Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Advertising
DYDDIADTTROBTI DYDDIADURON Mae cyflenwad o Ddyddiaduron Cymraeg a Seisneg, o bob maintioli, am y prisoedd rhataf, Yn SWYDDFA'R 'GWLADGARWR.' DIARIES! DIARIES! Purchasers can select from a Splendid Stock of Welsh and English Diaries of all sizes, at the Gwladjarwr Office. TEMPERANCE HALL, Aberdar. DAN NAWDD Y Teilwng Anrhyd. AEDALTDD BUTE, K.T.; Y Gwir Anrli. ARGLWYDD ABERDAR, C. R. M. Talbot, Ysw., A.S. H. H. Vivian, Ysw., A.S. -H. Richard, Ysw., A.S. R. Fothergill, Ysw, A.S. D. Davis, Ysw. Canon Jenkins, D. D. Dydd Nadolig, 1875, Rhoddir PEBFFOBMIAD cyflawn o'r Oratorio,- < t! ? S f JUOAS MACCABE.US!L Gyda Cherddorfa gampus, pryd gweinyddir gan Undeb Corawl Aberdar, 200 mewn nifer; Miss Marie Duval, 0 Gyngherddau yr Alexandra Palace, Llundain; Mr. Bernard Lane, Primo Tenore yn Nghyngherddau Mdms. Blanche Cole a Lemmens-Sherrington; Mr. Thomas Howells. ORCHESTRA STRING BAND GYFARTHFA, STRING BAND BRYSTE, STRING BAND ABERDAR. CnfEILWYR- Mri. Abraham N. James a D. Bowen. ARWEINYDD-MR. REES EVANS. Nos Nadolig, rhoddir CYNGHERDD AMRYWIOG, Pryd y gweinyddir gan y cantorion uchod. Nos LUN NESAF (Rhag. 27), Rhoddir Ail Berfformiad o 'Judas' gydag Orchestra Gyflawn. DYDD NADOLIG.- Y cyngherdd eyntaf i ddechreu am 3 y prydnawn tocynau, 3s., 2s., Is. Yr ail gyngherdd am 8 o'r gloch tocynau, 2s. 6c., Is. 6c. a Is. Nos LUN.-Cyngherdd i ddechreu am 7 tocynau. 2s. 6d. Is. 6d. a Is. Tocynau i'w cael yn y gwestai, gan brif fasnachwyr y dref, a chan aelodau yr Undeb Corawl. 1208 D. RHYS, Ysg.
RWRDD Y GOLYGYDD.
RWRDD Y GOLYGYDD. Dymuna Trodynfab hysbysu Mortimer fod y feirniadaeth wedi ymddangos yr wythnos ddi- weddaf yny Fell ten. YSTAI.FERIAN.—Danfonwyd yr englynion i Asaph Glan Dyfi i feirniad y farddoniaeth. ElSTEDDFOD LLWYNYprA.—Daeth y pedwa,r enw α- ganlyn i'r swyddfa i'w hychwanegu at y restr ymddangosodd yr wythnos ddiweddaf Moffat, Tywarchen, Llwch y Glyn, Cyfued. Derbyniwvd.—loan GJoff, Brysiog, Hen Goedwr, Beirniadaeth Trodynfab, Cymro yn Ngwlad y Sais, Herbert, Gwyliwr, Mynyddwr, Ap Gwyrfai. FFLANGELL (Cwmbach). —Mae eich llythyr yn cynwys cabldraeth. Nis gallwn gyhoeddi cy- huddiadau o'r fath dan ffugenw. Yn ein nesaf-Nebat, T. J. (Briton Ferry), Coch- farf, Eisteddfod y Wern, Didymus (Penycae), Un oedd yno, Eisteddfod Risca, Samson, a John Davies (Llanelli).
NADOLIG.
NADOLIG. H Darfu i ymweliad cynarol yr eira a'n daear eleni, ddwyn ar gof i ni mewn modd byw ac arluniadol fod un Nadolig eto gerllaw; ac wele ni bellach yn nghanol yr Wyl siriol, wedi taflu ymaith bob baich a gofal am enyd, ac yn ymroi i gydfwynau adgofion a melus- derau y tymor croesawus. Addurnir pob mur, o fwthyn i balas, a'r celyn bythwyrdd yn arwyddlun o'r cariad ir ac anwywedig ag sydd unwaith eto yn tynu y rhai a wasgarasid at eu gilydd o flaen yr hen aelwyd gartrefol. Adgyfodiad ieuenctyd ydyw Nadolig bob araser—adgyfodiad dyddiau diniweidrwydd a phurdeb a chan: ac os collir deigryn gloew wrth weled ambell gadair fawr ac ambell gadair fach. yn wag, ebrwydd ei sychir ymaith, wrth gofio, fod y rhai a'u llanwent beliach gyda'r saint ar gadeiriau o ser, a ninau yn brysio ar eu hoi i'w hailgyfarfod yn y Cartref Tragwyddol fry. Llawenydd yw arwyddair Nadolig, amser i g&nu ac nid i wylo; a bydded i ni eleni eto ei lwyr fwynau fel ernes o'r Gwyliau Tragwyddol a sicr- hawyd i ddynolryw tu draw i'r bedd, trwy rinwedd bywyd a thrwy haeddiant marwol- aeth Arwr Dwyfol-ddynol y dydd. Y fath adgofion rhyfeddol a gorswynol sydd yn ym- glysdyru o gwmpas y Nadolig-ddydd! Y mae ei Seren Ef" yn codi unwaith eto dros em*aidd odreugylch adgof bell, mor ddys- gla.er ag erioed: bydd cyngherdd yr angylion ynseiniomor felusber uwch y "Blygain" fore y fory ag uwch meusydd per Ephrata gypt; ac y mae dylanwady "Mabaroddwyd" mor rymus ar ein meddwl a'n buchedd-mor nerthol, mor sylweddol, mor sancteiddiol- fel nas gallwn, mewn sobr difrifolrwydd, lai na dwys dosturio wrth y rhai a addolant y ffugbeth gau a elwir Derwyddiaeth "—y rhai a chwiliant am sylwedd lle nad oes dim ond rhith, ac am wirionedd lie nad oes dim ond ffigroliaeth ynfydwag Crefydd ryfedd, yn wir, i'r masses "-i filiynau annysgedig yr hil ddynol—ie, crefydd ryfedd yw hono nas gall neb wneyd nnrhyw ddim o honi heb yn gyntaf lwyr efrydu Seryddiaeth-a dim llawer wed'yn! Mae'n yn debyg fod Pab- yddiaeth yn deall hanfod gwirionedd crefydd- ol a gwyddonol yn well na sylfaenwyr Protes- taniaeth—ond pivy, atolwg, wadodd gylch- droad y ddaear ar ei hechel, a'i chylchdroad o amgylch yr haul! Y mae genedigaeth ein Harglwydd ni yn ffaith hanesyddol; y mae Efe yn gymeriad hanesyddol; y mae, ie, ei elynion, yr luddewon, hyd y dydd hwn yn dystion o wirioneddolrwydd ei hanfodiad a'i groeshoeliad: ac nid oes un dygwyddiad yn Holl Hanesyddiaeth y Byd ag y mae cymaint o evidence o'i du, a chynifer o dystion o'i wirionedd ag Adgyfodiad yr Iesu. Truenus yn wir yw sefyllfa feddyliol dynion a feidd- iant siarad gydag atodwrdud am betliau a ddygwyddasant filoedd o flynyddoedd cyn Abraham, Moses, ac Aaron! Bore yfory bydd iniloedd o filoedd o hil syrthiedig Adda yn ymorfoleddu, nid mewn Iachawdwr- iaeth" fach "o flwyddyn newydd," ond mewn Iachawdwriaeth o natur anfeidrol fwy rhagorol, wrth gofio am enedigaeth y Gwr a ddaeth yn Awdwr Iachawdwriaeth Dra- gwyddol i'r rhai oil a ufuddant iddo." Ddarllenwyr hynaws oil! bydd y rhan luosocaf o lawer o honoch chwi yfory yn mwynau pob moeth a llawnder, pob clydwch a dedwyddyd: cofiwch fod rhai yn eich mysg -cofiwch fod rhai gerllaw i chwi-nas gallant gael unrhyw fwynad, nac unrhyw fynn i fod yn llawen, heb i chwi eu cynorthwyo. Na fydded un Cymro nac un Gymraes yn selfish yfory, ond bydded i bob un o honomgyfranu o'n llawnder i'r weddw, a'r hen, a'r amddifad. "Ymaey tlodion gyda chwi bob amser." Y cleifion gyda chwi bob amser. Oh! pa sawl gwaith yr awd heibio i'r ddynes dlawd, lwyd ei gwedd, suddedig ei gruddiau—sawl gwaith yr aed heibio iddi, yn ystod y flwydd- yn '75, heb roi dimiddi Y mae Coflyfr '75 ymron cael ei gauad i fynu—faint o elusenau i'r tlawd sydd ar ei dudalenaul Gwnawn iawn yfory a thrwy dymor y Gwyliau, a dybened y fiwyddyn gyda daioni i ereill a bendith i'n hunain. A chyda hyn, dymunwn i'n holl ddarllenwyr—NADOLIG LAWEN.
. YR ARSYLLFA.
YR ARSYLLFA. RHAGFYR 23AIN, 1875. Dyma ni, bellach, wedi dyfod unwaith yn ychwaneg at drothwy yr hen NADOLIG. Edrycliwn yn ol gyda dyddordeb digymysg at hen Nadoligau anwyl boreu oes, yr rhai ydynt fel rhyw oasis byth-wyrddion yn nghanol anialwch bywyd. Cedwid y Nadolig yn Sir Aberteifi bump a deng mlynedd ar ugain yn ol trwy gynal cymanfaoedd ysgolion, sef yr Ysgolion Sabothol, a mawr y son fyddai am danynt, a'r rhagbarotoi ar eu cyfer. Dysgid yr anthemau gwylltaf ag y gellid gosod dwylaw arnynt, oddigerth rha i eithriadau, a mawr y s6n fyddai am yr ysgol fyddai yn cael ei hystyried fel wedi curo yn y canu. Gwnaed llawer o ddaioni trwy y cyf- arfodydd hyny yn ddiau ond pan edrychom trwy bellwebyr adgof, nis gallwn lai na syn ryfeddu am lawer o'r darnau genid y pryd hwnw, yn neillduol pan gonom. y strides y mae cerddoriaeth wedi wneyd oddiar hyny. Ni wycldai Cymru y pryd hwnw fod Emlyn Evans a J. Thomas (Llanwrtyd), ac Alaw Ddu, wedi eu geni, er fod yr hen gerddor galluog, J. A. Lloyd, ar y maes flynyddau cyn hyny ond nid oedd ei chwaeth ef wedi yn y ymberffeithio yn agos y pryd hwnw fel y gwnaeth yn ei fiynyddau diweddarach, canys llyfr tonau cyntaf a gyhoeddodd gwelir yr hen" Mercurial" gan Dafydd Siencyn Mor- gan—ton o'r hen arddull jigyddol. Dafydd Siencyn Morgan oedd oracl mawr cerddorol gwaelod sir Aberteifi, ddeugain a haner can' mlynedd yn ol, ac er iddo gael ei gasglu at ei dadau cyn i ni gael y fraint- o'i weled, eto yr oedd ci enw mewn edmygus goffadwriaeth gan y werin oddiar y cof cyntaf genym. I ba le y crwydrasom? Maddeu, ddarllenydd. Dechreu son am Nadolig eleni ddarfu i ni, ac o gam i gam aethom at yr hen Siencyn Morgan. Wei, cedwir y Nadolig yma yn Morganwg yn benaf, y blynyddau diweddaf hyn, trwy gynal eisteddfodau. Y mae hyn wedi d'od i fri mawr, ond yr ydym ni yn cael ein tueddi i feddwl nad oes hir barhad i bethau fel hyn. Un Nadolig sydd genym yn y fiwyddyn, a hon ydyw y brif wyl fawr sydd yn casglu yn nghyd aelodau gwasgaredig teuluoedd, ac nid yw yn ormod i'r cyfryw i dreulio y dydd yn nghwmni eu gilydd, yn lie ckmio mewn eis- teddfod o foreu hyd nos, a hono, fe ddichon, yn ddiflas ac annyddorol i'r eithaf. Addefwn mai gorchwyl anhawdd ydyw llywodraethu arferion cenedl yn nglyn a, gwyl fel hon, ond yr ydym yn gwybod na fu erioed fwy o anomaly sydd rhwng natur gwyl y Nadolig a dull ei chynaliad gan y miloedd. Yr ydym yn edmygu Undeb Corawl Aberdar am ddysgu oratotio i'w chanu ar y dydd. Hyderwn y cant y gefnogaeth a deilyngant, ac y bydd iddynt barhau yn eu hymdrechion llwydd- ianus. Wel, nid oes genym ni ond dymuno i'n holl gyfeillion a'n darllenwyr, trwy Walia wen, Nadolig dedwydd a llawen, a thoraeth o gysuron nef a daear fo ar eich aelwydydd. Gwyddom am lawer, na fydd y Nadolig hwn ond cyfrwng prudd adgof am gyfeillion oedd- ynt yn iach y llynedd, ond wedi dianc yn groes i'r afon erbyn hyn. Nawdd y nef iddynt. Am ein gelynion-y maent liwy yn few and far between; ac er mor ellyllig yr ysbryd a ddangosasant, nid ydym ni yn dymuno dim aflwydd iddynt. Y mae yr Hwn sydd uwch na'r uwchaf yh gwylied. Efe a farn.
Llofruddiaeth Whitechapel.
Llofruddiaeth Whitechapel. CYFFES Y WAINWRIGHTS. Ysgrifena gohebydd Llundain i un o bapyrau y Alban fel y canlyn:—Yr wyf yn alluog i yru i chwi ryw fanylion am y Wain- wrights, yr hyn a dderbyniais o awdurdod dda. Oddiar eu dedfrydiad, y mae y ddau frawd wedi gwneyd cyffes ysgrifenedig. Ni chaniateir iddynt weled eu gilydd, ac ni wyr un ddim am natur cyffes y llall. Ceisia Henry Wainwright brofi fod Harriet Lane (cydnebydd yn awr mai eil gweddillion hi oedd y rhai gafwyd yn ei feddiant) wedi ei llofruddio gan ddyn, enw yr hwn ni ddyry, ac iddo ddianc ymaith. Y mae ei stori yn gymylog iawn pan ddaw yn mlaen i egluro cysylltiad y dyn hwnw a Harriet Lane, a pha fodd yr aeth ymaith. Yna, a yn mlaen mewn ffordd gywrain i ddangos pa fodd yr oedd y corff wedi ei adael yn ei ddwylaw ef, a pha fodd yn nghanol y dyryswch y tuedd- wyd ef i fyned a'r gweddillion i'w cuddio yn yr Hen and Chickens. ^Ymddengys nad oedd Henry wedi ei foddhau yn y gyffes^hon, canys y mae wedi dechreu un arall, yr hon sydd yn,debyg o fod yn faith iawn. Y mae yr hanes rydd Thomas lawer yn fyrach, a dwg ar ei wyneb fwy o nodweddion y gwirionedd. Dywed, yn fuan wedi i'r llofruddiaeth gael ei chyflawni, i Henry ddyfod ato a dweyd ei fod wedi lladd Harriet Lane. Ychwanegai na wyddai beth i wneyd a'r corff, a deisyfai ar ei frawd i'w gynorthwyo i'w roddi ymaith. Yr oedd Henry wedi llunio rhyw gynllun fel ag i daflu drwgdyb- iaeth ar berson adnabyddus i'r Wainwrights, yr hwn, am ryw reswm, oedd wedi gadael ei gartref, a deallid ei fod wedi gadael y wlad a cheisia Henry gan ei frawd i'w gynorthwyo yn y twyll. Desgrifia Thomas y dychryn a pha un y gwrandawodd yr hanes hwn gan ei frawd, a dywed: -Nid oeddwn i yn myned a'm brawd at y police yr oedd y weitlired wedi ei gwneyd, ac nis gellid ei dadwneyd; a chytun- odd ef i roddi pob cynorthwy i gadw y weith- red yn ddirgel, a chuddio y gweddillion. Cymerodd yr ohebiaeth ffurfiol arferol le rhwng yr Arglwydd Brif Farnydd a'r Ysgrif- enydd Cartrefol dydd Mercher, gyda gõlwg ar pa un a'oedd y barnydd yn ystyried fod unrhyw amgylchiadau neu unrhyw ddiffygion yn y dystiolaeth a dueddai i daflu amheuaeth ar gywirdeb y ddedfryd, fel ag i gyfiawnhau peidio cario allan weinyddiad eithaf y gyf- raith. Y mae yn gwrs a gymerir bob amser mewn amgylchiadau o lofruddiaeth ac os bydd y barnwr a brofodd y carcharor yn amlygu ei fod yn anfoddhaol wrth y ddedfryd, neu ei fod o'r farn y dylid gwneyd ymchwiliadau pellach, y canlyniad yw fod pardwn yn cael ei estyn i'r carcharor. Yn yr amgylchiacl hwn, beth bynag, y mae goheb- iaeth yPrif Farnydd i'r perwyl fod dedfrydy rheithwyr yn cael ei chyfiawnhau gan y tyst- iolaethau, ac nad yw ef yn gweled un rhesym- au dros i'r gyfraith beidio cymeryd ei chwrs. Y DIENYDDIAD. Dydd Mawrth diweddaf, yn hen garchar j Newgate, dyoddefodd Henry Wainwright benyd eithaf cyfraith Prydain Fawr, ac anfonwyd ef i wyddfod ei Farnwr drwy ddwylaw y dienyddwr Marwood. Cysgodd ychydig nos Lun, a bu yn effro am oriau lawer. Boreu dydd Mawrth, yn gynar, gofynwyd iddo gan y swyddog a'i gwyliai sut orphwysdra gafodd y nos flaenorol ? atebodd yntau, "Nid oes dim gwahaniaetli, yr wyf bron a myn'd i gysgu fy hun hirfaith." Cododd am chwech o'r gloch y boreu, gan wisgo ac ym- drwsio. Rhyw godi rhyfedd, codi i fyned i'r crogbren! Aeth y Siryddion i'w gell ychydig fynudau cyn wyth o'r gloch, a chawsant ef yn ymuno mewn gweddi gyda'r Parch. Mr. Jones, caplan Newgate. Cyn iddo gael ei gadwyno, estynodd i Mr. Smith, ceidwad y carchar, bapyr ysgrifenedig, yr hwn y dywedai ei fod yn ewyll- ysio iddo gael ei wneyd yn gyhoeddus. Yn y papyr hwnw, y mae y carcharor yn dechreu trwy ddatgan gobaith y byddai i'w bechodau, trwy diriondeb trugarog yr Hollalluog, gael eu golchi ymaith, er mwyn y Gwaredwr bendigedig ag ydoedd efe mor hir wedi esgeuluso. Yna cydnebydd y carcharor gyfiawnder ei ddedfryd, a dywed ei fod yn teilyngu ei dynged, er nad yw yn acldef yn gyflawn ei fod yn euog o'r llofruddiaeth. Yna datgana ei ddiolch i geidwad a swyddogion y carchar am eu caredig- rwydd iddo tra fu yno. Diolcha hefyd i'r cyf- eillion adnabyddus ac anadnahyddus am y cyd- ymdeimlad Cristionogol a amlygwyd tuag ato ef a'i deulu, ac ychwanega ei fod yn gobeithio ae yn credu fod eu gweddiau am ei ddedwyddwch tragywyddol a'i heddwch wedi eu hateb gan yr Hollalluog. Terfyna y carcharor trwy gyiiwyno ei wraig a'i deulu i ofal yr Hollalluog Dduw, yr Hwn sydd yn Noddwr i'r weddw a'r amddifad. O'r amser y cyfododd o'r gwely hyd adeg ei ddienyddiad, bu Henry Wainwright yn ym- wneyd mewn gweddi daer gyda'r Caplan. Ym- gasglodd rhyw 5000 tu allan i'r carchar ar awr y dienyddiad ac am wyth o'r gloch codwyd y faner ddu, yn arwydd fod y dienyddiad wedi cymeryd lie, Dywed Marwood, y crogwr, na welodd neb erioed yn wynebu angeu gyda chymaint o nerve.
Family Notices
GENEDIGAETII. Rhagfyr 14eg, priod Mr. John Davies, Cefn- golau, ger Pedair Heol, Llangydeyrn, ar ferch. .Y MARWOLAETHAU. Dydd Mawrth, Rhag. 2lain, ar ol hir gystudd, oy Mrs. Jones, gwraig Mr. David Jones, Timber Merchant, Aberdilr, yn 69 mlwydd oed. Bu yn aelod gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn Beth- ania, am fiynyddau lawer. Heddwch i'w llwch. Rhagfyr 19eg, William Morgan, gof, Llan- wono, yn dra sydyn. Gadawodd luaws o bertli- thynasan a chymydogion i alaru ar ei ol.—C. Rhagfyr 20fed, Mary Ann merch Mr. John Griffiths, Moulder, Perseverance Place, Aberdar, yn 18 mlwydd oed. Yr oedd yn ferch ieuanc grefyddol, ac yn aelod o Eglwys barchus Siloa.
Archwiliad i Lofa'r Wyndam,…
Archwiliad i Lofa'r Wyndam, Cwm Ogwy. YN ol ein apwyntiad gwnaethom ni, v rhai y JL mae ein enwau bod. archwiliad i'r Lofa uchod dydd Iau, 9fed eyfisol, cyfrif o ba un sydd fel y eanlyn Y" Pedair. Aethom yn gyntaf i ochr y North yn mha le ni chawsom ddim nwy, oddieithr ychydig o'r hyn a elwir Heading mewn un mnn, y ffvrdd awyr ar y eyfan mewn sefyllfa dda. Y nesaf, ochr y South. Aethom drwy No. 1, heb gael dim nwy, ond pan yn ngwaelod No. 2, cawsota ychydig. Cawsom ychydig ar y groesffordd sydd rhwng No. 2 a No. 4, uwchlav/r coed. Yn y talcen cyntaf yn No., 4, cawsom ychydig nwy, ond heb fod a un pwys. Nichawsoic ddim wedihyny nes dyfod i d;ilcen Joseph Israel, lle'r oedd ychydig uwch- law'r coed eto mewn dau fan. O No. 4, aethom i No. 6, lie ni chawsom ddim nwy o gwbl. Cawsom y Main Heading wedi hyny ynyr un sefyllfa. Yn No. 2 Cross Heading, cawsom ychydig nwy yn nhalcen George Webber. Oddiyno i waelod ypwil cawsom bob peth mewn sefyllfa, dda. Cyfanswm o nwy yn y pedair, p3 yn bosibl ei osod at ei gilydd, yn ol ein barn ni, fyddai tua llathen ysgwar o bellaf. Y Ddwy a Naw. Hen Headhvi y Nm.th.-Er chwilio Deep yr Engine, ni chawsom ddim nwy o gwbl. Y ffyrdd awyr mewn sefyllfa ragorol, gyda'r eitliriad o gwymp mewn un man. Aethom i fyny drwy y return i ochr y North lie y daethom i gyff yrdtiiad a Blower, yr hwn sydd yn wybyddus. Yn y North, yn Heading Evan Jenkin, cawsom ychydig nwy mewn tri man. N1 chawsom ddim wedi hyny nes dyfod i Heading James Jones; yno cawsom beth nwy eto. Er archwilio pob man gyda'r gofal mwyaf hyd waelod y pwll; acocldiYllú i ,,nio ochr y South, ni chawsom nwy o gwbl. Y ffyrdd awyr yn y South mewn sefyllfa ganmoladwy. Cyfanswm o nwy yn y Ddwy a'r Naw, tua dwy lath a haner ysgwar. Dymunwn yn y fan hon i dalu ein diolchgarwch gwresocaf i'r gwahanol swyddogion am eu caredigrwydd yn ein arwain drwy bob rhan o'r gwaith. Dymunir ar y glowvr, os yn anfoddlon i'r archwiliad hwn, i ddewis dau ddyn o'u plith i wneyd archwiliad arall. William Richards. David J ohn.
Advertising
Brynfierws, Llanedi. CYNELIR EISTEDDFOD yn y He uchod Dydd Sadwrn, y 4ydd o Fawrth, 1876, pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr llwyddianus mewn Cerddoriaeth ac Adroddiadau. Prif Ddarnau Cerddorol. I'r Cor, heb fod dan 60 mewn rhif, a gano oreu "Mor hawddgar yw dy bebyll," (J. Parry.) Gwobr, £10. I'r Cor, heb fod dan 30 mewn rhif, a gano oreu, "YBlodeuyn olaf," (J. A. Lloyd). Cwobr, £ 5. Bydd enwau y Beirniakl, a'r gweddill o'r tes- tynau, i'w cael yn y programme, ac i'w cael am ddwy stamp gan yr Ysgrifenydd. DAVID DAVIES, 1223 Park, Cross Inn, R.S.O. 3, Gadlys Terrace, Brynhyfryd, Aberdare. THE MISSES JONES BEG to inform the Gentry and Tradesmen of Aberdare and neighbourhood, that they intend OPENING a Day and Boarding School for Young Ladies after the Christmas vacation, and trust, by strict attention to the morals and instruction of the Young Ladies entrusted to them, to merit their patronage and support. A prospectus with reference will be forwarded on application. School Duties will commence on Tuesday, Janua y ISth, 187G. 122^. r WANTED, for the Districts of Glamorgan- W shire, Carmarthenshire, Pembrokeshire, and Cardiganshire, experienced Canvassers for the Grand New Work "Europe Illustrated." A most favourable opening to first rate men.—Apply to R. H. BALDWIN, 6, Rutland St., Swansea. 1217 "Bryd y Brython." Atliengsum Hall, Llanelli. NODDWYR: C. W. Nevill, Ysw., .A.. S. H. Nevill, Y HW., Y.H.; R. Nevill, Ysw., Y.H.; R. Maclaran, Ysw.; R. G. Thomas. Ysw., Y.H.; J. B. Elkington, Ysw.; J. S. Tregoning, Ysw.; E. N. Phillips, Ysw., Y.H.; W. Rosser, Ysw.; B. Jones, Ysw., Caeffair; ae ere ill. OYNELIR EISTEDDFOD yn y lie uchod dydd LLUN, y 27ain o Ragfyr, 1875, sef dydd Liiun wedi r Nadolig, pryd y gwobrwyir y buddu" wjri- ar wahanol destynau, sef Caniadaeth, Bardd- oniaeth, Traethodau, ac Adroddiadau. PRIF DESTYNAU. Am y Traethawd goreu ar Tragyw^aldoldeb yn Gymraeg neu Saesonaeg. Gwobr, 2p. 2s. Am y Farwiiad oreu i'r diweddar Benjamin Howell, x sw., Caeffair, yn Gymraeg neu Saeson- aeg. Gwobr, 3p. 3s. Mor ^hawddgar yw dy bebyll" (J. Parrj'). Gwobr, 12p., a chadair hardd i'r arweinydd gwerth 2p. 10s. CIKEILYDD Mr. Henry Radcliffe. BEIRNIAID. Mr. R- Davies (Mynyddog), Mr. W. P. Evans (Gwilym Dyfri), Mrs. Capt. Hayton, New Dock, a Mrs. Thomas Jones, Thomas street. Yr Eisteddfod i ddechreu am lleg y boren. Mynediad i mewn trwy docynau 3s., 2s., a Is. Trosglwj-ddir yr elw tuag at y Village Hospital. Am fanylion pellach gwel y pro<ramme, i'w cael gan yr ysgrifenydd trwy y post am geiniog a climai. AR OL Y G YSTADLEUAETH CYNELIR CYNGHERDD MAWREDDOG PRYD Y CYMERIR RHAN YNDDO GAN MYNYDDOG, aWILYM D YFRI, ac Ereill. J. R. DAVIES, 46, Thomas-street, 1130 Llanelly. Gwyl Gerddorol Dyffryn Rhondda. PJYNELIR yr Wyl uehod yn PENTRE YSTRAD, DYDD LLUN PASC, 1876, pryd y gwobrwyir y Corau buddugol ar y darnau canlynol:— 1. I'r Cor o'r un gynulleidfa, heb fod dan 50 mewn rhif, a gano yn oreu Let their celestial concerts," o Samson. G wobr, 20p. 2. I'r Cor o'r un gynulleidfa, heb fod dan 40 mewn rhif, na eniilodd dros lOp. o'r blaen, a gano yn oreu Y Blodeuyn Olaf {J. A. Lloud\ Gwobr, lOp. 3. I'r Parti o Wrywod, heb fod dan 20 mewn rhif na thros 25, a gano yn oreu "Rhyfelgan y Myncod, gan Joseph Parry (Pencerdd America). I'w gael gan yr Awdwr. Gwobr, 3p. 3s. Beirniad—Mr. T. DAVIES (Eos Rhondda). Bychl y gweddill o'r testynau yn barod yn fuan.—Dros y pwyllgor, E. H. DAVIES, Baglan House, Llywydd. D. WILLIAMS, Timber Merchant, Trysorydd. D. THOMAS, Grocer, Pentre, Ysgrifenydd. 1168 "Ein Gwlad, ein Hiaith, a'n Defion." Eisteddfod y Wern, Ystalyfera. CYNELIR yr Eisteddfod uchod ar DDYDD C CALAN, 187G, pryd y gwobrwyir y cystadleu- wyr buddugol mewn Dadganiadaeth, Barddon- iaeth, Rhyddiaeth, &c. Y PRIF DnARXAU CORAWL. 1. I'r Cor, heb fod dan 40 mewn rhif, a gano yn oreu, "Clyw, 0 .Dduw, fy llefa-in," o'r Gwobr. Gp. 5sv a Chyfrol o vvaith Dr. Marx gwerth lp. Is., i'r Arweinydd 2. I r Cor, heb fod o dan 20 mewn rhif, a gano yn oreu, "Gweddi y Publican," o'r Gcrddorfa. Gwobr, 2p., a chyfrol o'r Gems, gwerth 12s. 6c., i'r Arweinydd. 3. I'r Cor o blant, heb fod dan 30 mewn rhif, a gano yn oreu, "Yn euro, yn euro," <fca, o Swn y Jiwbili. Gwobr, Ip. 10s. (Caniateir chwech mewn oed yn y Cor). Beirniad ?/ Ganicidaeth, y Cyfansoddiadau, ( £ -o. -D. M. J ONES (Alaw Buallt). Llywydd. —T. R. WHITE, Ysw. Fountain Hall. Anoeinydd,—WATCYN WYN, Carmarthen Col- lege. Ceir y manylion yn nghyd a threfn y dydd yn y programme, yr hwn svdd i'w gael gan yr ysgrifen- ydd am geiniog yr un, trwy y ceiniog a dimai. —-Dros y Pwyllgor, EVAN DAVIES. Secty. Wern Eisteddfod, Ystalyfera. 1161 Eisteddfod Undebol Mountainash BYDDED HYSBYS y Cynelir yr EISTEDDEOD uchod ar ddydd LL;/N, Rhagfyr y 27ain, 1875 (ac nid ar Ddydd Nadolig, fel yr hysbyswvd vr wythnos ddiweddaf). PRIF DESTYNAU.—TRAETHAWD. 1. "Hawliau Darllenfevdd Gyhoeddus (Public Reading Rooms) am gynortliwy y cylioedd vn nghyd a'r daioni a ddeillia oddiwrthynt. Gwobr, Ip. BARDDONIAETH. 1. Pryddest ar "Addysg" (ddim dros 100 llinell). Gwobr, lp. CANTADAETH. 1. Yr Alarch," gan R. Stephens, o'r Cerddor rhif 78 a, 79. Gwobr, 12p., a Timepiece ardderchoo-' gwerth 2p. 10s. i'r Arweinydd. 2. "Pebyll yr Arglwydd," gan J. Parry, cy- hoeddedig gan 1. Jones, argraffydd, Trelierbert. Gwobr, op. gan Sir George Elliott, Bart., A.S. a- medal aur gan y Pwyllgor i'r Arweinydd. 3. Tonau Henryd a Rhyl, gwel Aberth Moliant gan J. A. Lloyd. Gwobr, 2p. 4. Cartref yn y Nef," o Swn y Jivhili,, i Gor o Blant. Gwobr, lp. 10s., a Chromatic Tuning Fork i'r Arweinydd. Y gweddiil o'r testynau, &c., i'w cael yn y programmes, y rhai fydd yn barod yn fuan, pris ] e. drwy y post, ceiniog a dimai. Testynau rhif 1 a2 o'r Canu i fod yngyfyn^editj i g&rau perthynol i'r un gynulleidfa ag'sydd heb enill dros 15p. o wobr o'r blaen, a dim o dan 40 mewn rhif. Rhif 3 eto i fod yn perthyn i'r un gynulleidfa. Beirniaid y canu—Mri. Silas Evans (Cynon) Abertawe, a D. Buallt Jones, Llwyncus, Garth. I -Nlr Beirniad Rhyddiaeth—Mr. D. jBuallt Jones. Dros y Pwyllgor, D. E. COLEMAN (Eos HEFIN). Commercial-street, Mountainasli. 12:?Z W. J. REES, GENERAL PRINTER, BOOKBINDER dr LANDORE, NEAR SWANSEA. Posters, Handbills, Tocynau a Phrogramines at Eisteddfodau, &c., am y prisoedd iselaf. Pamphlets, Rheolau, Llarwnadau, a phob matII o Lyfr-wa,ith yn ddestlus a rhad. Pob mnth o ArgrafFwaith yn Gymraeg a Seisneg, W. J. REES, ARGRAFFYDD, LL ."FR-RVITYI\IYDD, doc, 1157 GLANDWK, ABERTAWE,