Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

CYMDEITHAS GENHADOL GARTREFOL…

MARW-GOFFA.

MR. WILLIAM ROBERTS, VALE…

News
Cite
Share

MR. WILLIAM ROBERTS, VALE PROSPECT, ACREFAIR. Prydnawn Sabbath, Mai 31, bu. farw Mr, William Roberts, agos i bum' mis ar ol ei anwyl briod. Gan- wyd ef yn Cilmeityn Farm, ger Llandudno. Coil- odd ei dad Mr. Wm. Roberts, pan yn bur ieuanc, trwy iddo gyfarfod a damwain pan yn 43 oed. Bu y weddw fyw am flynyddau ar ei ol, a gofalodd William am ei fam a'i bedair chwaer hyd nes iddi hi farw, yr hyn a gymerodd le yn 1861, ac i'^ chwiorydd y naill ar ol y llall ymbriodi. Yr olaf i wneyd hyny oedd un a ddaeth yn briod a Mr- Thomas Owen, Plasucha', Glan Conwy, yr hon a fu yn ffyddlawn iawn i'r achos yn Moriah, Glan Conwy. Yna priododd Mr. William Roberts a Miss Catherine Jones, Llangwstenin Hall, a buont yn byw yn Cilmeityn Farm, am neg mlynedd, cyn ymneillduo i Bryneglwys,' Llangwstenin. Buont yma am 20 mlynedd, hyd nes yr ymbriododd eu hunlg ferch a'r Parch. William Rowlands, gweinidog cymeradwy Bethel, Acrefair, ac y symudasant ynO 'i fyw dros ddwy flynedd yn ol. Bu farw Mrs' Roberts Ionawr diweddaf; ac ar ol cystudd byr, hwn a ddiodefodd yn dawel a dirwgnach, hunodo yntau mewn tangnefedd y dydd olaf o Fai, wedi cyraedd yr oedran teg o 83. Dyn o farn ydoedd, uniawn yn ei ymwneyd a 1 gyd-ddynlon, ac wedi llwyddo yn y byd yma. 'Dar, llenai lawer, yn enwedig ar y Drysorfa Fawr' al Feibl, er yn ieuanc. Bu am flynyddau heb gy lwyno ei hun yn aelod, ond gwnaeth hyny ar ol y5- tyriaeth faith a phwyllog. Bu ef a'i briod hawdd- gar yn nodded i'r achos yn Mochdre. a'u cartref- 'Bryn,eglvvys,yn agored bob amser i bregethwyr- Bu yn gwrandaw llu o'r cewri gynt, ac yn eu plit" ar y Parch. Owen Thomas, D.D., yn pregethu yn Heb. vi. Dysgodd y benod yn dda, myfyriai lawer yndc'i, a di-os iddi roddi iddo y grym a'r dianwadal- wch tawel a nodweddai ei brofiad pan yn Rliosydn Moab. Sibrydai yn ami—" Eithr mi a gefais dru- garedd," ac ni flinai ar ddweyd Gwir yw y Sal*' ac yn haeddu pob derbyniad, ddyfod Crist Iesu J* byd i gadw pechaduriaid; o ba rai penaf ydwyf 1 Tim. i. 15. Claddwyd ef y dydd Iau canlynol, Meh. 4.. cychwyn, cynhaliwyd gwasanaeth byr ac effeithi0. am 9.30 gan y Parchn. J. Lias Davies, Huw Parr1 (A.), G. Owen, ac E. J. Williams, a chanwyd yn deimladwy ei hoff benill,— Mi glywais gynt fod Iesu, A'i fod ef felly'n awr," &c. Gweithredai hebryngwvd o gyfeillion. swyddogion Bethel fel bearers, at; gweddillion i orsaf Acrefair gan liaws z, Cyrhaeddwyd gorsaf Colwyn BaY

PA BETH A DDAW O'N CYFUNDEB?