Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

IER COF AM MICHAEL JONES,…

News
Cite
Share

ER COF AM MICHAEL JONES, DIN- I ORWIG. Gwagedd o wagedd,' medd y pregethwr I gwagedd yw y cwbl,' ac y maey geiriau yn cael eu sylweddoli genyf finnau o ddydd i ddydd. Bum mlynedd i'r adeg yr wyf yn I ysgrifenu y geiriau hyn, yr oeddwn gartref I' yn ardal Dinorwig, a chartref cyfan ydoedd mor bell ag y gallasai cartref daearol fod. Yr oedd fy anwyl, anwyl dad yn ei urddasu a'i bresenoldeb y pryd hwnw; yr oedd fy mrawd John yn ei ddifyru a'i gerddoriaeth; ac yr oedd fy mrawd Michael yn gwneyd ei ran yn y cylch; ond erbyn heddyw, o'r cartref hwnw nid oes yn aros ond fy anwyl fam. Na, nis gellir gyda phriodoldeb ddweyd fod i ni gartref ar y ddaear y mae yn rhaid i gariad at gartref weithredu ar gartref mwy sylweddol na chartrefi y ddaear hon, neu gael ei siomi bytb. Y mae fy nhad, fy mrawd John, a'm brawd Michael wedi symiid gartref, a'n gadael ninnau oddicartref yn nhy ein pererindod i ddysgwyl am oliyngdod, ni a hyderwn, i'r cartref tragy- wyddol. I Cyrhaeddodd fy mrawd Michael gartref ar ddydd yr Arglwydd, y 18fed o Fai. Y mae rhywbeth yn darawiadol yn y ffaith fod ei dad a'i frawd wedi gadael gwlad y cystudd mawr ar ddydd yr Arglwydd. Nid oedd ond 22 ml. oed pan ymadawodd. Bu yn dyoddef eystudd trwm am tua phythefnos, yr hwn a ddyoddefodd gyda thawelwch ac ymroddiad teilyng o Gristion pur. Gallwn ddweyd heb ofni ein bod yn arfer gormodiaith fod iddo air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun.' Nodwedd amlwg ei gymmeriad ydoedd I diiaiweidrwydd.' I Gwyn ei fyd y dyn,' meddai y Salmydd, 'ni chyfrif yr Arglwydd iddo anwiredd, ac ui bo dichell yu ei ysbryd.' Yr oedd efe yn ddiau yn un o'r cymmeriadau dedwydd hyn. Yr oedd mor ddiniwed a'r golomen. Meddai ar deimladau crefyddol dwfn iawn. Yr oedd o duedd ddystaw a neillduedig nis gallesid ei restru yn mhlith yr ymwthwyr hunanol hyny a boenant gymdeithas à'u digywilydd-dra bostfawr. Ei duedd ef oedd ymguddio, a gwneyd a allai o ddaioni yn ddystaw a diymhongar. Yr oedd yn teimlo dyddordeb yn, ac yn ymdrechgar o blaid yr achos goreu yn ei wahanol agweddau. Yr oedd yn ffyddlon i gadw ei gydgynnulliad, Ni welid ef yn abesenol o'r cyrddau ar unrhyw adeg, os na byddai rhywbeth anorfod yn rhwystr. Cai y cwrdd gweddi, y gyfeillach, y cyfarfod plant, dosparth y Beibl, a'r ysgol Sabbothol yn Sardis, oil eu cefnogi g;m ei bresenoldeb cyssun ef. Yr oedd er ys cryn amser cyn ei farm-olaeth yn arolygydd yr ysgol Sabbothol, » phwysai yr ysgol yn fa.wr ar ei feddwl. Yr oedd o duedd ddarllergar a myfyrgar. Ei heff blcser wedi gorchwyl fyddai darllen lly frau crefyddol, ac yn neill- duol llyfr y llyfrau crefyddol oil. Yr oedd y duedd hon wedi cynnyddu i raddau rhyfedd y misoedd cyn ei. farwolaeth, fel mai cryn drafferth a geid i'w gael oddiwrth ei lyfr. Daeth tyrfa luosog i'w hebrwng i dy ei hir gartref i ogof maes Machpelah, pryd y gwasanaethwyd yno ac wrth y ty gan y brodyr Hughes a Roberts, Llanberris. Dilynid yr elorgerbyd gan blant yr ysgol Sabbothol yn Sardis, y rhai oeddynt wedi ymgasglu at eu gilydd yn gryno i dalu parch i un a garent mor fawr. Gadawsom ef yn ei oiweddfa briddlyd i huno hyd yr adeg y gwel Duw yn dda i'w ddihuno ef, yn nghyd a. phawb a hunasant yn yr lesu. A! Michael, fy mrawd, ymadael wnest ti I'r brydferth fro bono uwch gofid a chri- Y fro nad oes yncldi un dichell na brad, A'r lle'r oedd yn dysgwyl dy frawd a dy dad; Oyrbaeddaist yn ieuanc i'r ddedwydd fro wen, A ieuanc a fyddi uwch cyrhaedd pob Ren. Ond beth am y -eaear I A dyeithr yw hon; Mae galar a hiraetb yn llenwi fy mron Nid hi ydyw hi er's biynyddoedd i'r bardd, Nid ydyw mor ddifyr, nid ydyw mor hardd Mae gwyrddni ei dolydd wedi colli ei swyn, Ac yn ei progoniaut imi prudd yw'r llwyn; Mae ei blodau a.'i phobpetli im' gynt oe'nt mor gu- Mor ryfedd y syniad-yn bruddardd a du. Tmadawiad cyfeillion ddechreuodd wynt croes, Wedi hyily perthynasau. i orphen y loea. Ond meddwl anfoddog sy'n oeisio cael g'wall co Yn nhrefn dàoeth RhagluDiaeth, Pan elwir o'r ddaear y naill 'rol y llall, Anwyliaid hoif odiaeth, Onid plygu'n addolgar wrth droed gorsodd Rhi Yn awr yw'n dyledswydd ? Ei bobl a defaid ei borfa y'm ni- ( Efe yw yr Arglwydd. Rhosybol. lEUAN PADAEN. -0--

LLANDUDNO A'R CYLOH.

CYMDEITHAS DDIRWESTOL BEDYDDWYR…

ETHOLIAD BWRDD YSGOL YSTRADYj…

[No title]

LLANDYSSUL.

MR DAFYDD EDMUND, TY TIR-Y-NANT,…