Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
HANESION CREFYDDOL.
News
Cite
Share
HANESION CREFYDDOL. CWRDD CHWARTER DOSPARTH UeHAP SWYDD GABRFYRDDTN. — Cynnelir y cyfarfod hwn yn Nghydweli, aryraiIFawrth a Mercher yn mis Chwef. nesaf, pan y dysgwylir i'r gweinidogion perthynol i'r cylch fod yn wyddfodoL—J. REYNOLDS. SPELTER, MAESTEG.—Cadwyd un o'r cyfarfod- ydd adroddiadol, a cherddorol, mwyaf dyddorol a llwyddiannus, ag oedd yn ddichonadwy i'w gael, dydd :Nadolig fdiweddaf, gan ieuenctyd ysgol Sabbothol Salem. Dechreuwyd am ddeg yn y boreu, drwy i'r Parch. H. Davies gynnyg Ph. Perkins, (Gwalch Llynfl), i gymmeryd y gadair; am nad oedd yr hen bererin, J. Jereminah, yno. Yna, cawsom ychydig o eiriau gan y Gwalch ag oedd yn llawn o DAn, ac ysbryd llenyddol. Awd drwy y cwrdd deg yn rhagorol dros ben. Erbyn y cwrdd dau, yr oedd yr hen Gristion J. Jeremiah wedi dod. Cynnygwyd ac eiliwyd ef yn unfrydol i gymmeryd llywyddiaeth y cwrdd; ac felly y gwnaeth. Yehydig wedi dau o'r gbch, aethom yn UII dorf gariadus, bach a mawr, yn orchymdaith o amgylch y lie; ac yna dychwelwyd yn ol i adrodd a chanu eilwaith, gyda'r un medrusrwydd ag oedd yn y boreu. Ac am chwech y nos, yr oedd yr holl le yn orlawn o wrandawwyr siriol ac astud. Os oedd y ddau gyfarfod y boreu yn dda, yr oedd hwn yn well yn mhob ystyriaeth. Bydd y Nadolig di. weddafyn glodac anrliydedd i'rathrawon. Ynystod y tri chyfarfod, traddodwyd saith o anerchiadau barddonol, heblaw y rhai rhyddieithol. Dadgan. wyd chwech ar hugain o wahanol ddarnau cerdd. orol, a thri ugain ar ddeg o wahanol adroddiadau. Dyna i ti, ddarllenydd anwyl, Ie i ffurfio rhyw idea am yr yagol. Y mae ei rhif wedi ychwanegu llawer yn ddiweddar; a gallwn ddweyd, ys dywed un, Ein bod ni yma'n llawen Wrth yfed ffrwyth yr awen, Heb deimlo brath, na bias, Yr adgas hyll genfigen, GWALIWR GWYLLT. BETHEL, LLANELLI. — Cynnaliwyd cyfarfod chwarterol yr ysgol Sabbothol yn y lie uchod ar ddydd Sul, londwr 5ed, am ddau o'r gloch y pryd- nawn. Dechreuwyd y cyfarfod trwy i'r brawd Rowland Morgan ddarllen rhan o air Duw, a throi at y Jehofah mawr i geisio ei wenau grasol ar y cyfarfod; ac yr ydym yn hollol gredu na fu ei gais a'i ddymuniad yn ofer. Wedi hyn cymmerodd ein parchufi a'n ffyddlon weinidog, Mr. Hughes, y swydd o lywyddu y cyfarfod, yr hyn a gyflawnodd mewn modd trefnus iawn. Yna, galwodd ar yr ysgrifenydd i roddi cyfrif o lafur yr ysgol am y chwarter oedd wedi myned heibio, yr hyn a wnaeth mewn modd byr a doeth. Yrunig beth annymunol yn hyn oedd, nad oedd cymmaint o ymdrech wedi bod ag a ddylasai fod ond y Duw mawr a'n ben. dithio o hyn allan a mwy o ffyddlondeb, Yn nesaf, canodd y cor don a elwir, "Part'owch y ftordd," yn soniarus iawn. Yna adroddwyd darnau o farddoniaeth gan rai o'r plant; ac yn ganlynol galwyd ar y brawd ieuane William Davies i areithio. Er ei fod yn areithiwr newydd, yr oedd ei ddull trefnus yn dweyd ei fod yn hen areithiwr, oblegid fe safodd i fyny yn wrol, ac fe ddywedodd am ddaioni yr ysgol Sabbothol mewn modd effeithiol a dylanwadol iawn, nes yr oedd y gynnuUeidfa, rwy'n meddwl, yn teimlo parch mawr tuag at y sefydliad gogoneddus ag oedd ef yn ei ganmol. Etto, adroddwyd llawer o ddarnau gan y plant, ac fe ganodd y cor don o'r enw Darnau Arian," nes oedd y dorf luosog yn cael boddlonrwydd. Wedi hyny galwyd ar y brawd Dan Davies i areithio ar yr Ysgol Ssbbothol, yr hyn a wnaeth mewn modd gwresog a theimladwy iawn, nes yr wyf yn credu i'r gynnulleidfa gael ei hargyhoeddi o'i dyled. swydd tuag at yr achos da, a gobeithio na fydd i'r argyhoeddiadau hyny gael eu diffodd. Y peth nesaf a wnawd oedd yr hyn ag sydd yn cael ei alw yn Ymgom yn Ilys Media," yr hyn a gyflawnwyd gan chwech o bersonau, ac fe'i gwnawd hefyd yn weddaidd ac mewn trefn, fel y mae'r Apostol yn ein cynghori, ac nid oedd dim yn yr ymgom, mi a debygwn, ag oedd yn anaddas i gael ei wneyd yn nht Dduw, oblegid y mae yn ddianmeu tod gweled Daniel yn cael ei dafla i 8air Uewod am ei grefydd yn peru i'r gynnulleidfa ddiolch am ryddid cref- yddol, ac nid wyf i'm beio os dywedaf yr un modd ag y dywedodd ein cadeirydd parchus, fod yr hen frenin wedi myned trwy ei waith yn dda. Ar ol hyn, canwyd deuawd gan John Charles a Mary Thomas, yn swynol iawn; ac hefyd Solo gan Thomas Bowen; ac yna yr oedd dadl rhwng loan a Dafydd, o berthynas i'r Ysgol Sabbothol, a llawer o ddarnau difyrus iawn, ac yr oedd y plant oil yn haeddu canmoliaetb am eu gwaith,er eu bod bob un wedi cael eu gwobrwyo a llyfr. Yn nelaf, galwodd y cadeirydd ar y brawd medrus Thomas Jones, sef ysgrifenydd yr ysgol, i areithio. Ei destun oedd Amser; ond ni chafodd y brawd chwareu teg i drin ei bwne yn bwyllog, oblegid yr oedd yr amser wedi myned yn mhell, er hyny, y mae yn haeddu canmoliaetb mawr. Yna diwedd" wyd y cyfarfod trwy i'r cor ganu Teyrnasoedd y ddaear." Er ein bod wedi bod yn agos i ddwy awr a banner, etto i nid oedd argoelion |y fod neb yn blino—yr oedd yno dorf luosog wedi ymgynnull yn nghyd, ac yr wyf yn meddwl ei bod oil yn gallu dwryd with fnned allan, Da oedd i ni fod yma." Y mae yn ddiamheu genyf fod hwn yn un o'r cyf- arfodydd chwarterol mwyaf dyddorol a gynnaliwyd genym a gobeithio y bydd yn foddion dan fendith Duw i wneyd lies mawr i'r ysgol yn y Ile. 0 dyro i ni'th gymhorth Yn Bethel, 0 fy Nuw, I weithio hyd mae ynom, Tra ar y dda'r yn byw, Er daenu son am lesu, A dysgu'r werin tlawd I ddarllen am y Cyfiawn, A ddaeth yn wrthddrych gwawd. EDWIN MONGER. CYMMANFA YsGonoN.—Cynnatiodd Undeb Ysgolion Sabbothol Blaenffos, Star, a Chilfowyr," eu cymmanfa flynyddol ar ddydd Mercher, Rhag. 25ain, 1861, yn y Star. Yr oedd yr bin yn ddy. munol, a'r ysgolion wedi dyfod yn nghyd yn lluosog a phrydlawn. Dechreuwyd y gwasanaeth cy. hoeddus gan y Parch; D. Price, trwy ddarllen y 7fed bennod yn llyfr y Pregethwr; yna cymmer- odd ysgol luosog Blaenffos ei safle ar yr oriel, a chanodd y don Ebenezer. Yna gweddiwyd am fendith Duw ar waith y dydd, a chanodd y cor drachefn yr Anthem, Can Deborah o Barac." Yna holwyd yr ysgol gan ei gweinidog, Mr. Price, ar yr Ysgol Sul," pwnc o waith y Parch. J. Rowlands, Cwmafon; ac aeth trwy ei gwaith er boddhad neillduol i'r holl gynnulleidfa, (a dymun. em gydft llaw, alw sylw yr ysgol Sabbothol yn gyffiedinol yu Nghymru at y pwnc dyddorawl hwn.)
HANESION CARTREFOL.'
News
Cite
Share
ystafell. a hithau banner dadfyw mewn man arall. Parodd hyn ddigrifwch nid bychan i'r rhai oedd bresenol, o herwydd mai Syr John Barleycorn oedd wedi ei thaflu lawr. Wrth bob hanes, yr oedd wedi bod yn gryn dipyn o ffrynd a'r hen lane, ac wedi treulio y rhan fwyaf o ddydd Sadwrn yn ei gyfeillach. Dyma brawf etto mai bradwr yw Syr John.—GWYDDON BACH. Y DIWEDDAR BARCH. Rsics REES, GLASGOED. Mae yn wybodus i'r ran fwyaf o'n darllenwyr fod y dyn parchus uchod wedi cyfarfod a'i angeu drwy foddi. Boreu dydd Gwener, y lOfed o'r mis hwn, TO ol y dystiolaeth ar y trenglioliad, aeth at ei waith i Weithiau Pontymoile oddeutu chwech o'r gloch y boreu, a dychwelodd oddeutu saith o'r gloch, gan achwyn ei fod yn glaf, ac aeth i'r gwely. Ond, oddeuta canol dydd cododd (er ei fod yn edrych yn bur wael), ac a fwytaodd giniaw. Yn ystod y prydnawn, fe dderbyniodd nodyn oddiwrth Mr. Butler, yn gorchymyn llwytho rhyw ddramt ag baiarh. Erbyn hyn, yr oedd yn edrych dipyn yn well, ac fe aeth i'r Athrofa i weled Dr. Thomas. Fe aeth hefyd i dy Mr. Phillips, Cwmnescoy, ac a alwodd am bar o esgidiau. Wedi iddo ddychwelyd, fe aeth i'r gwelv oddeutu 9 o'r gloch yn yr hwyr. Boreu dranoeth, fe gododd yn foreu, oddeutu 5 o'r gloch gofynodd ei wraig iddo beth oedd ei ddyben yn gwneyd hyny, pryd y dywedodd fod yn rhaid iddo ymofyn allwedd yr iet cyn y gallasai Iwytho yr haiarn. Ar yr ainser hwn. nid oedd yn edrych yn isel ysbryd. Gan na ddychwelodd oddeuta 8 o'r gloch, danfonwyd ei *yr i d9 Mr. Eynon (y lie yr oedd i fyned i ymofyn yr allwedd), i chwilio am dano; pan y dychwelodd yn ol, dywedodd eu bod wedi darganfod ei gorff yn y pond. Nid ydym yn gwybod pa fodd y daeth yno, ynte ai drwy syrthio neu daflu ei huu. Mae rhai yn dweyd fod ymrafael wedi cymmeryd lie rhyngddo a'i wraig yn nghylch rhywbetb ond yn ngwyneb hyn, gallwn ddweyd fod y dyn a daenodd y chwedl allan wedi cyfaddef mai anwiredd ydoedd. Yr oedd y trancedig yn ddyn da a duwiol, ac yn barchus iawn gan y rhai a'i adwaenent. Oddeutu dau fis yn ol, bu yn pregethu ya y Tabemacl ac Heol-y-Prior, yn y dref hon. LliOFEUDDIABTH ERCHYLL YN ABERDAR.—- Ar nos Sadwrn, y 18fed o'r mis hwn, cyflawnwyd llofruddiaeth o'r fath waethaf yn Aberdar. Ar y noson grybwylledig, ymgyfarfu ychydig o Wydd- elod yn oh9 un o'u cydwladwyr yn Mary-street, a danfonwyd am ystenaid o ddiod. Y ddau sydd a fynom ni fwyaf yn awr oedd Thomas Caroll, y llofrudd, 38 mlwydd oed, a Patrick Bransfield, gwr ieuanc 25 mlwydd oed, y llofruddiedig. Ymddengys i Bransfifld ofyn caniatad Caroll i gael ei ferch, yr hwn a'i atebodd mewn modd tra sarug, gan omedd hyny iddo. Wedi eistedd ac yfed am beth amser, aeth Caroll a Bransfield i ymladd. Tra wrth y gwaith hwn, canfuwyd Caroll gan wraig oedd yn byw yn y ty yn tynu ei gyllell allan, a'r hon y bratbodd ei wrthwynebydd amryv weithiau yn ei ochr aswy. Wedi ei frathu fel hyn, Brans- field, gan ocheneidio yn ddwys, a daflai i fyny ei law, pryd y canfuwyd y gwaed yn rhedeg yn ffrwd olr archollion. Rhoddwyd help uniongyrcbol ir clwyfedig gan y gwyddfodolion, a danfonwyd am feddyg, ond cyn iddo gyrhaedd y ty, yr oedd Bransfield druan wedi marw. Cymmerwyd Caroll i garchar, a boreu dydd Llun ar ol hyny traddod- wyd ef i gymmeryd ei brawf ar y eyhuddiad o lofruddiaeth wirfoddol yn y brawdlys Desaf. Elleu Driscoll a ddywedai iddi weled y carcharor yn tynu ei gyllell allan, ac yn brathu y trancedig. Yr oedd ei gwr yn sefyll rhyngddynt, ac yn ymdrechu eu gwahanu ond rhuthrai y carcharor betbto tddo gan frathu ei gyllell yn mron aswy y trancedig. Wedi byny taflodd ei gwr y carcharor i lawr, ae a osododd Bransfield yn erbyn y mur. Neidiodd y carcharor eilwa th i fyny, gan frathu y trancedig drachefn. Yna aeth y carcharor allan, ac yn mhen ychydig dychwelodd, ac a gymmerodd gatiwyll, ec a aeth i mewn i'r ystafell wely lie yr oedd y trane- edig yn gorwedd, a chan edrych arno, dywedai, Yr wyf wedi ei lofruddio, ac os nad wyf wedi ei ddibenu, myfi a'i rhwygaf ef yn agored, ac a'i bwytaf." Gwnawd post mortem examination gan Dr. Mills, yr hwn a gafodd fod y trancedig wedi derbyn cbwech brathiad—tri yn ei wyneb, a thri yn ei ochr aswy, un o ba rai oedd wedi cyrhaedd y galon. Yr oedd pob un o'r brathiadau yn yr ochr yn ddigon i achosi marwolaeth. YR YSTORM DDIWEDDAF.-Y mae yr hanesion am y llongddr yIliadau a ddygwyddasant yn ystod yr wythnos ddiweddaf yn wir dorcalonus. Cymmerai ormod o'n gofod i gofnodi yr holl longddrviliadau ydynt wedi dygwydd o Ben Gaergybi i Gaerdydd; a'r hyn sydd yn gwneyd yr amgylchiadau yn wir alarus yw fod Iluoedd o'n cyd-ddynionwedieucladdu yn y dyfrllyd fedd.