Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Hide Articles List
8 articles on this Page
GROES, RHIWABON.
News
Cite
Share
GROES, RHIWABON. Nos Fercher, Tachwedd 4ydd, talodd Cyxndeithas Lenyddol, Bethel, Acrefair, ymweliad a Chymdeithas Ddiwylliadol y Groes, i ddadlu'r cwestiwn, A yw Cristionogaeth yn cyfreithloni rhyfel?' Llywyddwyd y cyfarfod gan y Parch. W. Rowlands, Acrefair. Cawd trafodaeth wir dda ar y testyn, a hyny mewn ysbryd rhagorol. Ar derfyn y cyfarfod dangoswyd croesaw cynes cymdeithas ieuanc y Groes i'w chwaer gymdeithas drwy estyn lluniaeth flasus i'r brodyr a'r chwiorydd o Acrefair cyn cychwyn adref. M.M.
TREFFYNON.
News
Cite
Share
TREFFYNON. Erbyn hyn y mae tymhor y gauaf wedi ein goddi- weddyd, a'r darpariaethau ar gyfer y cyiarfodydd wedi eu cwblhau gan eglwys Rehoboth Seiat y Plant, a'r Gymdeithas Lenyddol nos Lun, Band of Hope nos Fawrth, yr ysgol nos, nos Fercher, Seiat y Plant a dan ofal y gweinidog a nifer o frodyr hynodi o weithgar. Llywydd! y Gymdeithas yw y Gweinidog. Llywydd y Pwyllgor yw Mr. H. T. Roberts, Banc, a'r Ysgrifenyddion ydynt Mri. Clement Jones a G. Thomas, ac mae'r rhaglen yn addaw danteithion. Band of Hope o dan ofal Miss Owen, B.A., yn cael ei chynorthwyo gan nifer o chwiorydd medrus a brodyr selog. Yr Ysgol dan arweiniad Mr. J. P. Jones, U.H., yn cael ei gefnogi gan nifer o athrawon. Dyma beth newydd yn ein hanes, a disgwyliwn ffrwyth toreithiog cyn terfyno'r tymhor. Y mae chwiorydd yr eglwys hefyd yn llawn sel am ddod a'r pell yn agos, a'r agos yn nes drwy ymweliadau, &c. Gellir dweyd fod yma ragolygon am dymhor o waith, ac o fod felly, tymhor sydd yn sicr o ddibenu mewn panlyniadau bendithiol a gogoneddus.
CYMDEITHAS DDIRWESTOL Y CHWIORYDD,…
News
Cite
Share
CYMDEITHAS DDIRWESTOL Y CHWIORYDD, CANGEN MON. Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol swyddogion çang. henau Dirwestol Mon, yn Mhala.sdy Trebeith, dydd Mercher (Tach. 11), ar wahod.liad Mrs. Davies, yr hon hefyd a iywyddai. Daeth tua 100 ynghyd, a phaed cyfarfyddiad dymunol a rhagorol dros ben. Y gwaith cyntaf oedd derbyn adroddiad o b -b zrdal,, fir waith v' flwyddyn sydd wedi pasio, » da genym ddwcyd ei fod yn adroddiad hynod o gal snogol, a dangosai fod llawer o waith da yn cael ei wneiuhur yn bres-enol gan chwiorydd M01 yngiyn a'r achos dirwestol. Yn nesaf caed anerchUd gan Lady Herbert Roberts, Biyngwenallt, yn canmjl y cytarfyddiad ac yn anog y boneddigesau i ymroddi yn fwy nag erioed i weithio o blaid purdeb a s'-brwydd, yn nellduol ymysg ieuenctyd. Caed anerchiad gan Miss Prichard (Croesoswallt) ac eraill, a chanodd Mrs. Hiliier, Beaumaris, yn rhagorol. Yr oedd croesaw Mrs. Davies i Dreborth yn gynes iawn, a chyfarfyddwyd yr pll o'r boneddigesau a cherbydau yn ngorsaf fyfenai Bridge. Gwna, cyfarfydiad o'r fath les mawr i'r achog dirwestol yn y wlad.
CYMDEITHAS GYMRAEG CAERGRAWNT.
News
Cite
Share
CYMDEITHAS GYMRAEG CAERGRAWNT. Cynhaliwyd ail gyfarfod y term nos Wener, y 6cd cyfisol. Yr Is-lywydd, Mr. G. Seager Thomas, Downing, yn y gadair. Ar y rhaglen am y noson oedd dadl ar y cwestiwn A yw yr eisteddfod yn gynrychiolaeth o wir ysbryd Cymreig?" Agorwyd yn y cadarnhaol gan Mr. Taliesin Williams, B.Sc., mab i Pedr Hir, Bootle, ac yn y nacaol gan Mr. Eustace Miller Williams o Goleg Downing. Doniol iawn oedd y cyfeilion hyn yn eu hymwneyd a'r mater ac nid feallai yn siarad i wir bwrpas feallai bod eu hir ymweliad a'r Alma.en yn ystod yr haf diweddaf wedi oeri eu hysbryd: Cymreig, a gwneyd iddynt anghofio belth yn wir yw yr Eisteddfod Genedlaethol. Siarad- wyd gan amryw o'r aelodau ar bob ochr, ac ychydig iawn oedd mwyafrif o'r pleidleisiau dros yr Eistedd- fod. Siomianlt yn ddi-ddadl yw gwel'd y Gymdeithas yn siarad yn fach am y fath sefydliad a'r eisteddfod ond feallai nad yw hyn- ond adlewyrchiad o am- ddifadrwydd y gwir ysbryd Cymreig y dylai fod yn feddiant o hono. Carem i ysbryd y Dafydd yn Rhyd- ychain gael ei gario a'i deimlo, ac feallai y byddai ymweliad 0 rai o'r aelodau y gymdeithas hon i Caer.
Advertising
Advertising
Cite
Share
,1 URI". ■ I M A Mecireaa fij o AOeofeydos m'r un Gies-j'a arall, j Eich Arenau yn Unig a c& Gwared.. ,J a..J!i. Vi \f¡¡J I;.¡¡.a., ,# .¡ ICrynhoir yn eich corph mewn (i p b d-ri},„ „ ychydig ddyddiau ddigon o safni 0 troethol (uric acid) i aohosi mar- ddywed hanes*" wolaeth. troothol (uric acid) i achosi mar- ddywed hallCS." wolaoth. Eich arena,u yn unig a'ch • gwared; gweithiant hwy ddydd a K -^iA. nos i doddi y gwenwyn marwol hwn, a'i hidlo allan o'r cyfari- soddiad. in^ 1 11 Cadw yi- arenau yn iach, felly, lil'' ydyw rhaol euraidd iechyd da, a 1.^1^ A ( I phryd bynnag nas byddoch yn V, |jjl| G teimlo yn siriol ac yn uohel eich I ill! I ysbryd,dylecharunwaithddechreu A j lllj 8 gyda PHEMM Abbuau Cjsktboen iA || J, DOAN (Doan's Backache Kid III 'Ml \fulW. I, 1 Pills). Hwy a roddant i chwi MV MlS ryddhad buan a pbarliaol, oblcgid f' y \i 1 r4ii\\ hwy a wnant yr arenau yn iach Y/ Vn. toII V l'i vlv /v unwaith eto, ac yna yinarllwys y « Y \Wi| r, /JL.' gwenwynau o'r corph yn y fiordd A//a 'f| } jM naturiol. Ond os esgeuluswch f/j Jv '!m I eich arenau hwy a esgeuluscmt, A f,<rr hidlo allan wenwyn yr uric acid, llw ac yn y man chwi a ddechreu1wch jj » deimlo yn drymaidd, ac yn llosg, lls-WfMr. ffillimfcS ac yn drist. Eich ].iw a llygaid a elant yn hagr, ac el eich j oamrau yn ara.' ac yn egwan. l/l/fl £ Hefyd cewch boenari llymion 3-n i f || — eich cefn ac yn nihen eich clun. "=i:5::a=««=» |\ P L Eich fferau a'ch aelodau a "===», 1 ohwyddant; eich cwsg ni'ch v f1 llesola; eich calon a weithreda yrt If |b /A\ f/.m\ ddieithr, I TO1 Sfl Yr uric acid a grisiala. ao aphosa "P I I l\\l\ grafel, annhrefnau troethol (urin- | If jiff VUU ary disorders), oryd cymmalau, j; | I'M ]. *3^ |li"^ V\V\ cymmalwst (gout), clunwsfc (scia- if, u tied), a'r neuralgia, a di-wedd ar y cwbl fydd, drwy luddias- gwaith *• naturiol yr arenau, achosi y mar- j|f^—- wol glefyd mor adnabyddus dan yr enw Bright's disease. Perygl mawr gwenwyn yr mie etrtd I hledren. (Ni weithreda ar y eolnddion), ydyw, ei fod yn magu Berth, mar raddol, Alae y PELE^I DOAN hyn yn" toddi ac yn mor ddistaw, fel ar y cyntaf »i sylwir a mo, symud yniaith bob ormodedd o surni a phan y gweU? a<? y teimlir arwyddion mor troethol (execss of uric mid); yn glanhau ddiamheuol a. phoen yny cefn a'r annhref- yr arenau a'r sianeli dwfr yn lliniam y nan dyfrol, gellir sicrhau fod y (lnvg filameg (inflamiiiatum) ac yn iachaa yr eisioes> wedi gafaelyd yn gaaarn yn y areiiaia. ilae PidijEni DOAN wedi bod dioddefydd; felly, pryd bynnag y byddweh unewn yrnarferiad am yn agos i 75 o flynydd- .allan o hwyl, rhoddwcli gynorthwy i'ch I oedd, ac y maent yn berffaith ddiogcl i'w arenau drwy gymeryd PELENl ARENAU cymeryd gan y naill ryw fel y Hall, a chan CEFNBOEN DoAN (Doan"s Bachache Jxid'txey bob oedran, oblegid gwncir Iiwynt o wreidd- Pills), y feddyginiae'th y gellif <ymddiricd iau pur a llysiau, ac ni ymyrant &g ynddi at bob anhwylder yn yr arenau a'r unrhyw organ arall o'r corph. YR UNIG ifSCl Boan's'Wm FLWCH mkBkd £ 3s/{ae^Q p|« didwylu. Gnn holl fferyHwyr ac yn y 1 stores am i't y hlwch; 6 blwch V f /V}, Vraat- 1H/3 »eu vn rfivdd drwy y post WLJRIVijw—->■■»» -T W*. |1TO vu svfch "odcliwrth v FOSTER Oxford London, W. :<.v-
[No title]
News
Cite
Share
grawnt yn fanteisiol i hyn. Cawn weled sut yr a y cyfarfodydd dyfodol, Nos Wener y 2oain cyfisol, ceir darlith gan Mr. Weldon, Cauis, pryd y cynhelir y cyfarfod; yn ystafell yr Is-lywydd yn Coleg Downing. Mr. Richard Lloyd (Christ's), mab Canghellydd y Trysorlys, yw Ysgrifenydd y Gymdeithas am y Term presenol.
TYCROES. :
News
Cite
Share
TYCROES. Ardal boblog ydyw Tycroes, oddeutu milltir i'r gorllewin o dref Ammanford yn wir, erbyn hyn mac y ddau le yn yinarferol yn un. Oherv/ydd i ddwy lofa gael eu cychwyn yma yn. ddiv/eddar, ssf y Wern- os a Pantyffynon, a bod arall yn cael ei hagoryn Dogsbrook, mae y gymydogaeth yn cynyddu'h gyf- lym, ac argoela yn y dyfodol agos i ddod yn un pentwr o dai. Yn y pentref ceir dau gapel ymneill- duol, sef eiddo'r Mcthodistiaid, yr hwri. ddeil tua pedwar cant o gynuHeidfa ac yn orlawn ar nos Sul- iau, ac eiddo'r Annibynwyr, yr hwn sydd gyffelyb o ran maintioli ac yn cyflym lenwi. Ar yr eglwysi hyn ceir dau o weinidogion mwyaf gwerthfawr Sir Paerfyrddin, a'r ddau ya ysgolheigio# gwych, wedi graddio yn Mhrifysgol Cymru, sef y Parchn. W. M. Davies a Joseph Evans. Ceir dwy ysgol ddyddiol hefyd yn y lie, sef ysgol y iLlan, ac ysgol y Cyngor; Hyd at chwe' mlynedd, yn 01 ysgol eglwysig yn unig geid yn y lie a'r periglor ydaedd pen y plwyf ymhob ystyr. O'r diwedd, deff- rodd yr ymneillduwyr a phenderfynasant fynu ysgoJi anenwadol. Wedi trafferth flin llwyddasant. Adeil- adwyd un i gynwys ychydig dros ganf o blant. Gor- lanwyd hi ar ei hagoriad, ac ar unwaith ceisiwyd gan y bwrdd addysg am helaethiad. Wedi hir frwydro eto, enillwyd buddugoliaeth. Agorwyd yr helaethiad hwn Tachwedd 7fed, gan Mr. Dd. Morgan, blaenor gan y M.C. yn Caersalem ac ymgeisydd dewisedig plaid llafur am y senedd yn Nwyreinbarth Caer- fyrddin. Yn y prydnawn am ddau rhoddodd Mr. S. K. Parry ymborth i blant yr ysgol y rhai rifent yn ymyl tri chant. Yn yr hwyr c3^nhaliwyd,cyfarfod cyhoeddus pryd y siaradwyd gan Mri. Col. Morris, Bettws, D. J. Jooejv, ac Evan Evans, Ammanford, a'r Parchn. W. D. Thomas, a JOSJeph Evans (A.), W. M. Davies (M.C.), a D. S. Davies (B.). Oherwydd fod llu o ddieithriaid yn pentyru i'r lie, aiff yr ysgol- dy yn rhy fychan yn fuan eto.
MANCHESTER.
News
Cite
Share
gymerwyd gan rai tuallan i'r Gymdeithas yn ystod y flwyddyn 139. Ail sefydlwyd Cangen yn Bury yn Hydref diwedd- af a sefydlwyd Cangen newydd yn Oldham yn Ebrill y fiwyddyn hon. Mae rhai o'r rhai hyn yn eglwysi bychain ac yn achlysuroi bydd y swyddogion yn trefnu i Lywydd ac Ysgrifenydd Dirwestol i gymer- yd y moddion arferol ar nos Svil i rOddi anerchiadau i'r gynulleidfa; a bydd y cyfarfodydd hyn yn dra chymeradwy. Hoffai y chwiorydd hyn gael cyfle i ymweled a'r Capeli Cymreig eraill yn Manchester a'r Cylch, He nad oes Canghenau. Ymddsngys yr oil ö'i Canghenau yn fyw iawn, ac yn llawn gwaith dros y Meistr. Nodir fod y cynydd a welir yn Pendleton i'w briodoli i waith y swyddogion yno yn myned o amgylch chwiorydd yr eglwys yn bersonol i ofyn iddynt ymuno a'r Gymdeithas, ac hefyd gyda'r Achos Cenhadol yn Pendlebury. Dywedir hefyd am Stock- port i'r gangen hon gynal 16 o gyfatfodydd i ferched yn unig, a 7 o gyfarfodydd agored yn ystod y tymhor. Wrth gymeryd yr adroddiadau o'r holl eglwysi gyda'u gilydd, sylwodd yr Ysgrifenydd fod ganddynt fel chwiorydd "Ie i fod yn ddiolchgar fod gwlith y nef- aeddl ar eu hymdrechion." Mae yr holl Ganghenau yn dwyn eu traul eu hunain, ac yn cyfranu at dreul- iau y Gymdeithas. Apelir yn daer at chwiorydd Cymreig Manchester a'r Cylch i ymuno a'r Gym- deithas i gydweithio er mwyn Crist, Cartref a Phur- deb." Ewch ymlaen chwiorydd anwyl i helaethu gwasanaeth y Gymdeithas diau fod gwir angen am dano. J.E.