Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

I i i i NODION CYMREIG. I…

News
Cite
Share

NODION CYMREIG. I 'o:W.=" ..< DUW YN AGWEDD GWAS. Mi lynaf wrth yr Iesu, C'lodforaf byth Ei ras; Pwy ali'sai fy ngwaredu, Ond Duw yn agwedd gwas X Pam y meddyikxid calon Etifedd dwyfol fri, Am gael yn ol i'w gctnon Bentewyri fel myii Anturiodid drwy waradwydd Er cymaint oedd y draul, I ddyfnder fy euogrwydd, j Lie na thywynnodci haul; Daeth allan i oleuni Y nief yr ochr draw, A'm henaid o'i drueni, ,Yn ddiogel yn Ei law. Bend'igakl! fyddbi'i enw Am beidio troi yn ol; A gadael imi farw Yn wrthryfelwr ffol; Ei lwybrau a ddilynaf, A'i gariad fydd fy lief; Ni dderfydd byth am danaf, Os caf Ei gwroni'Ef. DYFED. Soniir fod dan nen dTic), weinid- ogiün gyda'r Methodistiaid yn hwylio myn'd i'r Eglwys. Maent yn bregethwyr* da., a, byddant yn gaffaeliad i'r Fam os bydd hi mor ffodus a'ui cael. Tybia liawer fod cwtogi'r yra- borth yn gwneud niwed i ieehyd, ac yn gyfrifol am farwolaeth liawer o hen bobl a rhai gweiniaid. Ond sicrha'r awd'urdodau fod hynny yn gamgymeriad, ac mai lies mawr i'n t,YM hiechyd yw bod dan oruchwyliaeth Arglwydd Rhondda. Bu Mr. William Lewis., Rich- mond Road, Cacrdydd, farw yn werth £ 13,394. Yr hyn sydd yn gwneud y ffigyrau yna yn ddyddor- 01 yw',r ffaitii mai argraffydd oedd Mr. Lewisu Dyna'r dosbarth tlot- a,f yn y byd ar hyrru o bryd. Ond da gwel'd ambell un yn diianc oddi- ar ei dylwyth. Z, Yng nghyfarfod: llywodraethwyr y Llyfrgell Genedlaethol, apeliodd Dr. Gwenogfa-yn Evans am gael casgliad 0 lythyrau odidiwrth y bechgyn sydd yn y rhyfel. Dy- wedai fod llythyrau felly yn fwy rhydd na'r rhai sydd yn y papurau. Ond gwyr y doctor na chaniateir i'r bechgyn ddweyd nemor ddim yn eu llythyrau. Air ol iddynt ddyfod adref y ceir yr hanes. Cafwyd prawf eto o haelkwii teulu caredig Llandinam. Hysbysir fod y Misses Davies, chwiorydd Major David .Dadves, A.S., wedi cyflwyno deng mil o biirmau i Brif- ysgol Cymm yragiyn a. Cberddor- iaeth. Bydd yn cynnwys ^500 y flwyddvn! o gyflog i Gyfarwydclwr Cerddorol, ac anfoni'r athrawon-~i bob tref a phentref yng Nghymru i, hyrwydtio addysg gerddorol. Newydid cysurus ddaw o America ynghylch siwgr, sef fod yno dros hanne,r can' miliwn o dunnelii i'w hebgor o hyn i ddiwedd y fiwy- ddyn. Dyiai'r rhagolwg feiysu cryn lawer ar fywyd y gwragedd sydd yn pryderu am y dyiodol. Rhai wedi eu haddysgu yng -Ngholeg Llanbedr ymron heb eithriad ydyw'r rhai ordeiniwyd Sul y Drindod g-an esgobion Cym- m. Un o arwyddiom prudd yr am- serceddi ydyw y dirywjad hwn yn safon addysg yr Eglwys yng Nghymru. Mae'r Caisar wedi rhoddi Croes Haiarn o'r Dosbarth Cyntaf i 75,000' o swyddogion. Tueddir i wawdio'r Groes hon am fod cynifer yh ei hennill. Ond un o bethau arwrol y rhyfel ydyw'r gwroildeb diderfyni a ddangosir gaill filwyr pob gwlad. -+- Nid yw 'Esgob Llanelwy yn credu mewn gormod o gyfathrach a chydweithrediad gydag enwadau eraill. Gwell i'r Eglwys fyn'd ym- laen yn ei ffordd ei hun, a pheidio traffexthu ynglyn a newid puipud- au a negesau o'r fath. Yr egwydd- orion apostolaidd sylfaenol svdd a:r ffordd cydnabod fod gan neb hawl i'r sacramentau ond yr Eglwys. --+- Yr oecld y golled ar Lyfrfa y Methodistiaid Calfinaidd yng N ghaernarfon y flwyddyn ddiwedd- af dros saiith gant o bunnau. Priodolir dros bum' cant 0 bunnau o'r golled i'r anturiaeth newydd- iadurol sydd wedi bod yn golled ddifrifol er y cychwyn. Disgwylix gwneud rhywfaint o'r diffyg i fyny drwy godi pris Trysorfa'r Plant' i ddwy geiniog, a phris y 'Drysor- .fa r 4c. Daw Mr. Hugh Pritchard, Llan- gefni., allan fel ymgeisydd llafur YIn Mon yn erbyn Syr Ellis Griffith. Dywedir, hefyd', fod boneddwr arail a'i lygad ár,y sedd. Wyr neb beth sy'n myn'd i ddig^yddi dan y gofrestr newydd, ond y tebyg yw fed di"on o geidwadlaeth yn aros i •■ai rw pethau yn agos fel y maent. Mae rhywfaint o anesmwythid ym Mon, ond mwy o chwedlau na dim arall. Da y-gwnaeth Syr Ellis Griffith yn myn'd i'r wyl llafur. -:+- Ai doeth oedd peidio gwahodd yr aelodau Seneddol i gynhadleddi Ymreolaeth yn Llandrindod ? Dywed y pwyl Igor eu bod am drefnu'r cyiitltin, yn gyntaf, ac yna g-wahodd yr aelodau. Ond dyhd cofio fod yr aelcdau Seneddol yn. cynrychioli Cymru yn fwy union- r-yrchol D'i. neb arall, ac os am !ryn- rvchiolaeth deg a chyflawn o'r genedi, T),,i-TiLqm y gadawyd o'r neilltu sian rai hunan-etholedi'r rai ag y mae"r wlad wedi eu cfewls Nid dyna yw democratiaeth. Mae y Parch. Herbert Morgan, Bristol, wedi caniatau rhoi ei enw fel ymgeisydd llafur am y sedd dros ddosbarth Castellnedd. Dy- wedir mai Mr. Morgan yw'r unig. weinidog gyda'r Bedyddwyr sy'n, gaillti hawlio gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd fel un o'i ddefaid,-o.nd dafad heb ei throchd ydyw. Mae'r arch. H. Ridehalgh Jones, M.A., wedi ffarwelio ag eglwys Saesneg Breeze Hill, Rootle, a dechreu ar ei waith fel cynorthwywr i'r Parch. A. Con- nell, yn hen eglwys Ian Maclaren. Cafodd yil eglwys- yma flas ar Gymro pan oedd y Parch. E. G. Miles yno am dymor. Mae preg- ethwyr wrth newid enwad, fel plant wrth adael cartref, yn meddwl mai peth hawsaf erioed yw dyfod yn ol. Ond wedi myn'd maent yn syl- weddoli peth mor anhawdd ydyw. Un eglurhad sydd ar v symudiad- au hyn, a dim ond un,—awydd ein bechgyn i fyw'n barchus a thalu en ffordd. -+- Gwawdir liawer am fod Syr Hedley le Bas, A.S., yn talu pedwar swllt y fodfedd' am roi lie yn y papurau i ymosodiadau ar y Prif Weinidog.. Rhydd i1 bawb ei farn. ond teimlo yr oeddwn nad oedd pedwar swllt yn ddigon; ac nid wyf ychwaith yn oredu fod yr y hyn gynhygir gam eraill yn ddigon OY 0 ychwaith. Nid y boneddwr hwn yw yr, unig un sydd yn ceisio cyhoeddusrwydd, na'r unig un sydd yn talu am hynny. Wrth gwrs, mae'n rhaid i bapurau fyw a thalu eu fforddi, a theg yw i frodyr cefnog dalu am gyhoeddusrwydd. Ond nid oes eisiau gwa,wdiol un ochr ac am.ghofio"r ochr arall. -+- Cyfeiriads wythnos yn ol at syn- iad y Parch. J. H. Howard, Col- wyn Bay, am yr aelodau Cymreig. Wedi hynny darllenais ei sylwad- au ar Colwyn Bay. Dywed fod yno ugain o leoedd i addoli, ac y buasai eu hanner yn ddigon. Eiddipedd a chulni enwadol sydd yn cyfrif am y nifer. Mae yno bymtheg o wahanol ddosbarthiad- au cymdeithasol, a gormod o snob- eiddiwch iddynt gymysgu a'u gilydd. Mae'n debyg nad yw pethau lawer gwaeth yng Nghol- wyn Bay na llawer lie arall, ond fod yno un sydd yn dal y drvch o flael1 ei gymydk>gion.. Pob llwydd i Mr. Howard. Clywir llawer o ganmol ar loan Fedyddiwr, ond ychydig iawn sydd yn ceisio dilyn ol ei dreed. -+- marwolaeth y diweddar R y- baxch Dr. Thomas, Llanymddyfri, y Parch. J. H. Symond, Towyn, Me'rionvdd, yn awr yw Tad y t yn hanes ein Cyfundeb, yntau yn 85 mlwydd oed, ac wedi ei ord- einÎü vn y flwyddyn 186. Ordein- iwyd y Parchn. Lewis Ellis., Rhyl, a Wm. Evans, M.A., Pembroke Dock, yn yr un flwyddyn, ond y maent yn fietiengach na Mr. Sympnd o ran oedran.

PERSONOL. j