, Dinbych. Mae nifer a gwerth y rhoddion a gyf- lwynwyd iddynt ar yr amgylchiad dedwydd yn profi yn eglur eu bod yn ddwfn yn serch lluaws o gyfeill- ion. Gwenau y Nefoedd fyddo ar y par ieuanc drwy ystod eu hoes.—Cyfaill. MARWOLAETHAU. BOWEN.-Gorphenaf 5ed, Mr David Bowen, Bronllan, plwyf Trelech, yn 42 mlwydd oed. Gweinyddwyd yn ei angladd y Linn canlynol gan y Parch [saac Wil- liams, Pant-teg, a'r Parch E. Evans, Penybont. BOWEN.-Gorphenaf 19eg, Sarah Bowen (chwaer yr uchod), yn 52 mlwydd oed, wedi bod yn dihoeni am yn agos i bedair blynedd mewn afiechyd. Claddwyd hithau y Llun canlynol, pryd y pregethodd Mr Evans yn deimladwy iawn. Yr oedd y ddau yn aelodau yn Penybont er's amryw o flynyddau. Yr oeddynt y misoedd diweddaf yn siarad llawer am farw, ac yn dymuno cael marw yr un amser, a chawsant hyny o fewn pythefnos i'r dydd. Buont yn cyd-deithio glyn cysgod angeu am fisoedd, a rhoddasant digon o le i hyderu eu bod wedi gadael gwlad y cystndd mawr am wlad y gan. Boed i'r pedwar brawd a'r ddwy chwaer sydd ar 01 yn eu galar ymdrechu i'w hefelychu yn yr hyn oedd dda ynddynt. LEWIs.-Gorphenaf 25ain, Mr J. Lewis, Phydnebven, Trelech, yn 87 mlwydd oed. Claddwyd ef y Llun canlynol yn mynwent y plwyf. Dygwyd y gwasan- aeth yn mlaen yn y ty gan y Parch E. Evans, Peny- bont —Kothornos. JONES.—Prydnawn Sabboth, Gorphenaf 29un, yn 18 mlwydd oed, Richard Baxter, mab ieuengat'Mr Mat. thew Jones,-Birkenhead. Byr gymharol fu ei gys- tudd, ond trwm dyoddefodd y cyfan yn dawel. Yr oedd yn ddyn ieuanc a fawr hoffid gan bawb o'i gyd- nabod. Cydymdeimlir yn fawr a'r teutu yn eu had- fyd, ac yn enwedig a'r tad. Bydded y Duw yr ym- ddiriedasant ynddo bob amser yn Gysgod iddynt yn eu dydd blin-
CENADAETH TANGANYIKA.
News
Cite
Share
diwrnod. Teithiwyd fel y gwnei 1 ar bob diwrnod arall-nid oedd unrhyw gyfnewidiad nac ychwanegiad yn ein bill of fare-nid oedd dim yn ein gwisg fyddai'n awgrymu dydd gwyl, ac nid oodd perthynasau hir- absenol i'n cyfarch a "N adolig Llawen:" end yr oeddero yn ddedwydd wcdi'r cwbl. Ymlawenhaem yn y syniad ein bod yn symud yn mlaen—gorfoloddem yn y ffaitli ein bod yn graddol nesau at ben y daith ae aberthid y Nadoiig i foddloni ein hawydd i gyrhaedd maes ein llafur gyda chalon rwydd rwydd. Dranoeth, ar y 26ain o llagfyr, cyrhaeddwyd Itura, y pentref cyntaf yn Unyamwezi. Ni chawsom gawod o wlaw er pan gadawsom Mahamba hyd y diwrnod liven, ond oddiyma hyd ddiwedd ein taith cawsom gafodydd bron yn ddyddiol. Gwlawia yma yn llawer trymach nag y gwna yn Nghymru, ond ni phery fel rheol hwnt i haner awr, Cyd-deithia a'r gwlaw yn gyffredin wynt nerthol a 'storm o fellt a tharanau, ac nid anfynych y chwythid oin tents i lawr ganol nos, ac y caem y fraint o'n gosod i fyny wrth oleuni mellt, cymaint oedd eu dysgleirdeb a'u hamldra. Pan yn gadael Itura ar y 27ain, yr oedd y wlad wedi ei gorlifio gan y gwlawogydd, a chawsom y diwrnod hwn y profi sd cyntaf o deithio trwy ddwfr (wading), a'r hwn orchwyl y daethom wedi hyny yn bur gyfarwydd. Teithiwyd ambell ddiwrnod trwy droed- iedd i ddeunaw modfedd o ddwfr am dair neu bedair milldir, ac mewn gwlad booth y mae yn waith hynod bleserus, ac ni chefais le i feddwl ei fod mewn modd yn bcryglus, oddieithr lie y byddo llawer o laid, yna y mae pcrygl oddiwrth y guinea worm, math o bryfyn sydd yn dra chyffredin yn y West Coast, a'r hwn a bar lawer o Hinder i'r trigolion. Fod y guinea luorm yn bres?nol mewn rhanau o'r canolbarth gallaf dyst- iolaethu oddiar brofiad, yn gymaint ag i mi fy hun fod yn ddyoddefydd oddiwrth ei effeithiau. Ar y 30ain o Ragfyr, yn ymyl Mpero Uyiwi, gwnaeth un o'n dynion ddarganfyddiad hynod. Yn dygwydd troi i fewn i hut gerllaw y llwybr, gwelodd fwndel o bapyrau, ac yn eu hymyl benglog dvn. Yn deall fod y papyrau yn perthyn i ryw Ewropeaid, dygodd hwynt ymaith, a throsglwyddodd hwynt i'r cyntaf o'n parti a gyfarfyddodd. Ar ol ymchwiliad, cafwyd inai llythyr- an oeddvnt, wedi eu danfon gan y Parch W. Griffiths, Uguha, a Dr Southon, Urambo. Ymddengys i barti o Rugaruga (milwyr Mirambo) ymosod ar y mail men er mwyn en llian (cloth), i'r mail men geisio amddiffyn eu hunain, ac i'r ffrae derfynu mewn tywallt gwaed. Yr oedd y llythyrau wedi en handwyo yn arw gan forjrug gwyn, ond yr oedd yn hawdd gwneyd allan yr enwau ar yr oil ohonynt. Nid bychan oedd fy syndod pan welais ar ddau ohonynt enwau yr oeddwn yn berffaith gyfarwydd a hwynt, sef eiddo y Parchn Proff. Morgan, Caerfyrddin, a D. A. Griffith, Troedrhiwdalar. Mae dygwyddiadau o fath hwn yn ddiau yn swnio yn erchyll yn nghlustiau Prydeinwyr, ond yma y maent yn bur gyffredin. Ar y 4ydd o Ionawr, cyrhaeddwyd Uyiwi, lie y mae gorsaf Genadol arall gan y C.M.S. Wedi arosiad yma o ychydig ddyddiau, ymadawsom am Urambo, lie y cyrhaeddasom ar y 143g. Yn herwydd ychydig ym- drafodaeth cysylltiedig a marwolaeth Dr Southon, gorfu arnom aros yma am bythefnos, He y cawsom gyfleustra i adnewyddu certh ar gyfer y gweddill o'r daith. Wedi ei wanychu a'i analluogi gan y daith o Mpwapwa, penderfynodd ein cyfaill Mr Penry aros yma am ychydig fisoedd. g-yda'l' bwriad o brysu>o yn ei 111en ar dorfyn y tymhor gwlawog. (Drwg genyf ddcall iddo wedi hyny farnu yn ddocth i ddychwelyd i Locgr). Gadawsom Urambo ar y 27ain. Gan na byildai desgrifio y daith oddiyma hyd Ujiji ond ail adroddiad o'r hyn a geir nchod, digon yw dyweyd i ni gyrhaodd yr hen bentref sydd bellach yn adnabyddus i iioll E'vrop trwy ei gysylltiad &g enwau Livingstone ac creill o wroniaid anturiaoth, i'r rhai y mae y byd yn ddyledus am en gwybodaeth o Ganolbarth Affrica. D. PICTON JONES. Uguha, Ebrill 17eg, 1883.