Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
. GAIR AT EGLWYSI A GWEINIDOGION…
News
Cite
Share
GAIR AT EGLWYSI A GWEINIDOGION Y BEDYDDWYR PERTHYNOL I GYM- MANFA .MYNWY. ANWYL FRODYR,—Yr ydwyf ar gais pwyllgor Cymdeithas Genhadol y Bedyddwyr yn mhlith Cymry Llundain, yn galw eich sylw at yr achos teilwng hwn trwy gyfrwng y SEREN. Dichon y gall fod gair am yr achos hwn yn peru i rai synu, am fod y si wedi myned i lawer man yn Nghymru fod y genadiaeth wedi marw. Nid gwir yw hyny y mae y genadiaeth mor fyw ag y bu erioed, ond nid yw mor gryf, am fod llawer yn Nghymru wedi galw eu cymhorth oddiwrthi. Er hyny y mae yn fyw ac yn weithgar, ac yn cofio yn barchusatei hen ffryndiau a'u hewyllyswyr da, gan obeithio y bydd iddyut gofio eu hen addewidion iddi. Deallwyf eich bod ehwi, frodyr yn Mynwy, wedi rhoddi caii- iatad yu eich Cymmanfa ddiweddaf i gaiel casglu at yr achos da hwn eleni. Y mae y pwyllgor ya gofyn yn ostyngedig a fyddwcb chwi mor garedig a chasglu eich hunain, ac anfon y casgliad yma. Y mae y pwyllgor wedi barnu na fyddai y casgliad lawer yn fwy, pe anfonid un i ymweled a'r eglwysi. Ni ddysgwylir gael neb i drailerthu felly heb ei dalu yn deilwng, ac os gwneir hyny, y mae yn dra thebyg na fyddai rhany Gymdeithas ond ychydig. Os byddwch chwi, frodyr yn y weinidogaeth, mor garedig a gwneyd hyn dros y Gymdeithas, hi ga y cyfan, bydded ychydi6 neu lawer. Gallwch anfon
HANESION CREFYDDOL.
News
Cite
Share
y plant. Ar ol cael ychydig o gynghorion pwrpasol gan Mr. John ar y gofal a'r sylw ag y mae plant yn hawlio, terfynodd cyfarfod y boreu. Yn yrhwyr, cychwynodd ysgol y Meinciau i Llangendeirne—y ferch at y fam. Dechreuwyd y cyfarfod am 6 o'r gloch drwy ganu ton gynnullaidfaol. Wedi gweddi for a phvvrpasol, gahvyd at y cor i ganu gan Mr. John yua gnlwodd ar y plant i ganu ac adrodd amryw ddarnau dewisiol, yr hyn a wnawd yn fedrus neillduol. Dangoswyd ymdrech a llafur mawr ganddynt.. Wedi canu anthem gan.y cor (saf anthem ar Isaiah 12, gan Thomas Jones, Lixwm), eafwyd amryw gynghorion da gan Mr. Griffiths, Pont- heary, a Mr. John. Yna terfynodd un o'r cyfarfodydd mwyaf dyddorol. Yr oedd y gynmilleidfa yr un fwvaf luosog a wehvyd erioed yn y He. Yr ydym yn gallu edrych yn ol gyda llawenydd a phleser meddwl ar waith y dydd, ali mddd y cafodd ei dreulio. Er ys yehydig flynyddau yn ol, yr hyo oedd yn cael prif syhv pobl ieuainc y gymmydogaeth hon ar ddydd Nadolig, oedd y bel dda alr ddiod; ond erbyn heddyw, mae pethau moesol a ehrefyddol yn cael prif syl w y m wyafrif o n pobl ieuainc. Duw a'n cynnorth wyo i ymdrechu ein goreu er cael sylnv yr hen a'r ieuainc yn gwbl a hollol oddiwrth wageddau at sylweddau. BKTHANIA, CLYDACH.—Cynnaliodd ysgol Sab- bothol y lie uchod ei chyfarfod blynyddol dydd Nadol- ig diweddaf, pryd yr adroddivyd amrywiol o bethau da a difyrus dros ben bu yno gystadlu eleni, yr hynni fu yno o'r blaen. Rhoddid pum swllt o wobr amy traethawd goreu ar Addysg dau yn cystadlu. Goreu, Mr. Wm. Evans, Clydach. Beibl i'r ddarllen wraig oren dan bumtheg oed pedair yn cystadlu. Buddugol, Miss M. Jones, Clydach. Bibl i'r ddarllenwraig oreu dros bumtheg oed pump yn cystadlu. Darllenasant olV mor dda, fel y penderfynwyd rhoddi pob o Feibl iddynt. Beibl i'r darllenwr goreu dan bumtheg oed. Gorett, Mr. John Jones, Clydach. Beibl i'r darllenwr goteu dros bumtheg oed. Goreu, Mr. D. Davies, yr hwn, yn nghyd a Mr. Wm. Evans, a anrhegasant yr ysgol Sabbothol a'u gwobrwyon. Rhoddwyd tê i blant yr ysgol yn y prydnawn, o'r hwn y cyfranogodd 186. Da genym hysbysu fod yr "achos goreu yn y lie hwn mfwncya<vrMewyrchus. Mae cangen gan yr ysgol Sabbothol yn y Glais, yn rhifo tua 50 o ysgolheigion. Mae saith o ddyriion yn arcs am y fraint o ganlyn Mab Duw vn y dyfrllyd fedd. Sefydlwyd yma gyfarfod llenyddol, yr hwa a gynnaliwyd dair gwaith yn iy flwyddyn, yn mha un y cystadleuir mewn cyfansoddj, adrodd, darllen, a chanu. Mae yn amlwg fod y gwnr egwyddorion yn cario dylanwad mawr yn y lie hw oblegid er ein bod ar ochr y mynydd—allan o bod cy'- Jeuadra, etto ,y mae ein capel yn cael ei orlenwi gan wrandawwyr, a Hawer yn dyfod i ymofyn am aelod- iaeth. Y pwnc sydd yn cael mwyaf o sylw yma yn bresenol yw capel newydd. Pe buasai hwn yn cael ei ddwyn; i weithrediad pan siaradwyd gyntaf am dano er ys blynyddau yn ol, a'i godi y pryd hwnw yn ypentref, diammheu y buasai achos y Bedyddwyrlawer yn u weh nagydyw. Gobeithio na fydd y brodyr yn ol o hynyn breseiiol, a bendithied Duw eu llafur.—EYVYLLYSIWR DA. CWMSAERBREN.—Nos Lun, y 6ed cyfisol, tra- ddodwyd dariith yn Libanus, gan y Parch. J. D. Willihms, Canton, ar y "Gweithiwr." Yr ydym wedi cly wed llawer Q ddarlithiau yn lfaenorol, a hyny gan rai o oreuwyr Cymru ond barnwn yn ddibetrus fod. honi yn.rhagori arnynt oll; nid efallai yn ei chyf- aiisoddiad nae, yn, y traddodiad, er fod y naill a'r Hall yn thagorol dda ond am fod Mr. Williams yn ymdrin â phynciaua esgeulusir i raddau pell gan y wasg a'r areithfa Gymreig a chredwn y byddai yn lies mawr i bob cynnulleidfa yn Nghymru i wrando y ddarlith wir fuddiol hon. Llywyddid y cyfarfod gan y Parch. J. R. Williams, Ystrad. Wedi talu diolchgarwch i'r darlithydd, y eadeirydd, a'r cor, ymadawodd pawb ilu calonau yn 11awen ac wrth eu bodd--AB EINON. CABRSALEM, DOWLAIS. — Cynnaliwyd yma gyfarfod blynyddol y Sul a'r Llun, Ionawr y 5fed a'r 6ed, 1862. Cawsom ddeg o bregethau rhagorol. Sul y boreu, am 11 o'r glaeh, pregethodd y brawd E. Roberts, Bethel, Massaleg. Am 2, pregethodd y brodyr B. Lewis, Ainon, Merthyr, a T. Thomas, Beth- etda, Massaleg. Am 6, pregethodd y brodyr E. Rob- erts a T. Thernas. Boreu Llun, am ll, pregethodd y trawd H. C. Parry, Tslybont. Am 2. pregethodd y brodyr W. Harris, Cwmbach, a C. Griffiths, Seion, Merthyr. Am 6, pregethodd y brodyr E. Roberts a T. Taomas. Dechreuwyd y gwahanol oedfaon gan rai o'r brodyr a eiwyd, yn nghyd a chan y brodyr Daniel Jones, gynt o'r Fforddlas, a D. B. Jones, myfyrwyr yn athrofa Pontypwl. Casa;lvvyd genym yn ycyfarfod hwn fwy na'fi dys'g%vyliad. Diolchwn i'n cyfeillion am en cyfraniadau i ni, ac i Dad ein holl drugareddau am ei wenau arnom.-E. E. GARN", DOLBENMAEN.—Addoldy Y Bedgddwyr. -Nos Iau, traddododd y Parch. Llewellyn Rees, Tre- ffynnon, ei ddarlith ragorol ar Ragrith, YI1 y lie hwn, chafodd wrandawiad astud, ac yr oedd y gynnulleidfa yn lluosog. Dalier sylw.- Y mae gan y Parch. Llew- elyn Rees amryw gopiau o'i bregeth ar Anffyddiaeth Gwlad Efengyl, ac yr wyf yn ei chymmeradwyo i sylw y cyhoedd.—JOHN JONES, Garn. PBNTYRCH. Nos Lun, yr 20fed o Ionawr, 1862, yn nghapel y Bedyddwyr yn y lie uchod, tra- ddododd y Parch. J. D. Williams, Canton, ei ddarlith enwog.ar y Gweithivyr. Am 7 o'r gloch, cymmerwyd y gadair gan Mr. Thomas, Forge Manager, yr hwn, wedi gwneyd araeth for, ond tlws a phwroasol, a alw- odd ar Mr, Williams i draddodi ei ddarlith. Mae y ddarlith honyn wir addysgiadol a chymh wys i lesoli y dosparth i ba un y mae wedi ei bwriadu. Er i Mr. Williams fod ych^hneg na dwy awr a hanner yn ei thraddodi, cafodd y gvvrandawiad mwyaf awyddus trwy yr oil amser, ac weithiau fonllefau o gymmerad- wyaeth. Wrth dalu diolchgarwch i'r darlithiwr, dy- wedai y cadeirydd y dymunai i holl weithwyr Cymrju yn nghyd â'u meistri, i gael clywed darlith M. Wi liams.-E. JONES. OUDEINIAD GWEINIDOG.—Cynnaliwyd cyfarfod nos Fawrth, dydd Mercher, a dydd Iau, Rhagfyr 24, 25, a 26, yn Conwy a Glanwydden, sir Ddinbych, er neillduo y brawd W. E. Watkin, myfyriwr o Athrofa Hwlffordd, i gyflawn waith y weinidogaeth, yn Beth- esda, Conwy, a Glanwyddan. Y noson gyntaf, dech- reuodd a pbrogethodd W. E. Watkin a J. Jones, Llanberis, yn Conwy yn unig. Y boreu canlynol, am ddeg. dechreuodd J. Jones, Llanberis, a phregethodd W. Roberts, Rhos; a W. Morgan, D.D., Caergybi. Am ddau, dechreuodd J. Thomas, o Athrofa Pontypwl, a thraddododd W. Roberts, Rhos, araeth ar Natur Eglwys Crist," ac yna gofynodd Dr. Morgan y gofyn- iadau arferol i'r gweinidog ieuanc. Atebodd yn foddhaol, a dywedodd gyfres o'i gyffes flfydd vn deim- ladwy ac efFeithiol. Yna dyrchafodd Dr. Morgan yr urddweddi trwy arddodiad dwylaw, ac yna pregethodd Dr. Morgan i'r gweinidog, a W. Roberts, Fforddlas, i'r eglwysi. Am chwech, dechreuodd W. Davies, Llansanttfraid, a phregethodd J. Jones, Llanberis, a W. Roberts, Rhos. Am chwech, yr un amser, yn Glanwydden, dechreuodd a phregethodd J. Thomas, Pontypwl, a Dr. Morgan. Am ddeg boreu dydd lau, dechreuodd Dr. Morgan, a phregethodd J. Jones, Llanberis, a W. Roberts, Rhos. Am ddau, dechreu- odd E. Jones, Llandudno, a phregethodd J. Thomas, Pontypwl, a J. Jones, Llanberis. Am chwtch, dech- reuodu W. Davies, Llansaritffraid, a phregethodd W. Roberts, Rhos, a Dr. Morgan. Cafwyd cyfarfod rha- gorol dda o'i ddechreu i'w ddiwedd. Y mae Mr. Watkin yn dechreu ar ei weinidogaeth o dan amgylch- iadau ffafriol iawn yn y ddau le y mae amryw o flaen yr eglwysi yn dysgwylcael eu bedyddio, ac ereill fu yn ngwlad y cibau wedi dyfod yn ol. Llwyddiant iddo, medd fy enaid. Y mae Mr. Watkin yn myned yn ei ol am ychydig fisoedd i'r Athrofa i orphen ei amser, ac yna yn dych welyd.-J. J. EBENEZER, AaEBAFON.—CynnaHwyd cyfarfod chwarterol perthynol i'r capel uchod dydd Nadolig. 1861. Dechreuwyd y cyfarfod am hanner awr wedi 6, trwy adrodd dwy Salm gan ddwy ferch fach, sef y 23ain a'r ll3eg. Yna cafwyd ton gan y cor, ac anerch w yd gorsedd gras gan ein parchus weinidog, OJ. Davies, D.D. Yna dechreuwyd ar yr adroddiadau. Yr oedd yr adroddi idau yn Gymraeg ac yn Seisnig,gan wahanol ryw ac oedran, ac yr oedd yn gyfarfod dyddorol iawn nis gallaf enwi y darnau oil, o horwydd nad wyf yn gwybod eu peniad oil, a thrwy hyny, gwell yw peidio enwi dim. Yroedd y cor yn gwasanaethu yn ei dro fel yr adroddwyr. Yr oedd y darnau yn mlaen tua deg ar hugain i gyd. Cawsom gyfarfod da iawn, a phawb wrth eu bodd yn dymuno am gael cyrarfod o'r fath yn fuan etto. Terfynwyd y cyfarfod trwy anerch gorsedd gras gan ein gweinidog, a ttion gan y cor.—G., Aberafon. DINAS NODDFA, GLANDWR.—Dydd Nadolig, cynnaliwyd cyfarfod yn eglwys y Bedyddwyr yn y lie uchod, i'r dyben o anrhegu plant yr ysgol a gwledd o fara brith a tfrwyth y ddalen Indiaidd, pryd y cyfran- ogodd tua chant a hanner o blant, heblaw dynion mewn oed. Yn ol ei arfer, dangosodd yr hen frawd Mr. Philip Benjamin ei ffyddlondeb, trwy roddi 10 swllt tuag at ddwyn y dranl. Dymunem ddiolch i'rbonedd- igesau yn hen ac yn ieuainc, y rhai fuont vnffyddlon ac yn ymdrechol iawn i ddwyn pethau oddiamgylch yu weddaidd ac mewn trefn. Am 7 yn yr hwyr, cawsom wledd i'r meddwl. Llywyddwyd y cyfarfod gan y brawd Joseph Davis, llywydd morthwylfa Glandwr. Cawsom araeth gan ein brodyr o sicrwydd llwyddiant yr ysgol Sabbothol. Yna cawsom yr hyfrydwch o wrando ar amryw ddarnau yn cael eu hadrodd; canodd y cor rhwng y gwahanol ddarnau yn swynol dTOs-ben. Cawsom gyfarfod da o'i ddechreu i'w ddiwedd a gellid tystio wrth agwedd y gynnulleidfa. eu bod yn cael eu thvyr feddloni, a syched am weled-cyfarfod o'r fath etto yn fnan, a hyny heb fod yn hir.-UN OEDD YNJ. CYFARFOD CHWARTEROL CYMMANFA Y Elm-" YDDWYR, DYFED, a gynnelir y Mawrth a'r Mar- cher diweddaf yn Chwefror, 1862, yn Jabes, DJFF- rvn Gwaen. Y gynnadledd i ddechreo am 2 o'r gloch dynd Mawrth. Dymunir ar y gweinidogion perthynol i'r sir ymdrechu bod yn bresenol yn y Gynnadledd. CAERSALEM, YSTALYFERA.—Traddo Jwyd dar- lith yn y He uchod nos Lun, yr 20fed o'r mis hwn, gan y Parch. D. Edwards, gweinidog y lie, ar Christmas Evans a'i Amserau." Ar yr achlysur hwn, etholwyd J. Lewis, Ysw., JAletty'r Efengyl, Cwmtwrch, i'r gadair lywyddol, yr hwn a agorodd y cyfarfod yn ddoniol dros ben. Dangosodd drwy resymau grymus a bywiog fod dariithio ar ddynion da yn beth rhesymol a chydweddol &'r efengyl. Yna galwodd ar y darlithydd at ei waith, yr hwn a dderbyniwyd gydachymmeradwyaeth mawr; ac wedi i'r dorf ag oedd wedi dyfod yn nghyd orphen dangos eu harwydd o'u cymmeradwyaeth a'u der- by niadiddo fel darlithydd, dechreuodd ar ei orch- wyl; ac yn bwyllog arweiniodd ni at deulu Christ- mas Evans, bi faboed, ei ddygiad i fyny, ei ymun- iad a chrefydd, ei ddechreuad i bregethn, ei lwydd- iant yn y weinidogaeth, &c; achawsom enghreifft- iau o'i ddoniau rhyfeddol, a'i ffrnethinebannghyd- marol, nes oeddem yn meddwl ar y pryd ein bod yn clywed yr hen batriarch eihun yn lIefaru. Oud ar ol siarad ar y pethau a nodwyd am tua dwy awr, arweiniodd ni at farw Christmas, yn nghyd a'r dirfawr walianiaeth sydd rhwng y cristion a'r dyn annuwiol yn marw ac ar ei eisteddiad i lawr, daugoswyd drachefn gymmeradwyaeth mawr i'r darlithydd a'r cadeirydd, gan y gynnulleidfa lu- osog. Ymadawodd pawb, gan ystyried eu bod wedi cael llawn gwerth eu harian.—D. W. EVANS.