Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

COFFADWRIAETH AM Y PARCH.…

News
Cite
Share

COFFADWRIAETH AM Y PARCH. D. JONES, CENDL. MAB ydoedd Mr. Jones i'r Parch. D. Jones (ac Ann ei wraig), gweinidog eglwys yr Anni- bynwyr yn yr Efailfach, lie a saif rhwng Pontrhydyfen a Chastellnedd. Ganwyd ein brawd ymadawedig yn mis Mawrth, 1837, mewn fferm o'r enw Ffynnonlwyd, yn agos i Benrhiwgoch, swydd Gaerfyrddin, Pan yn fachgen, yr oedd yn un o'r rhai mwyaf byw- iog ac iacbus, a llawer o awydd ac ymdrech ynddo i gyrhaedd dysgeidiaeth a gwybodaeth. Ymddengys fod cyflwr ei enaid, hawliau car- iad Iesu Grist, a'i ddyledswydd i'w wasan- aethu, yn ymwneyd llawer a'i feddwl pan yn drSl. ieuanc. Y pethau hyn sydd yn rhoddi cyfrif am ei fywyd moesol cyn iddo ddechreu byw yn grefyddol, os nad hyn oedd dechreu y bywyd hwnw, yr hwn a ddadblygodd ei hun o radd i radd, hyd nes y daeth yn ddigon cryf i ddylanwadu arno i ddwyn yr iau, i godi y groes, a dilyn Mab Duw mewn proffes gyhoeddus. Chwiliodd Air Duw—barnodd drosto ei bun; a'r canlyniad fu, pan tua 15 mlwydd oed, iddo ymuno âg eglwys y Bed- yddwyr yn Nhreforris a bedvddiwyd ef gan y Parch. B. Watkins, gweinidog y lie ar y pryd. Peiriannydd (engineer) oedd ein brawd wrth ei alwedigaetb, a bu am rai blynyddau yn gweithio engine berth vnol i bwll glo o eiddo ei dad, yn nghymmydogaeth Treforris. Ond pan oedd ef tua deunaw mlwydd oed, rhodd- odd Rhagluniaeth dro mewn cyssylltiad a'r teulu a'r canlyniad o hyn fu, i'w rieni a'r holl deulu symud i Gwmafon. Fel peirian- nydd, yr oedd ein brawd yn dra medrus; oblegid wedi iddo ddyfod i Gwmafon, ym- ddiriedwyd iddo fanagement un o'r peiriannau vn y lie. Dilynodd yr alwedigaeUi hon yn Nghwmafon am tua phum mlynedd, sef hyd tua diwedd 1859, pryd v dechreuodd bre- gethu yr efengyl, ac y rhoddodd heibio ei alwedigaeth fel peiriannydd, er mwyn rhag- barotoi er cael derbyniad yn fyfyriwr i Ath- rofa Pontypwl. Bu am tua blwvddyn yn ddiwyd a llafurus yn gloewi ei hun yn y gwahanol ganghenau* o wybodaeth, &c., ag oedd yn angenrheidiol er cael derbyniad i mewn i'r Athrofa, yr hyn a gymmerodd le tua diwedd y flwyddyn 1860. Cyn ei fyned- iad i'r Athrofa, byddai yn fynych, wrth angen, yn pregethu yn ei eglwys gartref, ac yn ngwahanol eglwysi y gymmydogaeth, yr hyn a wnai gyda llawer o gymmeradwyaeth. Treuliodd dair blynedd yn yr Athrofa yn ymdrechol a llwyddiannus; a gwnreth ddefnydd da o'i fanteision. Tra yno, enmll- odd barch, ymddiried, a chyfeillgarwch ei athrawon parchus, a'i gydfyfyrwyr. Yr oedd ynddo lawer o awydd i dreulio pedair blynedd yn yr Athrofa, a myned i weinidog- aethu i bEth y Saeson ond ofnai y buasai ei nerth coriforol yn pallu, oblegid nid oedd yn teimlo yn gryf, ac nid oedd ei iechyd y peth y dymunasai iddo fod er ys rhai blynyddau acni ddarfu i dair blynedd o efrydiaeth yn yr Athrofa wella dim arno. Tybiai y buasai y weinidogaeth yn fwy ffafriol i'w iechyd nar Athrofa; a hyn fu yr achos iddo beidio gwneydcais am flwyddyn arall i fwynhau manteision athrofaol. Y canlyniad fu, iddo ar ddiwedd y nwyddyn 1863, dderbyn galwo,d unfrydol yr eglwys Fedyddiedig yn y Cendl, swydd Fynwy. Neillduwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth y Sabboth a'r Llun olaf u_ yn Rhagfyr, 1863; a bu yno yn gweinidog- aethu gyda Ilawer o raddau o lwyddiant, yn nghyd S chymmeradwyaeth mawr, hyd nes y methodd gan afiechyd. Bu yn hynod isel ac yn annhebyg iawn i wella tua chanol yr haf diweddaf; ond adgyfnerthodd ychydig. Yn mis Medi, argymmerodd wedi hvny a'i lafur yn maes ei weinidogaeth yn y Cendl; a mawr oedd llawenydd a diolchgarwch y frawdol- iaeth o'i gael drachefn i'w plith i gyhoeddi o'r areithfa anchwiliadwy olud gras. Yr oedd eu teimladau yn awr yn ail i deimladau Mair a Martha, pan gawsant Lazarus yn ol o'r bedd. Yr oeddynt bron wedi ei roddi i fyny a phan ddaeth i'w plith wedi hyny, gyda chyflawnder bendith efengyl y tangnefedd, yr oedd eu llawenydd tuhwnt i ddesgrifiad oblegid yr oedd Mr. Jones, yn ystyr helaethaf y gair, "yn mynwes ei eglwys." Ond nid hir y mwynhawyd y tawelwch bwn ar ol y dymhestl; dychwelodd y cymylau ar ol y gwlaw. Er mor gryf ei awydd a'i bender- fyniad i ddilyn a pharhau yn ei waith, aeth afiechyd yn gryfach na'r oil. Pregethodd yn y Cendl y waith ddiweddaf am byth y Sabboth cyntaf yn mis Tachwedd. Dychwel- odd ddiwedd yr wythnos hono adref i Gwm- afon. Dangosodd barodrwydd, yn hytrach mwy nag arfer, i bregethu yn N ghwmafon y nos Sabboth canlynol, yr hyn a wnaeth ar ymlyniad Ruth wrth Naomi, yn hynod dodd- edig ac effeithiol, ond yn fyrach, a chyda llai o nerth nag arfer. Teimlai ei hen gyfeillion yn ddwys o herwydd ei olwg wywedig a llei- had ei nerth ond nid oedd ef yn meddwl, ac nid oedd ond ychydig ereill yn meddwl, mai dyma y tro olaf iddo bregethu. Ond felly y bu seliwyd i fyny ei weimdogaetbi am byth nos Sabboth, y 12fed o Dachwedd. Ni phregethodd air byth mwyach. Y man y pregethodd ei bregeth gyntaf y pregethodd ei bregeth ddiweddaf; diosgwyd ef o'r arf- ogaeth weinidogaethol yn y man y gwisgodd hi. Y darfodedigaeth-y clefyd twyllodrus hwnw--oedd ei afiechyd; ac er ei fod yn gwaethygu yn raddo!, etto bwriadai wella a phregethu Crist, a hwnw wedi ei groeshoelio, am flynyddoedd etto i ddod. Ond yr oedd yn amlwg ei fod yn gwaethygu bron bob dydd-ei fod yn agosbau yn gyflym tua'r terfyn. Dyoddefodd lawer yn nghorff v dyddiau olaf y bu fyw; ond yr oedd yn am. yneddgar, ac ymostyngai yn ewyllysgar o dan alluog law Duw. Yr oedd wedi credu nad oedd gwella mwy yr ochr hyn-mai ymadael oedd raid ac arforeu dydd Llun, Ion. 15fed, hunodd yn dawel yn yr Iesu. Claddwyd ef y dydd Iau canlynol, pryd y daeth torf luosog yn nghyd, yn mhlith y rhai yr oedd tua phumtheg o weinidogion. Darlienwyd a gweddiwyd wrth v ty gan y Parch. D. Phillips, Pontrhydyfen. Yn y capel, darllenwyd a gweddiwyd gan y Parch. W. Roberts, Blaenau; a phregethwyd gan y Parch. R. Hughes, Maesteg; a'r nos Sul ganlynol, pregethodd yr ysgrifenydd ei bre- geth angladdol (yn y capel y dechreuodd ac y dibenodd ef bregethu) i gapelaid gorlawn o bobl, oddiwrth y geiriau canlynol:—"Ac mi a glywais lef o'r nef yn dywedyd wrthyf, Ysgrifena, Gwyn eu byd y meirw y rhai sydd yn marw yn yr Ar^rlwydd, o hyn allan, medd yr Ysbryd, fel y gorphwysont oddiwrth eu llafur; a'u gweithredoedd sydd yn eu canlyn hwynt." Yr oedd ein brawd anwyl yn gwneyd mwy o ddarllen yn fanwl nag o ddarllen llawer, yr hyn oedd yn rhinwedd ynddo, ac yn fantais iddo. Byddai vn corff- ori yn ei feddwl sylwedd y llyfr a ddarllenai. Yr oedd yn bregethwr da a defnyddiol, ac yn lied boblogaidd, a hyny heb wneuthur dim cam a barn gywir, ac a chwaeth goethedig. Nid hir y byddai heb adnabod dyn, a ffurfio barn gywir am dano. Yr oedd ganddo barch mawr i grefydd a'i hegwyddorion, yn nghyd a rhinwedd o bob math; ac yn ol cymmaint ag a welai ddyn yn feddiannu o'r pethau hyn, y byddai ei barch tuag ato, a'i ymddiried ynddo. Yr oedd y farn, y symad, a'r eg- wyddor yma yn ei gynnysgaethu i fod yn fugail da i eglwys, ac yn weinidog da i Iesu Gr st. Yr oedd yn gyfaill cywir a ffyddlon. Nid oedd byth yn frysiog i wneyd cyfaill. Yr hyn a wneir yn frysiog, y mae yn gyffredin yn darfod yn frysiog hefyd. Cymmerai Jones bwyll i wnevd cyfaill, fel na fyddai eisieu ei newid. Y rhai a wnaed ganddo yn gyfeillion iddo, buout felly hyd y diwedd. Yr oedd ganddo olwg fawr ar ei eglwys, a chan ei eglwys olwg fawr arno yntau. Er ei fod yn gwybod fod y He yn niweidiol i'w iechvd, etto yr oedd yr anwvldeb a goleddai, at bobl ei ofal gymmaint, fel nas gwyddai pa fodd i ymadael a hwy, a dewis ereill yn eu lle. Yr oedd ei eglwys mor barchus iddo, fel y darfu iddynt adeiladu ty iddo; ond rhwystrodd angeu ef i gael byw ynddo; ac an- rhegasant ef athua deunaw punt cyn pen dwy flynedd wedi ei sefydlu yn eu plith,—amser digon hir i'w cariad oeri, a digon hir i brofi mai un parhaus ydoedd myned ar gynnydd yr oedd o hyd rhyngddynt. Yr oedd ei gymmeriad moesol yn ddifrychau, a'i ofal am dano yn nesaf petn at ei ofal am ei enaid ei hun. Ystyriai fod ei lwyddiant a'i ddefnyddioldeb iachos eiGeidwad 1 raddau helaeth yn ymddibynu ar hyn. Y mae bron yr oil o werth crefydd dyn iddo ei hun yn ymddibynu ar yr hyn ydyw yn bersonol rhyngddo a Duw a holl werth ei grefydd i ereill vn ymddibynu ar ei ymddygiadau a'i gyfiawniadau cyhoeddus. Er fod ein brawd fel blodeuyn wedi gwywo, etto y mae arogl hyfryd ar ei ol yn mhob man lie y bu. Bwriadai ef gyflawnu llawer o waith mewn blvnyddan i ddod, a dysgwyliai ereill iddo wneyd hyny. Ond dyryswyd y cynlluniau, ac aeth v bwriadau yn ddrylliau. Cwymp- odd ar ei uchelfanau; ond os cwympodd, cvfympodd i godi, a chodi yn uwch ac yn well. Cynlluniau dynion a ddyryswyd-ddy. rvswyd dim ar gynlluniau mawrion Duw. Yr oedd ei symudiad (i ni, anamserol) yn gwneyd i fyny ran o gynllun a chynghor an- nhoredig yr Anfeidrol. Mae yn awr yn gorphwys oddiwrth ei lafur, a'i weithredoedd yn ei ganlyn ef. Ystyr y perffaith, ac edrych ar yr uniawn canys diwedd y gwr hwnw fydd tangnefedd." Bydded i Dduw godi llawer o ddynion ieuainc tebyg i'n brawd hoff ag y mae wedi gymmeryd ato ei hun. Cwmafon. J. ROWLANDS.

. LLITH 0 LANBERIS.

BEIRNIADAETH C YF AN 30 DDIADAtT…

:-Cglttttjsstg.