Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

MR. EVAN ROBERTS

News
Cite
Share

MR. EVAN ROBERTS JEI AIL YMWELIAD A PHONTYCYMMEB. ODDIWRTH Y PARCH. D. MARDY DAVIES. (Parhad). Yr ydym eisoes wedi rhoddi adroddiad o'r cyfar- fodydd a gynhaliwyd 'ddydd Mercher a dydd Iau. Bu Mr. Roberts yn bresenol yn odfaon yr hwyr, a theimlai yn rhydd iawn ynddynt. Mae cynwys yr ysgrif flaenorol yn brawf digonol o hyny. Nid oes angen dweyd dim am werth y pethau a draddododd, oblegid llefarant drostynt eu hunain. Tystia pawb na chawsant y fraint o wrando arno er pan ymwelodd a Phontycymmer flwyddyn yn ol, ei fod wedi dadblygu yn ddirfawr fel-siaradwr. Mae ei frawddegau fel diarhebion Solomon." Peth newydd i ni yn y eyfarfodydd hyn oedd ei fod yn gweddio yn gyhoeddus. Clywsom ef yn gweddio laweroedd o wjeithiau yn ei lety am fendith Duw ar y cyfarfocl, ond yn anaml iawn y gweddiai yn gyhoeddus yn y cyfarfodydd. Ond yma gwedd-iai yn ami. Mae ei weddiau fel pob peth arall o'i eiddo, yn fy adgofio o'r geiriau hyny A'th Dad, yr hwn a wel yn y dirgel, a dal i ti yn yr amlwg." Boed nawdd y nef drosto, a rhodded yr Arglwydd iddo nerth corph a'meddwl. Gwnaed Duw ef eto yn gyfrwng i ddwyn miloedd at draed y Gwaredwr. Yr Arglwydd Iesu fyddo gyda'th ysbryd di." Dydd Gwener. Cyfarfod y Boreu,am 10 o'r gloch.—Cyhoeddwyd nos Iau y buasai Mr. Roberts yn bresenol er man- tais i weithwyr y nos. Daeth nifer mawr ynghyd; ac yn fuan wedi i'r Diwygiwr gyrhaedd, cyfyd i siar- ad, gan anog pawb i fod yn gartrefol, a cheisio gwneyd pawb felly. Gwnewch hyny, nid er mwyn dyn, ond er mwyn Duw. Yna pwysleisia ar y gwa- lianiaeth sydd rhwng bod gyda'r deyrnas ac yn y deyrnas. Gall dynion fod gyda'r deyrnas heb fod ynddi. D'engys fod pob peth i hyrwyddo'r deyrnas. Caiff yr annuwiol fod yn I#lp i'r deyrnas, a chaiff y diafol fod hefyd. Rheda yr afon yn ddistaw a di- didwrw j ond y mae yna graig ar ei ffordd i'r mor, ac fe'i rhwystrir ar ei thaith i'w chartref. Na, yn hytrach, dyna'r pryd y clywir ei cherddoriaeth; dyna'r pryd y bydd ei miwsic yn swynol; a thyna'r pryd y tynir ei gwyn allan. Mae yna lawer y tuallan i'r deyrnas, ac y maent yn addoli delwau. Ond pan ddaw yr arch i mewn i'r deml, fe syrth Dagon ar unwaith, ac wrth syrthio fe'i drjfrllir yn chwilfriw. Cysgod yw yr arch o Grist, a phan ddaw Crist i mewn i'r galon, mae pob pechod yn gwywo ac yn marw. Gawn ni fod yn rhydd yn yr oedfa hon? Os na, mae yn bosibl y bydd i ni gadw un arall yn gaeth. Rhydd Duw ei fendithion i ni) nid i'w cadw, ond i'w cyfranu i eraill. Dywed y Beibl Na ladrata." Golyga hyn, nid pethau gweledig yn unig, ond pethau anweledig. Dyna frawd neu Ghwàèt yn gweddio am y tro cyntaf, ac nunvn canlyniad i hyny, dyna un arall yn gwneyd.-y naill sydd yn rhydd yn rhyddhau y llall o'i rwymau. Mae nefoedd a daear mewn cydymdeimlad perffaith a chwi. Os byddwch yn rhydd, fe ddyrchafa llafur enaid y Ceid- wad mewn dymuniadau, mewn ocheneidiau, mewn adnodau, ac mewn mawl. Ond cofiwch wneyd. ci: ,m\vyn ei ogoniant." "Gan edrych ar lesti." (O! arwyddair bendigedig i'r cyfarfodydd hyn). Gali dyn godi i ddangos ei hunan, ac yn ami gwna yr Ysbryd ei oddef. Paham Fel y gallom wel'd hunan yn ei hylldra, ac o'i weled ei gashatu Dengys y Diwygiwr eto y pwySigrwydd o gredu yn ddiysgog. Dywedodd yn flaenorol fod dwy wedd i gymeriad y duwiol, sef cadernid ac ystwythder. Mae i fod fel cra,ig ac 1el brwynen—^vn gadarn fel craig i ddylanwad y byd hwn, ac yn ystwyth fel brwynen i ddylanwad y byd ysbrydol. "Bydded genych ffydd yn Nuw "—yn ei air, yn ei addewid- ion, ac yn ei garictor. Os yn wan, dyna le i nerth Duw gael ei ogoneddu. Ewch ymlaen; yna, os y manteisiweh ar yr hyn a egyr Duw o'ch blaen, cewch y mor rhyngoch a'r gelyn. Na ddigalonwch chwi sydd yn gwasanaethu yr Arglwydd. Tueddol yw yr athraw neu yr athrawes i ddweyd, Dim ond un bedd yn y dosbarth." Dywedwch yn hytrach, "Yr oedd yno un." Cyfeiria at athrawes yn Lloegr aeth at yr arolygwr mewn digalondid i geisio ganddo i osod un arall yn ei Ue, gan ddweyd nad oedd ond un yn d'od i'r, dosbarth. "Fy chwaer anwyl," meddai yntau wrthi, y mae yna un; ewch ymlaen yn galonog, a gwnewch eich goreu iddo yn y gredin- laeth. y bendithia Duw eich llafur." Gwnaeth hith- au yn unol a'i gais. Pwy oedd yr un hwnw Neb llai na Dr. Moffat. Felly, na ddigalonwch, ond ewch ymlaen yn wrol a phenderfynol. Ar ol anerchiad Mr. Roberts, cymerodd amryw ran mewn canu, tystiolaethu, a gweddio. Cofir yn hir gan y rhai oedd yn bresenol am y dychweledig- ion fuont yn adrodd eu profiad yn syml ond yn hynod effeithiol o berthynas i flwyddyn gyntaf eu bywyd ysbrydol. Cyfarfod bendithiol iawn oedd iiwn drwyddo, ac nid yw yn debygol yr anghofir ef yn fuan. Cyfarfod y prydnawn, am 2.30.—Er nad oedd Mr. Roberts yn bresenol, daeth tyrfa ynghyd, a cha'wyd cyfarfod hwylus. & Oedfa Hwyrol.—Agorwyd y drysau am 6 o'r giocn, a chyn nemawr o amser yr oedd y capel iwedi ei orlenwi. Tra y cenir yr emyn- /t bcchadur fcuost farw," &c oiaTarnr' f !,rtl 1 mfwn' ac es^na i>r pulpnct Ar canu, cyfyd brawd oedranus yn y set fawt i eTdSei Td C5^iddJ° °rphen' W « £ gweddia dan deimlad dwys— O Arglwydd, tyr'd a'r corwynt—dim llai na'r i corwynt heno. Mae eisieu ein hysgwyd. Mae dv anwad y groes mor fyw ag erioed f nid peth yn pel" | d/rau ftorPhf ^yw- Tyr'd heno y £ dylyZs- n ■?( Ar £ lwydd> ysgwyd ni yn awr. Ysgwyd v I gynullejdfa, O Yshtyd Sanctaidd, meddiana™ gyd heno. Ysgwyd y lie. O! ysgwyd, Arglwydd, ysgwyd." (Metha fyn'd ymhellach gan ei deimlad- au, a phwysa ar y pulpud). Teyrnasa distawrwydd hollol am ychydig eiliadau. Dacw frawd ieuanc yn codi ar y gallery,' ac yn darllen cyfran o Actau ii. —hanes dydd y Pentecost. Gwedi iddo orphen, ceisia Mr. Roberts gan y gynulleidfa i ddweyd Gweddi'r Arglwydd ddwywaith. Gwnewch mewn ysbryd mabaidd heno. Tra yn gwneyd, dis- gyna ysbryd gweddi, a gweddia llawer gyda'u gil- ydd. Ymhen ychydig, mae Mr. Roberts ar ei draed, ac yn gofyn i'r gynulleidfa ganu un o'i hoff benill- ion— Duw mawr y rhyfeddodau maith," &c. Yna, mae brawd dieithr i'r gynulleidfa yn codi yn y pulpud, ac yn gweddio. Pwy ydyw? Y Parch. Martin Anstey, M.A., B.D., Dewsbury, Yorkshire. Cyfarfuom a'r brawd anwyl hwn gartref yn Nghwm Rhondda, pan nad oedd y Diwygiad ond ychydig wythnosau oed. Cydnabyddodd yn un o gyfarfod- ydd Mr. Roberts nad oedd wedi gweled yr un yn dychwelyd at Grist yn ystod y fiwyddyn flaenorol, ac iddo dd'od i Gymru gyda'r amcan o gael ei lenwi a'r Ysbryd Glan. Gafodd yr hyn a ddymunai mewn cyfarfod gynhaliwyd yn Nhrewilliam, a chyfeiria at ddydd lau, Rhag. 22, 1904, fel yr adeg y bedyddiwyd ef a'r Ysbryd Glan, ac a than. Gwedi iddo ddych- welyd i'w gartref, adroddodd yn syml yr hyn a wel- odd, a glywodd, ac a deimlodd yn Nghymru, a dyna'r lie yn fflam. Mae gwaith mawr wedi ei wneyd yno oddiar hyny-rhifa y dychweledigion yn ugeiniau; a'r arwyddair yn awr yw, The reclama- tion of every drunkard in Dewsbury." Duw yn rhwydd iddynt. Cerdd ymlaen, nefol dan, Cymer 'yno' feddiant glan." Gwedi i frawd ganu penill neu ddau, ar y don Bryniau Cassia,' gweddia amryw—un o honynt yw Brynferch. ac un arall yw Miss S. A. Jones, Nanty- moel, yr hon sydd yn adnabyddus fel un o'r ddwy fu yn llafurio gyda Mr. Dan Roberts. Dacw'r Parch Ambrose Williams, Pontrhydyfen, ar ei dtaed yh y pulpud, ac yn gweddio 0 Dduw, gogonedda yr Iesu heno yn achubiaeth dynion. Daethom yma i weled yr Iesu. Gogonedda yr lesu yn awr. Dis- gyned yr Ysbryd yn ysbryd gras a gweddiau. ar bawb. Na foed neb yn gwrando ond Ti dy Hun. Na chaniata yr un rhwystr fbd ar y ffordd heno. Tyn i ma's bob peth cas Sydd yn atal nefol ras. Datguddia dy Hun. Diolch i Ti am y flwyddyn a basiodd-blwyddyn sydd wedi marcio rhai o hon- om. Bydd 61 dy Ysbryd arnom bellaCh i dragwydd- oldeb. 0 Arglwydd, tyr'd i feddianu'r gweddill. Disgyn yn Dy nerth i lawr. 'O! na rwyget y nef- oedd, a disgyn.' Dyna'r gynulleidfa yn canu— 0 Arglwydd! galw eto Fyrddiynau ar dy 61," Sr.e. At oJ: cahu, dytia firawd yil y set fawt yn gweddio, ac yn diolch i Dduw (am y flwyddyn ddiweddaf, ac am nos Wener, blwyddyn i heno, pan y gwelsom Dy gariad. Nid a yr olwg yn anghof byth. Diolch i Ti I fod ugeiniau yma wedi cael golwg arnat, O! dat- guddia y Mab i ni heno." Cenir eto y penill. 1 GíUtatÎa Half fy wyheB,— Ar Galfaria gwyn fy myd." Wele Mr. Roberts ar ei draed, ac erys am ddistaw- rwydd. Ymddengys nad yw y cyfarfod wrth ei fodd. Clywsom amryw yn dweyd ar ol hyn na theirrileiit hwy yr un rhwystr ond mae y Diwygiwr yil argyhoedciedig nad yw pethau fel y dylcnt fed. Beth a ddywed yn awrp Mae yn anhawdd gwybod pa le i ddechreu ar ol myned ar gyfeiliorn. Gwell yw teithio mewn 'slow train' nag mewn 'express,' a iliyn'd di'os y raiis.' Beth Sydd yn cyfrif am y gwahaniaeth rhwng y cyfarfod hwn a'r cyfarfodydd blaenoro] ? Mae yn bosibl fod y gynulleidfa yn fwy, ond nid rhif sicrha lwydaiant y cyfarfod. Dim ond dau oedd yn teithio tuag Emmaus ie, ond yr oedd yno ddwy galon ar dan. Onid oedd ein calonau ni yn llosgi ynom." Dyna gyfarfod gogon- eddus a gawsant. Oddigerth i ninau gael presenol- deb y Gwr fu gyda'r ddau ddisgybl, cyfarfod oer a difywyd gawn ni. Mae gwr y ty yn haeddu parch geryrn. Cafodd ei ddirmygu pan yn nyddiau ei gnawd. A oes yma rhywun wedi ei ddirmygu heno? Dichon fod rhywrai wedi gofyn, Beth yw'r gwaeddi yma da Gochelwch rhag dirmygu Iesu Grist wrth wneyd. Os am dderbyn pethau mawrion, rhaid i'r eglwys symucl i gyd. Sawl aelod ddaeth yma hello i wefd? Mae genych hawl i wel'd; ond ed- rychwch, nid i feirniadu, ond i addoli. Dibyna llwyddiant y cyfarfod arnom ni. A ydyw Duw i gael ei ogoneddu yma heno? Neu ynte a ydych yn barod i ddweyd—Nid yw'r lesu i gael gogoniant heno; mae y capel i gael ei gau, a chaiff cythreul- iaid chwerthin am ein pen ? A ydych yn foddlon Nac ydym, meddai'r gynulleidfa ag uchel lef. Wel, mae uffern i fod yn fflam, neu'r nefoedd i fod yn I fflam. Mae yr awyrgylch ymhell o fod yn glir. Pwy fedr glirio'r niwl? I lesu Grist' oedd yr ateb. Dyma'r gynulleidfa yn canu y perill-, Ymgrymed pawb i lawr," &c. Ar ol canu, clywir amryw yn gweddio—rhai ar y llawr ac eraill ar y gallery: Mae chwaer arall o Nantymoel yn gweddio, ac yn. diolch am ei phlygu I ddeuddeng mis yn ol. yn Mhontycymmer. Gwedi j i eraill ddilyn, "cyfyd Mr. Roberts eto, a gofyna i i'r gynulleidfa ganu j Hosannah, Haleliwia, | 1'r Oen fu ar Galfaria," &c. a dywed fod y gelyn yn gwybod am y deffmad. Profa v ddau gyfarfod diweddaf fod Duw am gyf- ¡ ranu i ni bethau mawrion. Gyrwch fawl i fyny i gael hollt yn y ewmwl. Dyna'r gynulleidfa fawr. ar ei thraed, ac yn canu'r penill. Cenir y geiriau. Tragwyddol ddiolch Iddo, Am faddeu a thosturio .> Anfeidrol fraint i lwch y llwr Fod croeso'n awr ddid ato;" ? I.. trosodd a throsodd. Ust! dyna hollt yn y cwmwlI Dyna gawod drom yn disgyn! Mae pawb yn cael eu gwlychu! "Daeth swn o'r nef megis gwynt nerthoi yn rhuthro." Cafwyd gwell eglurhad ar y geirial1 hyn nag a geir mewn unrhyw esboniad. Mae yr- hyn a gymer le yn ein gwlad yn awr yn esboniad rhagoracn ar weithrediadau dydd y Pentecost nag Y mae yn bosibl ei gael mewn llyfr. Clywsom y swn. Yr oedd megis gwynt nerthol yn rhuthro! Teinilas- om y rhuthr! Dyma gorwynt o'r byd: ysbrydol. Dyma'r gynulleidfa yn cael ei hysgwyd, nid fel cae gwenith gan awel, ond fel coedwig gan gorwynt. Gweddiodd y Diwygiwr yn flaenorol am gael y cor- wynt—dim llai na'r corwynt heno. Wele atebiad i'r weddi. O! adeg fend.igedig! Mae y gynulleidfa yI1 canu, "Tragwyddol ddiolch iddo," &c. ac amryw drwy'r capel yn gwaeddi, "Diolch." Dyna frawd gerllaw i ni yn gwaeddi, Mae'r ddyled wedi ei thalu;" ac un arall, Anfeidrol haeddiant Iesu, a wnaeth i'r glorian droi," Anmhosibl ydyw desgrifio yr olygfa yn awr. Mae yn ferw drwy'r capel i gyd. Parhaodd y bob] fel hyn am dri chwarter awr-Y mwyafrif yn canu. Amryw yn gwaeddi darnau o benillion ac adnodau, eraill yn gweddio, a rhai yn sefyll yn syn fel pe wedi eu syfrdanu. Mae chwech neu saith yn y set fawr wedi colli pob llywodraeth arnynt eu hunain, a gwaeddant a gweddiant bob yn ail. Mae y naill yn cerdded at y llall, ac yn dwey-d adnod neu benill wrtho, ond nid yw yn bosibl clywed yr oil a ddywedant. Yn nghanol hyn, mae cylch 0 dan tua llathen mewn 'diameter' yn ymddangos 0 flaen y pulpud, ac uwchben y set fawr. Gwelodd amryw ef. Dyna ddau frawd yn y weinidogaeth yn eistedd ar ffrynt y gallery, a gwelsant hwy ef. Dy: wedodd un o honynt wrthym iddo. ef ei wel'd, ac 1 iasau dreiddio drwy ei holl natur, a thybiai fod ei wallt yn sefyll i fyny yn syth. Nid oes genym yr un esbonad i'w gynyg ar hyn, ond yn unig adrodd y ffaith. Gwedi i'r Psychical Research Society gael yr holl fanylionj dichon y cawn ni eglurhad bodd- haol ganddynt hwy. Pan beidiodd y canu., dyiialr bobl yh gwaeddi, 'Diolch,' 'Bendigedig,' &c.; mae y canu yn ail ddechreu. Ymhen ychydig, dechreua'r brawd anwyl o Gilfachgoch y peilill hw-tiw- Newyddion braf a ddaeth i'n bro," &C.} ary don "Hapus Awr," "Mae'r lesu wedi cario-S dy'dd." Cariodd y dydd ar y groes, a chariodd y dydd yn yr odfa hon. Os bu y diafol yn y synagog, gorfod iddo ffoi ar orchymyn yr lesu; ac os bu yn y capel heno, gorfod iddo ffoi am ei fywyd. Clywsom un yn dweyd iddo glywed swn y llyffetheiriau yn datod—fod gwli y I chaihs yn ewympo yn ei glust- iau o hyd. Dywed un arall iddo glywed swn byddin wedi ei gorchfygu yn encilio, ac yn gadael eu harffltS ar ol. Fodd bynag, mae y gynulleidfa wedi ei rhydd" hau, ac yn canu yn rhydd. Myn'd yn rhydd!" "Myn'd yn -rhydd!" Cynu.lleidfa rydd yn canu aril ryddid! Disgynodd y tan dwyfol a llosgodd y llýJ ffetheiriau i gyd. O! ddwyfol nerthoedd! "Nerth- oedd y írägwyÀdQI Ysbryd." "Nerthoedd y byd. ? ddaw." Gwedi i bawb dreulio hyny o nerth oedd ynddynt i ganmol y Gwr a'u rhyddhaodd, wele Mr. Roberts yn codi ac yn dweyd, Arhoswch, rhaid gochel rhag myned ar wyllt." Dyna rywun o ganol y capel yn ateb: "Awel o Galfaria,, fachgen." Cyfeiria y Diwygiwr eto at motto y cyfarfodydd hyn—" Gali edtyth ar Iesu. Dywed mai y canlyri- ,iad o edrych ar lesu fydd marwolaeth. Mae llawer wedi marw yma heno. Bydd yn rhaid i'r annuwiol edrych arno yn y farn, a thry yr olwg arno yn far¡- wolaeth dragwyddol iddo. Rhaid yw marw yma neu ynte draw. Mae Duw wedi meddwl am danom (' i^Oi" meddai brawd yn y set fawr, "Meddyliau o hedd/') ac y mae yn caru pawb sydd. yma heno. EdrychWch af yr lesu yn y preseb, yn yr ardd, ac ar y groes J. « chofiwch mai achub ge-lyn oedd amcan yr oil .-a' wnaeth. Mae holl gyfoeth Duw ar gyfcr aehub dyn.. Byddai achub un yn golygu cymaint o dratil i DduW ag y golygai achub y byd. Dyna'r llinell o MJiforc* i Lundain, byddai y gost o'i gwneyd yr un pe 2^ byddai ond un tren yn rhedeg arni-byddai y gost yn anferth; byddai yr un diogelwch yn angenrheid- iol: a byddai yn rhaid i'r line gyraedd pen y daith. Gan i Dduw roi ei holl gyfoeth i ni, pa faint a roddwn ni iddo Ef P Ai boddlon ydyw i dderbyn yr haner? Na; ni chymer hyny. Y cyfan a roddodd Duw i ni, a'r cyfan a hawlia genym ninau. Rhoddaf gymaint ag a fedraf," meddai'r dyn. Pa faint sydd gyda thi ? Ni roddem ddim iddo ar; wahan^i'r Ysbryd Glan. Derbyn yr ydym ni yn gyson, Ar ba beth y mae ein llygaid, Os ar y byd, ni roddwn ddim iddo; ac os ar hunan, ni roddwn ddim iddo. „ )r. Buoch yn canu, Hosannah, Haleliwia," Mae_r 1es1.1 wedi cario'r dydd." Pa ryfedd, efe yw'r dydd. Egyr Mr. Roberts y Beibl, ac ar ol darllen nifer o adnodau ynglyn a chroeshoeliad Crist, gwna ychydig sylwadau arnynt. Sonir am rywrai yn myned heibio gan watwar a chablu. Mae un mewn ing yn gofyn eydymdeimlad, ond y mae ein Ceidwad yn cael ei watwar. Mae dynion wrth fyned heibio yn ei gablu. Beth pe baem ni yno? Pa beth a wnaem? Ai cablu ac ysgwya ein penau, ynte rhedeg ato i geisio ei ryddhau, a boa am deirawr yn ei le Beth a wnawn iddo heno. Mae llawer wedi ei ganmol, a diolch am hyny. Sylwa ar iaith y bobl hyn yn ol adroddiad Efengyl Mathew. Os ti yw Mab Duw,"—eco yr anialwcfl, -disgyn oddiar y groes." Pwy sydd yn gwatwar Mae yma dri dosbarth-yr archoffeiriaid, yr ysSllteu yddion, a'r henuriald-arweinwyr crefyddol y eenedl Gofynwn am oleuni i beidio gwatwar. ?u yma rywun. yn gwatwar heno? Os chwarddodd un yn wawdlyd, gwatwar Crist ydyw hyny Dewci j. ysbryd y cyfarfod, ac yna fe'ch cludir 1 fynwes1 y Jesu. Os bu rhywun yn gwatwar, mae yma 1 el arall'. nnid Disgyned, a ra a gredwB ^ddo. U oes swa tebyg i hyn i'w gljwed yn Nghymru y dycia iau hyn