Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Advertising

' "DIWYGWYR CYMRU" AC ANNIBYN-IAETH…

MR W. O. JONES, B.A., A METHODIST-1AID…

News
Cite
Share

MR W. O. JONES, B.A., A METHODIST- 1AID PWLLHELI A'R CYLCHOEDD. Syr,-A ydyw MethocHstiaid Pwllheli a'r cylohoedd yn ystyried beth y maent yn ei wneyd wrth roddi derbyniad i'r gwr uchod ? Fel y dywedodd y Parch John Hughes, M.A., yn y cyfarfod yn Hope Hall, Lerpwl, nas gall Mr W. O. Jones gyraedd ei amcan heb ddymchwelyd y cyfnndeb. Hawdd ygallasai ddefnyddio geiriau cryfach hyd ya nod na'r uchod. A welwyd erioed well engraipht o roddi y das wair ar dan er mwyn lladd llygoden ? Ac yn ychwanegol at hyny gwelid yr ynfydion yn y cyfarfod ycfyd nchod yn neidio, yn dawnsio, ac yn crochlefain yn ughanol y goelcerth. I bob dyn sydd yn gwybod rhywbeth am Fethodistiaeth, y mae ynfydrwydd y cyfarfod uchod yn hollol amlwg. As eto, er syndod, dywed Mr W. O. Jones yn y "Cymro" am yr w ythnos hon Bellach y mae cyfarfod gwrthdystiol yr Hope Hall drosodd ac i mi, nis gallasai droi allan yn fwy boddhaol." Os ydyw rhyw rai yn Lerpwl yn dymuno gwneyd eu hunan yngyff gwawd i bob Methodist anrhydeddns, gadawer iddynt; ond na fydded i Bwllheli a'r cylchoedd gyfranogi yn yr ynfyd- rwydd. „ A oes y tebygrwydd lleiaf fod y gwr wedi cael cam? Meiddiaf ddyweycl, nac oes, y gronyn lleiaf. I ddechreu, Pwy ydyw rhai o'r pwyllgor sydd wedi bod yn trin yr achos ? Dyma hwy, y Parchn Dr Hugh Jones, Owen Owens, Wil- liam Jones, a John Williams, Prince's-road. Pe chwilid Cymru drwyddi draw, a ellir cael cym- eriadau gloewach, purach, a mwy anrhydeddns ? A ydyw yn debyg y buasai y gwyr kyn yn cytuno a'u gilydd i ddiarddel ar gam (ac heb y seiliau cryfaf a mwyaf eglnr) un o'u cydweini- dogion ag yr oeddynt wedi bod yn cydweithio ag ef yn yr un dref am oddeutu saith mlynedd ? A oes ryw un cydnabyddus a'r gwyr nchod a all feddwl am foment y gallent wneyd y fath ysgel- erder ? Nac oes, mi gredaf, yn enwedig a oes tebygrwydd y gallent wneyd hyny ar cl bod yn sefyll am fisoedd uwchben y mater, a chynnal oddeutu deuddeg nen bymtheg o bwyllgorau ar hyny. A phwy sydd debycaf o fod ar yr iawn, tybed, y diarddeledig Mr W. O. Jones, ynte y gwyr cydwybodol ac anrhydeddus uchod ? Hefyd a ydyw yn debyg y buasai wyth neu naw o bobl yr oedd gan y gwyr uchod bob ymddiried yn eu geirwiredd a'u tystiolaethau yn tystio cel- wydd er mwyn diarddel gweinidog yr efengyl ? Mae gofyn y cwestiynau uchod yn ddigon o ateb- iad iddynt. "Æ Ond a chaniatau fod Mr W. 0. Jones wedi cael cam, a ydyw yn gwneyd defnydd o reolau y cyfundeb, sydd wedi eu flturfio ar gyfer hyny, i achub ei gam ? Na, y mae yn tafln y rheolau hyny gyda dirmyg mwyaf tua'r pedwar gwynt —rheolau ag y bu goreuon y cyfllndeb am amser maith yn eu llnnia. I ddechreu, anfonodd lythyr i Gymdeithasfa Pwllheli er mwyn taflu ¡ llwch i lygaid pobl anwybodus ei fod yn bwriadu apelio, pan y gwyddai y gallasai y ilythyr fod yn ddiwrnod yn rhy ddiweddar, A phe buasai y Ilythyr yn cyrhaedd mewn pryd, nid apel ydoedd cynnwys y Hythyr, ond gofyn am ohirio I. y mater, yr hyn y gwyddai na wneid mohono, ac nad oedd ganddo hawl i'w ofyn. Os ydyw yn ddieuog apelied fel dyn arall. Eto, os ydyw yn anfoddlon ar reolau y cyfundeb i achub ei gallu, paham y mae yn ceisio gwneyd i ffwrld a hwy mewn ffordd mor hollol annheilwng ? Os oes eisieu newid y rheolau, a'i myned i'r llys gwladol ydyw y ffordd i wneyd hyny ? Neu a ydyw yn anrhyd- eddus a theilwng ysgrifenu naw neu ddeg o lythyrau meithion i'r papyr newydd er mwyn cyrhaedd ei amcan ? Neu a ydyw yn debyg o gyrhaedd ei amcan drwy gynhyrfu nwydau isaf dynion anwybodus mewn cyfarfodydd trystfawr I fel yr un a gaed yn Hope Hall, neu drwy arwain eglwysi diniwed i'w gefnogi ? Ai yn y llwybr I hwn yr ydym wedi cael diwygiadau yn rheolau v cyfundeb ? -Yr eiddoch, &c., ELIAS Y THESBIAD.

RHEOLAU A DYSGYBLAETH CHWAREL…

MORFA BYCHAN A'R TRAMWAY.I

DYSGU HANES CYMRU.'

CRTSTTONOGA'ETH A'R RHYFEL.I

A FYDD PWLPUD YN Y GANRIF…

DIWYGWYR CYMRU : LLYFR MR…

[No title]

Advertising