' ^ ; ALAW GOCH. s|1862-01-31|Seren Cymru - Welsh Newspapers Online
Hide Articles List

3 articles on this Page

' ^ ; ALAW GOCH. s

News
Cite
Share

ALAW GOCH. s MAE enw David Williams, Yswain, o Dy Ynyscynnon, yn adnabyddus trwy Hymru oil. Mae ei gymmeriadfel dyn, fel cym- mydog, fel meistr, fel lienor, a bardd, yn adnabyddus i holl edmygwyr lleriyddiaeth ein cenedl. Mae yn dda genym gael cyfle i ddwyn tystiolaeth i werth y fath gymmeriad. Yn mhob un o'r cymmeriadau agydym wedi eu nodi, mae ef yn sefyllyn uchel iawn ond fel pleidiwr selog, ffydcllon, a diflino a hael- frydig i lenyddiaeth y Cymry, mae yn cymmeryd ei saite yn rhes flaenaf noddwyr ein gwlad. Mae ei ymdrechion tuag at gaet un Eisteddfod fawr i'r holl genedl-un a fyddai yn uno Gogledd a De—uwch- r5 law pob canmoliaeth. Mewn cyssylltiad a'r eyfarfod mawr a fu yn Aberdar yn Awst diweddaf, cyflawnodd Alaw Goch wrhydri mawrion gweitliiodd yn ddidor, heb arbed ei hun na'i logell lawn, er cael pob peth oddiamgylch, er anrhydedd y sefydliad cen- edlaethol. Gwelwyd ei werth, a theimlwyd awyddmawram ryw gyfle i gyfeillion y genedl i ddadgan y parch a deimlid tuag at y Gwr o Ynyscynnon. Mewn cyfarfod o lenorion a beirdd a gynnaliwyd ar noson gyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol, pan ag oedd yn wyddfodol Glan Alun yn y gadair, Nicander, Clwyddfardd, Gweirydd ap Rhys, Creuddinfab, Nefydd, Gohebydd yr holl fyd, ac amryw ereill, cymmerodd y Parch. T. Price y cyfle i roddi braslun o hanes Alaw Goch fel dyn, fel cefnogwr pob mudiad Ileol o werth, ac yn neilldnol ei ymdrechion caled o blaid yr Eisteddfod Genedlaethol; ac aw- grymodd y priodoldeb o roddi y cyfle i gyf- eillion Alaw Goch i gyflwyno iddo anerch- iad, gyda Bathodyn tlws o aur. Yr oedd yn nodi peth mor faeh, am y gwyddai yn dda na fuasai rhodd arianol yn dderbyniol gan Mr. Williams, tra y credai y bnasai anerch- iad a thlws yn dderbyniol gan y Boneddwr teilwng. Derbyniwyd yr awgrym yu gal- onog iawn. Ar ddydd olaf yrEisteddfod Genedlaethol, cynnaliwyd cyfarfod gan rai o'r Beirdd a'r Llenorion eilwaith, pan ben- derfynwyd cario awgrymiad Mr. Price i weithrediad. Pennodwyd pwyllgor yn y fan o'r boneddigion catilynol Hugh Owen, Yswain, Llundain, Cadeirydd; Parch. Thomas Price, Trysorydd Mr. J. Griffiths, Gohebydd y byd, Ysgrifenydd Wm. Jones, Ysw. (Gwrgant), Llundain; Parch. Hugh Hughes (Tegai) a Mr. W. Morris (Gwilym Tawe), Abertawe. Ar nos Fercher, Ionawr 15fed, dygwyd gweithrediadau y Pwyllgor i derfyniad mewn cyfarfod cyhoeddus, yn yr hwn y cyflwynwyd yr Anerchiad a'r Tlws i'r gwladgarwr twymgalon. Llywyddwyd y cyfarfod yn fedrus a hynod o dalentog gan y Parch. John Gri- ffiths, Arberiglor Castellnedd yr hwn a draddododd anerchiad llawn o dân a brwd- frydedd Cymreig; darllenodd hefyd Iythyrau oddiwrth luaws o Feirdd a Llenorion, y rhai nad oeddynt yn gallu bod yn wyddfodol. Darllenodd y cadeirydd yr anerchiad can- I ynol Tysteb i Alaw Goeh, Ynyscynnon. Mewn cyfarfod a gynnaliwyd yn y Neuadd Ddirwestol, Aberdar, dydd olaf yr Eisteddfod Genedlaethol, sef dydd G-wener, Awst 23ain, 1861, Hugh Owen, Ysw., yn y gadair. Penderfynwyd,Fod y Cyfarfod hwn yn ystyried llafur diledrith y gwlad- garwr cywirfryd, DAVID WILLIAMS, Ysw., (Alaw Gocb), o blaid y symudiad presenoli ddiwygio yr Eisteddfod, yn gystal a'i ym- drechion diflino gyda'r Eisteddfod yn Aber- dar, yn deilwng o gydnabyddiaeth; ac fod y pwnc yn cael ei ymddiried i'r pwyllgor canlynol i beuderfynu ar y dull mwyaf pri- odol i ddwyn yr amcan i ben:—Hugh Owen Ysw., Llundnin; William Jones, Ysw., (Gwrgant), Llundain; Mr. John Griffiths (Gohebydd), Llundain; Mr. W. Morris (Gwilym Tawe), Abertawe; y Parch. Thomas Price; a'r Parch. Hugh Hughes, (Tegai). AT DAVID WILLIAMS, fSW. (ALAW GOCfl). Hybarch Wladgarwr,—Yn unol a'r pen- derfyniad uchod, cymmerodd y pwyllgor dewisiedig y pwnc mewn Haw, a meddant yr anrhydedd yn awr o gyflwyno i chwi yr anerchiad syrnl hwo, yn nghyd a'r tlws aur sydd yn ei ddilyn. Y mae y pwyllgor yn ymwybodol na wnant gyfiawnder & theimlad y tanysgrifwyr, na'ch llafur chwithau, pe ceisient amlygu un yn ddyladwy, a chydnabcd y Hall yn bri- odol, yn ngwerth arianol y dysteb. Olid tra yr ystyriant fod eich llafur yn anmhris- iadwy, hyderant y bydd y tlws a'r anerchiad hwn yn dderbyniol gan deulu parchns Yn- yscynnon, fel amlygiad cynhes a ddiffuanto barch eu cydwladwyr tuag atynt. y ZD Dymuna y pwyllgor hysbysu, na chym- hellwyd neb i gyfranu at v dysteb hon, yn ddim pellach na roddi cyfle i ychydig o'ch cyfeillion brwdfrydig, i ddangos eu cymmer- 0 adwyaeth calonog o'ch llafur yn y flqrdd hon. Dymuna y pwyllgor i chwi hir oes a ded- wydd, iwasanaethu eich cenedl yn mhob modd, yn neillduol mewn meithrin a chef- nogi llenyddiaeth eich gwlad a hyderant na fydd esiampl mor deilwng o efelychiad yn ddisylw gan foneddwyr ein Tywysogaeth. Dymuna y pwyllgor hefyd longyfarch eich priod hawddgar a haelfrydig a'n dy- muniadau goreu, a'r un modd eich plant cariadlawn, Gwilymj Gomer, a Gwladys, y rhai y gobeithiant a drosglwyddant enw ac enwogrwydd Ynyscynnon yn ddilwgr i'r oesau a ddel. Nis gall y pwyllgor derfynu eu hanerch- iad yn well na chyda y dymuniadau pu?af am i deulu caredig Ynyscynnon fod byth Dan nawdd Duw a'i dangnef." 0 r r Arwyddwyd dros y tanysgrlfwyr &'r Pwyllgor. HUGH OWEN, Cadeirydd. Yna gwisgwyd Mr. Williams a'r Tlws Euraidd gan briod hawddgar y Cadeirydd. Cymmerwyd rhanau cyhoeddus yn y cyfar- fod gan y boneddigion canlynol :-Parch J. Davies, Gwilym Tawe, Carw Coch, Gwilym Mai, Aneurin Fardd, Parch. W. Edwards, Parch. David Price, Capten Davies, Mr. W. Evans, Parch. T. Price, Nathan Dyfed, Mr. H. Williams, Gohebydd, Parch. D. Saunders, a Gwilym Williams, Ynyscyn- non. Yr oedd gweithrediadau y cyfarfod drwyddo oil yn llawn o frwdfrydedd a than Cymreig—y neuadd fawr wedi ei gorlenwi; y Musical Association yn canu; Seindorf y Rheifl gor yn chwareu; a phawb o'r bron o un galon am dalu parch i'r gwr y cyfar- fuwyd i'w anrhydeddu. Gallwn ddywedyd wrth derfynu na wobrwywyd neb erioed ag oedd yn fwy teilwng o wobr tifi David Wil- liams, Yswain. Ein dymuniad calonog yw, ar iddo gael llawer o flynyddau fel y mae wedi byw, yn noddwr pob mudiad da yn ei ardal, ac yn gefnogwr calonog i bob peth o duedd i ddyrchafu cenedl y Cymry. Dnw y nef yn nawdd i'r tad a'r fam, gyda Gwilym, Gomer. a Gwladys—y teulu a fyddo o dan nawdd Duw a'i dangnef.

HANESION CARTREFOL.'

,Y PYTHEFNOS.