Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Y DIWEDD AR GAPTEN EDWARD…

News
Cite
Share

Y DIWEDD AR GAPTEN EDWARD WYNNE LLOYD ] ONES, iL LAND I NAM. GAN Y PARCH. ELIAS JONES, DREFNEWYDD. Ymhlithi y lliawsi a syrthiasant ym mrwydrau di- weddaf y D,ardane'lles, y mae enw y boneddwr uchod Un o feibion y diweddar Barchedig D. Lloyd Jones a Mrs Jones, Bronhaul, Llandinam, ydoedd. Ganwyd, Ebrill .x^eg, 1888. Yr oedd wedi derbyn manteision addysg o'r fath fwyaf rhagorol, a gwna-eth ddefnydd da ohonynt. Bu am bum mlynedd ym "Murchiston Castle School," Edinburgh. Wedi hynny yn Em- manuel'si College,, Cambridge, lie y graddiodd gydag anrhydedd yn y flwyddyn 1910. Pan yn yr Ysgol yn Einbugch cymerai ran amlwg yn chwaraeon yr Ysgol, ac yr oedd yn aelod o'r School XV." Yr oedd yn aelod o'r XV. yng Nghaergrawnt hefyd, ac yn gapten ynei flwyddyn olaf. yn ddilynol aeth i swyddfa y !Mri. Roberts & Evans, Cyfreithwyr, Aber- ystwyth. Yn '1914., pasiodd ei Final gyda'r gradd o LI. B., Cambridge. Yr oedd wedi ymuno a'r Terri- torials'er ys rhai blynydd.au, ac yn nechreu y flwydd- yn 1914 dyrchafwyd ei i'r swydd o 'Gapten. Pan doiodd y rhyfel allan yr oedd yn un o'r rhai cyntaf i ymrestru i wasanaeth tramor. Diwedd y mis di- wedd.af hwyliodd am y Dardanelles, ac yno yn un o r brwydnau cyirtaf y eymerodd ran ynddi fe'i clwyfwyd yn farwol ar y degfed o Awst. Y mae lliaws mawr o'n gwyr ieuainc mwyaf rhag- orol wedi cwympo yn y rhyfel dinystriol sydd yn cael ei cbario ymlaen yn y dyddiau hyn, ond nid oes yn eu plith un rhiagorach na'r annwyl E., W. Lloyd Jones. Y mae ei enw yn annwyl a chysegredig i deimlad ('ymru ar gyfrif ei gysylltiadau teuluaidd, ac yr oedd yntau ar gyfrif ei ragoriaeth persono1 yn deilwng fab i'w rieni, a'i henafiaid y rhai y mae eu henwau mor adnabyddus a pharchus yn yr holi sir. Yr oedd yn wr ieuanc o gynheddfau cryfion iawn yn meddu ar ddeall treiddgar, a chanfyddiad cyflym yn gvsvlltiedig a synwvr barn a^ddfed. Yr oedd hefyd yn llawn iawn o'r nwyf humorous,' a'r dych- ymyg bywiog oedd mor nodedig yn ei dad. Meddai hefyd ddawn ymadrodd a fuasai, gydag yrnarferiad, yn ei wneud yn siaradwr byawdl. Yr oedd yn nodedig o dyn.er a llednais ei deimlad- au ni bu calon erioed fwy llawn. o dosturi a chyd- ymdeimlad. Yr oedd yn fyw ryfeddol i bob ang-en ac eisieu, i drallodion a blinderau 0 bob natur. Nid ydym vn tvbied i ni erioed gyfarfod. a gwr ieuanc mwy calon* agoied, a mwy parod .i gynorthwyo y claf, y clwyfus, a rhai trallodus ymhob modd. Hawdd fuasai rhoddi e.siamplau tarawiadol o hyn yn ei hanes, pe buasai gofod yn caniatau. Yn gys- yllt-edig a'r tynerwch hwn yr oedd ynddo nerth, cadernid a pwroldeb. Yr oedd ynddo gyfuniad pryd- fsrth o'r hyn a elwir yn masculine and feminine virtues' wedi eu cyfartalu mewn modd prydferth ry- feddol. Yr oedd yn foneddwr vng ngwir ystyr y g,air: meddai ar y ddoethineb y dywedir am dani ei bod oddi uchod, Yr hon sydd bur, heddychlawn, bon- eddigaidd, hawdd ei thrin,, llawn trugaredd a ffrwyth- au da, diduedd a diragrith." Carai ei genedl a'i wlad a'r corff crefyddol yr oedd yn aelod ohono. Nid oedd ynddo un gradd o'r foppishness' hwnnw ag sydd mor fynych yn anurddo llawer gwr ieuanc yn ei sefyllfa. Yr oedd yn wir grefyddol a defosiynol ei ysbryd. Yr oedd hefyd yn Hawn awydd am wneuthur daioni. Cymerodd ran ftaenllaw iawn mewn cysylltiad a'r Tuberculosis Movement ar er gychwyniad, a bu o wasanaeth mawr gydag ef. Gweithiai yn egniol gyda'r gatrawd y peithynai iddi, a gwnai ei oreu i gadw y gwyr ieuainc oedd ynddi yn llwybrau rhinwedd a daioni. Ymunodd a'r fyddin oddiar y cymhellion mwyaf pur a dyrchafedig. Ab- erthodd seiyllfa ddedwydd, a rhagolygon disglair ar allor cariad at ei deyrnas, ac at gyfiwnder ac un- iondeb. Cwympodd i'r bedd ym tnlodau ei ddyddiau,, ac yn anterth ei nerth, ond cwmypodd ymhlith ar- wyr anrhydeddus, y rhai nad gwerthfawr ganddynt eu heinioes os gallant rywfodd waredu eu gwlad rhag gorthrwm a thrais. Mor ddymunol cofio mai yr hanes diweddat a, gawn am dano ydyw, yn arwain y gwasanaeth crefyddol ar fwrdd v llestr ar y fordaith.. Dywedir iddo ddywed- yd wrth ei lam cyn cychwyn ei fod yn argyhoeddedig na ddychwelai yn ol. Fe ddywedir i Young Glad- stone ddywedyd yr un peth. Pa esboniad a ellir ei roddi ar hynyma p Y mae yn ffaith fod pethau mawr yn taflu eu evsgo.dion o'u blaenau. Y mae cydymdeimlad dwfn a chyffredinol gyda1 fam a'i frodyr yn eu trallod a'u galar am un oedd mor annwyl ganddynt.

CENHADAETH Y T.K.P.M.

C YM D EITIH ASF A PWLLHELI.

Advertising

LLYTHYR 0 AMERICA.