YR WYTHNOS|1863-01-23|Seren Cymru - Welsh Newspapers Online
Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

YR WYTHNOS

News
Cite
Share

YR WYTHNOS Mae Mr. Bright a'i gyd-aelod dros Birmingham wedi bod yn anerch yr etholwvr. Yr oedd yno ychydig wahaniaeth rhwng y ddau—Bright yn dadleu dros ei olygiadau ar faterion America, gyda ctiyfeiriad at Ddiwygiad Seneddol; ac hefyd harnai mai bnddiol fyddai i ni roddi fyny Gib- raltar i Spaen. Mae genym ni lawer o barch i Mr. Bright a'i olvgiadau; on(I hyd yma, nid vdym yn gweled un rheswm dros "roddi Gibraltar i Spaen, mwv na rhoddi v ddwy Ganada i'r Taleithiau Americanaidd. Mae Mr. Potter, A.S., wedi bod yn areithio yn Carlisle, ac yn cymmeryd golygfa dywyll ar gyflwr SwyddLaneas- ter a'r gweithwyr cotwm mae ef yn barnu fod caledi mawr yn ol; ond nid felly y mae yn ymddangos i ni ar hyn o bryd. Credwn fod y gwaethaf drosodd. Mae yr Archesgob wedi galw yr holl Esgohion i gyfar- fod yn ei Balas ef yn Lambeth, ar Chwef. 4ydtl, er ystyr- ied cyfrol yr Esgob Colenso. Mae gwaith Colenso yn -colli ei ddyddordeb yn rh.vydd iawn bydd wedi tynu yr anadliad olaf yn fuan. Dydd Gwener wythnos ihedilyvv, cyfarfyddodd nifer o foneddigion, yn cynnwys yn mlilith ereill Mr. Taylor, A.S., yr Anrhydeddus B. W. Noel, a Newman Hall, yn Swyddfa y Llysgenadwr Americanaidd, ;Mr. Adams, er dadgan teimlad a barn rhan fawr o drig- oiion y wlad hon at America, yn ngwyneb Cyhoeddiad Mr. Lincoln i rvddhau y caethion. Mae yn dda genym am y cyfarfod hwn, gan ei fod o duedd i symud oddiar feddwl Mr. Adams yr argraff ag oedd y Times am ei adael ar feddwl y byd am olvgiadau Lloegr ar y pwnc mewn dadl rhwng y Gogledd a'r Dehau. Tramor.—Mae America yn galw am ein sylwblaenaf. Mae geny m ysgrif wedi ei hysgnfenu ar bwnc y Cy- hoeddiad ond wedi i ni ysgrifenu hono, mae y Great Eastern'' a'r "Europa" weui. vrhaedd oddiyno gyda newyddion pwysig iawn. Mae dwy neu dair o frwydrau pwysig wedi eu hymladd, yn y rhai v mae y Gogleddwyr wedi bod yn hollol lwyddiannus. Mae y gelyn wedi ei yru o Murfreesboro', gyda cholled fawr iawn, a'r Gog- leddwyr wedi cymmeryd meddiant o'r He. Mae y Deheu- wyr hefyd wedi cael colledion mawr yn Tennessee. Mae byddin y Gogledd wedi gwneyd ymosodiad llwyddiannus ar Vicksburg, ac wedi colledi y gelynion yn fawr. Nid oesdim newydd oddiwrth fyddin y Potomac. Maey Cadfridog Banks wedi cymmeryd lie Butler yn New Orleans. Mae Bill wedi ei ddwyn i mewn i'r Senedd er codi trwv nodau papyr 300,000,000 o ddoleri, gyda swm pellach o 300,000,000 o ddoleri vn ol chwe punt y cant, a hlw.v- ddvn neu ddwy, neu dair i redeg; ac yn mhellach 500,000,000 gydag ugain mlynedd i redeg, yn ol 6 punt y cant. Rhaid i'n cyfeillion goflo y daw y pethau hyn yn wir bwysig iddynt hwy yn olllaw, Mae araeth Amherawdwr y Ffrancod wrth agor ei Senedd yn hollol ddiniwed. Mae yn cynnwys adolygiad ar ei weithrediadau ef a'r Senedd am y pum mlynedd di- weddaf. Mae y gyfrol flynyddol o ffys"lythyron a Llys-lythyron wedi ei chyhoeddi yn Ffrainc, yn yr hon y cawn ddwy neu dair o ysgrifau lied bwysig yn eu perthynas a'r Pab, a theimlad y Pah at y wlad hon. Mae y Pab wedi rhoddi awgrym lied eglur i Mr. Oto Russell, em Llys Genadwr ni yn Rhufain, y dichon nad yw y dydd yn mbell pan y bydd iddo ef geisio Dinas Noddfa yn Mhrydain. Mae Arglwydd John Russell wedi cynnyg iddo balas teilwng yn Malta. Mae v Cenadwr Ffrengaidd yn ceisio gwneyd allan maijoke oedd cais y Pab ond beth by nag, mae yn vmddangos i ni yn ddifrifol ddigon, ac yn un mor natur- iol i'r Hen Bab, poor fellow, ddyfod yma a'r hen Louis Philippi, a channoedd ereill sydd wedi cael Lloegr yn le diogel, pin ag oedd vn ystorm yn tnhob man arall. 0 Itali yr ydym yn cael fod yno rhyw ddarparu pwysig iawn am chwvldroad yn Rhufain ei hun yna dichon y cawn y fraint o lettya y Pab yn gyntnagy meddyliem. Mae Senedd Prwsia wedi ei hagor; ond nid gan y Brenin ei hun, ond gan ddirprwywyr drosto, acyn ei enW. Mae yr araeth freninol yn lloerig a bawaidd, ac yn dangos dannedd un a garai gnoi pe gallai. Mae v Groegiaid hyd yma heb hollol gael eu boddloni „mewn Brenin. Mae yn debyg yn awr y bydd i'r Due o f Saxe Coburg gymmeryd at y swydd o fod yn Frenin Groeg; ac os felly daw ein tywysog Alfred ni yn etifedd i diriogaeth Saxe Coburg, a gwisgai y teitl o Due Saxe Coburg a Gotha. Mae gweinyddiaeth Sweeden yn addaw amryw ddi- wygiadau pwysig. Nid yw hi ond go anesmvvyth yn Twrci mae y ran fwyaf o'r gweinidogion wedi rhoddi eu swyddi i fyny. Mae felly hefyd yn Spaen ond mae y frenines yno wedi ymddiried y gorchwyl 0 ffurfio gwein- yddiaeth newydd i'w hen brif-wninidog, sef y Marshall O'Donnell.

LINCOLN A'R CAETHION.

Family Notices

CYLCHDEITHIAU Y BARNWYR. ;