Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

HANESION CREFYDDOL.

News
Cite
Share

Yna canodd y cor yr Anthem, Cwymp Babilon." Wedi i'r ysgol hon encilio, cymmerwyd eu lie gan ysgol Cilfowyr. yr hon a ddechreuodd trwy ganu, "Caned preswylwyr y graig." Holwyd hi gan ei gweinidog, y Parch. R. Price, yn y pwnc, Crist yr unig lachawdwr," a chanasant yr anthem ar y 12fed bennod o Isaiah. Wedi myned trwy eu gwaith yn anrhydeddus, rhoddasant en lie i ysgol weithgar a llwyddiannus y Star, yr hon wedi cym- meryd ei safe appwyntiedig, a ddechreuodd trwy ganu y don The children's Jubilee," a holwyd hi (yn absenoldeb eu gweinidog, yr hwn oedd dan yr angenrbeidrwydd o fod yn absenol, er mwyn cyfarfod ag ysgol Rebohotb, yn y Drefach), gan y Parch. D. Price, BlaenfFos, mewn pwnc o eiddo ei gweinidog, y Parch. D. Jones, ar Amgylchiadau diweddaf Iesu Grist." Wedi hyny, canasant y dBn, "Buddugoliaeth," Yna anerchwyd y gym- manfa yn gyffredinol, gan y bachgen ieuanc Charles Morgans, Blaenffos, ar Niweidiau es- geulusdod," nes todddi pob calon, a pheru i bob llygad wylo dagrau. Yna canodd y gymmanfa y Cyfammod Disiglac wedi terfynu trwy weddi, ymadawodd pawb, wedi eu Hawn foddhau, ac yn y gbbaith o gael cymmanfa y Llungwyn yn Nhilfowyr. Da genym ganfod y fath weithgarwch yn ysgolion Sabbothol yr undeb hwn, a dywedwn o'n calon, Ewch rhagoch.—JOHN DAVIES, Ysgrifenydd. LLANIDLOEs.-Ar y 14eg a'r 15fed o'r cynfis, cynnaliwyd cyfarfod trimisol dosparth gogleddol yr Hen Gymmanfa, yn V dref hon, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan y brodyr canlynol J. D. Hopkins, Cwnallwyd; J. Nicholas, Caersws; J. Yaughan, Staylittle R. Davies (Hen Belican), Bethania J. Jones, Maesyrhelem T. Rees, Drefnewydd W. Roberts, Rhosllanerchrugog D. Davies, Nantgwyn; R. Owens, Ceri; H. Lewis (A.), Llanidloes; D. Davies, Dolau; a J. Robinson, Llansilin. Yr oedd y cyfarfodydd yn lluosog o'r dechreu i'r diwedd, a'r pregethau yn sylweddol a da, ac yn cael eu traddodi gyda hwylusdod mawr a bias. Bydded i'r Arg- lwydd eu bendi}hio i ddwyn llaweroedd i fod "yn wneuthurwyr y gair, ac nidgwrandawwyrynunig." —D. R. CWRDD AGORIADOL.—Tabernacl, Pontypridd. -0 herwydd bychandra yr hen gapel, ac annghyf- leusdra ei sefyllfa, penderfynodd eglwys y Bedydd- wyr yn y dref hon, er ys dwy flynedd yn ol, symud yr anfantais hon a lafurient o dani, trwy adeiladu capel newydd mewn lie cyfleus yn nghanol y dref; ac yn awr, y maent wedi dwyn y penderfyniad i weithrediad, a chyrhaedd y dymuniad a fodolai yn mynwes llawer o'r aelodau er ys llawer dydd. Dyddiau Mercher, Iau, a'r Sabboth, Rhag. 18, 19, a'r 22, agorwyd y Tabernacl newydd, pryd y pre- gethodd Dr. Thomas, Pontypwl; R. Ellis, Sirhowy E. Thomas, Casnewydd J. R. Morgan (Lleurwg), J. Richards, Caerffili, diweddar weinidog yr eglwys, D. Morgan, Blaenafon a J. Owens, Aberdar, yn ol eu medrusrwydd arferol. Mae y capel yn adeilad hardd a chyfleus, yn mesur 53 wrth 48 troedfedd rhwng y muriau, ac yn cynnwys oriel ehelaeth. Gall tua naw cant a banner eistedd yn gysurus ynddo. Casglwyd t60 ar yr agoriad, yr hyn at yr hyn a gasglwyd gan yr eglwys yn ystod ychydig mwy na blwyddyn, a wna £ 360. Costiodd yr ad. eilad £ 2100 felly y mae jel740 o ddyled yn aros, yr hyn sydd yn faich trwm ar eglwys gyfansoddedig yn benaf o'r dosparth gweithiol. Ond yr ydym yn hyderus y gallwn gyda ffyddlondeb ddal dano, a'i leihau o flwyddyn i flwyddyn, nes cyrhaedd cyn hir flwyddyn ein rhyddid oddiwrtho oblegid y mae yr eglwys wedi dangos trwy yr hyn a wnaeth, ac ys- tyried sefyllfa isel y gweithfeydd a masnach, fod ganddi galon i weithio. Etto byddai ycbydig gym- horth yn dda iawn, a derbynid ef yn ddiolchgar gan ein gweinidog, neu ein trysorydd, y brawd J. Griffiths, draper, Mill-street. Dichon y tybia rhai fod gormod o draul wedi myned yn yr adeHad ond gallwn eu sicrliau nad yw hyny yn bod. Mae y capel yn un helaeth, hardd, a chysurus, ond nid oes f dim addurn treulfawr'a diangenrhaid ynddo. eyf. leusdra acnid addurn a amcanwyd ati, allwyddwyd i gyrhaedd hyn; ac fel y dywedai Mr. Richards, cyn-weinidog yr eglwys, ei fod yn un o'r capeli mwyaf cyflaus a welodd efe erioed. Mae y draul wedi ei achosi yn benaf gan ddyfnder y sylfeini; mae o'r sylfaen i lawr y capel ar un ochr wyth ar hugain o droedteddi, a threuliwyd tua chwe chant o bunnau cyn dyfod i lawr y ty cwrdd. Gwnawd y defnydd goreu o'r gwagle islaw. Mae yma ystafell 6an.; i gynnal cyrddau wythnosolac ysgol Sabbothol gwisgle, ystabl, a chyfleusterau ereill angenrheidiol, Nid oedd gan yr eglwys un dewisiad, ond adeiladu. ar y lie hwn neu fyned allan o'r dref, oblegid nid oedd un man arall i'w gael ynddi. Saif y capel yn awr mewn lie canolog, yn bawdd dyfod iddo o bob cwr i'r dref, a dywedai y gweinidogion a fuont yn pregethu ar ei agoriad, ei fod yn anrhydedd i'r enwad y perthyna iddo, ac yn rhoddi safle priodol i enwad y Bedyddwyr yn y dref. Da genym hys. bysu fod gan yr eglwys le i farnu fod yr anturiaeth yn gymmeradwy gan Dduw. Mae^rr ysgol Sab- bothol wedi cynnyddu o ddau i dri chant, y gynnull- eidfa bron wedi dyblu wrth beth oedd yn yr hen gapel, ac wyth o ymofynwyr gobeithiol wedi dyfod i'r gyfeillach yn ystod y tair wythnos gyntaf wedi symud i'r ty cwrdd newydd. Yr Arglwydd a'n llwyddo etto fwyfwy. CWKDD CHVVARTER Dosparth Isaf swydd Gaer- fyrddin a gynnelir yn Nghwmfelin Chwef. lleg a'r 12fed. Dymunir ar y gweinidogion ddyfod yno yn brydlawn y dydd cyntaf.-D. W. GWLEDD DE.—Cynnaliwyd gwyl de eleni etto yn Ramoth, Cwmfelin, ar hen ddydd Nadolig, yn hollol rad i ddysgyblion yr ysgol Sabbothol yn y lie, y cyfan ar draul yr anrhydeddus a'r haelionus foneddiges Madam Powell, o Maesgwyn, a Mr. Silvanus Davis, Wernberny (sef tad i'r ysgolor enwog hwnw,y Parch. B. Davis, Ph.D., proffesydd clasurol yn Regent's Park College, Caerludd). Dygwyd arolygiaeth y wledd ddanteithiol hon yn mlaen gan y Meistresi Martha a Penelope Davis, merched yr S. Davis uchod, yn y modd mwyaf boddlongar, a chyfranogodd o honi yn agos i ddau cant. Am 5 yn yr hwyr, gwnaeth yr ysgol a lluaws o wrandawwyr eu hymddangosiad yn y capel, pryd yr erfynwyd nawdd y net gan Thos. Griffiths, (pregethwr cynnorthwyol y lie). Yna cynnygiodd Lewis Davis fod y Theo. Griffiths uchod yn gadeirydd, ac a eiliwyd gan yr ysgrifenydd. Y Da gahvodd ar yr ysgol i wneyd eu safle ar yr oriel, pryd yr adroddwyd ganddynt ddarnau lluosog mewn prydyddiaeth ac ar ddefnyddioldebyr ysgol Sul. mewn modd tra destlus; yna adroddodd John Gibbon ar don cwyn yramddifaid mewn modd tra boddhaol. Am 6, galwodd y cadeirydd ar y Parch. Dl. Davies, Login, i draddodi darlith, yr hwn a'i gwnaeth mewn modd campus a godidog ar "Hynodion yroes;" ac yn ddiweddaf, darllenwyd y pennillion a ganlyn gan gyfaill I Madam Powell am y bara danteithiol a wnaeth i Wledd De Ramoth, Cwmfelin. Boneddiges, gwir ddyngares, Hardd gym'doges yn y wlad, Gwna elusen mewn modd llawen I blant angen heb nacad. Bara 'splenydd, cynnyreh gwledydd, Hyny'n gelfydd roddodd hon; Plant yr ysgol ga'dd ei siriol A gwirfoddol, eithaf Ilon. Cyfoethogion yn fwy cysson Ddelo'n haelion yiipu bryd, Efelycher Madam Powell Gan ryw lawer yn y byd. 'Nawr terfynwn, a diolchwn, A dymunwn iddi hi Ac i'w theulu, hyn yw'n gweddi, Bob daioni'r nefoedd fry. Etto, i Silvanut Davis, Wernberny. Yr henuriad Davis mwyndpd, Haeddai ganiad am y te, Sugr hefyd, blasus, hyfryd, Glan ddanteithfwyd roddodd e\ Bydd ei enw gael ei gadw. Tra bo sylw gan y plant, Am ei roddion a'i gynghorion, Hynawg, haelion, nes myn'd bant. Mewn hen oedran boed ei gyfran, Dyddiau dyddan gan ei Dduw, Anwyl leau fo'n gofalu, Ac 'n ei drefnu ato'i fyw., v* Yr un pethau gaffom ninnau, v .'11'' Gwerthfawr radau'r nefoedd wen, Nes cyrhaeddyd bro dedwyddyd, Dyna wynfyd,—'nawr, Amen. Yna yr aeth pawb adref wedi cael eu mawr foddloni yn y prydnawn gan wledd i'w cyrff, ac yn yr hwyr gan wledd i'w meddyHau.—CYFAtLL. MORIA, MSINCIAU.- Prydnawn dydd Llun, e' Ion. 13eg (sef yr hen Galan), ymgynnullodd ysgol Sabbothol y lie uchod i'r capel i gyfranogi odeatheisen wedi eu parotoi gan wragedd a merched ieuainc per- thynol i'r lie. Dyma'r tro cyntaf i'r ysgol hon gael ei hanrhegu a the. Wedi cael gwledd flasus felly i'r corff, ymgynnullwyd i'r capel drachefn yn yr hwyr i gael gwledd i'r meddwl. Cynnaliwyd cyfarfod adroddiadol* pryd yr adroddwyd tua 50 o wabanol ddarnau, ac y canwyd amryw donau yn fedrus; cafwyd cyfarfod buddiol a phoblogaidd iawn. Mae cyfarfodydd llen- yddol ac adroddiadol yn bethau newydd hollol i'r gym- mydogaeth hon ac fel pethan newydd, ni ddysgwylir iddynt gael cymmeradwyaeth pawb, oblegid mae rbyw fath o ddynion heb rai call yn mhob cymmydogaeth, y rhai sydd yn barod i gondemnio pobcychwyniad newydd o eiddo eglwys Dduw, heb ystyried pa un ai da ai drwg y byddo. Gallwn feddwl ein bod yn clywed rbyw un neu ddau o bersonau yn y gymmydogaeth yn sibrwd rbyw beth anffafriol o berthynas i'r cyfarfodydd ad- roddiadol ydym wedi gynnal yn amser y gwyliau, ac edrychant ar y cychwyniad yma o'n heiddo fel prawf amlwg fod yr eglwys wedi colli el phurdeb, ac wedi myned yn babyddol; ond drwy drugaredd, nid ydynt ond megys efydd yn seinio, neu symbal yn tincian. Yr ydym fel pobl ieuainc y gymmydogaeth yn penderfynu pleidio cyfarfodydd llenyddol o hyn allan erpob gwrth- wynebiad a gawn. Nis gallwn feddwl am aros yn llonydd, pan y mae pawb o'n cylch yn cychwyn. Da genym allu hysbysu fod ein hysgol yu flodeuog neillduol -ei deiliaid yn lluosogi braidd bob Sabboth. Er ys dwy flynedd yn ol, nid oedd yr ysgolheigion ond tua 50, ond erbyn hyn, maent tua 150, felly mae ei chynnyddya fawr, ac ystyried mai ysgol mewn gwlady w. Llwydd- iant iddi gynnyddu etto.—NIANJAS. SARON A SOAR, LLANDYBIE.—Rhagfyr 24ain a'r 25ain, cynnaliwyd cyfarfodydd yn y lleoedd uchod, er neillduo ein hanwyl frawd T. F. Williams o athrofa Pontypwl, i gyflawn waith y weinidogaeth. Ya baron, yr hwyr eyntaf, am 7, darllenodd, gweddiodd, a phregethodd y Parch. F. Evang, Llangynidr, yn nghyd a'r Parch. J. Williams, Aberduar. Dranoeth. am ddeg.dechreuodd y Parch. J. R. Morgan (Lleurwg), a thraddododd y Parch. J. Williams araeth ar natur yr eglwys yna holwyd y brawd ieuanc yn y pethan arferol, y rhai a atebwyd yn foddhaol dros ben a thei- lwng ydyw sylwi fod pob peth a ddywedodd yn suddo i galonau y gwrandawwyr nes eu gyru i deimladau ag oedd yn peru iddynt wylo y dagrau. Yna dangdsodd yr eglwysi unfrydolrwydd eu dewisiad, yr hyn a dder- byniodd yntau. Yna neillduwyd ef i'r swydd wemi- dogaethol, a rhoddwyd yr urdd weddi i fyny gan y Parch. J. Williams, gan arddodi dwylaw. Pregeth svyd iddo ei ddyledswydd gan y Parch. W. Roberts, Peny- parc ac i'r eglwysi gan y Parch. W. Hughes, Bethel, Llanelli. Am 2, dechreuodd y brawd J. Evans, Cross Inn a phregethodd y Parchedigion D. Williams, Cross Inn, a W. Roberts, Penyparc. Am 6, dechreu- odd y brawd B. Jenkins, Penrhiwgoch; a phregethodd y brawd D. Lewis, o athrofa Poutypwl, a'r Parch. D. W. Morris, Cwmsaruddu ac ar yr un amser yn Soar gan y Parchn. J. Williams a W. Roberts. Cafwyd cyfarfodydd gwresog, cynnulleidfaoedd lluosog, ac ar. wyddion fod Duw yn y canol. Y mae ein hanwyl trawd yn dechreu bedyddio eisoes.-J. EVANS. BETHEL, LLANGENDEIRNE, A MORrA, MSIN. CIA U .-CynnaIiodd ysgolion Sabbothol y lleoedd uchod eu cyfarfod blynyddol eleni ar ddydd Nadolig fel arfer. Yn y boreu, cychwynodd ysgol Llangendeirne i'r Meinciau-y fam at y ferch. Yr oeddyntyn eu lie yn drefnus yn y capel erbyn 10 o'r gloch; yna dechreuwyd y cyfarfod drwy adroddiad y 13eg bennod o Luc gan y plant yn ddosparthiadau. Wedi gweddio, cymmer- wyd llywyddiaeth y cyfarfod gan Mr. John, y gweini- dog. Yna galwodd ar y plant i ganu ac adrodd amryw ddarnau detholedig; yr oedd yr adroddiadau a'r cabu ynsynu y gynnulleidfa-ymdrech a Ilafur yr athrawon a blaenoriaid yr ysgol yn cael ei ddangos ya amlwg yn