Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

AMERICA.

^ FFRAINC.

POLAND.

CHINA.

News
Cite
Share

CHINA. A ganlyn sydd ddyfyniad o'r Overland China Mail am y laf o Rhagfyr :—" Y mae pob peth yn dawel yn Pekin. Ni dderbyniwyd un newydd o bwys o'r tri phorthladd gogleddol. Gyda golwg ar y Gwrthryf- elwyr, bysbysir fod brwydr wedi ei hymladd yn Pao- Kong. Gan fod y Milwriad Burgevene (olynydd Ward) wedi clywed fod gallu mawr o'r gwrthryfelwyr yn gwersyllu yn y cyfeirlad hwnw, efe a aeth yn mlaen gyda 1,000 o'r Chineaid addysgiedig ary 12fed o Dachwedd, i chwilio am y gelyn. Wedi cyrhaedd i Pao-Kong, cafwyd fod oddeutu 10,000 o'r Gwrthryfelwyr yn gwersyllu mewn gwrthglodd- iau crvfion. Ni wnaed dim ar y diwrnod hwnw, ond dranoeth rhoddwyd pedwar magnel a dau forter mewn sefyllfa, a chariwyd y lie ar ol ymladd am un awr. Arweinid y fintai i ystormio y lie gan swyddog Chi- neaidd ieuanc o'r enw Wong-ee-poo, i'r hwn y cyf- lwynasai y Llyngesydd Hope gleddyf am ei wroldeb. Modd bynag clwyfwyd y swyddog ieuanc hwn yn farwol. Lladdwyd y penaeth gwrthryfelgar, Wo- wang, ar ol iddo hefyd gasglu ei wyr amryw weithiau. Colled y gwrthryfelwyr oedd 2,300 o laddedigion, a cholled y Milwriad Burgevene oedd pump o laddedigion, a 15 o glwyfedigion. Hwn yw yr arddangosiad mwyaf effeithiol a wnaed etto gan filwyr Chiueaidd digymhorth, ac y mae yn cadarnbau yr opiniwn a amlygwyd gan bron bob swyddog Seisnig a wasanaethasant yn y gogledd yn ystod rhyfelgyrch 1860, y gwnai y Chineaid filwyr rhagorol pe derbynient addysg filwraidd briodol. 0

MARK-LANE. LLUNDAIN.

MAUCHNADOEDD CYMREIG.

PRISOEDD Y METELOEDD, &c.

Advertising

PRWSIA.

ADOLYGIAD AR FASNACH YR YD.