Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

,RHYS LLEWELYN,

News
Cite
Share

RHYS LLEWELYN, Y BACHGEN AMBDIFAD. PENNOD VIIT. Wedi llyncu ychydig lwyeidiau o sucan llwyd wedi ei felusu, a chael gorphwvs tua hanner awr, aeth yr hen ddynes yn mlaen a'r chwedl fel y canlvn Deallodd gwraig v ty wrth fy ngwedd pa fodd yr oedd pethau yn bod, a cheisiais yn dirion fy nghysuro; ond i ddim dyben—nid oeddwn yn gweled nac yn clywed fel cynt. Gwahoddwvd fi lit v bwrdd i foreu-fwvd—eis- teddais wrth benlin yr hen wraig—ond ychydig a fwyteais. Cefais fod Wil wedi talu am ein He, ac hyd y nod am fy mwyd y boreu hwnw. Aethum allan i'r heol, n'm basged bychan ar fy mraich,-ni wyddwn yn y bpi pa le i droi. Yr oedd gwerth tua deg swllt yn fy masged, a thair a dimai o arian cochion yn fy llogell. Crwydrais yma a thraw, gan alw mewn ambell dy, ond yr wyf yn meddwl mai gwerth grot a werthais trwy y dydd. Pan oedd yr haul wedi machludo, a'r tywyllwch yn tewhau arnaf ar y mynydd rhwng Dowlais a Rhymni, a minnau yn ymsymud yn araf a phendrwm, gan sychu fy nagrau yn fynych, clywwn drwst r, cerddediad dyn, ac yn sydyn, safodd codais fy llygaid i fyny, a braidd na syrthiais mewn Uewyg wrth weled yn sefyll o fy mlaen y dyn talaf, debygwn, ar a welswn yn fy mywyd. Cawr palfog mawr, garw, melyn, digon cryf, yn ol fy nychymmyg I, i ddwyn banner dwsin o'm bath yn ei logellau, heb fed yn un rhwystr iddo ar ei daitb. Yr oeddwn yn dechreu ym- symud tua'r naill ochr, er mwyn rhoddi lIe iddo fyned heibio, pan, yn lie myned yn ei flaen, trodd ataf, edrychodd yn fy ngwyneb gyda gwen dadaidd, ymaflodd yn fylIaw, a gofynodd i mi, mewn ton dirion a serchogaidd (yn Saes- neg), paham y wylwn? Gwasgodd fy Haw yn galed, fel arwydd, debygwn, nas gollyngai nes ravne^wn iddo fy helynt; a chyn pen pum mvnyd, yr oedd wedi cael talfyriad mor gryno ,1g a allais o fy holl helynt a'm trafferthioll- pa faint o arian ac o werth oedd yn fy medd- iant, a pha mor ddigaljn yr oeddwn i wynebu ar y byd." "Wel," ebe'r hen wr, "y mae'n ddrwg genyf dy anffawd, wraig ieuanc, ond yr wyt wedi cael anrhydedd beno na chefaist erioed o'r blaen, ac na chawsit yn dy fywyd ychwaith, feallai, oni buasai i'r gwr dy adael. Yr wyt wedi cael siglo llaw a Brenin, ac os deui di gyda fi, ti gei gysgu heno gydag un o fetched v brenin, yn fy mhalas. Paid dychrynu, ferch, nid hrenin Lloegr ydwyf, felly, ni raid i ti gerdded na marchogaeth i Lundain er cael golwg ar fy mhalas brenin y Shipswn wyf fi, ac v mae fy mhalas tua hanner mitltir oddiyma ar odre y twyn draw. Dere gyda 6, a thi gei le diogel a chysurus i orphwys, a llonaid dy fola o fwyd o'r fath ag a fwyteir genym ni, a thi elli weled wrthyf fi ei fod yn fwyd cryf ac iachus, yn cynnyrchu praffder aelodau, a nerth cyhyrol. Byddi lawn mor ddiogel, os nid mwy diogel, yn mhob ystyr, dan ganvas y gipsies, a phe byddet yn mhalas mawr costus Westminster, yn Llundain. Cei gysgu gyda fy nwy ferch I heno, ac yfory dangoswn i ti pa fodd yr ydym ni yn ffusto ein ffordd trwy yr hen fyd twm- pathog yma." Braidd," meddai yr hen ddynes, na pharodd dull yr hen wr o draddodi ei lith i mi annghofio fy holl ofid. Aethum gydag ef tua'i babell-buríl gyda hwy bythefnos, ac yn hyd y pytliefnos hyny, daethutn i goleddu meddwl hollol wahanol am y Shipshwn i'r hyn a gol- eddwn o'r blaen. Gwelais a phrofais fod y erwyuriaid hyn yn feddiannol ar brif deithi da y natur ddynol. Yr oedd rheoleiddiwch a threfn y teulu, a'r teimladau da a charedi.; a ddangosent at eu gilydd, ae ataf finnau, y fath ag a barai gywilydd i deuluoedd uwch eu hon- iadau. 0 hyny allan, pa le bynag y clywwn fod tent gan y Shipshwn, awn yno er gweled a oedd fy hen gymmwynaswr yno neu peidio. Daethum yn gydnabYIldus ag amryw dellluoedd o honynt, a daethant hwythau yn gyfarwydd a hanes fy ymweliad a'r teulu breninol. Tair gwaith y cefais yr anrhydedd o gyfarfod a'r teulu yma wedi y tro hwnw gyda'r hen wr, a'r trydydd waith yr oedd yr hen frenin wedi myned i ffordd yr boll ddaear, ac ar y dydd yr ymwelais â hwy yr oedd y ferch iellaf-Leena- mewn gwewyr esgor. Dywedodd yr hen frenines weddw wrthyf, idd ei inerch er ys tua deuddeg mis yn ol gvfarfod a dyn ieuanc o Gymro-mab grinder o Ddeheudir Cyt-nra-ac iddi, yn groes i gynghor ei rhieni, ei briodi ef, a'i fod wedi bod am tua chwech mis gyda hwy, heb wneuthur ond ychydig tuag at gynnal- iaeth ei hunan na'i wraig, oblegid ei fod yn gwario bron pob ceiniog a ennillai ar wirodydd poethion, ac iddo, yn mhen tua chwech mis wedi priod% fyned allan, yn ol ei arfer, a meddwi, ac iddo, wrth ddyfod adref, orwedd a chysgu yn ytnyl nant fechan, yn nghysgod y "I Ilwyn o wern, mewn man corsog. Iddo gael y fath anwyd y nos hono, fel na fu byw ond dau fis wedi hyny, ac mai cynnyrch y briodas an- hnpus hono, wrth yr argoelion presenol, fyddai yn foddion i ddwyn bywyd ei merch anwyl. Gwiriwyd ofnau yr hen wraig, oblegid yn mhen oddeutu awr wedi rhoddi genedigaeth i fab, bu farw Leena, rhwng naw a deg o'r gloch y nos. Yr oedd clywed mai Cymro o'r enw William Simmons oedd gwr y ferch, wedi peru i fy nghalon guro yn amlach a thrymach nag y gwnaethai ar yr hwyr y cyfarfuaswn a thad y ferch anffodus ir fynydd Rhyinni. Gofynais i'r hen wraig a wyddai am rhyw nod neill(luol ar gorff ei mab-yn-nghyfraith, i'r hyn yr ateh- odd fod man glas, fel llun peren (pear), ar ei ysgwydd ddeau, yr hyn a roddodd sicrwydd i mi mai fy ngwr anffyddlon I oedd wedi tra- llodi y teulu dedwydd hwn. Ond, er a deim- laswn o siomedigaeth oddiwrtho, ac er yr holl gam a wnaethai a'r teulu caredig hwn, yr oedd fy nghalon yn llosgi o gariad ato, a theimlwn hiraeth dwys ar ei ol. Gofynais am ei fedd, fel y gallwn fyned i'w gyssegru a fy nagrau ond nid oedd hysbysrwydd i'w gael am fan ei fedd. Yna meddyliais am gymmervd at ei blentyn, a'i fagu er ei fwyn; a cban fod mah, a mab- yn-nghyfraih arall yr hen frenines weddw alarus, dipyn yn gornchwith (fel v dywedir yn achos y ferch anffodus), llwyddais i'w gael, ac yn fy mrys, troais ef mewn darn o frethyn Ilwyd, ac ymaith ag ef yr awr hono o'r nos, fel gwallgofddyn, heb ystyried y ffolineb oeddwn yn ei gyflawnu. Yr oedd yr hen wraig wedi dywedyd wrthyf y cawn yr oil o'r llieiniau a'r dillad bychain a ddarparasai ei merch ar gyfer y baban, ond i mi aros ychydig oriau ond brysiais ymaith heb ddim. Ar yr hen bit cols sydd ar odre Gwern y Gilfach, tua milltir a hanner oddiwrth eicb ty chwi, yr oedd y tent. Wedi i mi fyned allan i'r llwybr, teimlais yn edifar gymmeryd o honof y baban; ond nid oedd ynof ddigon o wroldeb i fyned ag ef yn ol i'r babell, a bum am tua deng mynyd yn sefyll fel post, ac yn methu dyfalu pa beth a wnawn; a'r penderfyniad a wu aethum yn y diwedd oedd, ei ddodi yn eich ty copyn chwi; ac felly y bu, a gwyddoch y eanlyniad." Caed yr adroddiad maith yma gan yr hen ¡ Nansi ar dair gwaith neu bedair yn hyd yr un diwrnod; ond yr oedd ei nerth wedi diflanu i'r fath raddau erbyn hyn, fel yr ofnwyd y buasai farw y nos hono. Yr oedd wedi dyw- edyd digon i glirio Shan Diryffynnon, ond heb roddi un awgrym pa beth ddaethai o'r bachgen wedi iddo ymadael o'r lie yn ei chyfeillaeh hi, bum tnlynedd ar huiiain ynol. Cysgodd yddynes glaf rhwng tair a phedair awr yn go esmwyth y nos hono, ac yr oedd yn llawer gwell pan gododd pobl y ty boreu dranoeth.

-.------.---....--------...--.-,",--CON…

A. S. DROS ABERHONDDU.

ETHOLIAD ABERHONDDU.

AT MR. THOMAS DAVIES (EOS…