Hide Articles List

11 articles on this Page

Advertising

' "DIWYGWYR CYMRU" AC ANNIBYN-IAETH…

MR W. O. JONES, B.A., A METHODIST-1AID…

RHEOLAU A DYSGYBLAETH CHWAREL…

MORFA BYCHAN A'R TRAMWAY.I

DYSGU HANES CYMRU.'

News
Cite
Share

DYSGU HANES CYMRU. Syr,-Hyd y gwn i, ni ddysgir hanes Cymru yn yr un o'n hysgolion elfenol na chanolraddol, ond, tan yn ddiweddar yma, arferwn feddwl y byddid yn ei ddysgu yn y Prifysgolion. Erbyn hyn, ymddengvs mai gyda chryn drafferth y llwyddodd Cochfarf i'w gael yn destyn myfvrio yn Nghoieg y De, ychydig amser yn ol; gwrth- wynebodd y prifathraw, Mr Viriamu Jones, yn egniol (gyda llaw, y mae y Mr Viriamu Jones hwn, sydd fel hyn yn sarhau Cymru, yn frawd i'r Ml- Leif Jones y bu bechgyn Ffestiniog mor aiddgar o'i blaid yn adeg yr etholiad) ni fynai ef Hanes Cymru yn ei ysgol ar gyfrif yn y byd. er mai "these Welsh" sydd yn ei gadw ef a'i J"sg°l mewn -llawnder. Dysgir hanes Lloegr j fiiwr, wrth gwrs, yn mhob un o'r ysgolion, a digon o hanes ein gwlad ninnau i arddangos aiawrfrydigrwj-dd ac ardderchogrwydd v Sais yn disgleirio megis haul gyferbyn a' llyfrdra ac iseledd y Cymro, druan. Gelwir Llewelyn a Glyndwr yn "wrthryfelwyr," a dysgir i blant Cymru edrych ar wroniaid eu cenedl, y rhai ymdrechasant cyhvd yn erbyn y gormeswr i I geisio cadw ein hannihyniaetli, yn ddim amgen na throseddwyr a dyhirwyr o'r fath waethaf! Yn yr iaith fain, hefyd. ysywaeth, y "dysgir" hyn i gyd ni wiw «on am'beth mor lygredio- a'r hen Gymraeg yn nglyn ag addysg. ° ° Beth pe'r edrychwn ar yr un sefyllfa o bwynt arall ? yb ni edrych ar Edward y Trydydd, Y Tywysog Du, Harri'r Pummed, ac ereill o brif arwyr y Saeson, fel gwrthryfelwyr yn erbyn coron Ffrainc, beth feddyliasai ein cymydogion? Ni foddiasai hyny ond pur ychydig ohonynt, debygaf fi; ond nid yw ddim mwy nag a wneir beunydd a'n henwogion ni ganddynt hwy, a hyny mewn ysgolion ag y mae arian trethdalwyr Cymreig yn myned i w cvnnal. Y gwir am y peth ydyw fod yn y Sais rhyw duedd cvnhenid i feddwl mai er ei fwyn ef y gwnaethpwyd pawb a phobpeth. ac mai efe sydd i gael goruchafiaeth ar draul beth bynag neu bwv bynag arall y myn. "Gwrthryfehvr" iddo ef ydyw'r neb a. faidd godi bys i amddiffyn hunan neu wlad rhag ei raib. I Yn awr, fe ddylid trefnu tuagat iawn addysgU plant y Cymry yn hanes eu cenedl hwy eu hunain. Mae dyssru hanes yn un o'r moddion goreu i ddiwyllio'r meddwl, yn enwedig pan fo'r hanes yn un mor ddyddorol ac amrvwiol ag ydyw hanes Cymru. Dvlid ei ddysgu yn ddi- duedd. heb ochri nac at y Cymro nac at y Sais, eithr hyd y gellir er dangoss rhagoriaethau a ffaeleddau T" ddwy ochr. y naill fel v llall. Dyn a'r j modd y cawsid yr effaith a'r dylanwad goreu ar feddwl y genedl. ac y palmentid y ffordd i godi yn ei ol hen yspryd dewr Cvmru Fu âYr eiddoch, 0 YNYS AF ALLO. j Ebenezer, Rhagfyr 24ain, 1900.

CRTSTTONOGA'ETH A'R RHYFEL.I

A FYDD PWLPUD YN Y GANRIF…

DIWYGWYR CYMRU : LLYFR MR…

[No title]

Advertising