Hide Articles List

5 articles on this Page

EISTEDDFOD BULAH, CWMTWRCH.

ffiongl lit (f)fvm4mad.

.CAN 0 GLOD

UN ARALL AR YR UN TESTUN.

STOCKTON.

News
Cite
Share

"barn pawb sydd yn fy adnabod ydyw fod fy moesau yn afiacli. Syr, beth oedd barn y rhan luosocaf yn Middlesbro y Llun di- weddaf am eich ymosodiad arnaf ? Dyna ddigon 1 chwi. Ond at y pwnc, fel y dywedwch. Dywedwch fod yr Annibynwyr yn Stockton, a Mr. Jones yn Middlesbro, yn alluog i amddiffyn -eu hunain os byddant yn ewyllysio. Pwy.'amdditfyn sydd gan- ddynt i wneyd mwy na chwithau ? 'Does dim modd troi gwirionedd yn ol. Un cadarn yw. Er mwyn eich hysbysu, y mae yr Annibynwyr yma yn gallach na chwi o lawer-eyd. nabyddant iddynt fod yn fyrbwyll a beius. Dyna bob peth drosodd mewn cyssylltiad a hwy. Maent yn gymmydogion oesaf i mi, a pharchwn ein gilydd fel y cyfryw. Er mwyn cael tipyn rhagor o esboniad pellach ar y mater dan sylw, ewch at y Parch. B. James, Mid ilesbro y mae yn gweithio yn yr un gwaith a chwi; ac nid wyf yn meddwl y troseddwch un ddeddf yn y byd wrth gael ymgomiad ag ef. Gofynwch yn 1. Beth oedd vr achos iddo beidio pregethu yn nhy Annibynwr yma ar un nus Sabboth nodedig? ac yn 2. Beth yw y rheswm na ddaeth yma byth wedi hyny? Gwir ddll ddw'r bob amser â âymddygodii Mr. Jam-s yn Fedyddiwr trwyadl yn yr am- gylchiad ond am danoch chwi, buoch yn wasaidd i'r Anni- bynwyr, a hyny ar draul mathru egwyddorion y Bedyddwyr. Buasai yma eglwys gan y Bedyddwyr heddyw, oni bai annoeth ineb a chlepyddiaeth. Treiwch ddod allan o'r rhwyd a wau. asoch eicb hun trwy grio anwybodaeth. Ni wna ateb. Onid ydych yn C"fio i mi grefu arnoch ar fwrdd yr agerfad rhmig ^Stockton a Middlesbro am beidio dod i Stockton wedi hyny i -bregethn at yr Annibynwyr hyd nes y clywech oddiwrthyf ? .Ar y pryd addawsoch beidio. Ond dyfod a wnaethoch. Nid -oeddech yn anwybodus o'r Bedyddwyr sydd yma pan y buoch yn casglu at gapel Beaumaris, Mon, gyda y Parch. T. Davies. Cyfeiriwci bump o ofyniadau ataf. A ganlyn ydyw yr -atebion :âMae yr ysgoldy He bu y B-dyddwyr gonest yn cyn- nal eu hyssjol y tri mis diweddaf yn No. 11, Caroline street, Rupert Buildings. Dynion oeddynt yn alluog i wneyd hyny ddarfu ei sefydlu. Credent yn ngrym yr hen addewid hono, Yn mha le bynag y bydd dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw I, yno y byddaf yn y canoL" Mae yma aelodau o Gymru o wahanol fanau, megys Pontypwl, Risca, Ponthir, a Plionty- pridd ac-os oes awydd arnoch am eu gweled a gwybod eu henwau, deuwch i'r lan, a mi a'ch arweiniaf i'w tai, a dios genyf y byddant yn barod i gydsynio a'ch cais, ae hefyd i y roddi rheswm am y gobaith da sydd ynddynt. Beth waeth yn mha le yr oeddynt yn aelodau o'r blaen Mae Ilawer iawn o'r Cymry yn cael eu taflu yn ol yn bur bell we.;i dyfod i fyuy i'r Gogledd yma, fel nas gallant fod fel ag y dymunant. A oedd gan y Cristionogion hyn ddim awdurdod i ddangos eu hochr, yn lie bod fel chwi yn was bach i'r Annibynwyr ? Cewch glywed oddiwrth rai o honynt yn y SEttEN nesaf. Byddwch yn fwy manwl efo darlleniad y llythyrhwn na'r un o'r blaen ni ddartu i mi grybwyll dim a rwystrai Mr. T. Mathews. Doethineb ac nid rhwystrau oedd yn y SEREN, gan fod yn Middlesbro ddynion wedi cael cymmaint o rwystrau ag yntau. 0 berthynas i'ch awgrym i Gymmanfa i anfon cyffeiriau i mi rhag fy marw, boed hysbys i chwi nad oes angen eich cyffeiriau chwi nac unrhyw Gymmanfa yn y byd arnaf i fyw nac i farw, gan fod yn fy meddiant egwyddorion byw ag sydd yn peru i mi ehedeg uwchlaw dynion, ac i edrych gydl>'r gwawd a'r dirmyg mwyaf ar gorachod ag sydd yn ymhyfrydu mewn lladd, a lldrpio, liC iselhau eu gilydd o gornel i gornel. Mae hen ddiareb yn dweyd, Ni raid i Arthur wrth ffyn baglau." Mae'n debyg i Rees Arthur orfod ymostwng i gym- meryd ffyn gweinion ddigon. Os wyt tiyn gall, paid a gwneyd roor fach o honot dy bun a rhoddi benthyg dy enw i neb er mwyn iddo (" rw ei lysnafedJ ar neb arall. Os oes arnat eisieu ysgritenu, gwna hyny dy hun os na elli, bydd yn llonydd. Adwaenwn awdwr eich llythyr yn dda iawn; a gwyddwn o'r goreu fod y spleen arno er ys tro, a chafodd y fraint o arllwys peth o hono ar draul eich enw. Os peltio right and left yw hi i fod, niedraf ar y gwaith yn ffamws, ond cael chware teg, ac y mae digon o ddefnyddiau wrth law. Yr oeddwn wedi meddwl bob amser mai pethau ac nid personau ydoedd motto SEREN CYMRU. At y pwnc, gyfeillion, y tro flesaf. Yr eiddoch, &c., AB ARTHUR.