Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

CLADDEDIGAETH Y DIWEDDAR BARCH.…

News
Cite
Share

CLADDEDIGAETH Y DIWEDDAR BARCH. J. S. JOHNS, RAMOTH, HIRWAUN. Dydd du ar Hirwaun ydoedd dydd Mercher, hwefror 27ain, sef dydd claddu ein diweddar weIni(3og anwyl a hoff. Am ddeg o'r gloch 1 hpwyd a'r corff °'r ty i Ramoth, lie y cynnal- wyd gwasanaeth angladdol. Llywyddwyd gan y Parch W. Harris, Heolyfelin, yr hwn a ar ■^>arc^ A. S. Evans, Sirhowy, i ddaillen tban o air Duw, ac annerehwyd I gorsedd gras gan y Parch D. C. Davies Resolven. Wedi hyn dadganodd Mr Harris e ofid dwys a'i hiraeth mawr wrth golli brawd ( gymmeriad mor rhagorol. 'Roedd ei golli yr golled fawr i'r eglwys, i'r lie, i'r enwad, ac yr wir i'r byd nid rhyfedd fod cymmaint hira-atli I ar ei ol. l Wedi hyn galwodd Mr Harris ar y Parch W. J. Williams (M.C.), Bethel, yr hwn ddarllenodd bondeifyniad a basiwyd gan yi eglwys yn dadgan ei chydymdeimlad a Mrs t Johns yn ei galar, ac eglwys Ramoth yn ei l cholled fawr drwy symudiad ein hanwyl frawc 7gan angeu 0'11 plith. Llai na dwy flynedd yr 01 yr ydoedd yn croesawu Mr Johns i Hirwaun, Ia theimlai yn hiraethus el golli o'r lie mot fuan. I Dywedai y Parch T. Edmunds (A.), Taber. nacl, ei fod wedi colli brawd a Christior cy" Ir, Dywedai y Parch E. Jones (A.), Mounl t Pleasant, fod ei eglwys a't gynnulleidfa ef wedi pasio pleidlais o gydymdeim'ad llwyraf a'r weddw yn ogystal ag eglwys Ramoth yn eu galar a'u colled fawr. I Yna galwyd ar y Parch Jones (W.), yr hwn hefyd a ddywedodd fod Mr Johns yn Gristion gloyw, ac yn weddlwr mawr-I wedi bod yn ffyddlon ar ycbydig/ ac erbyn hyn ( wedi ei osod ar lawer,' ac yn ddiamheuol ei fod mewn gwlad sydd yn well i fyw. Wedi hyn galwyd ar y Parchn Davies Gwawr, T. Jones Carmel Aberdar, W. A. Jones Seion Merthyr, Evans Crosskeys, a Jones Whit- land, y rhai a ddygasant dystiolaeth ddiamwys am gymmeriad pur, gonest a didwyll eia hanwyl frawd fel cymmydog, fel gweinidog doeth a da i Iesu Crist, fel cyfaill cywir ac fel Cristion gloyw, ac fel gweithiwr difefl yn ngwinJIan ei Arglwydd. Yna darllenodd Trysorydd yr eglwys list fawr o frodyr, y rhai a anfonasant lythyrau yn dadgan eu hiraeth ar ol ein hanwyl frawd, yn ogystal a'u cydymdeimlad a'r weddw a'r eglwys yn eu galar a'u colled, ac yn eu plith y Parchn Williams Wednesbury, Humphreys Cwmaman, Twrfab Ynyslwyd, Stephaa Williams Mer- thyr, Evans Maerdy, Dr Edwards Caerdydd, Protf. T. Rees (A.) Aberhonddu, Evans Sir- howy, Kettle Penybont, Yoiwerth Cryghowel, E. Wern Williams, ar ran gweisidogion Hir- waun. Erbyn hyn daeth yr amser i gychwyn, ac wedi gweddi for gan y Parch Griffiths, Cal- faria, Aberdar, abthpwyd a'r corff tua gorsaf y G.W.R. i fynei hefo'r tr6n i Benybont. Yr oedd y dyifa erbyn hyn yn rhifo amryw gan- noedd, yn cael ei blaenori gan y Parchn J. S. Longdon M.A., Ficer Thomas Owmdar, Wern Williams (A.) Nebo, Williams Bethel (M.C.), Edmunds (A.) Tabernacl, Jones (A.) Mount Pleasant, Jones (W.) Hirwaun, Jones (B.) Merthyr, Jones (E.B.) Aberdar, Griffiths (B ) Aberdar, Jones Whitland, Price Llwydcoed, Collier Ferryside, Roberts Penderyn, Evans Sirhowy, Aubrey Merthyr, Williams Wednes- bury, Evans Risca, Harris Glynneath, Davies Resolven, Hughes Mountain Ash, y cor dan arweiniad y brawd da S. T. Davies, W. Will. iams Ysw. Y.H., D. E. Williams Ysw. Y.H., D. Evans Ysw. Y.H., Dr I. G. Thomas, J. E. George Ysw. Caerdydd, Mri M. T. John, T. J. Evans, Cynghorwr Isaac H. Jones, D. Richards, Lewis Beynon, D. Jones G W.R. Hirwaut), ac ereill Cyrhaeddwyd Penybont am tua 2 o'r gloch, ac yno yr oedd torf fawr o flryndiau ein hanwyl frawd wedi ymgasglu i gwrdd a'r angladd. y 0 Yna ffurfiwyd yn orymdaith alarus tua'r ghddfa. yr elor-gerbyd yn cael el rbagfaenu gan holi weinidogion y lie, yn nghyd ag amryw ereill, ac yn eu plith y Parchn Griffiths Llantrisact, Williams Blaengarw, Johns Tondu, Williams, Wednesbury, a Oaradog Griffiths, Caerdydd. Trefnwyd y gwasanaeth ar lan y bedd gan y Parch Kettle Penybont, yr hwn a alwodd ar y Parch Harold Williams, i ddarllen rhan o air Duw. Yna siaradodd y Parch John (M.C.), Penybont, yr hwn a fu yn gymmydog agos i n diweddar anwyl frawd am y tymhor o yn agos i saith mlynedd. Dygai y dystiolaeth uchaf i'w gymmeriad pur, a theimlai ei fod wedi colli cyfaiil cywir a gweithi wr diflao yn ngwaith ei Arglwydd. Yna siaradodd y Parch Oaradog i Giiffifcbs, yn y modd mwyaf toddedig a thyner ) &oi dano fel Cristion egwyddorol a didwyll. iWedi canu mewn dagrau, offrymodd y Parch i Jones, Wjaitland, weddi, ac yna symudodd y I dyrfa yn wylaidd a gilaras i ffwrdd gan adael yr hyn oedd farwol o'n hanwyl frawd i huno yn I mhriddellau oer y dyffryn. Mae ei yspryd i addfwyn, byw, wedi hedeg i wlad well i fyw. 3 Cafodd angiadd dywysogaidd. Perchid ac i anwylid ef yn mhob man. Mae y weddw all 1 eglwys yn eu dagrau ar ei of. Ba fyw yn I aslampl i'r byd. Yr Arglwydd a gysuro y weddw a'r perthynasau yn ei galar, ac a ddyddano yr eglwys yn ei hiraeth. Heddwch i'w Iwch. GLANEIRW. 1 O. Y.-Derbyniwyd hefyd lythyrau caredig' o gydymdeimlad oddi wrth y Parchn W. G. Davies Penatth, R. O. Johns Dalston Junction, W. Harries Caerdydd, Chas. Davies Caerdydd, T. H. Williams Llanwenarth, Mr Williams 1 Stationmaster Pembre, a Miss Annie Davies Hill House College Hwlffordd.—G.

i ; ETHOLIAD BWRDD YSGOL LLAN.…

--0--JERUSALEM, RHYMNI.

--0--CALFARIA, PENYGROES,…

CAM YN YR IAWN GYFEIRIAD.