Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
Hide Articles List
12 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
Pence Envelopes FORCHUBJCH COLLECTIONS. Good Quality, Correctly Numbered by Special Machine. SEND FOR PRICES AND SAMPLES TO E. W. EVANS, "G-oJeusd" Office, DOLGELLEY,
Mrs. Robert Jones.
News
Cite
Share
Mrs. Robert Jones. Y mae yn hysbys i ddarllenwyr y GOLEUAD ddarfod i Mrs. Robert Jones, Shillong, ddy- chwelyd yn ddiweddar i'r wlad hon. Drwg genyf ddweyd fod Mrs. Jones yn dioddef er's rhai blynyddoedd oddiwrth anhwyldeb neill- duol. Pan g'yrhaeddodd Lundain anogwyd hi gan Dr. James Edwards i fyned o dan driniaeth law-fedaygol yn y London Hospital. Acth i'r Hospital ddiwedd yr wythnos ddi- weddaf, a bu o dan driniaeth dra phoenus ddydd Sad'wrn, Tachwedd qeg. Yn an- ffodus dioddefa Mrs. Jones oddivvth ymosod- iadau mynych o malarial fever, yr hyn sydd yn anfantais fawr id'di wella ar ol y driniaeth law-feddygol. Disgwyliwn yn fuan glywed newyddion mwy cysurus am dani.
Dychweliad Cenhadon.
News
Cite
Share
Dychweliad Cenhadon. Yn niwedd mis Ma wrth nesaf, bwriada y cenhadon canlynol gychwyn o'r India yn y City of Paris,'—Mrs. a Miss Bessie Roberts, Cherra; Parch, a Mrs. J. Ceredig Evans; Miss Laura Evans, Silchar; Parch. John Jones a Miss Jones, Wahiajer. Brwg genyf ddiweyd nad yw iechyd Mrs. W. M. Jenkins o lawer yr hyn y dymunem iddo fod, a bwr- iada hithau ddod yn ol am ychydig wythnos- au gyda'r cyfeillion eraill. Bydd Heber a Dilys Jenkins yn d'ychwelyd gyda'u marn.
Y Parch. Lear Sirdar.
News
Cite
Share
Y Parch. Lear Sirdar. Y mae enw y Parch. Lear Sirdar', gweini- dog Mawdem, yn dra hysbys i garedigion y Genhadaeth. Dychwelwyd ef drwy weini- dogaeth y diweddar Barch. Griffith Hughes, ac y mae wedi bod' o wasanaeth dirfawr i'r achos mewn dosbarth pellenig a thra afiach- us. Erbyn hyn y mae wedi cyraedd oedran mawr, a'r newydd diweddaf a gawsom am dano oedd! ei fod yn bur wael. Hyderwn y caiff welhad buan, gan y byddai ei farwolaeth yn golled anadferadwy, ar hyn o bryd o leiaf, i'r rhan dywyll hono o Fryniau Khasia.
ymadawilid y Cenhadon.
News
Cite
Share
ymadawilid y Cenhadon. Ddydd lau diweddaf, Tach. Igeg, hwyliodd y Parch, a Mrs. J. M. Harries Rees, Miss Aranwen Evans a Miss Florrie Evans o Liverpool am yr India, yn y 'City of Kar- achi.' Daeth tyrfa fawr o gyfeillion i'r Landing Stage i'w gweled yn cychwyn, ac aeth amryw drosodd gyda hwy i'r llong. Byddant yn galw ar eu mordaith yn Malta, Port Said, a Madras, a disgwyliant gyraedd Calcutta ar y igeg o Ragfyr. Liverpool, R. J. WILLIAMS, Tachwedd! 20, 1908. ""M'It"IIW
NODION 0 CAERGRAWNT.
News
Cite
Share
NODION 0 CAERGRAWNT. Nos Sul y Isfed cyfisol cafodd undeb o'r gwahan- » 01 undebau ymneillduol anerchiad gan y Parch. Scott Lidgett, Llywydd yr Undeb Wesleyaidd. Pwnc yr anerchiad oedd Ymneillduaeth ei gorphenol, a'i gwaith yn y dyfodol. Cafwyd anerchiad grymus ac argyhoeddiiadol. Ar y 3edd hyd yr Sfed o Ragfyr mae y Parch. John Mott, M.A., o Brifysgol Cornell, U.S.A., yn dod i Caergrawnt i gynal cyfarfodydd ynglyn a'r. Symudiad Cenhadol ymysg y Myfyrwyr. Parch. J. Mott yw yr Ysgrifenydd, ac yr ydym yn gobeithio y bydcl i Caer- grawnt roddi gystal derbyniad iddo ac a gafodd yn Rhydychain. Mae gwell undeb yn bod rhwng y gwahanol un- debau ymneillduol yn Rhydychain, nac sydd yma, a deallwn mai hyn sydd yn cyfrif am y derbymad gwresog maent yn estyn i wyr fel Parch. John Mott, M.A. Yn ystod y term presenol Mr. Ernest Evans, B.A', LL.B., yw Is-lywydd yr 'Union.' Mr. Evans yw ji: ail gwir Gymro sydd wedi llanw y swydd, a dymut- v wn bob llwyddiant iddo ar ei esgyniad i'r llywydi. iaeth yn niwedd y term presenol- Nos F^-vrth a- weddaf y 17 y ddadl ar raglen yr Uniori oedd "Dsd. gysylltiad/' Dadl oedd hon rhwng Prifysgol Ca?r* i grawnt a Phrifysgol Durham. Agorwyd ar ran Caergrawnt gan Mr. E. Evans, a thraddododd un o'r areithiau goreu a glywyd ganddo, a bu mor ar- gyhoeddiadol fel iddo gario y penderfyniad gyda mwyafrif o bymtheg ar hugain. Nos Wener y aoain cyfisol cyfarfu y Gyradcithas yn ystafell yr Is-lywydd yn Downing. Cafwyd darlith ar rai o bontydd Cymru gaa Mr. Wheldon o Gcleg Caius.
[No title]
News
Cite
Share
Presentation Bibles with suitable inscriptions to be had at all prices from (Jotoqmwy Eva»g>, Smithfield Lane, DoIgeiUey. I
BARDDONIAETH.
News
Cite
Share
BARDDONIAETH. _n "n. Dymunir i'r Beirdd sylwi fod pobpeth a fwriedir i'r golofn hon i'w cyfeirio-To the Editor, GOLEUAD Office, Dolgelley.
MARWOLAETH EMILITA JONES.
News
Cite
Share
MARWOLAETH EMILITA JONES. Merch fechan y Parch. W. JENKYN JONES, Quimper, Llydaw, yr hon a fu farw yn 9 njlwydd oed, o'r Frech Goch. Eto byw yw'ch [Lita bach—wyned aeth Onid yw'n brydferthacii, Ga naws awyr gynhes-inh—i'w hysbryd Na haint wna hefyd y plant yn afiach. Son am Iesu a'i swynodd—yn gvivai I Ganaan esgynodd, Ar aden gyiiym yr 'heaodd—o'n tu Ger ei hoff Iesu, yno gorphwysodd. Un ieuanc byth uwch tranc bedd—a'i haiddwch Sy'n urddas i'r ^^rsedd Lion ei hanian llawn hoenedd-yn mwynhau Yr oes forau, ger Iesu ii Fawredd. Am Ei ing ymeanga-ei ,ieddwl Am haeddiant C.aifaria A'i swynol gerdd ilosana—yn di.n 'N iach heb derfyn am tuhub y dyrfa. Emlyn. W. JONES,
Y CARTREF IK Y.
News
Cite
Share
Y CARTREF IK Y. (Efelychiad o'r Seisnig yr awdwr yn aahysbys). I'r Cartref fry i mi end ber yw'r daith, Lie ffodd f'anwyliaid uwch gwenwynol saeth Und rhywfodd gofid yw fy ihan o hyd, Mewn alaeth dros fy nyth cedd gynt yn glyd. Mor ddwfn fy nghlwy O'u colli hwy! Gwae fi! pa le mae 111 (ysur--er i mi Nid oedd eu taith ond ber i'r Cartref fry. O'r Cartref fry braidd na chlyw'n leisiau lion, A'u murmur ar fy nghlust bob dydd yn mron, Nes gwneyd fy ngorchwyl weithiau'n hawddgar iawn, A'm bywyd prudd yn ddwyfol oleu llawn. Mewn byd o gwrddyd, codi ffarwel law, Eu hedd a ddylai yru gofid draw. Fy nhristwch hyn Yn mro y glyn Ond tyn i ffwrdd y baich, fy Ngheidwad cu; A dangos-ber yw'r daith i'r Cartref fry. Y Cartref fry Rhyw eiriau swynol i'm— Geiriau a gobaith am gael balm im llym Deimladau ddofi'n Ian, ac o law Duw Gymeryd cwpan trailed—chwerwed yw Ac yn fy ngwenaid rhoi fy hun i'm jSiaf. Er meddwl drosodd lawer, lawer gwaith Fod nef f'anwyliaid yn bellenig daith, lihaid nad yw'n wir, Nis gall y tir Fod fawr o ffordd i ffydd—hon dd'wed yn hy' Mai ber yw'r daith i'r plant i'r Cartref fry. Llanelli. BARAC REES,
ER COF
News
Cite
Share
ER COF Am y diweddar Miss RACHEL PHILLIPS, Castell- newydd Emlyn. Mae'r Iesu wedi cario'r dydd," A Rachel aeth i ffwrdd, Ehedodd ar adenydd ffydd, Disgynodd 'gylch y bwrdd Caiff wleddoedd bywyd yn y ne', A d'wedwch wrthyf pwy? All borthi enaid fel Efe, Fel nas gall farw mwy." Mewn gwynfyd yn ei gwmni Ef, Ai ti wy'n weled draw Yn troedio euraidd fryniau'r Nef A thelyn yn dy law ? 'Wyt wrth dy fodd, mi glywa,th sain \n seinio "marwol glwy, Ac am y bigog goron drain, Sut gelli farw mwy." Mi wn mai braf yw yn ei gol, A rhodio r nefol L'o, Ond ddoi di ambell waith yn d, I Bethel i roi tro? Can eto i eneidiau trist, Fel cynt yn llety'r plwj, D'wed wrthynt, nabod Iesu Grist, Nis gallaf farw mwy." Ti genaist lawer emyn lawn O'i Enw grasol Lf, Ond symud wnaethost cyn prydr.awn. I swn emynau'r Net, A seintiau fyrdd pob gwlad ac ces, Cei ganu gyda hwy,. Mewn byd heo bla, na chur, 11a chroes, Nis gelli farw mwy." Wrth deithio i'r tragwyddol fyd, Rho i ni Iesu Mawr, Y ffordd yn olau ar ei hyd, At Rachel, Hwch y i'awr, I'r lie mae pawb heb friw, na braw, Ond wedi myned t 1\\ Y I fywyd uwch y byd a ddaw, Lie nad ces rrarw riwy." Tsgol Emlyn. O. Wu-UAMS,
CWESTIWN ADDYSG.
News
Cite
Share
rdwori roddi addysg anenwadol, a chaiff y clerigwyr, neu rywun a benodant hwy, roddi addysg grefyddol ar ddau foreu yn yr wyth- nos, o naw i chwarter i ddeg, yn yr holl ys- golion drwy'r deyrnas. Dwy gneuen gal cd iawn i Ymncilldmvyr i'w tori ydyw y ddwy ddiweddaf. Nid oes genyf ddim yn erbyn addysg Feiblaidd neu anenwadol. I'r gwrth- wyneb, os rhoddir addysg grefvddol o gwbl, credaf y dylai gael ei rhoddi trwy'r Beibl, ac yn anenwadol. Ond nid wyf yn credu mcwn gorfodaeth. Gwir nad oes dim gorfodaeth ar blant i'w derbyn. Gwell genyf hefyd fu- asai gadael i'w rhoi fod yn wifroddol. Nid yw Crefydd erioed wedi enill dim ar ei gwileyd yn orfodoL \ly<M rhoddi bawl i bersoniaid fyned i ysgolion y Cynghorau yn beth newydd a dieithr iawn. Ond cofier y bvdd rhoddi hawl i Anghydffurfwyr fyned i Ysgolion Eg- lwysig yr un mor newydd a'r un mor ddi- eithr. Nid oes dim ond amser ei hun a ddengys a ydyw hyn yn ymarferol ai nid yw. Heblaw y darpariaethau hyn ar gyfer ys- golion yn gyffredinol, caniateir hefyd i ludd- ewon, Pabyddion, ac Anglicaniaid, ac eraill, o bosibl, beidio ymuno a'r gyfundrefn genedl- aethol, ond rneddii hawl i'w hysgolion eu hunain, a'u llvwodiraethu eu hunain, gan dderbyn eu had-daliad am beidio cymeryd o'r trethi, rodd uwch, yn ol y pen, o drysorfa'r Ilywodraeth at ad'dysg. Am hyny rhaid idd- ynt hwythau gadw addysg fydol yr ysgolion i fyny a'r safon gyffredinol. D'yna brif linell y cytundeb, fel y deallir hwy yn awr. Nid ydynt y pethau goreu y gallesid eu dymuno, ond, fel y dywed'odd Mr. Asquith, y maent y pethau goreu y gallesid cytuno arnynt gan Eglwyswyr ac Ymneilldu- wyr, ar ol misoedd lawer o ymdrafodaeth, gyda phob awydd yn y naill ochr fel y Ilall am ddyfod i gytundcb. Dywedai Mr. Hirst- I-loiliwell yn Nghynhadledd Cymdeithas Rhyddhad Crefydd yn Llundain yr wythnos ddiweddaf, mai cytundeb Esgob Llanelwy a Mr. Lloyd George ydyw'r cyfan—y gallai ef, pe byddai eisieu, brofi hyny. Dichon ei fod o gwmpas y gwir. Pe byddai felly ni fyddai yn rheswm digonol dros i ni fel Cymry ei dderbyn, ac, yn sicr, nid yw yn un rheswm dros i ni ei wrthod. Am danom ni yn N ghymru, o drugaredd, aed pethau fel yr elont, yr ydym ni y tu cleta i'r clawdd. Caernarvon, EVAN JONES, Tach. 20, 1908. BADGYSYLLTIAD.—Derbyniais y nodyn can- lynol "Llundain, Hydref 18, '0'8. Anwyl Syr,—Synwyd fi ac eraill yn fawr wrth ddarllen eich cynyrch unochrog yn y GOLEUAD am gyfarfod i hyrwyddo Bad- gysylltiad a gynhaliwyd yn Llundain. Pan yn cyfeirio atoch eich hunan a'r areithiau, fwy nag unwaith, a'ch cefnogaeth i'r pen- derfyniad glasdwraidd, nid oes yr un cyfeiriad at y brawd Ceitho Davies, gwein- dog ieuanc a fu ddigon dewr i osod grym ac asgwrn cefn i'r penderfyniad trwy y gwelliant. Pa chwareu teg a chyfiawn- der ydyw peth fel hyn ?—Ydwyf, Cymro o'r Brifddinas." Drwg genyf fod enw Mr. Ceitho Davies allan 0 fy vsgrif. Y mae i mewn yn yr ad- roddiad am y cyfarfod yn y GOLEUAD. Y mae fy ngohebydd ei hun hafyd yn euog o adael allan enw Mr. John Edwards, yr hwn a gefnogodd ychwanegiad Mr. Ceitho Davies. A phe buasai fy ngohebydd' wedi bod mor garedig a dodi ei cnw priodol ei hun wrth ei gerdyn, buasai yn hyfrvdweh genyf ychwan- egu ei enw yntau hefyd. Parhacd brawd- garwch.E.J.