Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
MR. PHILIP BEVAN, GLANDWR,…
News
Cite
Share
MR. PHILIP BEVAN, GLANDWR, ABERTAWE. Peth hollol haturiol i'r glust ydyw clywed fod hwn a'r llall yn marw yn y byd sydd yr awr hon, o herwydd fod pawb wedi dyfod yma i farw. Byd y marw y gelwir ef yn mhob iaith gyda pbob cenedl trwy yr holl fyd., Peth hollol annaturiol i'r teimlad ydyw clywed am farw, er fod marw yn ddigon hysbys i'r teimlad hefyd, ond rywfodd mae yn fwy parod i gyffwrdd a'r llinyn arian pan ddaw y newydd adref i'r teimlad na dim arall. Felly yn gywir am wrthddrych ein hysgrif. Dyma yntau wedi marw, ac mewn oanlyniad wedi rhoddi lie helaeth i deimladan llawer i ofidio am dano am nad yw, ac na welir ef mwyach, canys Duw a'i cymmerodd. Ganwyd ein gwrthddrych yn y lie ucbod, ger Abertawe, yn y flwyddyn 1832, gwelir felly ei fod yn agos triugain oed; wedi bod, fel oedd mwyaf y trueni—iddo ef a'r byd crefyddol yn ddiddadl- yn ngwallgofdy Penybont am dros ugain mlynedd. Yr oedd yn ddirwestwr aiddgar iawn bob amser. Yn ddyn a'i holl fryd ar bregethu yr Bfengyl onibai i Dduw ddyfod heibio iddo yn ngherbyd ei Ragluniaeth, pa un a'i taflodd i lawr tra yr ydoedd yntau ond dechreu cyrchu at y nod am y gamp uchel, &c. Rhaid i ni dewi a son am bethau fel yna. "Nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi." U Ei ffyrdd ef sydd yn y uior, a'i Iwybrau yn y dyfroedd dyfnion." Un mavSfr oedd ein gwrthddrych ymadawedig fel gweddiwt, fel pregethwr, fel areithiwr, &c. Yr oedd yn draethodwr gwych hefyd ysgrifenodd ddegau o draethodau a phregethau, pa rhai sydd yn 11aw yr ysgrifenydd. Llosgodd gyfrolau o bregethau ac esponiadau da a gwerthfawr tra yr oedd gartref yn nhy ei rieni. Aeth yn ddrwg iawn, rhy ddrwg i aros gartref; felly angenrhaid osodwyd arnynt i'w anfon i'r gwallgofdy. Gwared bawb, Ar- glwydd daionus, rhag y lie poenus hwn. Bu farw y 29ain o Ionawr, a chladdwyd ef Chwefror laf yn Llangyfelach. Gwasanaethwyd yn fedrus yn yr angladd gan offeiriad y plwyf, pryd y gosod- wyd ef i orwedd gyda'i hoff rieni, pa rai oedd wedi ei flaenu er's blynyddoedd. Heddwch i'w lwch hyd ganiad yr udgorn. GWERNFAB. Siloh Road, Landore.
MISS MARY LEWIS, BRYNTEG,…
News
Cite
Share
MISS MARY LEWIS, BRYNTEG, CWM- COTHI, PLWYF CAIO. Cymmerodd yr amgylchiad galarus uchod le dydd Mawrth, Ion. 12fed. Y dydd Gwener can- lynol ymgasglodd tyrfa luosocach na'r cyffredin mewn lie mor anmhoblog, er fod yr hin yn oer ac eiraog. i dalu y gymwynas olaf iddi, sef dwyn ei rhan farwol i gladdfa Bethel, Caio, o ba eglwys yr oedd yn aelod ffyddlon a diargyhoedd. Yn yr angladd gwasanaethwyd yn bwrpasol a deheuig yn y ty ac yn y capel gan y gweinidog, y Parch J. E. ThoELas, ac ar Ian y bedd gan Mri. D. Watlers a T. C. Davies, o Goleg y Bedyddwyr, Bangor. Yn y 19ag flwyddvn o'i hoedran vmadawodd ein oyfeilles hoff a bro gofidiau am diroedd gwyn- faol y Ganaan fry. Wrth deithio dyffryn galar addurnidei chymmeriad a thlysineb, moesgarwch, lledneisrwydd, addfwynder, a gostyngeiddrwydd, yn yr hyn bethau yr oedd yn wrthddrych teilwng o efelychiad gan ieuenotyd yr ardal a'r wlad. Prawf o'i hawddgarwch a'r edmygedd deimlid tuag ati oedd y teimlad dwys oedd yn dangos ei hun mewn dagrau ar lu o ruddiau ddydd ei harwyl. Cysured yr Arglwydd y rhieni a'r perthynasau sydd mewn galar ar ei hoi, gan ystyried fod ei hymadawiad a hwy yn fynediad at Grist, "canys llawer iawn gwell ydyw." Y swynol lUi olau,—ei difa Wnaeth deifwynt oer angau; Ond gwawr hynod ei gwir riniau Gaiff o hyd ei mawr goffhau. Mary aeth yn moreu'i hoes-o niwloedd Anialwch a drygloes, I burach awyr 'nol beroes Drwy Iesu Grist, hyd risiau'i groes. Rieni, eich merch dirionwedd,—a'i sedd Sy'n Ilys aur clodforedd,— lach o hyd mewn byd uwch bedd, Yn rhodio'n mraich anrhydedd. LACRYMOSUS.
MRS. PHEBE WATKINS, 13. W…
News
Cite
Share
MRS. PHEBE WATKINS, 13. W AEN COURT ST., TONYPANDY. RHONDDA. Dysgir ni yn y Beibl am y bedd—" bychan a loawr sydd yno." Gwireddwyd y dywediad lawer milwaith cyn Sadwrn Ionawr 16eg, pan ddaeth gorchymyn o'r uchel lys i symud Phebe Watkins, anwyl briod y brawd Levi Watkins. Cafodd ein hanwyl chwaer ei bedyddio tua 15 mlynedd yn ol yn Bethlehem, Trealaw, gan y Parch J. Evans, yn awr o'r Maerdy. Bu ein chwaer yn aelod hardd o'i bedydd i'w bedd, 800 ni chafodd neb achos tristhauna gofidio o'i herwydd. Anrhydeddodd ei phroffes ar hyd ei gyrfa gre- fyddol. Gadawodd deimlad o hiraeth ar ei hoi yn yr ardal, ei theulu, ac yn neillduol yn yr eglwys. Dyoddefodd tua saith mis o gystudd yn y modd mwyaf amyneddgar a thawel. Yr oedd ein hanwyl chwaer yn dygwydd bod yn un o'r anffodusion hyny ag oedd yn y tren y nos Sadwrn hwnw pan y cymmerodd y gwrthdarawiad annymunol hwnw le tua banner blwyddyn yn ol yn Pontypridd, ac ni fu ein chwaer awr yn iach ar ol y ddamwain hon, a boreu Sadwrn, Ion. 16eg, hi a hunodd yn yr Iesu yn 55 mlwydd oed. Ar y dydd Mawrth canlynol ymgasglodd tyrfa luosog yn nghyd i dalu y gymwyneks olaf i'w gweddillion marwol. Y na ffurfiwyd yn orymdaith tua thy ei hir gartref yn nghladdfa Trealaw. Gweinyddwyd yn y ty ao yn y fynwentgan yr ysgrifenydd. Nerthed, y Cynnaliwr Mawr ein brawd a'i deulu hoff i ym- lwybro trwy y byd heb eu mam holf a'r wraig wir ofalus. W. ELYED DAVIES. Clydach Vale. [Dymunir am i'r papyrau Americanaidd godi y llinnellau uchod.]
MR. GEORGE DAVIES, SCYBORWEN,…
News
Cite
Share
MR. GEORGE DAVIES, SCYBORWEN, GER LLANDUDOCH. Mr Gol.Gorohwyl ,caled genym ydyw cofnodi marwolaeth y brawd ffyddlawn, y cymmydog caredig, a'r cyfaill mynwesol uchod, yr hyn a gymmerodd le dydd Mawrth, Ion. 12fed, pan yn anterth ei nerth a'i ddefnyddioldeb, yn 54 mlwydd oed. Cafodd ei fendithio a chyfansoddiad cadarn a golygus, yr hyn oedd yn ein gwneyd i bro- phwydo iddo hir ddyddiau a blynyddoedd bywyd, ond er cadarned ei gyfansoddiad Ilwyddoid angau mewn ychydig fisoedd i ddattod y daearol dy o'r babell hon, a chawsom esboniad ychwanegol I mai pob cnawd sydd wellt, a'i holl odidawgrwydd fel blodeuyn y maes." Yr oedd yr ymadawedig yn gyfaill didwyll, ac yn gymmydog caredig. Cyfaill heb ddim o'r bradwr ynddd, a chymmydog heb ddim o'r offeiriad a'r Lefiad ynddo yn meddu ei ffordd arali o fyned heibio i'r anghenus a'r gor- thrymedig. Yr oedd yn un o'r rhai parotaf i wneyd cymwynas, a hyny mewu modd eg oedd yn gwneyd i'r ymofynydd deimlo nad oedd wrth fyned ar ei ofyn yn peru ac yn achosi poen a blin- der iddo. Nid oedd ei law aswy yn cael gwybod ganddo pa beth a wnai ei law ddehau. 'Roedd ei serchawgrwydd pan yn estyn allan ei law i roddi yn ddarlun i'r derbynydd fod ei galon yn llyw- odraethu ei roddion. 'Roedd y cyfaill didwyll a'r cymwynaswr haelionus yn tarddu yn ei fod hefyd yn Gristion didwyll; mae'r dyngarwr yn gyn- nwysedig yn y Duwgarwr. Aelod oedd yr ymad- awedig o eglwys Gerazim, can gen o eglwys barchus Blaenywaun. Fel dyn ao fel Cristion gwnaeth ein brawd y defnydd goreu o'r ddau fyd. Defnyddiodd y byd. hwn heb ei gamddefnyddio, ond nid oedd rhaid petruso pa un o'r ddau oedd yn cael y flaenoriaeth ganddo, oblegid yr oedd fel Moses yn gallu canfod trwy drysorau v byd hwn -y trysorau nas dichon rhwd eu llygru na lladron eu hysbeilio. Wrth hau yr oeddy gronyn gwenitih yn ei arwain at Grist fel bara'r bywyd, a phan yn medi yr oedd yn ystyried Mai, yr hyn a hauo dyn hyny hefyd a fed efe." A dywedodd ychydig ddyddiau cyn ei farwolaeth wrth ei barchus wein- idog, pe byddai'r Arglwydd yn gwneyd yr un gymwynas ag ef ag a wnaeth a Hezeciah y buasai yn fwy gweithgar ac ymdrechol yn y winllan nag y bu erioed o'r blaen. Nis gwyddom am neb pan yn dyfod i farw yn teimlo eu bod wedi gwneyd gormod dros yr Iesn; na, profiad y ffyddlonaf ydyw, "Mai gweision anfuddiol oeddynt." Carai yr ymadawedig gael cyfleusdra i wneyd ychwaneg dros ei Waredwr a'i Brynwr. "Meddyliau lawer sydd yn nghalon dyn, ond cynghor yr Arglwydd a saif;" ac ewyllys yr Arglwydd oedd symud ein brawd oddiwrth y gwaith at y wobr. A dydd Gwener canlynol hebryngwyd yr hyn oedd farwol o hono i hen fynwent gyssegredig Blaenywaun; ac yr oedd lluosogrwydd y dorf, yu nghyda'r teimlad ddadblygid ganddynt, yn tystio fod yna un ag oedd yn anwyl ganddynt wedi ei symud oddiwrthynt. Mae marw yn gyffredin yn esboniad o'r byw, yn ogystal ag mae'r byw i fod yn ragfynegiad o'r marw. Bu yr ymadawedig fyw y bywyd ag sydd yn hawlio parch, ac yr oedd y parch a ddangoswyd iddo ar ddydd ei gladded- igaeth yn adsain y geiriau hyny-yr oedd yn deilwng i wneuthur o honom hyn iddo. Gwein- yddwyd ar yr amgylcbiad gan ei barchus weini- dog, y Parch E. T. Jones, ac yr oedd hefyd yn bresenol Davies, Salem. Briton Ferry; Lloyd (A.), Llandudooh, a Mr B. James, myfyriwr oPonty- pool; ond gan fod yr hin mor oer nid doeth fuasai iddynt gymmeryd rhan yn y gwasanaeth, yr hyn fuasai yn ddymunol ganddynt o dan amgylchiadau gwahanol. Yn symudiad yr ymadawedig maelr weddw wedi colli priod tyner,y plant dad gofalus, yr ardal gymwynaswr haelionus, a'r eglwys un o'i ffyddloniaid, y rhai sydd yn lied brin yn y dyddiau presenol. Ond mae Barnwr y weddw yn fyw, Tad yr amddifaid yn parhau yr an, yr Hwn sydd yn gallu cyfranu heb gyfranogi yn agoryd ei law yn feunyddiol, ac mae Preswylydd y berth yn ein sicrhau fod gwirionedd yn anfarwol ac yn an- orchfygol. Dymunwu i'r weddw a'r amddifaid yn eu galar weniadau Duw yn y byd hwp-, a mynediad helaeth i mewn i'r byd a ddaw. TALARVOR, --0--
Llwyddiant, Cynnydd, ly
News
Cite
Share
Llwyddiant, Cynnydd, ly "i:Q.}:f.l.I.1\1IWn'ft'2:7..r. a dedwycldwch a ymddibyniant ynbenaf ar iechyd da. Y mae rhyddid oddiwrth waew Hheumatics a phoenau Neuralgia yn angenrheidiol i ben clir ac ymenydd oer. Olew St. Jacob (yr hwn a gym- hwysir yn allanol a lleol) yw yr unig leddfydd Poen; mewn gwiriouedd "gorchfyga been." Gwellha Rheumatics, Neuralgia, Sciatica, Gout, Ysigiadau, a phoenau corfforol ereill, yn barhaol. Medda ar allu treiddiol annghyffredin, cyrhaedda sedd y dolur, ac felly yn alluog i ddelio a'r acbos. Dyma lie y mae Olew St. Jacobs yn arwain pob meddyginaeth arall, o herwydd tra y delia pob eli a golchdrwyth arall a'r dolur arwynebol cyr- haedda Olew St. Jacobs i waelod y mater." Treiddia yn ddwfn, effeithia fel swyngyfaredd, ni fedr poenaa Rheumatics a Neuralgia wrthsefyll ei allu treiddiol. Derbyniodd Olew St. Jacobs ddeg o fedals aurmewD gwahanol Aradangosiadau Cyd- rhwng-genedlaethol am ei allu rhyfeddol i orch- fygu poen. Olew St. Jacobs yw yr uriig Feddyg- lyn sydd wedi cael Medal Aur. Mae Olew St. Jacobs wedi sefyll prawf amser—banner canrif. Gwerthir fwy na miliwn o boteli bob blwyddyn. Mae gwerthiadau blynyddol Olew Sc. Jacobs yn fwy na gwerthiadau unrhyw ddwy Feddyginiaeth arall yn y byd. Pris 2s. 6c. Ar werth yn mhob man. Charles A. Vogeler Company, Proprietors, 45, Farringdon Road, London.
[No title]
News
Cite
Share
--0-- BETHEL, CAERGI BI,-Cyfarfod Sefydhu- Cya- naliwyd cyfarfodydd i sefydlu y Parch T. M. Rees, yn weinidog ar yr eglwys uchod, Chwefror 9fed a'r lOfecl. Nos Fawrth, dechreuodd y Parch R. P. Williams (A.), a phregethodd y Parch A. J. Parry, Cefnmawr. Boreu Mercher, am ddeg, dechreuodd y Patch J. Digain Williams, New Park Street, a phregethodd y Parch A. J. Parry, i saith o frodyr oedd wedi ei dowis gan yr eglwys yn ddiaconiaid. Yn y prydnawn, cafwyd cyfarfcd i groesawu y Parch T. M. Rees, a'i deulu. Lly- wyddwsyd gan y Parch E. Evans, Amlwch, ac wed! i'r Parch W. H. Jones, Brynsiencyn, ddechreu, dadganpdd yr eglwys trwy Mr W. Thomas, y cSacon hynaf, ei bod yn rhoddi gal wad unfrydol i Mr Rees, acattebodd yntsau ei fod yn ei derbyn,i yna galwodd y llywydd ar y brodyr canlynol i siaradY Parchedigion O. Hughes (M.C.); W. R. Jones (M.CJ); JS. Lloyd (M.C.; J. Hughes Parry (M.C.); R. P. Williams (A.); W. Price, a J. Digain Williams. Caerervhi ? A T Parry, Cefnmawr; 1. Gomer Lewis, Abertawe; D. Mathias, Llanfachraeth; W. H. Jones, Bryn- siencyn, a T. E. Williams, Gaerwen. Siaradwycl yn uchel iawn am y gweinidog a'r eglwys, a therfynwyd cyfarfod a bir gofir ga» y Parch W. R. Jones (M.C.) Yn yr hwyr, dechreuodd y Parch D. Mathias, Llanfachraeth, a phregethodd y Parchedigion J. Gomer Lewis, ac A. J. Parry. Cafwyd cyfarfodydd rhagorol o'r dechreu i'r diwedd. Gobeithio y bydd yr Arglwydd yn agos at ein brawd yn ei faes newydd ac y corona, ei lafur a llwyddiant. Rhif 8. PBIF DDIFFYG YB OFs.-Nid oes uurhyw ddiffyg yn yr oes bresenol ag y owynirgymmaint o'i herwydd ae y teimlir gymmaint oddi wrtho gsn bob gradd a sefyllfa o ddynion yn gyffredmol a diffyg treuliad, yr hwn a amlyga ei hun mewn gvvaliati<>I agweddau, ac sydd yn fiynonell fawr llawer o boenau o dyoddefiadau, megys difiyg arohwaeth at fwyd teimlad o bwysau a gwasgfa ar ol bwyta, cur ya y pen, lluog yn y cylla, cramp, gwynt, poenau o gwm- pas y galeu, y rhai a ddilynir yr ami gan dclolur y galon. Mae llnoedd wedi ceieio yn oser trwy wneyd prawf ar amryw feddyginiaethau i symud y diffyir hwn, ond y maent wedi llwyddo yn hollol i sicrhau gwelhad trwy ddefynyddio QuiNNiE BITTEKS GWILYM JfivAKS. TYSTIOLAUTHA IAILQETIIJ mai y Fed dyfifim* aeth oreu a gawsant erioed at Ddiffysr TrauI a Phocii yn y Pen yw « Hughes's Blood Ilills.1 Y yu cael eu defnyddio yn mhob parth o'r hyd gyda llwyddiant annghymharol. Ar v^erth" Vrr» Jf If a 4s 6c gan bob Chemist, ac oddiwrth y Perchenog, Jacob Hughes, Penarth, Cardif*. Lww GEAS RKCKITT—Mae nerth mawri la far fhagorol Lhw Glas Jteokitt wedi sicrhau iddo "v archnad helaethaf yn yr holl fyd.