Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Y TABERNACL, CAERDYDD.

News
Cite
Share

Y TABERNACL, CAERDYDD. TTN o'r pethau mwyaf dymunol genym ni, yn niwedd yr hen flwyddyti, oedd cymmeryd Than yn ngwasanaeth agoriadol y Taber- nacl yn ei agwedd newydd. Yr oeddem yn y dref yn gynnar prydnawn dydd Mawrth, 7 26ain o fis Rhagfyr, ac o dan wa- lioddiad i gartrefu gyda y foneddiges oedranus a'r chwaer anwyl, Mrs. Williams, a'i mab caredig Mr. Phillip Williams, o'r "Wellington Terrace ae yn nghwmoi Mr. Pbiiiip Williams, aethom yn y prydnawn i gael golwg ar y Tabernacl o'r tufewn. Ein teimlad cyntaf, wedi mwynhau yr olygfa, cedd syndod a rhyfeddod, ac yna, nis gallem lai nag ocheneidio ein diolcbgarwch calonog i Dduw am yr olygfa fawreddog, ond tlws a phrydferth, ag oeddem yn ei gael ar y tf newydd, neu, yn hytrach, yr hen dy yn ei agwedd newydd. Cymmcrasom ddigon o fcwyll—yr oedd genym awr i'w hebgor—i fyned trwy y capel yn fanwl a gofalus, gan edryeh arno yn ei boll ranau a llygad crefftwr, ac a llygad pregethwr. Buom yn y pwlpud, yn eistedd yn ycorau ar y llawr, ar yr orielau, ac yn mhob congl, er gweled y cyfleusderau darparedig i'r gwrandawwyr. Aethom trwy yr ysgol-ystafelloedd eang a gwasanaethgar, y ddwywisglelai tucefn i'r esgynlawr, gwir ddefhyddiol a chyfleus ac Wedi treulio yr awr fel hyn, ein barn gyd- Wybodol ni oedd hyn Mai y Tabernacl, Caerdydd, yw y capel mwyaf hardd, mwyaf eadarn, mwyaf rhad, ac yn mhob ystyr o'r gair, y mwyaf cyfleus yn Nghymru. Dyma ein barn bwyllog a diduedd ni, a hyn hefyd wedi gweled yr oil o'r capeli goreu yn y dywysogaeth. Mae y Tabernacl yn glod ftiawr i Mr. Thomas, a'r eglw^lxbarchus sydd o dan ei ofal: tra y mae y Tabernacl, fel un o adeiladau cyhoeddus y dref, yn an- rhydedd i Gaerdydd, ac yn ogoniant i An- nghydffurfiaeth yn Morganwg, ac ynUefaru yn uchel am nerth y gyfundrefn wirfoddol gyda chrefydd yn Nghymru. Dealiasom fod Mr. Thomas, y gweinidog parchus, wedi bod yn traddodi pregeth yn y deml newydd ar ddydd Nadolig. Yr oedd hyn yn gwbl naturiol, ac yn ei le ac yo y dyddiau canlynol, yr oedd y gweinidog a'r eglwys wedi gwahodd nifer o ddyeithr- aid i gymmeryd rhan gyda hwynt i gydna- ood Haw yr Arglwydd am ei ddaioni iddynt fel eglwys, ac i gyhoeddi y "newyddion da" i bechaduriaid yn yr adeilad newydd. Yr oeddem ni wedi mwynhau ein hunain lawer gwaith yn yr hen dy a theimlem fath o foddbad mai ni oedd y cyntaf oddiallan i gylch yr eglwys a gafodd bregethu yn y ty newydd. Gan nad deddem yn dewis ymddiried i'n leof am amryw o'r manylion a garasem osod 1 lawr yn nglyn a hanes yr agoriad, gofyn- asont i gyfaill i roddi i ni hanes byr o'r gwasanaeth, gvda maintioli a chost yr ad- eilad, a phethau ereill o gryn ddyddordeb perthynol i'r capel newydd. Mae yn dda genym allu rhoddi yr hanes canlynol fel y daeth i'n Haw

ADAGORIAD Y TABERNACL, CAERDYDD.

ADDYSG DEULUAIDD.