Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Advertising
Bedyddiwe.—Mae sylwadau ar y llyfr yn llyfr Dr Evans, Castellnedd, acyn T Weithred o Fedyddio gan y diweddar Ddr Jones, Llan- gollen. Mae ei dwyll resymeg wedi ei gyflawn egluro, fel na raid sylwi yn mhellach arno. UN HEWN penbleth.— Am fod arweinwyr y blqid yn y siroedd hyn rywbryd yn y gorphenol wedi dewis y lliwiau hyn. Cewch yr un peth mewn llawer o siroedd ereill. YB. I HURALD Oenadoi.'—Cwyna y golygydd o herwydd ein sylwadau ar rifyn Hydref Nid oedd yn mhellach o'n meddwl na thaflu anfrit ar wrthddrychau yr ysgrifen er teilyngdod o le ynddo, neu niweidio yr Herald. Yr ydym yn dderbyniwr cysson o hono o'i gychwyniad, ac wedi ei ddosparthu am hir amser. Yr ydym yn gefnogwr gwresog iddo ar bob amgylchiad, am yr hyn y derbyniasom ddiolehgarwch y gol- ygydd unwaith. Dylai hyn ein rhyddhau o'r oyhuddi idau a awgrymai i'n herbyn. Nid yw ei amddiffyniad wedi newid ein barn, ond nid oes gyda ni amser na hamdden i ymgeoru yn ei gyloh. Dywed un o'n lleygwyr goreu wrthym mewn nodyn cyfrinachol fel hyn,- Y mae eich sylw ar yr Herald Cenadol yn hollol yn ei le.' AT EIN GOHEBWYR AWENYDDOL. CYNNOlq- LA.NC. -Fe ellid gwneyd pennillion tlys- ion o'r eiddoch chwi, ond nis gellir eu cyhoeddi fel y maent; diwygiwch hwynt. Joshua GnIFr.ITHS.-Gwnewch eioh goi,eu o hyn allan i ochelyd y fath eiriau a dilai,' &o. Cewch ymddangos. LEIFoN.-Drwg genym fod yr englynion yn rhy wallus i ymddangos yn y SEBEN heb eu llwyr ddiwygio. T. H. PRic.E.-Y mae eich pennill cyntaf yn dywyll ac yn lied ddibwynt. Cewch ym- ddangos. Asaph Glyn Ebwy.—Da genyf glywed oddi- wrthyoh. Alun, Cynidr, a L. Phillips,—Cymmeradwy. -==-
| NODI ADA U YR WYTHNOS.
| NODI ADA U YR WYTHNOS. Prydnawn dydd Sadwrn diweddaf collodd tri o bersonau eu bywydau yn nglofa y Dinas, Cwm Rhondda. Yr oeddynt yn cael eu codi ar ol gorphen eu gwaith cydiodd y cage yn yr ochr a eyrthiodd dau o'r dynion allan 0 hono gan ddisgyn i waelod y pwll. Dydd Iau cyn hyny lladdwyd glowr yno drwy i ddarn o li) syrthio arno. Y fath yw bywyd. Dymunwn alw sylw neillduol ein darllenwyr at hysbysiad a welir mewn colofn arall o'r rhifyn hwn am gynnadledd a chyfarfod cyhoeddus a gynnelir yn Nghaerdydd, dydd Mercher nesaf, ar gwestiwn y Dadgyssylliad a Dadwaddoliad yr Eglwys yn Nghymru. Cymmer y gynnadledd le am 2.30, a darllenir papyr ynddi gan Mr Johnston, golygydd y South Wales Daily News, ar agwedd presenol y pwnc. Am saith yr un hwyr, cynnelir cyfarfod cyhoeddus yn neuadd gyhoeddns y drfef ar yr un mafter. Dysgwylir gweled cynnulliad lluosog iawn o wahanol ranau y Deheudir ar yr achlysur dyddorol hwn. Dydd Mawrth yr wytbnos ddiweddaf gosodwyd careg sylfaen Clwb Ryddfrydig Cenedlaethol i lawr gan Mr Gladstone yn Llundain. Llywyddwyd ar yr amgylchiad dyddorol gan larll Derby, yr hwn a anerchodd y dorf fawr yn dra hapus. Cymmerodd Mr- Gladstone olwg ar Rhyddfrydiaeth yn y gorph enol ei buddugoliaethau, er yr holl rwystrau a'r rhagobeithion yn y dyfodol dan yr amgylch- iadau ffafriol presenol a brofld yn amlwg gan sefydliadau fel Jhyn. Dilynwyd ef gan Iarll Granville, Syr W. Harcoiirt, Mr Chamberlain, Syr C. Dilke, ac ereill. Bydd yr adeilad pan orphenir ef yn werth dros gant, ag ugain o filoedd, ac yn un o'r adeiladau harddaf yn y rhan hon o'r Brif-ddinas. Darperir ynddo ar i gyfer rhyw dair mil o aelodau o bob rhan o'r Deyrnas. Bwriedir iddo fod yn fan cyfarfod i holl arweinwyr Rhyddfrydig y Deyrnas, ac yn lie y gall yr holl aelodau gyfarfod gyda'r neges o hyrwyddo yn mlden yr achos Rhyddfrydig. Nid oes dim cyffelyb iddo o'r blaen gan yr un o'r dwy blaid yn y Deyrnas, os ceir un cyffelyb iddo a'r y Cyfandir. Teimlai y Rhyddfrydwyr angen am rywbeth fel hwn, ac yn awr ca eu teimlad ddadblygiad llawn yn yr adeilad ardderchog hwn. Mewn ystyr arianol y mae eisoes yn llwyddiant, gan fod mwy na digon wedi eu derbyn ato. Ar ddiwedd y seremoni o osod y gareg sylfaen, cyflwynodd Mr Broadhurst ddirprwy- aeth o weithwyr a weithient ar y Hotel Brif- ddinasol a adeiledir gerllaw iddo, y rhai a gyflwynasant anerchiad i'r Prif-weinidog, Mr Gladstone, yn ei longyfarch ar ei lwyddiant gwleidyddol, yn dadgan eu llwyr y.mddiried- iaeth ynddo, ac yn ei annog i fod yn benderfynol i basio mesur Helaethiad yr Etholfraint er gwaethaf Ty yr Arglwyddi. Arwyddwyd yr anerchiad gan 550 o'r gweithwyr a weithient yno, ac nid oedd ond rhyw ddwsin o'r holl weithwyr heb ei harwyddo. Yr oedd hyn, fel y sylwodd Mr Broadhurst, yn esiampl deg o farn, nid yn unig y gweithwyr hyn am dano, ond o holl weithwyr Prydain Fawr, am yr arwr Gladstone. Diolchodd Mr Gladstone yn wresog iddynt am yr anerchiad, ac am eu teimladau da tuag ato, a'u hymddiriedaeth ynddo, gan addaw cydsvcio hyd eithaf ei allu a'u cynghorion iddo. Nid yw yr arwydd hon o deimlad y gweithwyr i'w diystyru. Mae y Ceidwadwyr yn synu, ac y mae y pen borthiaid yn ymddirysu, gan na wyddant beth i wneuthur yn ngwyneb yr amlygiadau hyn o eiddo y gweithwyr at Mr Gladstone. Y mae yr etholiad yn rhan Ddeheuol sir Warwick wedi myned yn ffafr y Ceidwadwr gyda mwyafrif mawr. Lloyd, Ceidwadwr, 3,095; Compton, Rbyddfrydwr, 1,919; mwyafrif,-1,176. Y mae yr aelod newydd, Mr S. Lloyd, yn Arianwr cyfrifol, ac yn ffafr yr hyn a elwir yn "fair trade," yr byn nid yw amgen nag enw arall ar fasnach gaeth." Etholiadaeth Doriaidd yw hon wedi arfer bod hyd 1880, pryd yr ennillodd y Rhyddfrydwyr yr ail sedd, a'r tro hwn wele hi yn dychwelyd yn ol at ei chariad cyntaf. Nid yw yn debyg pe cawsaiholl dai ddalwyr y rhan bleidlais y buasent yn dychwelyd Ceidwadwr o nodwedd S. Lloyd. Y mae yr etholiadau yn yr America am y gadair Lywyddol wedi terfynu, mor bell ag y gellir barnu, yn ffafr Cleveland, y Democrat. Saif y pleidleisiau cyhoeddedig fel hyn:- Cleveland 219 Blaine 182 Yr oedd yn rhaid i'r un llwyddiannus gael 201, a chafodd Cleveland ddeunaw yn fwy. Cwyna y Gwerinwyr fod camgyfrif wedi dygwydd yn Nhalaeth New York, a hawliant gyfrifiad swyddogol; ond nid yw yn debyg y cyfnewidia hyn y safle. Teimlai y wlad fod Blaine yn euog o gamddefnyddio ei swydd i ddybenion personol, a chredai na wnae Cleveland hyny. Mae cymmeriad moesol Cleveland yn dra ammheus. Nid oedd rhyw lawer o ddewis gan yr Americaniaid y tro hwn, a phrofcdd agosrwydd y rhifedi fod yr ymdrechyn un galed a chynhyrfus. Tafla hyn Llywodraeth y wlad i law y Democrat- iaid am y pedair blynedd nesaf. Mae y blaid hon yn Doriaid yn mhob peth ond mewn masnach rydd. Nid yw yn debyg yr effeithia yr etholiad presenol lawer yn ffafr masnach rydd yn America; ond mor bell ag yr a felly y gwna. Gadawa yr etholiad y wlad mewn sefyllfa lied annymunol mewn llawer o ystyriaethau; ond y mae yn rybydd i'r Gwerinwyr fod yn fwy pur yn swyddogol o hyn allan. Gwers oedd hon oedd angen i'w dysgu. Nid yw y newyddion o'r Soudan yr wythnos ddiweddaf yn bwysig. Newyddion ydynt am barotoi a threfnu ar gyfer symud yn mlaen. Mae Khartoum yn ddiogel, a Gordon yn foistr ar y lie. Mae yr ychydig garcharorion a adawyd yn fyw o fyddin Hicks Pasha wedi dianc oddiwrth y Mahdi, a chyrhaedd Dongola yn ddiogel. Mae y Ffranood yn para yn orchfygwyr yn China, ac y mae ein Llywodraeth ni yn gwrthod i'r Llynges Ffrengig gael glo ao adgyweirio yn ein gorsafoedd, am ein bod hi mewn heddwch a China. Nid yw hyn ond cyfiawnder ar Chineaid. Mae y fasnach Alcan yn Llynlleifiad yr wythnos ddiweddaf ychydig yn fwy sefydlog, er nad oedd y prisoedd yn uwch. Mae pris yr aloan ei hun yn uwch yn y farchnad, ac y mai i'w ofni yr effeitbia hyn ar gynnyrch platiau alcan. Gan fod yr etholiad Americanaidd drosodd yn bresenol, gellir dysgwyl mwy o sefydlogrwydd yn y fasnach alcan, a mwy o alw am y nwydd hwn. Nid yw glofeydd y Rhondda mor fywiog ag yr oeddynt [ychydig amser yn or; tuedda amryw o'r glofeydd i weithio amser byr. Mae glofeydd ardaloedd Mynyddislwyn yn fwy bywiog nag y buont. A chymmeryd golwg gyffredinol ar y fasnach lo, rhywbeth yn debyg oedd hi yr wythnos ddiweddaf i'r hyn oedd yr wythnosau blaenorol, os dim yn fwy marwaidd.
MESUR HELAETRIAJD YR ETHOLFRAINT…
MESUR HELAETRIAJD YR ETHOL- FRAINT SIROL. AIL ddarllenwyd hwn dydd Gwener, yr wythnos diweddaf, gyda mwyafrif o gant a deugain, sef deg yn fwy nag a gafodd y Llywodraeth ar ei ail ddarlleniad yn Ngborphenaf diweddaf. Dylai y mwyafrif hwu benderfynu ei dynged yn Nhy yr Arglwyddi heb yr un os nac oni bai, oblegid mai y fath ddadganiad o farn a ddylai argyhoeddi arglwyddi. Ni ddad- blygodd y ddadi hon yr un rheswrn newydd dros nac yn erbyn y mesur, gyda'r eithriud o araeth Gladstone. Araeth Syr C. Lilke oedd y fwyaf nerthol a draddodwyd dros y mesur. Yr oedd y Barwn yu dilyn yr areithwyr Toriaidd i'w liochesau, gan eu tynu allan, a dangos eu twyll.ymresymiad, er mawr lawenydd i'r holl Dy. Yr oedd ton yr areithiau o'r ddau tu yn gymmedrol iawn, fel pe byddai pob siaradwr yn teimlo pwysigrwydd y cyfwng, ac yn arswydo rhag tynu cyfrifoldeb parod yr ymdrechfa ar ei ysgwyddau ei hun. Yr oedd y siaradwyr ar ran y Weinyddiaeth, tra yn gymmedrol, etto yn benderfynol iawn, fel dynion yn teimlo fod y fuddugol- iaeth yn eiddo iddynt. Yr oedd Churchill, fel arfer, yn wyllt, yn heriadol, a beiddgar ond ar yr un pryd yn canfod yn nhymer y ddadl y ffordd fawr a arweinia i benderfyn- fynu. y ddadt yn foddhaol. Gwnaed y mwyafrif i fyny o Ryddfrydwyr a Home Rulers, a'r lleiafrif o'r Ceidwadwyr a dau Home Ruler Ceidwadol. Fel hyn gwelir fod y ft wydr yn cael ei hymladd ar hyd y llinellau gwleidyddol o bob ochr. Cyfrifir am dros chwe chant ac ugain o'r aelodau drwy yr ymraniad hwu, a saif hwn felly yr ymraniad lluosoeaf o fewn y Senedd oreseuol, ac yn sicr yr ymraniad rnwyaf unfrydol o'r holl raniadau. Gwuaeth yr adrau Gymreig o'r fyddin Ryddfrydol ei rhan yn deilwng Pleidiasant y Weinydd- iaeth fel un gwr gydag un eithriad, sef yr r aelod dros sir Aberteifi, yr hwn oedd yn absenol ar ei daith i India. Gresyn fod Mr Pugh yn methu rhoddi ei amser fel hyn at wasanaeth ei etholiadaeth ar adeg fel y presenol. Os nad all fforddio heb fyned allan i India yn y gauaf, onid gwell fyddai iddo roddi ei le i arall ? Dyna y llwybr a ymddangosai yn deg i ni-gadael y sedd i arall sydd ag amser ganddo ar ei law i'w llanw. Nid ei feio a wnawu am fyned allan ar fusnes i India, ond cwyno ydym ei fod yn cadw sedd nad yw yn gallu ei llanw yn gyflawn, a hyuy ar adegau pwyeig yn hanes y wlad. Gobeithiwn y gwna sylw o hawliau ei etholiadaeth ar adeg fel y presenol. Pariodd yr Is-iarll Emlyn a Syr Watcyn, yr unig ddau aelod Toriaidd dros Gymru, o gwrs yn erbyn y mesur. Taenir y gair fod ymdrech yn cael ei wneyd gan bersonau pwysig yn y ddau Dy i ddwyn oddiamgylch gyd-ddealltwr- iaeth, a gobeithiwn y llwyddant heb ddrygu na pheryglu y mesur hwn. —.
TYSTEB MR W. MORGAN EVANS,…
TYSTEB MR W. MORGAN EVANS, SEREN CYMRU." Dymunwn hysbysu gyda diolchgarwch a llawenydd fod yr hyn a dderbyniwyd eisoes mewn canlyniad i'r cylch-lythyra'u a ddan- fonwyd allan, yn wir galonogol, ac yn profi fod y mudiad yn cael cydymdeimlad gwresocaf y cyhoedd. Mae y pwyllgor yn gostyngedig a thaer ddymuno ar holl gyfeillion Mr Evans wneyd a allont mor fuan ag y byddo modd, fel y Iloner ef yn ei gystudd maith a phoenus. Ni raid dweyd am deilyngdod yr achos yn mhob ystyr. Mae ein brawd wedi aberthu ei fywyd i wasanaeth llenyddol yr enwad, ac wedi gwasanaethu ereill yn well nag y bu yn alluog i wasanaethu ei hun. Mae ei enw yn deuluaidd ac anwyl trwy Gymru, a dyma gyfle yn awr i'w luosog gyfeillion i ddangos eu cydymdeimlad a da genym ddeall na cha y cyfle fyned heibio heb arddangosiad ymarferol o hyn. Ca pob arian eu cydnabod yn wythnosol yn y SEREN; i ddechreu yn y nesai. Yn ddiolchgar dros v nwvlleror. B. Thomas, ) xr G. P. Rees, J Is#nfenyddion. -0- MARWOLAETH PRIF-FEISTR Y LLYTHYRDY. Bu farw Mr Fawcett yn lied ddisywmwth. Cymmerwyd ef yn glaf tua dechreu yr wythnos ddiweddaf; ond ni ddychymmygai ei gyfeillion fod unrhyw berygl mawr o'r afieehyd. Ond gwaethygu a wnaeth ac ar ol galw i fewn y meddyg, Syr A. Clarke, cafwyd ar ddeall nad oedd gobaith adferiad, a bu farw yr aelod poblogaidd prydnawn dydd Gwener diweddaf. Creodd y newydd o'i farwolaeth fraw yn mhlith holl aelodau Ty y Cyffredin. Yr oedd efe yn boblogaidd iawn yn mhlith holl aelodau y Ty oblegid ei lafur, ei degwch, a'i awydd i foddloni ac i wrandaw ar gwyn pawb. Er ei fod yn ddall, yr oedd yn weithiwr caled, a'i gof yn ddiddiwedd. Ni chymmysgai ffigyrau ag adroddid iddo, ond efe a'u hadroddai yn eu lie heb unrhyw ymdrech ymddangosiadol. Efe oedd y Prif-feistr goreu a gawsom yn y llythyrdy er ys blynyddoedd. -0-
TANCHWA LOFAWL ARSWYDUS -GER…
TANCHWA LOFAWL ARSWYDUS -GER TREDEGAR. Nos Sadwrn diweddaf, cymmerodd tanchwa echrydus le yn nglofa Pochin. Mae y pwll hwn dros dri chan llath a hanner o ddyfnder. Agorwyd y lofa hon yn 1881, ac y mae rhwng tri a phedwar cant o lowyr yn gweithio yno bob dydd. Nos Sadwrn, nid oedd ond rhyw bumtheg o weithwyr yn adgyweirio yn y lofa, pryd y cymmerodd ffrwydriad arswydus le. Chwythwyd pen y pwll a thy yr eiujine yn chwilfriw, a gwnaed niweidiau ereill. Rhwng un ar ddeg a deuddeg, pan yr oedd y lie wedi ei gauad & rhaffau, rhag i'r dorf dynesu yn rhy agos i ben y pwll, rhuthrodd glowr o'r enw Pugh yn mlaen i gynnyg ei wasanaeth, a chwymp- odd i'r pwll, lie y cawd ei gorff yn ddarnau. Yr oedd un dyn yn gweithio engine tua hanner y ffordd i lawr yn y pwll, ao yr oedd ei floaddiadau am help yn dorealonus. Cnd efe a waredwyd yn ddiogel. Disgynodd parti ymchwiliadol i lawr mor fuan ag y gellid, a chawsant hyd i rai o'r cyrff yn fuan. Dysgwylir y bydd yr oil o'r cyrff wedi eu codi cyn y daw y llinellau hyn o'r wasg. Yn canlyn mae enwau y rhai oedd dan ddaear, pa rai yr ydym yn credu sydd wedi marw:— Gwilym Owen (ei gorlf wedi ei ddarsranfod). John Morris. I Thomas Morgan. Evan Griffiths (ei gorff wedi ei ddarganfod). John Williams. William Evans. John Hamer. Thomas Lewis. John Brace. William Scott. John Bevan. v William Havard. John Jones John Davies (ei gorff wedi ei ddarganfod).
TYSTEB MR W. M. EVANS, "SEREN…
TYSTEB MR W. M. EVANS, "SEREN CYMRU" OFFICE. Mae iechyd Mr Evans yn parhau yn lied wael. Mae y dysteb yn cychwyn yn rhagorol dda, ac y mae y trysorydd eisoes wedi derbyn symiau o bum gini, tair gini, gini, a symiau llai. Boed i bawb a fwriadant gyfranu at y dysteb hon wneyd hyny gyda brya. Gwyddom bod cannoedd o edmygwyr Mr Evans yn Ngbymru yn barod i gyfranu ond cael cyfle. Cydnabyddir pob arian a dderbynir yn y SFRFN. Gol.
Family Notices
ESGORODD,— Tachwedd laf, priod Mr Rowland Phillips, North British Grocery & Provision Company, Caerfyrddin, ar fab. PRIODWYD, Hydref 11 eg, yn Hermon, Abergwaen, drwy drwyddei, gan y cofrestrydd, Mr Thomas Devonald, Penacybir, a, Miss Margaret T. Edwards, Llanfair, ger Trelectert. Hydref 21ain, yn Hill Park, Hwlffordd, gan y Parch. W Owen, yn cael ei gynnorthwyo gan y Parchn. D. Phillips, Oroesgoch, a J. Jenkins, Hill Park, y Parch. A. Morgan, Felinganol, ft Miss M. A. Jenkins, Treforfol, ger Abergwaen. Hydref 3 lain, yn nghapel Penybryn, Llangollen, trwy drwydded, gan y Parch- H. C. Williams, Corwen, yn cael ei gynorthwyo gan Proff. G. Davies, B.A., yr Athrofa, y Parch. Robert Roberts, Moriah, Pentre, a Miss Eleanor Ann Jones, trydedd ferch y diweddar Ddr. Jones, cyn-lywydd Ooleg Llangollen. BU FARW- Hydref 28ain, Isaac Arthur, Cluniau Bach, Abergwessin, yn 82 mlwydd oed. Bedyddiwyd ef gan y diweddar Barch. John Jones, Llandyssul, yn 18 mlwydd oed, a bu am lawer o flynyddoedd yn ffyddlon gyda gwahanol ranau crefydd. Dydd Sadwrn oanlynol dadblygwyd parch ao edmygedd iddo gan y dorf luosog a ddaeth i gludo yr hyn oedd farwol o hono i fynwent henafol Pantycelyn. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. E. W. James, y gweinidog. Y Duw a fu yn nerth iddo ef a fendithio ei blant a'i wyrion, yn nghyd a'i berthynasai Iluosog- Dydd Gwener, Hydref 24ain, ar ol cystudd hir a thrwm, yr hen chwaer anwyl a duwiol Mrs Ann Davies, Aberaman. yn 70 mlwydd, priod yr hen frawd ffyddlon a duwiol Mr Evan Davies, Henry-street. Dangosodd ein chwaer ymadaw- edig lawer o eel dros yr achos crefyddol, a bu yn aelod ffyddlon gyda'r Bedyddwyr am yr yspaid hir o hanner can mlynedd. Yr oedd yn briod serchog a darbodug, yn fam dyner a gofalus, ac yn gymmydoges garedig, yr hyn fu'n dysgleirio yn amlwg yn ei chymmeriad trwy ei hoea. Dydd Llun canlynol hebryngwyd ei gweddlllion marwol tua'r gladdfa, pryd y gwasanaethwydgan ei gweinidog, y Parch. T. Davies, Gwawr. Awst 27ain, o'r darfodedigaeth, yn 19 mlwydd oed, Mr John James, anwyl fab Mr a Mrs James, Llwynrhebog, Manordilo, a brawd y Parch. H. James, Aberduar. Daearwyd ei ran farwol y dydd Gwener canlynol yn mynwent Llandilo, pryd y cyflawnwyd y gwasanaeth crefyddol wrth y ty gan y Parchn. M. Jonoa, Cwmifor, a D. Bowen, Hermon, yn yr eglwys, ac ar lan y bedd gan y Parch. L. Price, periglor. Yr oedd yr ymadawedig yn aelod hardd yn Nghwmifor er's amryw flynyddau, ac yn frawd ieuanc hyood o addawol mewn cyssylltiad a'r gwaith da; ond cymmerwyd ef ymaith megys a dyrnod. Bydded yr Arglwydd yn dirion wrth ei anwyl rieni, ei frodyr a i chwior. ydd, yn nghyd a phawb o'i gyfeillion, y rhai sydd mewn galar a hiraeth mawr ar ei ol. Taddodwyd ei bregeth angladdol nos Sul, Medi 21ain, oddiwrth Job 14, 2,—'Fel blodeayn y daw allan, ac y torir ef ymaith.' MABWOLAETH MRS. THOMAS, PBIOD MB J. THOMAS, DIACON YN NODDFA, PONTYCYMMER. Cafodd Mrs Thomas ei geni yn ardal Rhyd- wilym. Pan tua deng mlwydd oed, symudodd Mrs Thomas i wasanaethu i ardal Llysyfran, a phan tua 25 mlwydd oed, ymunodd mewn glan briodas a J. Thomas yn Trelettert, yn yr hwn le y buont yn byw am ddeunaw o flynyddau, ac oddiyno sj mudodd i Seoviston i gadw palasdy W. Rees, Ysw., Hwlffordd, ac oddiyno am dymhor byr i Hirwain, ac o Hirwain i Gwm Garw, lie y treuliodd gweddill ei hoes. Ymunodd Mrs Thomas a chrefydd pan yn ieuanc iawn. Bu yn aelod am rai blynyddau gyda'r Methodistiaid Oalfinaidd, ac ar ol ei symudiad i Trelettert, cym- merodd ei bedyddio trwy drochiad, gan yr hybarch B Owen. Oddiar yr adeg hono, cadwodd ei gwisg yn lan hyd ei bedd; crefydd oedd ei phenaf beth. Yr oedd yn hynod o grefyddol, pai chus i weinidogion a phregethwyr, ac yn dra charedig i fyfyrwyr. Fel priod a mam, yr oedd yn dyner a gofalus a llouaid ei thy o garedig. rwydd. Yr oedd yn fawr ei hawydd i weled ei phlaut yn grefyddol, yr hyn a gafodd weled. Ni chafodd Mrs Thomas ond byr gystudd—rhyw bytbefnos o amser y bu yn dost. Ar yr 16eg o Fedi, ehedodd ei hysbiyd at Dduw, a dydd Sadwrn canlynol daetb tort fawr yn nghyd i dalu y gymmwynas olaf i'r hyn oedd farwol o honi. Gwasanaethwyd ar yr amgylchiad (yn absenoldeb ein gweinidog, yr hwn ddygwyddai fod oddi- oartref), gan y Parch. E. G. Jones, Bettws, a H. Jenkins, Paran. Oladdwyd hi yn y Bettws. Heddwch i'w llwch hyd fore udganiad udgorn Duw. Cafodd yr eglwys yn y Noddfa golled ar ol Mrs Thomas. Nos Sul canlynol, cafwyd pre- geth bwrpasol iawn i'r amgylchiad gan Mr Davies.-ABLOD. o
[No title]
Foe THE BLOOD IS THE LIFE.CLARKES' WOR uD-FAMED BLOOD MIXTURE is war. ranted to cleanse the blood from all impurities from whatever cause arising. For Scorula, Scurvey, Skin and Blood Diseases, and Sores of all kinds, its effects are marvellous. Thousands of testimonials. Sold in bottles, 2s. 6d. and lis. each by chemists and Patent Medicine Vendors everywhere. Y mae yn dda genym gael ar ddeall fod Mr J. Brill, BA., darlithbiwr yn rhif a mesur (mathematics) yu Nwholeg Aberystwyth, wedi a iel ei ethol yn ddiweddar yn gyfaill o Goleg Siut loan, Caergrawnt. Cyfarfu cynnrychiolwyr y gweithwyr alcan yn Abertawe y Sadwrn diweddaf, a phender- fynasant ffurfio trysorfa er talu y ddyled yr aeth y gweithwyr. alcan iddi drwy y Deyrnas Gyfunol. Dysgwylir i bob gweithiwr alcan a fydd yn gweithio ar neu cyn yr 8fed o'r mis nesaf dalu dau swllt at hyn, ae ar ol hyny pob gweithiwr i gael interest rhydd ar ei gyfraniad. Mae yr amcan yn dda, gobeitbiwii y llwydda.