Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

----_#-DR. PRICE, ABERDAR,…

News
Cite
Share

-#- DR. PRICE, ABERDAR, YN ABERHONDDU. Nos Fercher, Ionawr y 24ain, cyfarfyddodd Y Parch. Ddr. Price, Aberdar, un o'r ymgeis- \vyr dros fwrdeisdref Aberhonddu, yr ethol- wyr ac ereill yn neuadd y dref, i'r dyben o iddynt ei olygiadau gwleidyddol. fflgasglodd un o'r cynuulliadau mwyaf llu- ^og a welwyd erioed. yn yr hen dref barchus 1 ddyben gwleidyddol, yr hyn oedd yn llefaru uchel iawn am barch ac anrhydedd y Dr. ei hen gartref. Yn mhlith y boneddigion ? safle a dylanwad yn y dref ag oedd yn ^jesenol, yr oedd,—John Protheroe, Ysw., «Iaer y dref; Gr. Cansick, Ysw., Ex-mayor; ^>ha Williams, Ysw., Trengholwr; J. Joseph, Yaw.; o. Perks, Ysw.; H. Lloyd, Ysw.; Davies, jeweller Mr. Bright, chemist; r-r- Walton y Parch. D. B. Edwards, &c., Hefyd, yr oedd amryw o gyfeillion y Dr. yn bresenol:—Y Parchedigion Roberts (Nefydd), Blaenau; M. Phillips, jrrynmawr; James, Pontestyll; Evans, T^fgynidr; Llewelyn, Erwood John, ^•berdar; Harris, Heolyfejin, &c., &e. Ar gvnnygiad y Parch. D. B. Edwards, ac |Uiad Mr. Walton, cymmerwyd y gadair gan J ones, chemist, yr hwn a agorodd y cyf- ^od mewn araeth bwrpasol iawn. Dy« Modd Prodvr, Etholwyr, ac Anetholwyr, — Yr "'Yf yn gobeithio v bydd yr oil o honoch ag sydd heb fod yn etholwyr yn awr, ar ol pasio R(form Bill nesaf, i gael y fraint o gael eich i^au ar lechres pleidleiswyr y fwrdeisdref 0l\ (eymmeradwyaeth). Yr wyf wedi cyd- y^io 4 dymuniadau fy nghyfeillioa i (fym- ^yd y gadair yn y cyfarfod pwysig o barch i'm hen a pharchus gyfaill Dr. j*jCe (eymmeradwyaeth), gvda'r argyhoedd- y bydd er daioni, ac nid er drwg, fel y llawer yn barod wedi darogan yn ofer; legid yr wyf yn teimlo yn argyhoeddedig lei yn nychweliad larll Aberhonddu Vjf ein cynnrychiolydd yn Nhy- y Cyffredin. ae genym i alaru yn fawr fod unigolion dueddol i roddi y deongliad mwyaf an- j i weithrediadau mwyaf cysson ein y'Uon goreu. Fel hyn y mae wedi bod mewn ^Ssylltiad a Dr. Price. Y mae wedi cael ei fjjfcgyhuddo o ddyfod allan yn ymgeisyddar H?8 cyfeillion Mr. Gwyn, mewn trefn i aehosi ^aniad yn mhlith y Liberals, fel y byddai JarU gael ei orchfygu (cywilydd). Mae y 31 ddywediad yn gabldraeth ar gymmeriad lLj^fawr y Dr. Price—cyfaill hollol adna- y acll0S -K-byddgarol, yr hwn ni glw we<^ dyfod allan pe byddai ei ar- fijy^diaeth wedi danfon allan anerchiad yCc^ l ar y cyntaf, fel yr un a wnaeth ei a^^ngosiad yn ddiweddar, a'r hwn a gyf- a chymmeradwvaeth Dr. Price, a [jv ^yddgarwyr ein tref(eymmeradwyaeth). *fti l^i caled ac ymroddiad teilwng am fly vfyddau yn Ngholeg Pontypwl, ac am Jddau ar ol hyn, cyrhaeddodd y graddau ijjg^yd^ddus o Athraw y Celfau a Doethawr fly ? A-throniaeth. Fel arwydd o barch a P^arwch, darfu ei eglwys flodeuog yn ^?rdar ei anrhegu ag anerchiad, wedi ei a framo mewn aur' gydag awrlais y J> ft dock), o'r un ffurf a'r un sydd ar dai ynW aXQent- Mewn cyfarfod tra phwysig Pl,awf°rCester yn mis Rliagfyr diweddaf, fel Ogj 0'p modd yr oeddynt wedi gwerthfawr- ^YfjGl ^asanaeth am y 19 mlynedd, neilldu- yn Llywydd yr Urdd Odyddol, nid 0ud ^hymru, Lloegr, na Phrydain Fawr, ltier„ ,rwy yr holl fyd (uchel a pharhaol gym- ^wyaeth). • oe/Z^wr, wedi enwi nodau ereill o barch ^y^edodd^^ CaC^ eU r^° ar "^r'' a Ja y gwaaethant &'r dyn ag oeddynt fleth) A y^rydu eianrhydeddu (cymmeradwy- i'r ^ri-c^aniatau ei fod yn cael ei ddychwelyd 9Hd ynlarn.ent, ni fyddai wed'yn vn segurwr, < 8yan*]^jltll.iwr ca^e(i, yn bleidiWr galluog ^'wygiadol a chynnvddiad yn yr Bygffmd (eymmeradwyaeth). !°.v Price yn awr eich anerch; dafl6 'i? d(^'amQiheu y gwna a'i dan Cym- /^di v-J1 kywyd i'r gynnuijeidfa fawr sydd gynnull (uchel gymmeradwyaeth). 'V- Yna galwodd y cadeirydd ar y Parch. Ddr. Price i anerch y cyfarfod, yr hwn adderbyn- iwyd gyda chymmeradwyaeth uchel. Dy- wedodd Foneddigion, caniatewch i ni cyn dechreu eich anerch ar faterion cyhoeddus gyfeirio at ofyniad cyssylltiedig â ni yn bersonol- Mae wedi ei ofyn yn ystod ) r wythnosau diweddaf, Pwy ydyw Dr. Price ? a pha hawl sydd ganddo ef i lettya y drychfeddwl o gynnrychioli bwrdeisdref Aber- honddu yn y Parliament ? (Llais, Peidiwch hidio). Mae gan unrhyvr foneddwr hawl i ofyn y gofyniadau hyn a theimlwyf yn aicr y caniatewch i mi y fraint o ateb; Yn wir, yr wyf yn teimlo ei bod yn dlyledus i chwi i mi eu hateb. Wel, yn fyr, yr wyf yn fab i weitbiwr (cymmeradwy- aeth), yr hwn a anwyd yn nghymmydogaeth y Battle. Yr oedd o hiliogaeth Caradoc Fraich Fras, er mai yr oil a dderbyniodd oddiwrth yr hen filwr oedd hawl i wisgo ei crest and coat of arms.; mae y cyfoeth wedi myned i ganghenau ereill o'r teulu, sef. Prices, Oastell-madoc; ac yr wyf yn dymuno iddynt bob llwyddiant yn y mwynhad o hono. Treuliodd fy nhad 56 o flyn- yddau yn ngwasanaeth Williamsiaid y Manest Court, ac mown oedran teg a fu farw yn eu gwas. anaeth, yn wir barchus fel gweithiwr gonest. Yn fy mhlwyf genedigol, nid oedd .unrhyw fath: o ysgol. yn ystod blynyddau boreuol fy mywyd felly, o ar.genrheidrwydd, cefais fy amddifadu o bob mantais addysgiadol. Pan yn ieuanc iawn, aethum yn wastrodyn (page) i deulu Clifton, yn Llanfyrnach, ac arosais yno hyd nes i'r teulu fyned allan i'r Cyfandir. Wedi hyny, defnydd- iais yr ychydig oeddwn wedi allu gasglu, er breint- wasu fy hun gyda'r diweddar Mr. Thomas Wat- kins, o'r Struet (cymmeradwyaeth), i ddysgu y gelfyddyd o baentwr a gwydrwr. Ar ddiwedd fy amser gyda Mr. Watkins, bu mor garedig a hael- ionus a rhoddi i mi X5, yr hyn a'm galluogodd i dalu fy nyledion, ac adnewyddu fy nillad-gell. Wedi gwneyd hyn, gadewais y dref, a eherddais o Aberhonddu i Lundain. Yr oedd yn daith bell, ond nid oedd dim i'w wneyd, oblegid cymmerai fare y coach, yr oil oedd genyf, a rhagor hefyd. Yn Llundain, cyfarfyddais a'ch trefwr, Mr. Bur- goyne, yr hwn a'm cynnorthwyodd yh fawr i gael. gwaith, a mynediad i'r sefydliid llaw-gelfydd- ydol, a'r llysoedd cyfreithiol, am yr hyn y teimlwyf byth yn ddiolchgar. Tra yn Llundain, gweith- iais gyda diwydrwydd trwy y dydd, ac yn yr hwyr. dilynais y classes yn y London Mechanics' Institute. 0 Lundain y derbyniwyd fi yn fvfyr- iwr i Athrofa Pontypwl. Wedi gorphen fy amser yno, cefais wahoddiad i lywyddu dros gynnulleidfa fechan yn Aberdar, He r wyf wedi treulio yr ugain mlynedd diweddaf o'm bywyd, yn gwneyd y daioni a allwa gyda chrefydd, ac hefyd gwlad- yddiaeth (eymmeradwyaeth); ac yn awr, trwy ofal tyner a charedigol Rhagluiiiaeth Duw, yr wyf mewn sefyllfa ag y gallwyf g.vssegru cymmaint o amser ae arian ag a ellwch chwi yn deg ddysgwyl oddiwrth eich cynnrychiolydd. (Cymmeradwy- aeth). Dyna yn fyr yw fy ateb i'r gofyniadau diystyrllyd sydd wedi eu gofyn am danaf; ac nis gwn fy mod wedi gwneyd dim yn yatod yr adeg hon sydd eisieu i mi gyw'lyddio o'i blegid. (Cym. meradwyaeth, a llais, Mae'n anrhydedd i chwi). O barthed i'm hawl i ddyfod i geisio eich pleid. 'leisiuu, yr oeddwn yn meddwl fod genyf gystal hawl ag unrhyw berson, os yn barod i wneyd yr aberthau gofynol i wasanaethu eich lies chwi. Yr wyf yn Gymro ganedig a magedig, yn Gymro mewn calon a theimladau. Yr wyf yn Annghyd- ffurfiwr oddiar argyhoeddiad. Ganwyd fi yn nghymmydogaeth Aberhonddu, magwyd fi yn eich plith chwi, dechreuais fy ngyrfa grefyddol yn eich plith, ac er pan wyf wedi gadael eicli tref, nid wyf wedi gwneyd dim idd ei gwarthruddo. -Meddyliais, ar oi saith mlynedd ar hugain o ab- senoldeb, y gallwn dtod yn ol yn anrhydbddus i ofyn i chwi fy nychwelyd fel eich cynnrychiolydd i'r Parliament. (Cymmeradwyaeth). Yr wyf fi, a llawer ereill, wedi teimlo er's amser bellach ei bod yn warth ar Gymru, am nad yw, o'r 32 ael- odau mae wedi ddanfon i'r TO Cyffredin, wedi danfon yr un Annghydtfurfiwr Cymreig erioed. (Cywilydd). Nid oes genym yn awr yn y T9 Cytfredin un aelod, yr hwn yn deg sydd yn cyn- nrychioli teimladau crefyddol wvth rhan o nap, o bool Cymru. (Bloeddiadau, Cywilyd.t, Yr ydych yn iawn). Yn yr etholiad cyffredinol diweddaf, danfonodd Lloegr ac Ysgotland 40 o aelodau ym- neillduol i'r Ty, tra y danfonodd yr Iwerddon 40 o Roman Catholics i gynnrychioli teimladau y bobl Gwyddelig i'r Parliament; ond Cymru, er ei gwarth oesol, ni ddanfonodd yr un Annghydtfurf- iwr i'r Parliament newydd. A ydyw ddim yn amser i ni ddeffroi, ac i symud ymaith y gwarth. nod sydd yn gorphwys ar Gymru fel gwlad ym- neillduaeth? (Cymmeradwyaeth). Wei, >r wyf wedi dyfod i roddi eyfle i etholwyr Aberhonddu i wneyd felly, wedi methu eich darbwyllo i wahodd arall, a gwell dyn. Yr wyf yn cynnyg fy hun fel y dirprwywr goreu allwn gael. (Cym. meradwyaeth a chwerthiniad). Wedi i mi glywed am farwotaeth eich diweddar barchus aelod, gwyliais eich svmudiadau gyda phryder mawr, gan obeithio y byddai i rhyw foneddwr o ddylan- wad lleol, a golygiadau haelfrydig a rhyddgarol, megys eich maer, i ddyfod allan; ond cefais fy siomi yn hyn. Danfonodd dau foneddwr eu han- erchiadau allan, ond nid oedd y un o honynt, feddyliwyf, yn adlewyreliu golygiadau rhan fawr o etholwyr annibynol y fwrdeisdref hon. Gadewch i ni am fynyd i edrych ar yr anerchiadau sydd wedi eu dwyn allan ganddynt. Cymmerwn anerchiad larll Aberhonddu. Mae y paragravk cyntaf yn deilwng o deimlad caredia; ei Arglwydd. iaeth tuag at y diweddar aelod; yr ail a'r trydydd ydynt yn unig hen ymadrjddion ystrydebol (stereotyped) sydd wedi eu defnyddio ganwaith mewn anerchiadau o'r blaen; ac y maent mor ddiystyr agydynt 0 gyffredin i bob dyn svdd yn datllen y papyrau. Sylwedd yr anerchiad yw, y bydd iddo roddi cymhorth diysgoa; ac annibynol i lywodraeth a theimlad Arglwvdd Palmerston. Yr oedd gwladlywiad dramor llywodraeth Arglwydd Palmerston yn dda, am yr hyn yr oeddem yn ddyledus i Iarll Russell; ac am ei yswirdeb ar. gyllidol yr oeddem yn ddyledus i Mr. Gladatone. Gyda'r ddau eithriad hyn, yr oedd gwladlywiad Palmerston yn ddidrefn, gwastraffus, anwadal, ac anfoddlonol. (Clywch, clywch). Yr oedd yn ryddg irwr (liberal) mewn enw, ond mewn gwir- ionedd, yn gwneyd archiadau y Toryaid Ac etto, dyma yr oil mewn sylweddoldeb a addawwyd gan yr urddasol ymgeisydd yn ei anerchiad cyntaf. Yr oedd anerchiad Mr. Gwyn yr oil a allech ddysgwyl oddiwrth Geidwadwr (Conservative) proffesedig a chysson. Yr ydym yn cael yn ami ddarluniad O'r gwarchodion a'u pruning Jcnife, fel pe bai y Conservatives erioed mewn cariad Ir gyllell docio, (Cymmeradwyaeth). Mae pob un sydd wedi d'<trllen hanesyddiaeth yn gwybod fod Conservatism wedi bod yn bwysau marwol i bob cynnydd, diwygiad, a gwelliant. (Cymmeradwy- aeth). Yna, mae yr Ymneillduwr cydwybodol" yn dod, fel pe bai Mr. Gwynerioed wedi cyfarfod ag Ymneillduwr heb gydwybcd. Beth yr oedd hyd y nod William Hopkins, y erydd, Ystrad- gynlais, yn dal fod ganddo gydwybod, er fod yr ynadon yn rhyfeddu am y fath ddrychfeddwl, ac yn cymmeryd Iledr y dyn, a'i werthu i'r heddgeid- waid am hanner ei werth marchnadol, er talu y dreth eglwys. Nid oes yr un cweryl rhyngwyf a'r boneddigion hyn — mae ganddynt hawl i go-eddu y golygiadau hyn-ond rhoddaf y gofyn iad hyn i chwi, A ydyw yr egwyddorion a osodir allan yn yr anerchiadau hyn yn arddansos golyg iadau y mwyafrif o Etholwyr Aberhonddu ? Credwyf nad ydynt, a hyn oedd fy rheswm yn dyfod allan i'ch cynnorthwyo chwi, neu rai o honoch, i argymmeryd eich gwrthdystiad yn y cyfarfodvdd, ac ar lyfr yr etholres, yn erhyn y cyhoeddiadau (manifestos) hyn. Daethym allan er gwneyd prawf-gosod wrth y test y galwadau uchel a wnawd mewn rhai "leoedd a chynnulliadau o barthed yr angenrheidrwydd o ethol Cymro ac Annghydffurfiwr Cymreig i g' riyryehioli o leiaf un o'r 32 o'r cysranau fconstituencies) Cymreig, ac yr opddwn am weled pa help allasai dyn ymar- ferol gael i fyned i'r Senedd, heb ei orfodi i ym- gyduno a hanner cyfreithwyr y twrdeisdref, a sicrhau hanner y tafarnwyr (uchel gymmeradwy. aeth), ac a allai dyn gael ei ddychwelyd ar lai traul na phunnoedd bathawl yn cael "u cyfrif wrth y miloedd ? Yr ateb wyf wedi ddysgu yw, fy mod ychydig o flaen yr amser. Ond, foneddigion, fe ddaw yr amser pryd y gwneir hyn, a gallesid meddwl fod Aberhonddu yn faes teg er gwneyd y fath brawf. (Clywch, clywch). Gan fod yma yn y fwrdeisdref hon ddim llai nag wyth cynnulleidfa o Annghydffurfwyr, ac hefyd Goleg pwysig, lie y mae ein gweinidogion dyfudol yn cael eu dysgu yn yr egwyddorion dros ba rai y darfu ein tadau Puritanaidd waedu a marw. (Cymmeradwyaeth). Mae y cwestiwn o Ddiwygiad Seneddol yn sicr o gael sylw y deddfwyr yn yr eisteddiad nesaf, a dylech chwi fod yn barod i edrych y gofyniad yn deg yn ei wyneb. Credwyf fod tri phwynt i ym- wnayd â hwy cyn y gall y gofyniad hwn gael ei ystvried a'i benderfynu—yr Etholfraint, diogeliad v pleidleisiwr, ac ail-ddosp .rthiad eisteddleoedd Seneddol. Gadewch i ni edrych ar yr Etholfraint fel y mote yn awr yn feddedig gan y corff ethol- yddol yn y wlad hon. Mae Ty y ("yffredin pre- senal yn gyfansoddedig o 656 o aelodau—466 o honynt wedi eu dychwelyd i gynnrychioli siroedd a bwrdeisdrefi yn Lloegr, 105 dros Iwerddon, 53 dros Ysgotland, a 32 dros Gyraru. Mae y rhai hvn yn cael eu hethol yn ol darpariadau Ysgrif Ddiwygiadol 1832, gan rhyw nifer o bersonau sydd Go chymhwysder rhoddedig ganddynt i arfer yr hawl hon. Mewn siroedd o dan rhyw drefn- iadau, gall y rhydd-ddeiliad, nawdd-feddiannwr, prydleswr, a thir-ddeiliad, os bydd ei rent yn zC50 y flwyddyn, bleidleisio dros gynnrychiolydd i'r M_- Senedd; tra mewn bwrdeisdrefi, mae gan ddalied- ydd tai a thir gwerth £10 y flwyddyn hawl i fod yn nghofres y pleidleiswyr. Cafodd hyn ei ben- derfynu yn y flwyddyn 1832-34 mlynedd yn oJ. ac nid oes un cyfnewidiad wedi cymmeryd lie Of hyn, mor bell ag y mae a fyno a Lloegr, Ysgot* land, a Chymru; ond yn yr Iwerddon, mae yr etholfraint wedi cael ei hiselhau cryn lawer. Trwy Act 1850, cafodd ei darostwng i £12 o ardreth-dSl yn y siroedd, ac i ze8 yn y bwrdeisdrefi. Yn y flwyddyn 1864, cyfanrif y pleidleiswyr ar holl lechresau y Deyrnas Gyfunol oedd 1,333,690. Byddai y nifer anferth hwn i roddi canolrif o 2,033 o bleidleiswvr i bob un o'r 656 o'r aelodau, a chaniatau eu bod yn cael eu dosparthu yn gyt. artal. Ond pan yn tynu allan o'r lechres yr holl ddychweliadau deublyg, cymmeryd i ystyriaeth yr holl farwolaethau, y symudiadau, a'r annghvm* hwysderau ereill, byddem yn Ileihau llawer iawn ar lechres y pleidleiswyr gweithredol, ac yn eu cael yn rhifo i'r eithaf tua 1,100,000, allan o'r bobloa;aeth anferth o rhwng 29 a 30 miliwn, fel nad oes genym yn y wlad hon ond un person allan o bob 29 o eneidiau t hawl ganddo i bleidleiaio dros aelod i Dk y Cyffredin. Gadewch i ni geisio gwneyd hyn yn hollol eglur i bob un o honoch, Meddyliwch pe bai yn bosibl i ni gasglu at ett gilydd holl drigolion y Deyrnas Gyfunol, byddai iddynt gyda'u gilydd orchuddio arwynebedd 9 1,567 o erwau o dir. Yn awr, byddai i 1,500 0 erwau osod allan yn gywir y rhan hono o fobl J wlad hon v rhai nid oes hawlganddynt i bleidleisio, tra y byddai y 67 erw fyddai ar ol yn dangos y rhan sydd a llais ganddynt yn bresenol yn etholiad aelodau i'r Senedd i wneyd ein cyfreithiau. (Cym- meradwyaeth). A ydyw yn iawn i feddwl am fynyd fod hyn yn gynnrychioliad teg o'r bobl ? Onid yw yn annghysson, annghyfiawn, a chrett- lawu ? Yn ddiau, mae enwi y cyntaf yn ddi. gonol i argyhoeddi yr ystyriol. (Uchel gym- meradwyaeth). A ydyw yn deg a chyfiawn i gyfyngu yr etholfraint i lai na 4 per cent. o bobl. ogaeth y deyrnas hon ? Etto. pe meddyliem fod pob un o'r 1,100,000, pa rai ydynt ar y rhestr, yn benau teulu oedd—yr hyn nid ydynt mewn gwir" ionedd—ond tybiwn hyny am fynyd yna, gailwa osod i lawr y byddai iddynt hwy gynnrychioli eu hunain, eu gwragedd, eu plant, s'u gweision teula. aidd, pan yn defnyddio vr hawl i bleidleisio ond hyd y nod we'd'yn, byddem yn gidael 5,000,000 0 deuluoedd heb eu cynnrychioli o gwbl. Neu, dywedwch y byddai i'r 1,100.000 etholwyr hyn i gynnrychioli 5,500,000 o eneidiau mewn etholiad pennodedig etto, y mae genym v ffaith bwysig y byddai 25,500,000 wedi eu cau allan yn hollol oddiwrth ragorfreintiau yr Etholfraint. Credwyfj fonf-ddigion, fod chwareu têg, gonestrwydd cyff- redin, a chyfiawnder noeth, yn galw am helaeth- iad yr Etholfraint. (Cymmeradwyaeth). Heb fyned yn bresenol i ymresymu dros nac yn erbyn platform Llundain am etholfraint i bob dyn mewn oedran, neu dros gyhoeddiad Manchester am etholfraint bleidleisiol eglur, neu droe y cynllun cynnygiedig gan rhyw gyfeillion yn Birmingham neu Newcastle-upon Tyne, mae yn amlwg fod yn rhaid i gryn helaethiad gymmeryd lie. Yr wyf yn ystyried m wna dim yn fyr o £10 rentdal yn y siroedd, a £5 yn y bwrdeisdrefi, gyfarfod a galw- adau yr achos. (Cymmeradwyaeth). O'm rhan fy hun, awn yn mhellach, a dywedwn y dylai pob dyn sydd a'i enw ar y treth-lyfrau, wedi byw 12 mis yn yr un district etholiadol, ac yn gwbl rhydd oddiwrth drosedd, gael pleidlais. Byddai hyn yn gyfiawn a gonest i'r gweithiwr sydd yn talu ei ran er cynnal anrhydedd ac urddas ei wlad. Ond, mae y gofyniad yn dod, A ddylai y cyfoeth hwn, a'r wybodaeth hon, fod vn sylfaen cynnrychiol- iad ? Hyd y nod ar y cyfrif hyn, ai ddylai y dyn gweithgar gael ei gau allan oddiwrth y fraint o gael pleidlais. Gyda golwg ar gyfoeth y wlad, cymmerwn Dt yr Arglwyddi. (Gosododd Mr. Bowden ofyniad i mewn yn y fan yma, yr hwn a foddwyd gan dwrf mawr y gynnulleidfa). Efallai mai yn hwn y mae y corff mwyaf cvfoethog o bobl yn yr holl fyd. Mae un o awdurdod digonol, wedi ymchwil- iad manwl, wedi gosod i lawr gylli<? blynyddol Ty yr Arglwyddi yn £11,000.000; ond i fod yn gwbl sicr, gadewch i ni ddyblu y swm uchod, ac i osod swm anfeithol Ty yr Arglwyddi yn ^22,000,000; yna, cymmerwch ochr arall y gofyniad. Mae yr un awdurdod wedi gosod swm cyllid blynyddol dosparth gweithiol y wlad hon yn £ 250,000,000; ond i fod yn gwbl sicr ar y pen hwn etto, ni a'i tynwn i lawr i'r banner, a'i ystyr- ied yn £ 125,000,000; felly, mae cyllid y dosparth gweithiol yn y man lleiaf yn ddeg cymmaint ag eiddo Ty yr Arglwyddi. (Uchel gymmeradwyaeth) Felly, os mai eiddo, neu gyfoeth, sydd i fod fa sail i'r etholfraint. y dosparth gweithiol, sydd yn dM fwyaf o e-ddo, ddylai "fei chael. Edrychweh ar y trethi a delir gan wahanol ddosp-irthiadau yn y wlad hon, a chawn weled mai y gweithiwr. o bawb dynion, sydd yn talu y trethi trymaf. Mae yn