Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
ABERYSTWYTH.
ABERYSTWYTH. Darlith.—Traddodwyd darlith gan y Parch. E. "Williams, ^weinidog y Bedyddwyr, yn y Nouadd Ddirwestol, nos Fe cher, v .lOeg o'r miaciiweddaf Testun,—" Y Bod o Dduw, fel ei amlygir yn. ngwaithiy Cread." Yr oedd yn ddarlith hynod o alluog. Cafodd ganmoliaeth uchel gan y cadeir- ydd, J. Mathews, Vsw., Maer y dref. Byddai yn werth cael darlith mor alluog ar ryw bwnc pwysig yn amI. Yr elw at drysovfa yr Ysgol Frytanaidd. Ysgol Sul y Bedyddwyr aW Capel Seimig! J Y mae yr ,rsifol hon yn gweithio yn anrhydeadus at ddwyn yn mlaen yr adeilad nchcd. Cssglodd tuag ato y flwyddyn ddiweddaf £41 13s. Yr ydym yn ystyried y swm uchod yn wir dda, pan y mae casgliadau ereili mor ami. Y mae yn lion genym hysbysu fod y capel hwn yn dyfod yn mlaen yn llwyddiannus. mae i fod yn gwbl barod erbyn y 12ied o Fai nesaf. Symudiad tenluoedd Bedyddiedig.- Y mao ,dan deulu, un wedi, a'r llall ar, yinadaei a ni yma, ond nid i America, nac uorhyw wla i beilenig arstll, ond i gyrau gwahanol o wlad Brtthon. 1 mae Cadben J. Davies, a rhan o'i deulu, wedi .synmd i ardal Ponterwyd, lie anfanteisiol mewn yst>r grefy<klol i Eedyddiwr trwyadl o nodwedd Mr. Davies. Y mae Mr. Davies yn ddyn dar- llengar, meddylgar, a choethedig yn aeiod defn- yddiot yn eglwys Bethel, ac yn athraw galluog yn yr V sgol Sul. Felly y mae ei symndiad ef a rhun o'i deuJu oddiyrna, yn golled f'awr i r e^lvn s, a'r ysgol. Ond credwn fod llaw gan Ragiumaethyn ei symudiad i'r gymmydogaeth uchod nid yn unig i arolvgu gwaith mwn y Llywarneg; oud yn benaf, hyderwn, i fod yn offeryn i ddechrea achos i'r Bedyddwyr yn y lie. Hefyd, bwriada Mr. J. Davies, Grocer, Lonidsn House, a'i deulu lluosog, symud oddivma i Lanwrtyd. Cynnwysa y teulu hwn wyth o aelodau, chwech o ba rai sydd yn aelodau ffyddlon a 41efnyddiol yn BetheL Er y bydd eu hymadawiad yn golled o bwys yma, etto diau y bydd eu mynediad i fywiolaethu i Lanwrtyd yn ennill o bwys i eglwys y Bedyddwyr a'r Ysgol Sul, yn y lie hwnw. Dymunwn o'n calon i'n cyfeillion, Bob llwyddiant a mwyniant Fo'n helaeth i'ch rhan, Aur, avian, yn doraeth, Nid llwydedd fyd gwaa Llafuriwch yn benaf Am gyfseth a bar, Sef trvssr dry'n elw 'Nol gadael y'dda'r. Y Llythyrfa.— Y mae rhai gwelliannau wedi cymmeryd lie gyda golwg ar y llythyrfa. Y mae yr uchod wedi ei symnd ddau ddrws yn nes at yr eglwys Seisniz; nag ydoedd yn flaenorol. Y mae y pyllebr hefyd wedi ei ddwyn at ei wasanaeth a diau y bydd hyn yn gyfleustra ac yn fantais mewn llawer ystyr. TJJjlBSIK.
TBEBOETH, GER ABERTAWE.
TBEBOETH, GER ABERTAWE. Saif y Ile hwn tua dvry filltir o dref fawr Aber- tawe ar fryn tra iachus a phrydferth ac y ma,e yn y blynyddoed ddiweddaf hyn ar eigynnydd yn rhyfeddol, mewn adeiladau, mewn moesoldeb, ac hefyd mewi^vmdreeh am wybodaeth. Ymdrechir llawer gydaTcanu, yr Ysg;ol Sabbothol, ac y mae cyfarfodydd Ilebyddol yn lluosog iawn yn y gymmydogaeth hefyd. Y mae yn y gymmydog- aeth ysgol Frytanaidd, ys cael ei chario yn mlaen yn aurhydeddus; cymdeithasau dyngarol yn llouogg iawn; a llawer o bethau da a ehanmolad- wy ereiil. Oyfarfod cystadlenol Cyfrinfa Iforaidd Scren Ibreuol, Treboeth.—Cy*naliwyd hwn yn ysta- fell y gyfrinfa, nos Sadwrn, lonawr 28"in, dan lywyddiaeth ein cyn-lywydd, S. Jones. Beirniad, y brawd J. Jones. I ddechreu cawsom alaw ar y delyn gan S. Gaorge, ac anerehiad byr a chynnwysfawr gan y Ilywydd; yna awd yn. mlaen a'r gvstadleuaeth. Araeth, Rhagoriaeth Iforiaeth.- Goreu Rhydderch Wyn. Adrodd y Llafurwr tlawd goreu W. Williams. Englyn i'r Gauif; goreu Rhydderch Wyn, sef R. Morgan, Treboeth. Cenu Nans o'r Glyn i, goreu, W. Edwards. Darllen ar y pryd gereu, E. Rees. Tri phennill i'r lloer, Goreu, D. James. Araeth Ddityfyr. Goreu, Rhydderch WYn.. Traethawd Brawdgarwch. GorfU, D. John. Canu, unawd ar y pryd. Goreu, J. Morgan. Chwech pennill ar Ddyngarwcb. Goreu, Rhydderch Wyn. Canu ton ar y pryd. Goreu Rhyddereh Wyn a'i gyf- eillion. Adrodd, Dinystr y Oem], Goreu, W. Williams. Canu, Dyffryn Clwyd. Cydfuddugol, Rhydderch Wyn a'i gyfeiilion, a Phidip a'i gyf- eillion. I ddiwe^du, canwyd Aelwyd fy mam, gan J. Hughes, a'r gynnulleidfa yn nno yn y gydgan. Felly treuliwyd a diweddwyd un o'r cyfarfodydd goreu a gawsom yma. R. W.
HEN BOBL WEDI MARW;
HEN BOBL WEDI MARW; Y rhai oeddynt yft A elodttu yn Horeb, Blaen- afon, yn nghorff y pedair blynedd diweddaf,- oedrant Mary Morgan 63 Thomas Evans 73 Mary Hugh 96. Mary Huthes 76 Thomas Williams .70 Leah Davies 67 Rebecca Morgan 69 Martha Howells 60 David Beynon 72 Mary Price.84 Sarah Jones .88 Jane Williams .87 Bu y deuddeg uchod fyw rhyngddynt 936 o flynyddaH yr hyn oedd ar average yn 78 yr un. Yr ydym yn cofio amryw bersonau yn y lie yn marw wedi cyrhaedd yK oes hirfaith o yn agos'i gant «ed; mesyS William Morgan, y teiliwr, Sarah Rees ei chwaer, John Emanuel, Sarah Lewis, ac Elizabeth Lewis; ft'r dydd arall, bu farw yma un Hugh John, yn 95 oed. Yr oedd auiryw o'r rhai blaenorol yn enedigol o'r lie hwn, ac wedi treulio eu hoes yma. Y mae Blaenafou yn gorwedd tua 14 o fifltir- oedd i'r Gogledd orllewin o Gasnewydd ar Wysg, yn lie mynyddig, 1,100 o droedfeddi uwchlaw y mor, llawer o'r sail yn fawnog, cyfeeth o 16 a mwn haiarn odditano, a than a mwg lawer ar y wyneb, a'r awyr yn oer a llvm yn y gauaf. Y mae y tai yn lied wasgaredig, a'r dref yn gorwedd gan mwyaf ar dir ochrog, digon o gyfleustra i'r drains wne; d eu gwaith yn dda, ac afon faeh yn rhedeg trwy y cwip, ac felly y mae rawer o bobl yn byw yma yn lied iach ac yn cyrhaedd cedran teg, a hir ddyddiau i weled daioni. DANIEL MORGAN.
PORTH DINORWIG.
PORTH DINORWIG. Cyfarfod Llenyddol. — Cynnaliwyd cyfarfod O'r natur uchod gan Ysgol Sabbothol y Bedvdd- wyr yn y lie hwn nos Fawrth, Ion. 18fed, dan lywyddiaeth fedrus y Parch. J. Thomas. Y beirniaid oeddynt y Parch. W. E. Jones Brynsiencyn, ar y traethodau a'r farddoniaeth, a Mr. D. T. Edwards, Caernarfon, ar y gerddor- iaeth. Dechreuwyd am hanner awr wedi ckwech. Wedii'r llywydd gymmeryd y gadair, galwodd am don gyffredinol. 2. Anerchiad gan y Llywydd. 3. Anerehiad barddonol. 4. Cystadleuaeth mewn darllen (bechgyn dan 18 oed), y bennod laf o Iago a'r adnod olaf. 5. Ton gan gor y lie. 6. Beirn- iadaeth y darllen, gan y Parch. W. E. Jones, yn ct-sl ei gynaorthwyo gan Mr. Prosser, C.M. Goreu, Richard Jones; ail, Richard Davies. 7. Darllen (merched dan 18 oed) 1 loan II. 1-3. 8, Ton, gan y plant. 9. Beirniadaeth y darllen, pryd y gwobrwywyd Jane Williams, a Jane Davies. 10. Cystadleuaeth mewn datganu deu- awd. 11. Solo gan George Hughes. 12. Beirn- iadaeth Mr. D. T. Edwards ar v deuawd; dau barti ddaeth yn mlaen--goreu Richard Jones, a Richard Davies, ail W. H. Jones, a Wm. Hum- phreys. 13. Deuawd (merched dan 18 oed). 14.- Ton, gan y plant, 15. Beirniadaeth y deuawd Un parti ddaeth yn mlaen, sef Jane Williams, a j Jane Davies, a chawsant y wobr. 16. Unawd (bechgyn dan IS oed). 17. Beirniadaeth y chwe phennill i'r esgeuluswr-goreu yr Ysg. 18. Beirn- iadaeth yr unawd-gol eu Mr. Humphreys, ail, Daniel Davies. 19. Can, 'Ðees dim ond ugain mlynedd, gan — Roberts, Carnarvon. 20. An- erchiad gan y Pirch. W. E. Jones. 21. Unawd (merched dan 18 oed). 22. Tdn gan y Piant. 23. Beirniadaeth yr Unawd. Un ddaeth yn adaen, sef Jane Williams, a dyiamwyd iddi y wobr. 24. Can gan Mr. D. T. Edwards, Caer- narfon. 25. Ton gan y plant. 26. Beirniadaeth aryr englyn i Salim goreu yr Ys 27. Ton nan y cor, "'Mae'r nos yn well na'r dydd." 28. Beirniadiieth y traethawd, Boreu Oes." Goreu yr Y sg. 29. Ton gan y c6r. Wedi talu y diolch- ladau arferol, terfynwyd trwy ganu ton gyffrediu- el. Teimlad pawb ar a oedd yn y cyfarfod ydoedd, mai da oedd iddynt fod yno. IFAN DDU.
~CAERGYBI.
CAERGYBI. Trwy garedigrwydd cyfadl i ni, gwelwn fod mudiad newydd yn y dref hesafol hon. Mae o'n lilaen yn awr gylch-lythyr, a'r penawd eanlynol HOLYHEAD GRAMMAR SCHOOL, To be conducted by Mr. Robert Ellis, late of Regents Park College • London. J Ac i'r cylch-lythyr, y mae y diweddglo a ganlyn "References are kindly allowed t, the Rev. Joseph Angus, D.D., and Rev. Benjanin Davies. LL.D., Regent's Park College, London Rev. Thomas Davies, D. D., College, Haverfordwest; Rev. T. Burditt, M.A, Tenby J. Lewis, Esq., Yrondeg and Mr. Robert Williams, Victoria House, Holyhead." Bydd i'r rhan arnlaf o'n darllenwyr adnabod Mr. Ellis, fel mab Cynddelw; ac yr ydym yn: teimlo yn sicr y bydd i bawb o honom, fel golyg- wyr a darllenwyr, i ddymuno Duw yn rhwydd i'r brawd ieuanc, talentog a gwir ddysgedig bwri. Dyma > chwanegiad rhagorol at adn-addau Caer- gybi, ac yn gttffaeliad i rieni ag ydynt am roddi ysgol dda i'w meibion. Bydd yn llawon iawn genym ni glywed fod yr Ysgol Rarnadegol newydd yn wir lwyddianaug o dan olygiaeth Ap Cynddelw.
DOWLA1S.
DOWLA1S. Chwefror laf, cynnaliwyd cyfarfod cyhoeddus o dan nawdd Cymdeithas Lenyddol Moriah, pryd y cafwyd amryw draethodau rliagorol ar wahanol destunau. gan y beehgyn ieuainc, a chynnadledd gan wyth o bersonau ar bwnc y dyoädefwyr yn aehos cydwybod. Hefyd, cafwyd gwasanaeth c6r galluog Bethania, yr hwn a wnaeth y cyfarfod yn llawer mwy dyddorol; a Mr. Evans, aiM parchus weinidog yn gadeirydd. Yr oedd tua 500 o bobl yn bresenol. Y Nadolig.-Hen at-feriad holl eglwyai Bed- yddiedig Dowlais ar y Nadolig ydyw cadw cyfar- fodydd adrodd, canu, &c., m/ewn cyssylltiad a r Ysgolion Sul; ond eleni ni fu dim o'r fath, a hyny am fod y Saeson yn agor eu c,.pel re<*ydd a hardd. Mae yr achos Seisnig yn Beulah yn hynod ø lewyrchus, dun weinidog^eth Mr. Humphreys. Aethyrhendy yn rliy fach, ac y mae y capel newydd etto yn cael ei orlenwi. Llwyddiant iddo i wneyd daioni, ac i'r eglwys i barhau yn ei gweitligarwch presenol.
CASLL W CHWR.(
CASLL W CHWR. Nos Lun, Ionawr 3lain, cynnaliwyd cyfarfod dyddorol iawn yn Horeb, capel yr Annibynwyr yn y He hwn, i ystyried y priodoldeb 0 sefydlu Ysgol Frytanaidd yma. Mae yma Ysgol Genedl- aethol er ys rhai blynyddaedd ond teimlid gan lawer y dylasai fod yma Ysgol Frytanaidd hefyd, am y rheswm fod yr Ymneillduwyr yn y gym- mydogaeth yn llawer lluosocach nir Eglwyswyr, ae felly yn hawlio cael ysgol ansectaraidd i anfon eu plant iddi. Heblaw hyn, y mae y lie yn awr yn debyg o gynnyddu yn ddirfawr mewn poblog- rwydd. Mae yma waith alcam newydd ei gychwyn gan y boneddwr elodwiw J. J. Jenkins, Ysw., Maer Abertawy. Mae y gwaith hwn yn debyg o fod yn waith mawr; bydd feallai o bed- war i bum cant yn gweithio vnddo pan wedi ei gwbl orphen. Hefyd, bwriedir agor gwaith glo mawr yn y gymmydogaetk yn uniongyrchol, gan foneddwr enwog arall, Mr. Stirrup, Cefnoglwydd. Felly ymddengys yn debyg y bydd y boblogaeth vn fnan gyramaint arall ag yw yn bresenol. Gan hyny, bydd gwir angen am gael Ysgol Frytanaidd yn y lie, at yr un genedlaethol. Bu y gwahanal enwadau yn cydgynzhori yn ddiweddar o barthed hyn, a datth wyd i'r pender- fyniad o gael cyfarfod cyhoeddus ar y -at-. Ar yr achlysur, cawsom wasanaeth gwerthfawr Mr. Williams, y goruchwyliwr dros yr Ysgolion Brytanaidd, yr hwn a draddododd is m araeth ardderchog, yn ljawn tSn ac arabedd, nes gwefr- eiddo pawb oedd wedi dyfod yn nghyd. Wedi yr araeth gan Mr. Williams, pendertynwyd yn y modd mwyaf nnfrydol, trwy godiad deheulaw, "Fod y cyfarfod hwn yn barnufed angen am Ysgol Frytanaidd yn y lie hwn, ac yn ymrwymo i wneyd eu goreu 1 ddwyn y gorchwyl i ben." Yr oedd J. J. Jenkins, Ysw., i fod yn gadeirydd ar yr achlysur Qnd oble^id amgylchiadau methodd a bod yn bresenol. Yn ei absenoldeb ef etholwyd Mr. Watkius, gweinidog y Bedyddwyr, i'r gadair, yr hwn wedi, egluro amcan y cyfarfod, a nodwedd yr amcan oedd mewn golwg, a alwodd Mr. Williams i anerch y cyfarfod. Areithivvyd hefyd gan Mr. Thomas, gweinldog yr Annibynwyr, ac amryw aelodau y gwahanol gapeli. Yna ethol- wyd pwyllgor gweithiol, ac ymadawwyd gan ddymuno gan y rhan amlaf, os nid pawb, i gael cyfarfod cyffelyb yn fuan etto. Mae Mr. Jenkins "llaw a chalon" gyda y mudiad, a meddwn hyder crvf, er pob anhawsder a gyfarlyddwn, ae er pob gwrthwynebiad a gawn, y byddwn dluog yn mhen blwyddyn etto i gy- hoeddi Fod Y agol Frytanaidd wedi ei sefydlu yn Casllwchwr." GIDEON.
[No title]
> Y mae y geri marwol As aidd, o'r f.th waethaf, wedi tori allan yn Moscow, a lluaws mawr o bobl yn cael eu llacid ganddo. Dywedir fod dynion yo ?ael eu cymmeryd yn glaf ar yr heulyiid,, ac yn marw cyn pen cemavvr o fynydau. > mae wedi tori allan mewn amryw o d,deithialj ereiil1 Rwsia tiefyd, a'r trigolion yn ffoi mtw.i <'ychryn rhagdd >. ft,
I .TY YR ARGLWYDDI.
TY YR ARGLWYDDI. Bydd M&wrtli, CJitvef. 8.—Ail-ymgynnullodd yTy am bump, a chyfo iodd Ardalydd Huntley i gynnyg anerchiad mewn atebiad i gClladwri ei Mawrhydi. Aeth yr Ardalydd dros wahanol rawau yr araeth Freninol, a derbyniwyd ei sylwadau gyda chrmmeradwyaeth. Eiliwyd ef gan Iarll Fingall. Yna cyfpdodd Arglwydd Cairns, a dywedai fod y genadwri o'r Orsedd yn dra syml, ac yn myned dros rai pvneiau o bwys yn dra byr. Yr oedd e yn gobeithio fed yr hyn a hysbysul am ein perth- ynasau a gwledydd tramor yn wir; ord credai, y wrth ystyried y teimlad anhyfryd a f&Iolai yn y trefedigaethau tuag at yr hen wlad, y byddai yn' well dweyd rhywbeth am danynt, er dangos i'r trigoiien nad yw eu llwyddiant a'u sevchogrwydd J tuag at eu rnam-wlad yn bethau dibwys genym. 1 Atebwyd ar ran y lly wodraeth gan larll Gran- ville ac wedi i larll Grey, Due Malborough, a'r Is-iarll Monck, wneyd rhai sylwadau, cytunwyd a'r anerehiad. Wedi ail-appwyntio Arglwydd Redesdale y* gadeirydd y Pwyilgorau, ymwasgarodd eu har- glwyddiaethau. Bydd lav,.—Cyfarfu eu harglwyddiaethau ara bump o'r gloch. Arglwydd Redesdale a alwodd sylw at y mesur- a* Kyda'r amcan o osod rheiltfyrdd i lawr yn yr beolydd cyhoeddus, a chymmerafiwyai fod ymchwiliad yn cael ei wneyd i'r mater. Addawodd Iarll Kimberley ddwyn y mater gerbron Bwrdd Masaach. Yna gohiriodd eu harglwyddiaethau. Bydd Givener.—Cyfarfu eu harglwyddiaethau am bump o'r gloch ond aid oedd dim yn galw am eu sylw. Bydd Llun. Cyfarfu eu harglwyddiaetha* am bump or gloch. Dygedd larll Bessborough atebiad ei Mawrhydi i'r Anerchiad, mewn atebiad i'r Araeth Freninoi'' J ar agoriad y Senedd. ■>* Y na. bu achos y Trefedigaethau, a rhai pafchaa dibwys ereiil, dan sylw.
TY Y CYFFREDIN.1
TY Y CYFFREDIN. 1 Mawrth, Chwef. 8.—Ail-gyfarfu y Ty am banner awr wedi pedwar; ac wedi i'r Llefarydd ddarllen Araethly: Frenines, cynnygiwyd yr anerch. iad mewn atebiad iddi gan Cadben Egerton, aelod dros ddwyrainbarthsir Derby. Eiliwyd ef gan Syr C. Diike. i Cyfododd Mr. Disraeli, ac a wnaeth sylwadau # 1 gyda golwg ar yr adranau yn dwyn perthjnas a'r J Iwerdden. M Atebwyd ef gan Mr. Gladstone. m Wedi sylwadau pellach gan Mr. Xewdegate, a ] Mr. Eastwick, Mr. W O. Gyre, Mr. C. Fertescue, Mr. Scourfieid, a Mr. Macfie, pasiwyd y pender- fyniad, ac enwyd pwyllgor i traeyd i fyny yr anerchiad. Ymwasgarodd y Ty am hanner awr wedi wyth o'r gloch. Bydd Mereher.—Cymmerodd y Llefarydd1 ail eisteddle am bum roynyd wedi deuddeg. Rhoddwyd gorchymyn i anfon gwys i ethol aeloa dros Softhwark yn lie Mr. Layara 5 a gwy« arall i ethol aelod dros Londonderry, yn lie Mr. Douse, yr hwn er ei etholiad, oedd wedi derbyn y swydd o Cyfreithiwr Cyffredinol dros Iwerddon. Dygwyd i fyny y mynegiad ar yr Anerehiad mewn atebiad i Araeth y Frenmes, yr hwn a dderbyniwyd. Mown atebiad i Mr. Hadfield, dywedai Hr., Bruce fod y Llywodraetti yn bwriadu dwyn mesur yn y Tf arall, yn ymwneyd a tbrosglwydd- iad tir i dramoriaid yn y wlad hon. Rhodelwyd caniatad i ddwyn amryw fesurau i jpewn, a gohiriodd y Ty. Dydd Iau.-Cyfarfu y ty am bedwar. Wedi i amryw bethau dibwys fod dan sylw, ctnnygiodd Mr. Gladstone yr byra a ganlyn :— Gan fod O'Dorisvan Rossa, yr hwn a ddychwel- wyd dros svrydd Tipperary, wedi ei ddyfarnu yn em)g o gyllatun lledradaidd, ac wedi ei ddedfryda i lafur cospawl drws ei fywyd, a i fod yn awr yn ngharchai- dan y gyfryw gosp, y mae yn annghym- hwys i gael ei ddewis fel aelod o'r Ty hwn." > Dywedai hefyd bi fod wedi cynnyg am wysnewydd 1 etlloi aelod dros Tipperary yn ile 0' L-onovaa Rossa. Cynnygiai Mr. Moore fod pwyllgor i gael et ddewis i ystyrieJ y mate', yr hyn a eiliwyd 6an Mr. Mathers. Atnddiifyiiwyd y cwrs a gymmerwyd gan y Llywodraeth gan y Cyfreithwr CytfVedinol. yn gystal a Mr. Hardy. Wedi i Syr Roundell Palmer, ac amryw ereill, siarad ar y mater, rhanodd y Ty, pan yr oedd, Dros y cynayg 301 Y11 erbyn 8 Mwyrif 293 • Felly bydd i etholiad gyncraeryd lie etto yn Tip- perary. Rhoddwyd caniatad i ddwyn mesur i mewn, er diwygio y gyfraith 0 berthynas i fathu arian; a mesur i ddiwygio y gyfraith o berthynes i gym- deithasau cyfeillgar. Bydd Qwener.—Cyfarfu y Ty am bedwar. Telegraphs Prydeinig ae Indiaidd. Mewn atebiad i Mr. Hadfield, dywedai Ar dalydd Hartington nad oedd un gystadleuaeth gyda golwg ar anfon cenadwriaethau rhwnsj y wlad hon ac India. Yr oedd yr holl wasanaeth yn llaw un cwnani. Gyda golwg ar America, yr oedd lie i gredu y byddai i ostynglad diweddar y llyfchyndoll i'r wlad houo i gael ei ganlyn gan gynnydd mawr yn nifer y llythyron a anfonid allan; ond yr oedd achos India yn wahanol. ac nid oedd lie i gredu y canlynai cynnydd yn nifer y llythyrau, pe gostyngid y llythyrdoll; gan hyny, nis gallai ef ddal allan un gobaith am gyfnewid- iad buan yn y. llythyrdoll. Teitlau Eglwyslg. Mewn atebiad i Mr. Staekpole, dywedai Mr. Gladstone y bwiiadai-y LI wodraeth gynnyg mesur 0 berthynas i Ddeddf Teitlau Eglwrsig ond nis gellid ei ddwyn gerbrou hyd nes ar'ol y Pasg. j Trmjddedau Ceffylau Fferm. ] Mewn atebiad i Mr. Millbank, dywedai Cang.. • he lydd yTrysorlys ria l oedd y Llywodraeth yn j 'I
COFADAJL Y PARCH. T. NICHOLAS,'…
COFADAJL Y PARCH. T. NICHOLAS,' ABE RAM AN. MR. GeL., Y mae yn hysbys i chwi, ac i ddarllenwyr lluosog y SEREN, fod cofrestr o enwau y person au a danysgrifiasant at y gof- adail uchod wedi ymddangos yn y SEREN er ys tro bellach. Yr wyf yn dym-uno cyflwyno fy niolchgarwch mwyaf diffuant, trwy gyfrwng y SERUN, i'r brodyr John Protheroe, Philip Griffiths, a George Davies, am eu hymdrech, yn ngwyneb llawer o wrthwynebiadau, i ddwyn y peth hwn oddiamgylch, yn nghyd a phawb a gyfranasant mor haelionus tuag ati yr hyn sydd yn dahgos eu bod yn meddu parch dwfn i goffadwriaeth fy anwyl briod. Y mae y gof- adail yn un anrhydeddus, ac y mae yn adlew- yrchn clod ar bawb afu a llaw yn ei dygiad oddiamgylch, er dynodi y fan y gorwedd ei weddillion' marwol, hyd foreu udganiad yr udgorn y dydd diweddaf. Derbyniwch fy niolchgarwch gwresocaf un ac oil. ~Wyf» yr eiddoch mewn gwir barch, RACHEL NICHOLAS. Postlottyn, Chwef. 4, 1870.
TYSTEB Y PARCH. W. HARRIS,…
TYSTEB Y PARCH. W. HARRIS, HEOLYFELIN. Mr. W. Griffith, Shoemaker, Heolyfelin, 5s.; Mr. Owen Harris, Grocor, 5s Parch. M. Phillips, Aberaman, 5s Parch. J. D. Jeakins, Incwmbeut Heolyfelin, 2s. 6e; Parch. J. Jones, Tonyrefail, 2s. 6c Parch. T. Humphreys, Cwmaman, 2s. 6c; Parch. R. Evans, Caerdydd, 28. 6e; Mr. Henry Henry, Llwydcoed, 2s. 6c; Mr. John Hirris, Station Master, Llwydcoed, 2s. 6c; Mr. W. Curtis, Grocer, Heolyfelin, 2s. 6c; Mr. Peter Griffiths, 2s. 6c Mr. James Harris, 2s. 6c Mr. Isaac Evans. 2s. 6c Mrs. Ann Morgans, 2s. 6c Mrs. Lewis Lewis, Llwydcoed, 2a. 6c; Mrs. E. Jenkins, 2s. 6c ifr, David Howells, Gelli Isaf, 2s; Mrs. Davies, Tyrhos, 2s Mr. Edward Edwards, Is; Miss Margaret Hockins, Is; Mr. John Jenkins, 6c. Ar cais anoryw o gyfeillion Mr. Harris, yr ydym fel eglwys a pliwyllgar, wedi penderfvnu oedi cyflwyniad y dysteb hyd Nos Lua, y 14eg o Fawrth, 1870. Dros y pwylljor, ASYJYIL. J W GitiFFITHS, YsZ,
■;,—-i-l———. CENADAETH ARTREFOL…
—-i-l—— —. CENADAETH ARTREFOL Y BEDYDD. WYR YN SIR DREFALDWYN. Y mae yn hysbys bellach i ddarllenwyr y SEHEN fod yr hen frawd duwiol a ffyddlon. y Parch Richard Davies (Hen Belican). wedi bod yn llafurio fel cenadwr yn y Cwmllwyd, yn sir Dre- faldwyn, a bod eglwysi yr hen Gymmanfa, sef eglwysi v Bedvddwyr yn siroedd Maesyfed a Threfaldwyn, wedi addaw, trwy ei gweinidogion a'i cenadau, i wneuthur un casgliad yn fl/nyddol tuag at gynnnliaeth yr hen frawd teilwng a enwyd yn flaenorol. Y mae yn ddrwg genyforfcid dywedyd etto, mai ychydig o'r eglwysi sydd wedi eyflawnu eu hadd- ewidion, mewn cymhariaeth i'r rhai sydd heb: wneyd. Y mile y derbyniadau sydd wedi dod i law hyd Ebrill 21air, 1869, wedi eu cydnabod eisioes yn y SEBSH. A ganlya yw y cvf/in a ddaeth i'm Haw o'r amser dywededig hyd y pryd Dreseno1, sef Ionawr 28ain, 1870. £ s. c. Mr. W. Davies, Bontnewydd- ar-Wy 1 0 0 Eglwys LIunidloes 0 13 9 New Wells 0 10 0 Bwlchysarnau 0 10 0 Maesyberllan 1 3 2 'Yr ydym yn teimloyn dra diolchgar i'r brodyr yn Maesyberllan am eu haelioni, a hwythau tu allan i gylch yr Hen Gymmanfa. £ s. o. Eglwys y Rock ••• 0 10 0 Nantywellan 0 5 2 Mr. Chapman, Penybont 0 3 6 Costau, 3c. Eglwys Llanfair-caereinioa 0 10 0 Goheithio y ccfia yr eglwysi sydd heb wneuth- I ur dim y flwyddyn sydd wedi myned heibio at yr achos teilwne hwn. i wneuthur hyny mor fuun ag y gailorit, a chofio iini -yr hen fr.wd gyddlon sydd yn llafurio yn ddiwyd yn y Cwmllwyd, a mansuerer, ac mid heb radd o Iwydrtiant; ie, cofio mewn gweddiau drosto, ac hefyd mewn cyf- raniadau tuag at ei gynnaliaeth. BENJAMIN PRICE. Garthfawr, Llanidloes.