Hide Articles List

2 articles on this Page

GOHEBIAETHAU.

News
Cite
Share

GOHEBIAETHAU. NtD YDYM TN YSTVRIBD EIN HUNAIN YN GYFBITFOZ, AM SYNIADAU BIN GOHBBWYR. Y DREFACH A'R "CYMRO." fPar had o'r Rhifya cyn y diweddaf.) Wedi i mi ySgrifenu y rhan flaenorol o fy llythyr, gwelais lythyr yn y Cymro, sef trydydd rhyfelgyrch athryfar champions yr Eglwys Sefydledig yn Llan- geler yn erbyn y Bedyddwyr yn y Drefach. Mae y cyhuddiaaaa yn y llythyr hwn yn wir ddifrifol, ac yn galw am sylw difregedd y cyhoedd. Un charge ydyw, fod y gair wedi bod ar led am flynyddau lawer yn ol, fod rhyw un, neu ryw rai, yn yr amser gynt, mewn cwrdd cyhoeddus yn y Drefach, wedi galw yr Eglwys Wladol (Eglwys Crist, meddai yr ysgrifenydd) yn hen butain lawn o grach Os gwir hyn, wfft i chwi bobl y Drefach am eich haer- Uugrwydd brwht, eich chwaeth isel a llygredig, a'ch tafodau atgas a ffiaidd Mae lie i ofni fod moes- garwch a lledneisrwydd yn mhell iawn yn ol yn eich mysg. Garedigion hoff, goddefwch air y cynghor, ymgedwch yn ddyfal rhag bod yn "vulgar," di.. foes, ac anmharchus, at eich gwell a'ch uwchafiaid. A phwy sydd yn fwy felly na'r Egtwys Waddol. edig, serch ei bod yn ferch ddiledryw i'r lady < borfforaidd o Rufain. Nid oes dim yn aneffeithioli mwy ar fin y gwirionedd yn ei ymosodiadau yn erbyn hen sefydliadau annghristaidd a respectable, nag,ysbryd cellweirns ac anianddrwg, ac iaith isel a choegfrwnt. Dywedyd y gwir mewn hynawsedd ) a boneiddrwydd sydd effeithiolaf o lawer i fyned dan wraidd y drwg. Suaviter in modo, fortiter.in re." (Mae yn debyg fod Cotiar, Glan Teifi, yn deall Lladin). Gadawer serthedd budreiriol a gwatwar- iaeth brwnt ac iselwael i'r offeiriaid a'u eyfeillion yn y Cymro; mae ein hegwyddorion ni yn galwam, ac yn dysgu i ni, well manners. Ond er ein bod yn dweyd fel hyn, mae yn an- hawdd iawn genym gredu fod yr ymadrodd cry- bwylledig erioed wedi ei ddefnyddio gan neb yn y Drefach; hawddach genym o lawer i gredu mai ffrwyth ymenydd lleidiog a diriaid rhyw eglwyswr rhagfarnllyd ydyw, er mwyn cael esgus i warad. wyddo a chablu y Bedyddwyr, y rhai ydynt yn ddolur llygaid. ac yn ddrain taerboenol yn ystlysau holl dras Babilon Fawr. Peth arall a awgrymir yn y llythyr diweddaf yw, fod rhyw rai yn ardal y Drefach yn arfer mynychu hen dylciau o dafarndai a neithiorau, ac yfed i ormodedd, nes gwaligofi ac ymlloethni fel Adda cyn pechu. Mae yn ddigon posibl fod hyn yn wir, canys y mae yr arferiad o yfed i ormodedd wedi, ac yn bod, yn bechod gwaeddfawr yn y parth yma o'r wlad, hyd y nod yn mysg crefyddwyr o bob enwad heb wahaniaeth. Gwyddom rywbeth am fucheddau eglwyswyr yn y cylchoedd hyn noae eu gwell o lawer yn yr hen amser wedi bob yn eistedd ar ystol penyd, a chynfas wen am eu hysgwyddau, dan ddedfryd llys yr Esgob. Ond digon ar hynyna. Cyfeiriad y yn ddia,mmheu sydd at yr Ym- neillduwyr. Ai gwir hyn am danoch, Ymneillduwyr Glan Teifi ? Os felly, byddai yn llawn mor weddus' i chwi beidio baldorddi am eich egwyddorion hyd nes y byddoch wedi dysgu moesoldeb a gweddeidd- dra cyffredin. Gwell genym Eglwyswr, Pabydd, neu infidel cydwybodol, ac o gymmeriad bucheddol, na hyd y nod Bedyddiwr meddw a drygnaws ei fywyd. Beth, oni ddarfu i'f adfywiad crefyddol diweddar a wnaeth gymmaint o drwst annaturiol trwy yrardal. oedd hyn gynnyrchu rhyw argraff er gweli ar foesau y bobl ? Oniyrodd. ymaith o'i flaen ryw hen ddefodau cymdeithasol Ilygredig, megys neithiorau, a phethau llygredig ereill, ag sydd yn draps y cytliraul i garfagtu ac i lygru holl feibiona merched y gymmydogaeth ? Mae arnaf ofn na ddarfu, onide ni chlywsem atn feddwdod ac ynfydrwydd yn nglyn a neithiorau crefyddwyr, ac adgyfodiad diweddar defod gythreulig y celfyl pren yn ardal Llan- dyssil, lie yr oedd rhianod Glan Teiti yn ffugro yn yr hyllchwareu. Etto, os yw y cyhuddiad yma o ddiotta a meddw- dod yn wir, beth mae swyddogion yr eglwysi Ym. neillduol yn ei wneyd, na baent yn gofalu yn well am y ddysgyblaeth ? A ydynt hwythau hefyd yn caru dyferyn o bwnsh i godi tipyn ar eu hysbrydoedd tua marchnadoedd Gaerfyrddin, Castellnewydd, a ffair Llanwenog ? Nid oes eisieu i'r Ymneillduwyr oddef un afreoleidd-dra yn eu heglwysi, am fod ganddynt lvawl ac awdurdod yn eu mysg eu hun. ain i weinyddu dysgyblaeth heb fod yq gyfrifol ineb ond i Grist. Yr wyf yn deall fod yr Eglwys Sefyd. ledig yn Llangeler a manau ereill yn ceisio dyn. wared yn hyn, er mwyn tawelu meddyliau yr an- wybodus; ond y gwir ag ef, nid yw y cwbl ond sham. Nid oes gan offeiriaid na ueb arall bawl i attal un o'r plwyfolion o gymmundeb, beth bynag fyddo ei gymmeriad, heb fyned &'i achos yn gyntaf i gwrt yr esgob: dyna unig lvs. dysgyblaeth yr Eglwys Wladol. Diolch am ffordd mwy rhagorol. Wedi cael ein llesteirio fel hyn ar ein ffordd gan gyfarthiad tremygus a gwecry y trydydd llythyr yn y Cymro, bydd i ni yn a-r ddychwelyd at ei ail lythyr, sef eiddo Llangelerian," y.n yr hwn y mae rhai pethau ag sydd yn galw yn mhellach am ein sylw. Fel prawf pellach o annghyssondeb Bedyddwyr y Drefach, dywed fod rhai aelodau gyda hwy ag sydd yn dwyn eu plant i fyny yn offeiriaid un diacon wedi dwyn ei fab i fyny i'r perwyl hyny; a'r aelod mwyaf parchus (1) yn yr eglwys a chanddo fab yn bresenol yn Llanbedr yn myned dan yr oruchwyl- iaeth angenrheidiol er ei fanufactro yn offeiriad Mae hyn yn ddigon gwir ysywaeth, nid yn unig am y Drefach, ond hefyd am lawer o Ymneillduwyr o bob enwad yn y parth yma o Gymru, sef tueddau Glan Teifi, a holl Geredigion. Er mor wrthun y ffaith, yr ydym yn ddiolchgar i Llangelerian am ei dynoethi, fel y byddo yn bysbys i holl Gymru pa fath Ymneillduwyr sydd yn blaguro yn y Hedred yma. o'r Dywysogaeth. Ymneillduwyr, yn wir! Bradwyr diegwyddor Ymneillduaeth yn hytrach. Pa hawl oedd gan rai sydd yn goddef y cyfryw ddynion yn eu cyfundeb i godi eu Hef yn erbyn trais ac erlidigaeth eglwysig yn mherson y Miss Maurice hyny, gan eu bod hwy eu hunain yn rhoi y fath help i recruito y rhengau offeiriadyddol a'r ysbrydoedd mwyaf penboeth ac erlidgar. Meibion, wyrion, a neiaint y Dissenters hyn yw Ilawer o'r curadiaid a'r personiaid mwyaf penboeth a rhag- farnllyd yn Nghymru. Ymffroatia rhai o iionynt yn eu Puseyaeth eithafot a gorwyllt, a bytheiriant allan ar bob adeg eu malais gwenwynig yn erbyn pawb a phob peth ond ein "HEGLWYS NI." Proffesant yn ddigywilydd lawer mwy o gariad at Babyddiaeth a'i hysgelerderau dychrynllyd nag at yr Ymneilldu- aeth buraf a mwyaf efengylaidd. Nid oes genym eiriau digon cryfion i osod allan ein digasedd a'n ffieidd-dod o'r dynion hyn sydd yn aberthu eu meibion i Moloch budrelw eglwysig, i'w dwyn i fyny i gashau, cablu, ac erlid y rhai sydd yn canlyn ffordd y gwirionedd. "Attolwg," meddai Llan. gelerian," beth sydd mewn golwg gan yr Ymneill- duwyr cydwybodol hyn wrth ddwyn eu plant i fyny yn offeiriaid ? Os na chredwn mai budrelw o'r fath fwyaf Judasaidd a Simonaidd, rhaid i ni gredu eu bod yn gweithredu oddiar annghrediniaeth gonest yn eu hegwyddorion eu hunain, a chrediniaeth yn ein hegwyddorion ni fel eglwyswyr, &c." Dyma ymresymjad digon teg am umvaith hyd y nod o enau Llangelerian." Ac y mae yr ymresymiad yn cynnwys cerydd mwy gwatwarus a llymgnoawl i'r mongrels Ymneillduwyr hyn na dim a allwn ni ychwanegu a to. Nid oes eisieu i "Llangelerian" ammheu am fynyd nad budrelw sydd. mewn golwg, yr hyn, fel y mae gwaethaf y modd, sydd yn gym- helliad anwrthwynebol i gannoedd o ddynion per- ffaith annuwiol i ymgymmeryd a'r weinidogaeth ym yr Eglwys Waddoledig. Annghrediniaeth yn eu hegwyddorion eu hunain yn wJr! Ni wyddant ddlm am egwyddorion, ac nid ydynt yn credu nac yn annghredu yn eu hegwyddorion eu hunain, natt yn egwyddorion yr eglwys chwaith. Pethau yw egwyddorion crefydd nad ydynt erioed wedi suddo yn is i lawr na'u crwyn. Dynion arwynebol ydynt, bychan iawn eu hamgyffredion, gwagsaw a diddym eu hargyhoeddiadau, bas, cul, a chrwca eu heneid- iau, hynod o anwybodus, a hollol analluog i werth- fawrogi gwirionedd a gonestrwydd eu hegwyddor, ac i iawn brisio didwylledd. Nod uchaf eu hedmygedd yw elw bydol, a rhith anrhydedd cymdeithasol heb ei deilyngu. Rhai ydynt o'r un stamp a'r hen wraig hono aeth a'i bachgen i Lanbedr, ac a ddy- wedodd wrth y Canghellwr, Mae genyf 'wyllys yn fy nghalon Hvcutisxo 1 WEai ni yn berson, 'Rwy'n gwel'd y rhei'ny mewn tre' a gwlad Yn dra gwych yn eu cobau duon." Cm ^0dJyn Cael eitl g°rfo,;lj fel hyn i ddefnyddio ymadroddion celyd, cyfaddefwn yn rhwydd nad yw y cymmeriadau hyn ond eithriadlu anaml mewn cymhanaeth i'r lluaws mawr o Ym neillduwyr goleuedig a chydwybodol sydd yn Sir Aberteifi, ac hyd y nod vn Llangeler. Gwyddom yn ddigon da fod yn y Drefach a Saron, yn ddiaco laid^ae aelodau, gystal Ymneillduwyr ag sydd yn Nghymru. Y cynghor goreu a allwn ni roi iddynt, os na allant eu divvyg.o, yw deol o'u mys. yn ddi- seremomygau-ddynion niweidiol yr ydym Vn son am danynt, ag sydd yn feini tramgwydd ar eu fIordd, ac yn eu gwneyd yn destun gwatwariaeth a dirmyg eu gelynion. yn y, Egtwys w Mae

...»' SIOP Y GOF.