Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

YR WYTHNOS

LINCOLN A'R CAETHION.

News
Cite
Share

LINCOLN A'R CAETHION. MAE Abraham Lincoln, Llywvdd America, wedi cadw ei addutied i'r llythyren, am yr hyn yr ydym yn diolch i Danw, ac yn cymmeryd cysur. Dywed- odd mewn Ysgrif Swyddogol yn mis Medi, y buasai iddo ef, fel Llywydd y Taleithiau, ac yn y cymmer- iad o Brif Faeslywydd byddin v Gogledd, i gym- meryd mesurau ar y dydd cyntaf o'r flwvddyn 1863, i ryddhau yr holl gapthion a fuasai y pryd hyny yn cael eu dal gan y Taleithiau a fuasai yn para mewn gwrthryfel yn erbyn yr Undeb. Er hyny, cym- merodd cyfnewidiadau pwysig le yn v weinyddiaeth, yn y fyddin, ac yn nheirnladau y wlad. Llwyddodd y Democratiaid i ennill yn yr etholiadau-diswvdd- wyd M'Clcllan, collwyd brwydr waedlyd Fredericks- burg, a theimlem yn dra phyderus am yr hyn a fuasai y Llywydd yn deimlo yn addas i wneyd ar y cyntaf o Ionawr. Byddem weithiau yn ofni y buasai iddo yn ngwyneb croesau go bwysig, i ohirio y tymhor i gvhoeadi r.iyddid v caethion. Yo wahanol y mae wedi troi allan. Yn'ei ysgrif feistrolgar a phender- fynol ar Ionawr 1, 1863, mae y Llywydd yn cyhoeddi Arkansas, Texas, Mississippi, Alabama, Florida, Georgia, South Carolina, North Carolina, a rhanau o Louisiana a Virginia, mewn gwrthryfel; am hyny cyhoedda yr holl gaethion yn y lleoedd hyn yn awr ac am byth yn rhyddion. Mae hefyd yn ymrwymo cydweithrediad byddin a llynges y Gogledd er cyn- northwyo y caethion i ymryddhau, ac i fwynhau eu rhvddid wedi dyfod i'w afael. Mae hefyd yn rhoddi cynghorion pwysig i'r caethion, pa fodd i ymddwyn. Addawa yn mhellach i dderbyn y caethion o oedran priodol i fyddin a llynges y Gogledd. Mae y Llyw. ydd yn diweddu ei deyrngri gorchestol gyda dymun- iad am i'r weithred hon gael ei derbyn fel gweithred o gyfiawnder at y caethion, ac angenrhaid fel gweith- red filwrol, er sicrhau diogelwch yr Undeb. Yr ydym ni o'n calon yn llawenhau am y weithred hon o eiddo Abraham Lincolnâfel yr un fwyaf bwysig o'i eiddo er dechreu ei lywyddiaeth. Os nad oes yn y Gogledd ei hun rhyw deimlad cryf iawn yn erbyn y caeth, bydd y cyhoeddiad hwn yn ddyrnod farwol i'r gwrthryfel halogedig a achoswyd yn herwydd yr awydd mawr yn y Dehau i helaethu tiriogaeth y gaethfasnach. Yr unig beth ag ydym yn teimlo o'i herwydd yw, na buasai hwn wedi ei gyhoeddi flwyddyn yn gynt; ond nid ydym am feio yn awrâ diolch i Dduw ac i Abraham Lincoln am dano. Bydded iddo fjrued fel taran-follt i galon y gyfun- 0 draeth felldigedig, sydd wedi anhardduyr Undeb am y blynyddau diweddaf. Mae yn dda genym ganfod fod y cyhoeddiad hwn wedi cael,derbyniad iled ffafriol yn gyffredin yn y taleithiau gogleddol. Ond fel y gellesid dysgwyl, y mae y New York World, a'r New York Herald, yn ei gondemnio. Nid ydym yn synu dim ar hyn, gan fod holl dueddiadau y newydd. iaduron hyn dros y masnachwyr mewn dynion- maent yn hollol o blaid parhad caethiwed. Mae yn ddiddadl fod eu dylanwad yn fawr iawn ond etto ni a obeithiwn fod digon o ddynoliaeth a chrefydd yn y Gogledd i ddal i fyny, a chadarnhau dwylaw y Llywydd yn y mudiad daionus hwn. A sicr ydym o hyn, y bydd enw Abraham Lincoln mewn cyssylltiad a'r weithred hon i gael ei fendithio gan filoedd ag ydynt heb eu geni, tra yr a y ddau newyddiadur dan sylw i lawr gyda dirmyg a gwarth. Yn awr yw adeg dyngarwyr a chrefyddwyr America i weithio o ddifrif, er cael y caeth yn rhydd. Bydded i'r Llyw. ydd gael eu cydvmdeimlad a'u cydweithrediad, a bydd y flwyddyn 1863 yn un o'r rhai hynotaf yn holl hanes y taleithiau Americanaidd. Mae y Times yn y wlad hon yn trin Lincoln yn erwin am y Cyhoeddiad pwysig. Mae y papyr di- egwyddor hwii yn un o bleidwyr penaf caethfeistri y Dehau. Nid oes gyda hwy ddim gwell amddiffyu- ydd yn y byd na Times LIundain. Mae y papyr hwn, trwy ei gylchrediad helaeth, yn gwneyd drwg mawr iawn. Mae llawer yn ei gymmeryd fel dad- ganydd o deimlad a meddwl pobl y deyrnas hon ond nis gall unrhyw gamsyniad fod yn fwy. O'r tu arall, da genym feddwl fod cyHredin y wlad hon yn dyfod yn twy fwy ffafriol i'r Gogledd; a chredwn y bydd i Gyhoeddiad diweddaf Lincoln i ail-ennyn yr hen dan a fu yn llosgi yn ein mvnwesau yn amser Knibb, Buxton, a Burchell-thii yn y a losgodd y llyfetheiriau ag oedd yn da.1 mewn caeth- iwed yn Ynysoedd Prydain chwe chan mil o feibion a merched Ham. O! am weled y teimlad hwn etto yn bywhau, er croesawi rhyddid bedair rniliwn o gaethion Deheudir America.

Family Notices

CYLCHDEITHIAU Y BARNWYR. ;