Hide Articles List

4 articles on this Page

ADRODDIADAU BWRDD MASNACH.

SiiawcsiDn iyfttditwl

Y DIWEDDAR BARCH. DANIEL JONES,…

News
Cite
Share

Y DIWEDDAR BARCH. DANIEL JONES, TON- GWYNLAS. GYDA phriodoldeb mawr y dywedai un olm Hemynwyr Cymreig,- Son am farw glywaf ynaa, Son am farw glywaf draw." Felly, yn unol & hyn, wele i'n clustiau yn hollol sydyn, ac an- nysgwyliadwy, y newydd anhyfryd o farwolaeth yr enwog, a'r Hybarch DANIEL JONES, gweinidog y Bedyddwyr yn Ton- gwynlas, Morganwg ond a elwid gynt yn Ddaniel Jones o Liverpool," am mai yno y treuliodd y 25 mlynedd o'i amser goreu. Yr oedd Mr. Jones yn pregethu y Sabboth olaf o'r flwyddyn 1862, gyda bias ac hwyl nas annghofir, i'w gynnull- eidfa barchus ei hun yn Ainon, Tongwynlas. Dydd Llun, y 29ain, yn iach fel arferol, a bu yn ardal Caerffili yn ymweled ag un aelod claf, ac yn nghymdeithas ddyddanus yr Hybarch James Richards. Dydd Mawrth, yn y boreu, bu mewo myf- fyrdod er parotoi ar gyfer y Sabboth dilynol, a mwynhaodd ei foreufwyd fel arferol. ond yn nghorlf y dydd hwnw.tarawwyd ef yn hynod o glaf, a chynnortbwywyd ef i fyned i'w wely, o'r lie ni chododd mwyach. Er pob ymdrechion o eiddo ei briod anwyl, cymmydogion caredig, a meddyg medrus, ymddengys fod angeu fel ar ei lw i ennill y dydd. Deallodd yr anwyl Jones natur yr ymweliad hwn, ac awgrymodd hyny i'w gym- hares ffyddlon. Ymfoddlonodd yn drwyadl fel plentyn yn Haw Tad, ac i'r ewyllys ddwyfol i gael ei chyflawnu. Adroddodd amryw o'i hoff eraynau, ac yn mhlith ereill yr un ganlynol :â 'Rwyf yn foddton iawni 'madael, Trefna'r awr a threfna'r fan Ond yn ymchwydd yr lorddonen, Dal fy enaid Hesg i'r lan." Rhoddes dystiolaeth o'r fath fwyaf ffafriol gyda golwg ar ei ddiegelwch tragywyddol, ac oddeutu dau o'r gloch boreu dydd Mercher, Rhagfyr 31ain, y terfynodl yr enwog DANIEL JONES ei yrfa ddefnyddiol, hir, llafurus, a llwyddiannus, ar ol cyrhaedd 75 o flynyddau ar y ddaear. Trwy garedigrwydd yr Eglwys yn Tongwynlas, a thrwy off- eryngarwch *yr anwyl y trancedig, Mr. 1)1. Jones Thomas, Argraffydd, Aberdar, anfonwyd cylch-lytbyrau oddiamgylch er cofnodi y newydd galarus, yr hwn a dderbyniwyd gan yr eg- lwysi a'r gweinidogion gyda'r tristwch mWYAf, a dywedem oil, fod gwr mawr yn Israel wedi syrthio. Dydd LInn canlynol, daeth torf fawr o wahanol fanau yn Mynwy a Morganwg i dalu y gymmwynas olaf idd ein hybarch dad ymadawedig. Am ddau o'r gloch, yn y tf, darllenodd y Parch. John Lloyd,Mer- thyr, ran o'r gair dwyfol, a gweddiodd yn hynod o daer a gaf- aelgar. Cludwyd y corff i'r capel gan y Diaconiaid, yn mhres- enoldeb torf hynod o luosog o alarwyr; a pha ryfedd hyn, am mai gwr poblogaidd a hebryngid i'r tý rhagderfynedig i bob dyn byw." Poblogaidd oedd Mr. Jones trwy ei holl fywyd, ac felly yn ei farwolaeth a rhyfedd fel y darfu iddo ef a'r hen flwyddyn ffarwelio a ni yr un amser. Yn y capel,^darllenodd a gweddiodd y Parch. W. Caledfryn Williams, Groeswenâhen gyfaill mynwesol i Mr. Jones er y flwyddyn 1822; yna pre- gethodd y Parchedigion Dl. Davies, D.D., Aberafon, yn Saes- oneg; a James Richards, Caerffili, yn Gyraraeg, mewn modd tra rhagorol, oddiar 1 Thes. 4. 18 a Math. 84. 46. Nid wyf yn cofiu angladd a mwy o ddagrau, na phregethau mwy cym- hwysiadol i'r fath amgylchiad. Yr oedd yr anwyl Jones trwy ei oes yn erbyn canu massnangladdau, ac felly ni chanwyd yn ei angladd yntau. Wedi gosod y corff prydferth, lluniaidd, ac hardd, yn ei ystafell wely, yn ymyl yr enwogion W. Lewis (gynt o Aberdar), a T. Francis, brodor o'r He (a fu farw yn ddiweddar), cawsom anerchiad tra phwrpasol gan y Parch. J. Evans, Abercanaid a gorphenodd y Parch. Edward Evans, Caersalem, Dowlais, trwy weddi. Wedi hyny gwasgaroddy gynnulleidfa alarus, ac ymneillduodd y gweinidogion i'r capel Saesnig, i dderbyn lluniaeth, pryd y penderfynwyd gofalu dros dymhor am yr areitlifa yn Tongwynlas, ac i'r deilwng Mrs. Jones gael y gyflog. Gwelsom yn yr angladd (heblaw y Brodyr anwyl a enwyd), y rhai canlynoI :-Thomas, Casnewydd; Griffiths a Phillips, Merthyr; N. Thomas, J. E. Jones, A.C., a W. Jones,fCaerdydd Thomas, Berthlwyd Harries, Heol- yfelin; Williams, Mountain Ash James, Glyn-nedd; Hughes, Dinas Williams, Nebo, Ystrad Lewis, Rhumni; Thomas, Gelligaer; Richards, Machen; Williams, Hengoed Davies, Argoed; Griffiths a Morgan, Caerdydd; Davies, Wanntrodau Roberts, Blaenau (mab. yn-nghyfraeth y trancedig); Williams, Twynyrodyn Michael, Penybont; Davies, Penyfai Edwards, Llysfaen Bailey, Canton; Roberts, Pontypridd James, Croesyparc; Roberts a Griffiths, Rhydfelen; Phillips, Tre fforest; Prichard, Glandwr (A.) Jones, Rhydri (A.); Jones, Pentyrch ,(A..); Davies, Taihirion (A.); James,"Eglwysnewydd (A), ac amrai hefyd o'n pregethwyr cynnorthwyol; megys W. James, Pentyrch; H. Gwerfyl James, Aberdar; Llewelyn, Caerdydd; E. Williams, Pontypridd heblaw amryw o frodyr o sylw yn yr enwad bedyddiedig, megys yr oedranus T. Hop- kins, Ysw., Caerdydd Thos. Joseph, Ysw., Ystrad Simon Davies, Ysw., Pontypridd; Edward Gilbert Price, Ysw., Aberdar; Mr. Aneurin Jones, Gelligroes, &c., &c., fel yr oedd pob peth yn esbonio mai nid dyn o nodwedd gyffredin a gladd- wyd y tro hwn yn Tongwynlas. Gwelsom hefyd yr unig ferch sydd yn fyw i Mr. Jones, sef Mrs. Thomas, Cross Inn, a'i hanwyl blant, heblaw yr amddifaid o'r Blaenau. Dymunem nodded Preswylydd mawr y berth i Mrs-Joses a'r perthynasau oil yn eu galar. Ymddygodd Eglwys barchus y Tongwynlas yn hollol Gristionogol ac anrhydeddus yn eu gwaith yn claddu ar ei thraul ei hun ei hanwyl weinidog, mewn dull costus a pharchus, heblaw croesawiad caredig y pregethwyr a'r hollddy- eithriaid. Yr oedd Mr. Jones yn awr yn un o weinidogion hynaf y Bedyddwyr yn Nghymru, ac wedi bod am tuag banner canrif o leiaf yn y weinidogaeth, yn hollol boblogaidd, ennillgar, parchus, a llwyddiannus; ac yn un o'r pregethwyr mwyaf melus a phert a fagwyd yn y Dywysogaeth. Yr oedd yn enedigol o ardal Llanymddyfri; bedyddiwyd ef yn Cwmsarnddu, gan yr enwog Timothy Thomas, Aberduar, yn y flwyddyn 1837. Yn y flwyddyn 1808, darfu iddo ef a'r Parch. J. Morgan, Talyryn, gyd-ddechreu pregethu Crist croeshoeliedig yn y IJe uchod. Yn 1814, cafodd Mr. Jones ei neillduo yn fugail ar ei fam eglwys; ond ar ol llafurio yma yn dra ffyddlawn am dymhor, costiwyd ef yn Athrofa y Fenni (ar ol priodi) gan yr enwog Mrs. Mor. gan ,o Erryd, modryb i Mrs. Jones. O'r athrofa symudodd yn weinidog Cymreig i Liverpool, lie y llafuriodd yn galed i godi yr achos o'i wendid mawr i'w nerth mawr, aciledaenu ei derfynau, do am 25 o flynyddoedd. Yn 1842, symudodd i'r Bantfaen, lie y bu am dros ddwy flynedd, hyd ei symudiad i'r Felinfoelyn 1845, lie y llafuriodd gyda derbyniad a pharch hyd ei symudtad i Tongwynlas yn 1853, lie y treuliodd y naw mlynedd diweddaf, fel y blynyddoedd meithion blaenorol, mewn ymhyfrydu i wneyd daioni. Bu Mr. Jones yn dra llwyddiannu8 trwy ei holl oes, a gorphenodd ei yrfa pan yn y meddiant o'r parch a'r anrhydedd uchelaf yn mysg ei frodyr. Pregethodd, yn ol tystiolaetb y Brawd rhagorol Jonathan Jones, Ysw., Cefnmawr, mewn mwy o gymmanfaoedd na neb ag sydd yn awr yn fyw. Drsgwylir Cofiant iddo yn fuan, a phvvy fel ei anwyl fab yn nghyfraith, Mr. Roberts o'r Blaenau, a all wneyd cyfiawnder ag ef ? Terfynaf yr hanes hwn gyda'r englynion canlynol. Ify lion gyfaillanwyl-diniwed, Y caed newydd breswyl Daear wisg cyn myn'd i'r wyl, Ddioagodd heb hir ddysgwyl. CALEDFRTN. Rhyw gerawb tan aur goronâydoedd, 0 nodau gwir gristion Llifai mesl yn dawel d6n, Neu ffrwd o'i amgyffredion. Angel oedd ef yn ngolwgây Daw byw, Da i bawb-a diddrwg Manylaidd, mwyn ei olwg, A llwydd ei drefn oedd lladd drwg» GwKRpyii. At ein Ion ein tad DanielâJones a aeth, Hynaws oedd a thawel; 0 ddyn mwyn ei ddoniau mel Oedd esmwyth fal y ddwsmel. Ei bur aeg goeth, ei bregethau-hydraidd, A'i fedrus draethodau ,¡, A gwinoedd per ei ganau, Yn bur hir a wnant barhau. Rhyngodd bodd Duw y duwiauâi'w was hwn Gael oes o hir flwyddau Ond gwanodd hon ei fron frau Weithian, a threngodd hithau. TEGAI. 0 lenydd gwlad galanasâefalwyd I'w nefolaidd balas Ni ddaw curâdialedd cas, i I ganlyn Jones, Tongwynlas. V HOWBL WILLIAMS. Rhoddwyd telyn aur addas-ilw chwareu, A choron mewn urddas, I geiniaw angel Tongwynlas, I foli'r Ida am nefol ras. TELYNOG. Terfynwn ein hanes presenol am yr Hybarch Daniel Jones gyda dymuno maddeuant y darllenydd am ein meithdra. Glyn-Nedd. T. E. JAMES. O.Y. Gan y bwriadwyfgyhoaddi cyn hir oriel yn cynnwys ardeb o 60 o weinidogion Cymreig byw, bydd ynddo er hyny ardeb cywir o'r anwyl Mr. Jones, yn gymmaint a'i fod wedi ei sicrhau i mi ychydig cyn ei farwolaeth.-T. E. J.

EISTEDDFOD BETHEL, GLYN-NEDD.