Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Cruilelimus a'i Suddas-glychau…
Cruilelimus a'i Suddas-glychau T (Bubbles). Mae Guilelimus yn ei wrtliddadleuon honiadol Y4 erbyn yr Archdderwydd yn debyg i'r inodd ( lftae penboethiaid coel-grefyddol yn gyffredin yn SWrthddadleu yn erbyn y positive philosopher a ] Phlaid y sciences; neu i ddyn na ddysgodd j erioed y common arithmetic yn gwat'frar niathe- i ínaÙcian medrus yn Euclid's Elements a Fluctiolls ( atti yr atebion a gymer arno eu rhoddi i ofyniad- dwfn a dyrus mewn rhifyddiaeth; neu ynte ] ddyn na fu telescope erioed o flaen ei lygaid yn < ceisio codi crechwen yn erbyn y serydd am y j <Urg mfyddiaethau newyddion yn mysg y ser a < fyddai hwnw yn gymeryd arno eu dadghddio i'r ] bYd. Fel mae y telescope gan y serydd yn tynu 1 s§r a'r planedau megys tuag ato nes gallu-canfod j Cyfundrefuau newyddion o Haulau, lleuadau Neptune a Herschel, lleuadau |a mcidrwyau y Planed Sadwrn, a lleuadau a belts y blaned Iau &c.; felly, pe byddai i Guilelimus gael braint ] 'la chafodd ac na chaiff byth, o-gael telescope Cyfrhiion Barddas o flaen ei lygaid, celai syn- ] ■ dod na feddyliodd fawr am dano. Celai ei olyg- iad byr presenol ei liwyhau i'r fath raddau Hes gallu adnabod ffin derfynol gwir hanesydd- laeth, ac edrych trwy a thu draw i niwlllwyd- Wyn blaen gwawr lianesyddiaeth chwedleuol, i Syfrinacli cysegr teml gylchog boreu y byd, nes I cael llawn olwg ar ffynon darddiol Barddas neu ^rist'iiogaeth bur a chyntefig y byd, yn bwr- I. lyrnu fel y grisial allan o fonwes Anian, oduitan Orsedd I-A-0 =/| o ffrwd yr hon, trwy eplesu ei dwfr glfin mewn oesoedd dyfodol, y gWnawd holl drwythion meddwawl y Cristnog- aetliau diweddarach, i bendroni y byd. Trwy ] "H-ydr-ddrycli Barddas celai weled y rhai a dybir < y& batriarcliiaid y cynfyd megys yn ei ymyl, ^es cu hadnabod fel ei gymydogion nesaf. Bydd laegya yn canfod eu gwisgoedcl, eu crests, a'u >' peis-arfau, eu teitlau, a'u lianes yn well na 'frelodd mewn unrliyw lyfr erioed, a gwybod y cwbl o'r gyfrinach am Ardd Eden, a'r Diluw. Paragraph 9.—"Yn awr (medd ein gwrth- Wynobydd) am yr enwau lesu a Hu. Nid enw Groegaidd yw Hiesous, na Lladinaidd chwaith. Yr enw yn wreiddiol yw Osia, yn awgrymu Gwaredwr, wedi hyny ychwanegwyd Ja ato, nes daeth yn Waredwr—Jehovah. Ni all Myvyr ddangos y gair Hiesous yn y Groeg yn flaenorol i'r amser ei defnyddir yn yr Hebraeg." Ateb—Morfeiddgar,onide?ysiaradayllanc, ac yr arddengys ei anwybodaeth mewn hynaf- iaetliau a cliyfrin-ddysg (mythology). Ie, gwr y gadach wen a'r fonwes ddu, gair Groegaidd mab- Wysiedig ydyw; sef yr enw Hu neu Hefj mewn fi'urf Roegaidd, gyda'r terfyniad Groegaidd ous, yw Hiesous, fel mat yr un enw gyda'r terfyniad Lladinaidd us, oedd Hesus yr awdwyr Lladin- aidd, a hwnw yn ffurf Llaclinaidd ganddynt o "Hes" y Gouliaid, neu Gymry Gaul, a hwnw yn ffurf o "Hu" Jachawdurol 'l'emlau'-Cylchog Cymry yr Ynys Wen. Mae yr enw i'w olrhain fel hyn o ris i ris tua'r Gogledd-Orllewin, at ei darddiad gyda Doethion y Gorllewin, athrawon cyntefig Doethion y Dwyrain—fel eu cydna- byddir gan Pliny a chan Ysgrythyrau y Brahm- iaid-ac nid at y barbariaid Iuddewig. Yr oedd Hu yn cael ei olygu erioed yn Mardd- as ein hynafiaid yn lachawdwr y byd, ac yn fab IOn a'r Forwyn Ddu o fOr Anwn, yn Arthan; ac yn cael ei alw yn Hu'r Goleuni a Bywyd y byd; ac yn cael ei alw hefyd y GAIR Creawl a chynaliawl, trwy yr hwn y crewyd ac y' cynelir y bycl-the Logos of the Lovan Stone. Ei arwydd- lun oedd /1\' Yr oedd yr Hu tri-phlyg hwn a'i dri phaladr yn cael eu dynodi erioed gan y tri mewn gorsaf o'r tu dwyrain i'r Maen Arch, yn nhemlau ein hynafiaid, a'r pelydr hyny yn ym- grynoi i gysgodi y cyfryw Faen Arch gan ganol- byncio Yl1 y Llygad Goleuni ar ei ganol; ac yno yn cael ei olygu yn ffigyrol ymgnawdoli i fod yn Hu yn Nghnawd, ac yn fab Morgwen, yn mher- son y Gwyddon llywyddol, yn Ngorsedd. Y s- tyrid Hu'r Goleuni megys yn trengu-fel buom yn son o'r blaen—yn mhwnc olaf y flwyddyn dros fywyd ei hil, ac yn cael ei adeni yn mhwnc cyntaf y flwyddyn newydd, yn Rhaglaw y Celi i lywyddu y byd. Ystyrid Hu yn Hu yr Arwcinyddy yr hwn dan ddylanwad ei belydr a fu yn arwain ac yn cychwyn y bywycl dynol i fyny i fodolaeth trwy Gylchau'r A.bred, gan ei ddechreu yn y pryfyn lleiaf wrth borth Anwn (sef mewn cydweddiad a'r Darwinian Theory!) Hefyd, efe a ystyrid fod yr rweinydd mawr yn yr un modd ag oedd yn adferu bywyd- ac yn arwain eneidiau y marw- olion o bwnc y trengiad, cynrychioliedig yn Haul-bwnc olaf y flwyddyn, ac oddiian lywodr- la4 A-fagddu, ac ar draws mor Anwn i bwnc "That the story of Prometheus .eXIsten m tne form of Pagan religion before all records of his- tory whatever and that its reference takes us' back to an ideal period antecedent to the Mosaic Creation of the World." Yn yr Ynys Wen y bu Hu gynt yn mhelydr ei ogoniant; ac aeth son am Hu y Goleuni, a'r: Hu yn Nghnawd, gyda thaeniad ein Barddas a'i Meini Ambawr trwy yr holl wledydd oddiyma i'r India, mewn rhyw oes foreu iawn, pan rodd- wyd dysg a gwareiddiad ar y cyntaf i'r byd. Ond llygrwyd Barddas yn fuan yn y Dwyrain ac wedi dwyfoli Hu'r Goleuni, aeth yr Hu yn Nghnawd i gael ei ystyried yn Dduw-ddyn, ganedig o forwyn ddynol. Aeth Hu dan ugein- iau o wahanol enwau yn y gwahanol ieithoedd, ond cadwyd yr enw Hu arno yn bur gyda y Mahomedaniaid i'r dydd hwn, ac hefyd ar y tablenau cun-lythyrenog Assyriaidd. Hefyd, galwyd ef gan yr Assyriaid Hea, a Iona, a'i arwyddlun yn Haul Adeiniog, neu Golomen Eur- aidd; a gelwid ef yn Mabylon Hoan-nes, neu Hu y Pysgodyn, Ac fel y dysgai ein hynafiaid ni mai gan Hu, ganedig o'r Forwyn Ddu o for Anwn (yr hon y tynid ei llun ag iddi gynffon pysgodyn), a hyny trwy ei belydr=/l\ o'r nef, y derbyniasant hwy lythyrenau y Goelbren, felly y dysgai y Babyloniaid mai gan yr Hoan-nes ag oedd a'i ranau isaf yn bysgodyn, ganedig o for y deheu, y derbyniwyd y llythyrenau cyntefig gan eu hynafiaid hwythau. MYVYR MORGANWG. (Tw barliau).
"YR HEN FRYTANIAID A MR. JAMES,…
"YR HEN FRYTANIAID A MR. JAMES, CROWN, ABERDAR." MR. GOL.—Yn eich rliifyn-am y lOfed o'r mis hwn, ymddangosodd atebiad Mr. James i ofyniad David Jones mewn perthynas i [iawl swyddogion o'r naill adran i fyned i idran arall i agor cyfrinfaoedd mewr cysyllt- Lad a'r Urdd uchod. Er fod David Jones yn byw ar lan y Tawe, a minau yn gwersyllu ar Letlir y Rhigos, nid wyf yn teimlo yn foddlon iddo gael ei ddrwgdybio o fod yn segurwr llwfr a diwaith .0 blaid yr Urdd, yn enwedig jan un sydd mor agos i'r orsedd, ac hwyrach yn un nag sydd yn rhoddi llawer o gamrau yn mhlaid yr Undeb heb fod pwrs yr Undeb yn gorfod teimlo. Bu Dai a minau yn perthyn i'r un neuadd am naw mis, a buom yn cyd- weithio nos a dydd, oerni a gwres, gwynt a gwlaw, o blaid yr Urdd, a liyny am ddim ond tal monwesol, a gallaf sicrhau mai nid wrth fod yn fusgrell a diwaith, fel yr awgryma Mr. Trysorydd, y mae Adran Nedd a Thawe wedi cyrhaedd ei safle bresenol, ac nid wrth eistedd hyd nes caffont eu talu a'u gwobrwyo y saif 1p.or uchel o'u chydmaru ag Adranau ereill yr Urdd, ond wrth fod yn llafurus ac egwyddorol yn ei maes ei hun, ac nid credu fod pob maes arall yn fwy manteisiol i weithio ynddo. Mae yn wir i rywrai anfon cais yn ddiweddar at y swyddogion am agor cyfrinfa, ond yr oeddynt mewn cymaint o frys i'w hagor, fel nad allent aros nes cael barn pwllgor yr Ad- ran ar hyn, ac felly anfonasant yn eu ffrwst tuag Aberdar, a thebyg iddynt gael rhywrai oddiyno oeddynt yn digwydd bod allan ar strike, neu rywbeth cyffelyb, i ddyfod atynt i'w hagor, drwy gymeryd mantais ar y caniatad a roddwyd dro yn ol mewn cyfarfod trefniadol i gyn-swyddogion i wneyd hyny dan amgylch- iadau neillduol, megys pellder a diffyg cyfleus- derau Adranol. Yn ol Rheolau Cyffredinol yr Urdd, rhaid i bob cyfrinfa dalu pob traul cysylltiedig a'i hagoriad ei hunan—rheol hollol deg a chyhawn—ac telly mae wedi bod nya yn ddiweddar ond yn awr, dyma Drysorydd urddasol yr Undeb yn cyhoeddi yn groch a difloesgni drwy'r byd gwareiddiedig, am i bawb, o'r mwyaf hyd y lleiaf, i weithio er agor cyfrinfaoedd, tori allan ar dde ac aswy, gan eu hysbysu y bydd iddynt gael eu talu I gan yr Undeb Os ydyw yr hyn a ddywed y Trysorydd yn wir, pur debyg y bydd nifer y paid officers yma yn hynod luosog. Dyma anogaeth i ddynion egwyddorol, y rhai sydd wedi bod wrthi yn gweithio drwy'r blynydd- oedd yn ddidal, onide? Tebygyr a y cy- hoeddiad hwn drwy y dosbarthiadau fel taranfollt, nes syfrdanu pob gweithiwr egwyddorol i gysgadrwydd. A beth os ydyw wedi dechreu ? Ai fel hyn y codwyd muriau Jerusalem mewn amser byr? 0 na, ond drwy i bob un weithio yn drefnus, egwydd- orol, calonog, a rheolaidd, "pob un ar gyfer ei dy ei hun." Pan fyddo y swyddogion tal- edig hyn wedi agor cyfrinfaoedd yn mhell o'u dosbarth, a ydyw y cyfrinfaoedd agosaf atynt i gymeryd gofal o honynt, er cwblhau gwaith swyddogion taledig yr Undeb ? ond hwyrach eu bod hwy yn ddigon galluog i gyfarwyddo cyfrinfa newydd mewn un noson, fel na bydd eisieu cyfarwyddyd a help am y can mlynedd dyfodol, ac felly wneyd y rhan hono o'r rheol yr. ddiangenrhaid. Dywedwch fod yr Undeb yn ogoneddus, ac y dylai pob Cymro fod yn aelod o hono felly dywedaf inau. Ond os, parha yr Undeb i esgor ar annghysonderau fel y gwna yn bresenol, nid hir y deil cyn gweithio ei hun allan o wynt. Beth gwell myned i'r drafferth o wneyd rheolau newyddion, a bod yn ofalus i osod adranau (clauses) plaen ac eglur ynddynt os na chedwir hwynt ? Dywed y rheol "fod yn rhaid i bob ysgrifenydd cyfrinfa fod yn alluog i gadw y cyfrifon yn Gymraeg," er cadw yr iaith mewn ymarferiad parhaus ond beth oedd amcan y Trysorydd, yr hwn a benodwyd gan yr Undeb i barotoi llyfrau newyddion unffurf er cadw cyfrifon, wrth eu dwyn allan yn Saesneg I Dyna beth yw gweithio yn drefnus a rheolaidd, onide ? ond llawn mor reolaidd ag i drcimps tua'r dwfr hallt i agor cyfrinfaoedd mewn manau sydd yn gwrthod dyfod i fyny a'r rheolau.— Yr eiddoch, SHONI, BRAWD D. JONES.
CYFARFOD LLENYDDOL LLWYDCOED
CYFARFOD LLENYDDOL LLWYDCOED Mr. GOL.-Dywed yr hen ddiareb "nad oes neb mor ddall a'r hwn na fyno weled." Yr hyn a ddywedwyd gan Llwyd Arall yn ei lythyr at T. E. oedd, "fod gwell y buddugol yn y gystadleuaeth," ac nid fel y myn y mawreddog fardd (I)-awdwr y penillion i "Weithiau Haiarn Abernant"—fy mod wedi dweyd ac os ydyw ef yn ddoeth- awr, yn medru dethol y gwych oddiwrth y gwael a phigo gemau a ffaeleddau oddiwrth eu gilydd mor feistrolgar, aed eto at fy llith i gael gweled a ddywedais mai lnyfi, o ddigon, oedd y goreu. Eto, Mr. T. E., y mae y dyn a wado yr hyn a ysgrifenodd a'i law ei hun yn ddigon du a haerllug i wadu na chododd yr haul erioed. Dyma gopi o'r gwreiddiol o fy mlaen, a thyma ei eiriau ar y penill a nodais, yr hyn sydd ganddo rhwng cromfachau,- "Dimsynwyr." Ie siwr, Mr. Gol, dyma y camgyhuddiad ydwyf wedi ei ddwyn yn erbyn y "sulyn" hwn, chwedl ef ei hun. Nid rhyfedd ei fod yn torfynyglu a gwylltu mor afresymol. oddiar y darllenodd yr ychydig linellau diweddaf. Yn awr, cyn terfynu ar y sal, salach, ac islaw sylw hwn, deued i fy nhy, a chaiff weled yr hyn a ysgrifenodd ar y copi fu yn ei law pan oedd yn beirniadu; hefyd, caiff weled nad ydyw ei feirniadaeth yn y GWLADGARWR a'r hyn a ysgrifenodd ar y copi yr un. LLWYD ARALL.
CONTRACTORS Y GLOFEYDD.
CONTRACTORS Y GLOFEYDD. MR. GOL.,—Wele fi yn crefu am ychydig o'ch gofod i alw sylw y glowyr at bwnc ag sydd wedi cael ei wyntyllu i ddiddymiad tua blwyddyn neu ddwy yn ol, ond yn awr sydd wedi dyfod i fodolaeth eto, sef y man gon- tractors. Mae dau bwll yn ardal Cwmbacli wedi myned i weithio y system hono, er fod y Gyfraith er Rheoleiddiad y Mwnau yn siarad yn bendant yn ei erbyn o'r hyn lleiaf, yn erbyn talu yn un man ond yn y swyddfa berthynol i'r weithfa. Fel hyn y dywed "16. Y Rheolwr a benoda berson cymhwys i gyflawni dyledswyddau y book clerk. 17. Y cyflogau taladwy i bersonau a gyflogir yn y lofa a delir yn unig mewn swyddfeydd wrth neu gerllaw y lofa, ar y rhai rhaid fod y geiriau 'pay office.' Fod y rheol hon i o-ynwys y cyflogau a delir gan contractors, is- contractors, gangers, meistri headings a thalcenau." Befyd, dywed yn yr Abstract Wages are not to be paid on any premises used for the sale of intoxicating liquors, or in any place contiguous to such premises." Dyna fe i ti, ddarllenydd, yn yr iaith ei hysgrifenwyd. Felly, gan fod y gyfundrefn yna yn ail godi ei phen yn y Cwm, yr wyf yn ofni nad ydym fel glowyr ond agor drws i'r truck system eto felly, dylem fod ar ein gwyliadwriaeth i'w chadw draw, a darfod a'r hyn sydd wedi ei ddechreu, er, yn ddiamheu, ar yr un pryd, nad ydynt yn talu yr un geiniog yn llai am dori dunell lo ag oedd y meistri eu hunain yn dalu.. Y mae y meistri yn cadw braidd yr un faint o swyddogion, felly mae yn rhwym o fod yn fwy o elw iddynt, neu ni fuasent byth yn ei rhoi allan. Wel maent yn sefyll cryn dipyn yn ddiddadl yn y considerations. Hefyd, y mae amryw o hen,bobl wedi difa eu hunain yn y glofeydd, ac yn cael rhywbeth i'w wneyd, megys glan- hau yr heolydd, cloi llusernau, &c.; ond dan contractor, ni fyn ef neb ond y dyn a all wneyd llawn diwrnod o waith. Am hyny, lowyr, er ein mwyn ein hunain yn amser henaint, bydded un meistr, yr hwn a fyddo yn atebol am ein harian, a chadwn y gyfraith :,Y mor bur ag sydd bosibl trwy ein bod wedi ei chael. Gobeithio y cymer rywun mwy galluog y pwnc i fyny.Yr eiddoch, HEN LowR.
CARDOTWYR ABERNANT.
CARDOTWYR ABERNANT. MR. GOL.Gan fy mod yn ystyried eich newyddiadur yn un poblogaidd, yr wyf yn apelio atoch am gongl fechan o hono er ceisio dangos ychydig ar y bodau uchod i'r cyhoedd. Fel y mae yn wybyddus i'r rhan fwyaf, os nad i holl breswylwyr Abernant, fod y strike ddiwedda yma wedir gadael effeithiau mawr ar ei hoi trwy ymarfer y trigolion yn gardot- wyr gwreiddiol, sef y dosbarth hyny nad oeddynt yn hidio dim am fyw yn debyg fel y dywed yr hen ddiareb, sef dala'r llygoden a'i bwyta hi; ac y maent mor egniol yn y busnes nes y mae braidd yn an- mhosibl eu hysgar o'u swydd gardotol. Yn awr, efallai fod rliywrai yn. barod i ofyn pwy ydynt I Nid wyf yn credu y gofyna neb o'r preswylwyr yma hyny, eithr y maent yn eu hadnabod yn dda wrth eu gweled yn gorwedd ar hyd a lied yr heolydd., yn enwedig ar nos Sadwrn. Mi a wn am deulu o bump mewn rhif, sef tad a mam a thri o blant. Y mae y tad a dau o'r plant yn gweithio, a'r fam ac un plentyn yn segur. Y dull o fyw ganddynt sydd fel y canlyn :—Y mae y fam a'r plentyn yn cardota ymborth i'r holl deulu ac ar nos Sadwrn, wedi iddynt dderbyn eu tal, gellir eu gweled gyda'u gilydd yn gwario eu hen- illion ac os bydd gweddill nos Sadwrn, gellir g weled'y plant yn. rhedeg fel llygod o dafarn i dafarn boreu Sul a'u jacks yn eu dwylaw. Nodaf un engraifft arall. Mi a wn am deulu arall o'r cymeriad uchod, a gall braidd holl drigolion y lie ddwyn tystiolaeth o wirionedd yr hyn a ddywedwn. Cafodd y gwr hwn fenthyg o dair i bedair punt gan fachgenyn o'r lie hwn a phan aeth efe i ofyn am yr arian yn ol, yr unig gysur a gaf- odd efe gan y dyledwr ydoedd achwyn ar yr amser tlawd presenol, pryd yr oedd tri o'r teulu yn gweithio, a'r wraig a'r gweddill o'r plant yn cardota eu holl ymborth bron a gwaeth na'r cyfan, yr oedd y wraig yn feddw bron bob nos Yn awr, barned y cyhoedd yn mhr., gyflwr o dlodi yr oeddynt. Y can- lyniad a fu i'r bachgenyn ei osod yn y County Court; a bu y teulu yma mor garedig a myned ar hyd a lied y wlad i gardota er talu i gyfreithiwr i'w helpu i fyned yn mlaen a,'u celwydd. Fel y gwyr pawb, y mae yn llawn gwaith i bob gweithiwr i dalu ei ffordd ar hyn o bryd, heb gael ei flino gan dylwyth o'r fath hyn. Yr oedd geiriau y brenin Solomon yn dyfod i'm meddwl wrth feddwl am y dosbarth hwn, sef, "Hyfforddia blentyn yn mhen ei ffordd, a phan heneiddia efe nid ymedy a hi." Credwyf hefyd, os mai mewn ffordd o gardota, meddwdod, ac anonest- rwydd, yr hyfforddir hwynt, y gellir dweyd gyda'r un priodoldeb, a phan heneiddia efe nid ymedy a hi." Gosoder atalfa ar y genedl- aeth yma, a hyny m.or gynted ag sydd modd canys fe wel pawb, os ant yn mlaen yn y dull yma, mai cardotwyr fyddant hwy a'u plant am eu hoes. Yn awr, gydwladwyr anwyl, na roddwch elusen i'r cyfryw, ac yna fe-ddiflana yr arferiad hon sydd yn warth ar ein gwlad. UN o'u CYDNABOJJ.
PRINDER BEIBLAU YN NGHWM RHONDDA.
PRINDER BEIBLAU YN NGHWM RHONDDA. MR. GOL.-Caniatewch i mi ychydig ofod i ateb y gofyniadau y mae Beiblgarwr wedi eu cyfeirio ataf yn y GWLADGARWR diweddaf. Gofynai yn gyntaf, Pa bryd y bum i ac ereill yn methu yn lan a chael Beiblau at wasanaeth Ysgol Sabothol Carmel, Treher- bert, ac at wasanaeth Ysgol Sabothol Ty- newycld? Fy ateb yw, na fu erioed gysyllt- iad rhyngof ag Ysgol Sabothol Tynewydd, ac na fum erioed yn ymofyn Beiblau na Thesta- mentau at wasanaeth Ysgol Sabothol Carmel, Treherbert. Gofyna hefyd,. Ai oni fu rhywrai am fy ngwneuthur i yn agent oher- wydd esgeulusdod y Hall." Ni fu y pwnc erioed dan sylw Pwyllgor y Gymdeithas Feiblan yn Treherbert, ac ni chlywais air erioed am fy apwyntio i yn agent. Heblaw hyny, nid yw yn gyfreithlawn i'r un person fod yn ysgrifenydd ac agent, a chan fy mod yn ysgrifenydd er's yn agos i chwe' blynedd, fe wel "Beiblgarwr".mor wrthun yw ei ofyniad. Credwyf fod "Beiblgarwr" yn cyfeiliorni pan y dywed fod yr agents yn cael rhyw gymaint o gyflog am eu gwasanaeth. Modd bynag, y mai yn cyfeiliorni mor belled ag y mae a fyno yr haeriad a Threherbert. Nid ydyw Mr. Isaac Jones, agent, erioed wedi derbyn dimai am ei wasanaeth. Y mae "Beiblgarwr "am roi mwy o anrhydedd ar fy ysgwyddau nag wyf yn ddewis gario, pan y dywed fy mod am gael fy ystyried yn fath o arweinydd yn y gymdogaeth." Na gyfaill, rhy brin o lawer yr wyf yn gallu dilyn y thai sydd yn arweinwyr. Y mae "Beiblgarwr" yn fy rhybuddio i "fod yn fwy cyson a mi fy hun rhag ofn yr amlygir ychwaneg o bethau." Beth sydd genych i'w amlygu ? Pwy bynag ydych yr wyf yn berffaith fodd- lawn i chwi amlygu ar goedd gwlad gymaint ag a wyddoch am danaf. Cymaint ag a ddywedais yn fy llith ddi- weddaf mi a'i dywedais "ar air a chydwybod" a gosodais fy enw priodol wrtho. Paham y rhaid i chwi lechu dan gysgod ffugenw >. Os oes genych rywbeth yn erbyn agent y Gymdeithas Feiblau yn Treherbert, deuwch allan fel dyn, a galwaf inau y pwyllgor Heol ynghyd fel y galloch osod eich cyhuddiad o'u blaen ac y gallont liwythau gymeryd y peth dan eu hystyriaeth.—Yr eiddoch, M. 0. JONES. O.Y.—Ai onid yr un person yw "Ymdeith- ydd," a Beiblgarwr."
Y TWR CAM A CHOR BARGOED.
Y TWR CAM A CHOR BARGOED. MR. GOL.Y mae yn beth digon difyrus i ddyn sydd yn medru meddianu ei hun pan y byddo ereill yn ceisio ei ddifrio yn eu ffordd hwy, ac yn arllwys eu llysnafedd gan wingo, chwydu bygythion, a chlafori yn eu cynddaredd Y mae brawddeg felus a hyfryd i'w chael, "Pan eich difenwir, na ddifenwch drachefn." Cadwaf fi fy ngolwg ar hyna yn y ffrwgwd fach ddifyrus hon. Wel, y 11 syr, y mae un o'r "gwyr mawr ion" eto ar faes y GWLADGARWR diweddaf, a'r nom de plume, Un fu ar ben y Twr," ac y mae yn tybied ei hun yn ddoniol a sarcastic. Yn wir, syr, ni fu ar ben y Twit erioed. Ni fuasai ei alluoedd yn caniatau iddo y fath nervous enterprise i ddringo haner y ffordd. Paham, meddech chwi ? Y mae ei oruweh- ystafell yn rhy wag o'r pethau sydd eisieu er dringo i fyny i'r fath le urddasol. Nid oes y gronyn lleiaf o'r balance of poiver yn ei galon er drigo i fyny at y TWR CAM. Pe buasai ffawd wedi rhoddi trwydded iddo i'r fath honourctble position, buasai ei nwyfiant hunan- ol yn ei yru "strim stram strellacli," na welsid ef mwy ar y blaned isloerawl hon. Y mae ambell un i'w gael yn y byd fel suddas- gloch dim ond gosod tipyn o ddwfr a sebon meddal yn nghyd, a'i rwbio yn dda ag ychydig hunanoldeb, wedi hyny chwythu ei gorpws ymchwyddfawr drwy bibell pwffydd- iaetli, aiff i'r Ian yn unionsyth dan ganu "Up in a balloon, boys," ond buan iawn y daw i lawr wedi hollti yn dipiau man, a thyna ddrewdod fydd yn awyrgylch cymdeithas oddiamgylcli "Yr hwn a ddyrchafo ei hun a ddarostyngir." Dyna'r fath gymeriad, syr, yw yr hwn a eilw ei hun wrth yr enw uchod. Wel, syr, rhaid profi yr uchod "yn ngwyneb haul a llygad goleuni." Yn ei lith hunan- bert, gwelwch fel y dywed:—"Y gallaswn, fel pwt o gerddor, basio ei fawrhydi (I) ond dweyd fod y canu yn aruchel a chlasurol!" Dyna y drwg o hyd, sef peidio canmol a I f phwffio, onide ? Peidied Cor Bargoed a ffromi wrthyf am wyntyllu a defnyddio y dis- secting knife at gyflwr y canu yn nghyd a'i arweinydd. Bydd yn fendith fawr iddynt yn y dyfodol, er mai gorchwyl digon poenus iddynt yw dyoddef y gyllell yn neillduol dan law y TWR CAM. Dyna oedd, yw, ac a fydd fy amcan yn ddidwyll. Y pethau angen- rheidiol er gwneyd dyn yn arweinydd medrus i gor o gerddorion ydynt hunanymwadiady penderfyniad, cydymdeimlad, galluoedd creb- wyllig, darllenydd cywir o bob math o gerdd- oriaeth leisiol ac offerynol, a'r galluoedd hyny wedi eu ystwytho yn dda drwy ymarferiad yn ddirgelaidd a chyhoeddus dan ofal medrus o y rhyw gerddor profiadol. Y mae ein prif arweinwyr yn bronadol yn y pethau hyn, ac yn barod i endorsio ein gosodiadau. Ni ddy- wedaf fod Cor-Bargoed yn amddifad o'r gallu- oedd hyn. 0; nage yn wir, gyfeillion, nid dynion sydd yn tynu dxriuniau o "fwnciod, asynod, cawciod," a malwod os mynweh, nag un creadur "oel" arall, yw y dynion cymhwys- af i baentio drychfeddyliau y bardd a,g in- gredients cerddorol. Hefyd, nid euro one, two, three, ac off, a tharo y desk a'r baton mewn amser ac allan o amser yw swydd priodol arweinydd cor. Dylai gofio mai nid. codi dwylaw i'r lan yw yr arwydd sydd i'r cor i derfynu brawddegau mewn darnau. Y mae arweinydd o'r fath yn debycach i signal post na dim arall. Yr oedd trebles Cor Bar- goed yn yr "Hallelujah Chorus" yn dilyneu gilydd yn debyg iawn i'r cerbydau ar y gledr- ffordd pan y rhoddir yr arwydd i gychwyn i'r gyrwr. Yn y frawddeg "King of kings, and Lord of lords," gwelais llawer gyrwr yn cychwyn ei dren yn esmwythach. Y mae yn ddweyd mawr, ond y mae yn wirionedd. Fe wel arweinydd ieuanc Cor Bargoed fod ein gosodiadau yn eithaf cywir ond iddo hunan- ymwadu â. phob rliagfarn, a pheidio ceisio gan neb i'w seboni yn y newyddiaduron nes y bydd y wlad yn methu ei adnabod. Yn mhellach, y mae yn y GWLADGARWR. diweddaf ofyniad digon priodol i mi, sef, "Pa un hawsach i gor ieuanc ddysgu a chanu 'Y Cwmwl,' 'Y Gwlithyn,' 'Y Blodeuyn Olaf,' &c., neu 'Hail Judea' a Lead On V" Diokh i'r brawd am ei ofyniad syml. Y mae y cor uchod wedi ei ateb, cyn y gofyniad, yn eu datganiad o Wanwyn Gwilym Gwent. Dywedais, a dywedaf eto, i'r cor ganu y ganig hon yn dda iawn; llawer gwell na'r canu ar y ddau ddarn uchod. A ydyw yna yn ddigon o atebiad < Y mae yn gorphwys arnoch chwi, syr, i'w ateb yn fwy i'ch bodclio chwi a'ch cor. Ond dyna ddyn (na, coryn), na fedr ddarllen miwsig, yn un o'r ddau nodiant, yn beiddio beirniadu y fath "arweinydd medrus (yn ei olwg ei hun). Druain bychain, nid ydynt yn gwybod fod yr "hen dalp lledchwith, llwyd- aidd, a naill-ochrog, y Twr Cam," yn medru darllen, feallai gystal ag un o'r ysgribl- wyr uchod. 0 ie, y mae ei glustiau mor deneu a phur a chlychau, a'i lygaid mor dreiddgar ac arweinydd y cor uchod; a'i galon mor dyner a tlieimiadwy nes y medr weled anian, teimlo anian, a chydfyned ag anian i'w chysegr sancteiddiolaf, ac yno ymfwynhau yn nghymdeithas ysbrydion pur, dan wen- iadau Crewr anian. Cofied y gwr fod y cawciod yn bereiddiach eu crawciadau no, llawer o ddynion sydd yn proftesu gwell. Y mae natur yn nghan y cawci, ac os bydd ar- weinydd Cor y Bargoed yn foddlon dyfod a'i gor i Gastell Caerflili, y gwanwyn nesaf, caiff y cawciod ganu can nacur a'i gor yntau ganu yr "Hallelujah Chorus" am y goreu. Mi wn pa gor yw y goreu yn awr—pa un sydd yn cadw fwyaf at wreiddiolder a natur. A wnewch chwi dderbyn y challenge yn barchus I Y wlad a gaiff feirniadu.—Yr eiddoch, mewn hwyl gerddorol, Y TWR CAM. MR. GOL, ,-Mewn dau rifyn yn olynol o'r GWLADGARWR, y mae rhyw ddau yn ceisio dallu a pherswadio eich darllenwyr fod y Twr Cam wedi gwneyd cam mawr a chor y Bargoed a'u liarweinydd yn ei feirniadaetli syml a dirodres ar y canu yn y gynglierdd fa .1 ganddynt yn Nghaerflili. Y gwir yw,' mae y "Twr Cam" wedi ymddwyn yn' hynod garedig tuag at y cor drwy feirniadu mor ffafriol ag y gwnaeth. Mae gofyniad Un fu ar ben y Twr," Pa un hawddach i gor ieuanc yw dysgu 'Lead on' a 'Hail Judea,* o waith Handel, ynte canu yn deil wng Y Cwmwl,' Y Gwlithyn,' Y Blodeuyn Olaf,' &c., o'r Gerddorfa a'r Cerddor, yn deilwng o gerddor o safle yr asyn y cyfeiria ato mor ddysgedig. Dywed y cyfaill hwn hefyd, pe buasai y "Twr Cam" yn ymfoddloni ar ddweyd fod y canu yn aruchel ac yn glasurol, y gallasai basio fel pwt o gerddor. Ond dywedaf finau, pe buasai y Twr Cam yn gwneyd felly, buasai yn bradychu ei gydwyb- od ac yn aberthu gwirionedd ar allor bresaidd Tad y celwydd. Gyda golwg ar y canu, nid oedd ond cyffredin yr oedd rhy fach o sylw yn cael ei dalu i'r lights and shades, fel yr oedd effaitb y darnau yn eel eu anmharu yn fawr hefyd, yr oedd y tenors yn ansefydlog, er eu bod yn cael eu cynorthwyo gan rai o Gaerdydd. Trefniant lledchwith gan yr ar- weinydd oedd gosod safle y tenors uwchlaw'r altos. Pa synwyr hefyd sydd mewn dysgwyl i enethod bychain o ddeg i bymtheg oed i allu gwneyd cyliawnder a choruses y Messiah a- Judas. Mae godidogrwydd y darnau hyn yn cael ei golli yn llwyr drwy ryw hurtwch o'r fath. Nid oedd y bass, er ei fod yn nerthol, yn gwneyd tebyg i gyfiawnder a'r choruses, yn neillduol yr "Halelujah," yn y man lie mae y bass yn codi octave ar ol "King of kings, ar y geiriau, "and He shall reign." Tarawsant yr A i'r lan haner ton yn flat, o ganlyniad dilynodd y parts ereill yr un modd; felly y mae haws dychymygu na darlunio yr effaith oddiyno hyd ddivvedd y darn gogon- eddus hwn. Ymgysured y Twr Cam, "y mae ei lithiau .y tlysion yn cael eu darllen gydag edmygedd a dyddordeb gan luaws darllenwyr y GWLAD- GARWR. Mae gwyntyllu tipyn fel hyn ar
"1. Yr Arch-dderwydd a Guilelimus.
?orn ei hun, ac yn ceisio denu y wlad i gre^u «i fod yn rhyvnm. Nid oes cymaint a scrip «P Krtificate i ddangos ei fod wedi ei osod yn ei IIwydd, na'i fod yn gyfrifol i neb am ei llenwi. Yn ail, mae yr Archesgob yn ddysgawdwr j trylWyr ac yn foneddwr uchel; nid yw Myfyr yn un o honynt. Y mae yn bryd edrych at ddyn o safle Myfyr, pan y bo yn cyhoeddi ei « fOd yn uwch ac yn urddasolach na'r Arch- 1 esgob. Yn wir, y mae y cyhoeddiad hwn yn < Peri i'r wlad ei gasau yn fwy na thwyll- < fesymeg ei gyfundrefn. Yr ydym yn foddlon ( iddo ddweyd ei fod yn uwch na'r Pab, er y Vddai Myfyr a'i ysgoloriaeth yn edrych yn llipa yn ymyl Nono; end, o'm rhan 1, ysgydwer hwynt yn yr un cwdyn, a gwar- eder ni rhag myn'd mo'r ffol ac un o'r ddau IEII greadur. GUILELIMUS. — I