...»' SIOP Y GOF.|1862-01-31|Seren Cymru - Welsh Newspapers Online
Hide Articles List

2 articles on this Page

...»' SIOP Y GOF.

News
Cite
Share

.» SIOP Y GOF. GAN CAPTEN SIMON. PEN. II. DYMA Captain Simon yn dod, os w'i yn y fan. Mind your tips, y mechgyn i, wath mae e' yn myn'd i hala rhyw beth o'r Siop yma i SEREN CYMRU, medde nw acorhanhyn fi weles y path fy bunan yn y SEREN ddiwetha yr o'dd yno lythyr oddiwrth y Capten at y Golygwrs, yn dyweyd y buse fe yn g'neyd fel y bu e' yn g'neyd slawer dydd, pan gorfu arno fe stopo pan gas e' i alw i helpu nw ar amser rbyfel Rwsia." Ar y gair, dyma fi i mewn, cyn i Shon gael cwbl orphen ei araeth, boreu dydd Mawrth, Ionawr 21, 1862. Boreu mwyn tawel, mewn canlyniad i'r gawod eira ag oedd wedi disgyn yn ystod y nos flaenorol. Nid wyf wedi danfon dim unrhyw banes rheolaidd o siarad y gofiaid i'r wasg er's rhai blyn- yddau. Fel y cyfeiriai Sion, cefais fy ngalw yn amser y rhyfel yn 1854, a mwy nag unwaith wedi hyny. Yn ystod y tymhor hwnw, mae rhai cyfnew- idiadau wedi cymmeryd lie a ddylent gael eu nodi. Mae pentrer Cwmberllan yn agos cymmaint arall ag oedd yn 1854. Mae yno reilffordd bwysig wedi linco y pentref a lleoedd pwysig ereill, fel mae ein hen gwm wedi dyfod yn fwy pwysig o lawer nag oedd. Nid yw pethau yn aros yr un fath yn yr efail chwaith. Mae Sion yn teimlo fod y dyddiau iddo ef i weithio yn galed wedi myned heibio, ac mae yn awr yn ei chymmeryd yn fwy tawel. Felly, mae y prif dan o dan ofal John a John mewn gwir- ionedd yw y meistr yn awr; ond mae Sion yn cadw y teitl mewn enw yn unig. Mae yr ail dan-tan John gynt-dan ofal Billy, yr hwn sydd wedi dyfod yn fachgen cryf, ac yn fachgen da iawn mae y trydydd, tan Hwmffre gynt, yn awr gan Sion, a gweithia yn fwy wrth ei bleser na dim arall. Mae cryn ychwanegiad wedi cael ei wneyd at yr efail, trwy godi darn pwysig y tu cefn. Yno y mae Hwmffre. Mae Hwmffre wedi dvfod bron fel un o'r teulu, ond ei fod wedi priodi a geneth fach o'r Cwm, a gvselir Northman bach yn chwareu o gylch aelwyd Hwmffre. Yr oedd Morgan bach, fel ei gelwid ef, gyda'i dad. Ar y boreu hwn yr oedd Rees Morgan yno hefyd, er nad yw yn of. Mae Rees wedi cael Ile da iawn yn un o swyddfeydd y llywodraetli, lie y mae yn debyg o godi i sylw gydag amser. Heddyw yr oedd yntau yn yr efail, gan ei fod gartref am ychydig ddyddiau. Yr oedd yno hefyd ddau neu dri, neu bedwar yn wir, o ber- sonau ereill yn y Siop, pan ddywedai Sion yn dra diseremoni, I,, Wtl, Capten Simon, fi wela 'ich bod chi yn myn'd i hela decs yr efail i SEREN CYMRU." Wel, ydwyf, yr wyf yn meddwl danfon ffrwyth ambell i ymgomiad a gymmerle yma ar ryw faterion pwysig a dyddorol. Mind, boys, w'i wedi dweyd i chi o'r bla'n, rhaid i chi fod yn o barticlar beth a wedoch, a sut y gwedoch, ne' fydd e' ddim yn ffit i fyn'd i'r print." "Beth yw y newydd goreu, gyfeillion?" oedd fy ngofyniad, wedi i ni gyfarch gwell i'n gilydd. Wel," meddai John, mae materion America bron wedi llyncu pob peth arall i fyny; mae yn dda iawn gen i eich bod chwi wedi dyfod yma heddyw; chwi a ellwch daftu goleu ar y mater, er symud peth dyryswch sydd yn ein meddyliau. Mae llawer iawn o feio wedi bod ar Loegr, am na buasai wedi rhoddi fyny y despatch, neu y brys- lythyr a ddanfonwyd gan Mr. Seward at Mr. Adams i Lundain." "Yr wyf finau yn y gabidwls gwyllt wrth ddarllen y gwabanol bethau ar y pwnc," meddai Hwmffre; dyna y boneddwr mawr yna sydd yn 'sgrifenu o Lundain i SEREN CYMRU mae o yn beio yn ofnatsan am hyny; ond mae SEREN GOMER fel pe tase hi yn teimlo fel arall rwan." Y gwirionedd yw hyn, os caniatewch i fi ddweyd fy meddwl," meddai Rees Morgan, yr hwn oedd ar ymweliad o Lundain mae dau ddosparth o bapyrau yn Llundain, nas gallwch osod unrhyw ymddiried ynddynt ar bwne fel y pwnc pwysig hwn, sydd yn awr wedi ei derfyr.u. Dyna y Times, y Post, a'r Herald, ni roddwn ddimai goch am eu barn ar bwnc fel hwn. Maent o'r dechreu wedi ymwerthu yn erbyn America; byddai yn dda gan eu calon i gael rhyfel rhwng y wlad hon ac America. O'r tu arall, dyna y papyrau sydd yn cael eu cynnrychioli gan y Morning Star a'r Evening Star, ni roddwn bin o'm llawes am fawi y rhai hyn ar bwnc o'r tath hyn. Maent wedi ym- werthu i feio Lloegr, difrio Prydain, a cbamgyhuddo y weinyddiaeth yn y modd mwyaf digywilydd, a mwyaf disynwyr. Dyna boll wb wb y Morning Star am y brys-lythyr a ddaeth o America at Mr. Adams i Lundain." Ie, yn wir, Mr. Rees Morgan, dichon y gellwch chwi daflu peth goleu ar y dull a'r modd y mae y rhai hyn yn cael eu danfon a'u derbyn," meddai gwr y Tygwyn, yr hwn oedd wedi dyfod a'r poni i'r efail i'w bedoli. "Gyda y pleser mwyaf, Mr. Llewellyn," oedd ateb Rees. Gwyddoch fod fy swydd yn bresenol yn rhoddi mantais i mi wybod tipyn am ansawdd y pethau hyn. Yn awr, mae hanes cymmeriad y ddau ddyn, Mason a Slidell, odditan y faner Brydeinig, o'r llong Trent, yn ddigon adnabyddus. Gwyddoch hefyd fod yr holl fydgwareiddiedigwedi condemnio y weithred fel un ifreolaidd ac annghyf- reithlawn. Mae America ei hun trwy Mr. Seward wedi gwneyd hyny. YIIa gadewch i fi am foment fynecl dros yr hanes. Cymmeryd y pedwar dyn o'r Trent pan ar eu mordaith o Havannah i Loegr daeth Capten Wilkes a hwy i America; tafiwyd hwy i garchar yn Fort Warren; aeth y Capten i Washington, i wneyd ei Fynegiad swyddogol wrth Fwrdd y Llynges, a thrwy'r Bwi-dd hwn i'rLlywydd a'r Senedd. Wel, pa dderbyniad a gaforld y Capten Wilkes a'i weithred ? Cafpdd ei hollol gym- meradwyo gan y Bwrdd, a derbyniodd ei ddiolch- garwch. Cafodd ei hanner addoli gan bobl Wash- ington mewn cwrdd cyhoeddus, lie yr oedd rhai o Brif Farnwyr America yn siaradwyr. Cyfar. fyddodd y Llywydd Lincoln y Senedd; ond yn ei araeth. ni soniodd un gair am y Trent, na gweith- red afreolaidd Capten Wilkes; ond gwnawd y golled hyny i fyny gan y Senedd ei hun, trwy iddi, ar y dydd cyntaf, gario yn unfrydol bleidlais o ddiolchgarwch i Capten Wilkes. Dyma ni yn csel yn gyntaf Fwrdd y Llynges, yn ail cyfarfod cy. hoeddus Washington, ac yn drydydd Senedd Am. erica yn endorso y weithred, ac yn diolch i'r Capten hwn am dori cyfreithiau y gwledydd. Yn awr, cofiwch, tra yr oedd hyn yn myned yn rnlaen yn gyhoeddus, dyna Seward, prif ysgrifenydd Lincoln, yn danfon brys-lythyr (despatch) dirgelaidd at Mr. Adams, Llysgenadwr America yn Lloegr. Mae yn werth i ni go6o fod y bryslythyron hyn o ddau fath, un yn ddirgelaidd, a'r llall yn gyhoeddtis. Mae y cyntaf bob amser yn cael ei ddanfon i'r Llysgenadwr yn un.ig, ac y mae ef, os gwel yn addas, yn gwneyd rlian neu ranau o'i gynnwysiud yn hys- bys i'r weinyddiaeth. Dyma oodd natur yr un a ddanfiyiwyd Tachwedd 30ain gan Mr. Seward at Mr. Adams. Aeth Mr. Adams at Iarll Russell, a dywedodd ei fod wedi clywed oddiwrth Mr. Seward. Darllenodd ran o'r Bryslythyr, ond ni ddarfu iddo roddi y Bryslythyr, na chopi ohono, i Iarll Russell. Y cwhl a ddywedodd Mr. Adams oedd, fod gweinyddiaeth America yn barod i gyflafareddu ar dir rhesymol, a'i fod yn gobeithio y buasai Lloegr yn gymmedrol yn ei gofyniadau. Yn awr, mae larll Russell yn cael ei feio yn erwin am beidio gwneyd y Bryslythyr hwn yn gyhoeddus trwy y papyrau. Ond dylem gofio nad oedd gan Iarll Russell un hawl i wneyd hyny nid iddo ef yr oedd y Bryslythyr wedi ei fwriadu ni chafodd ef y llythyr i'w law o gwbl, ac ni chlywodd ddarllen ond rhan o hono yn unig. Mae y dynion ag ydynt yn beio Iarll Ruessell yn hyn o beth yn proti ar unwaith na wyddant ond y peth nesaf i ddim am natur y cenadwriaethau rhwng un deyrnas a'r llall. Heblaw hyn, os oedd y peth o gymmaint pwys i America, pahain na fuasai Mr. Seward yn ei gy- hoeddi yn America, neu Mr. Adams yn eigyhoeddi yn Llundain. Yn awr, nid oes neb yn beio yr Atnericaniaid hyn am beidio cyhoeddi, ond rhaid taflu yr holl fai ar Iarll Russell im beidio gwneyd y peth nad oedd ganddo un hawl i wneyd yn ol ar. feriad cydihwng gwledydd a'u gilydd. Mae yn deilwng o sylw hetyd nad oedd dim, ie, dim o'r dim lleiaf yn llythyr Mr. Seward yn sicrhau heddwch, tra yr oedd holl ymddygiad America fel ag yr oedd yn cael ei esbonio gan gy mmeradwyaeth Bwrdd y Llynges, cyfarfod cyhoeddus Washington, dystawrvvydd anesboniadwy y Llywydd Lincoln yn ei araeth, ac yn olaf, pleidlais o ddiolchgarwch gan y Senedd un ac oil, yn dangos teimlad rhyfelgar y bobl, a'u penderfyniad i fyned i ryfel yn hytrach ni rhoddi fyny y dynion a gymmerwyd o'r lYent." W el, wel; ond stopa, Rees," meddai ei dad yr wyt ti yn myn'd a ni ar garlam fel yna nes bo ni ma's o wynt; ond pa'm o'n nhw yn para i bala sawdiwrs oil i Canada o hyd fel gwnaethon nhw ?" Wel, y nhad," meddai Rees, "mae yn hawdd canfod hyny. Yr oedd yn annichona<iwy gwybod gwir deimlad Lincoln a Seward oddiwrth y bryslythyr cyntaf; yna yr oedd ein llywodraetli yn penderfynu bod yn barod doed fel y delsai hi. Buasai yn anfaddeuol pe na buasent yn gweithredu fel y gwnaethant. Mae genom ni gyfoeth mawr iawn yn America. Nid oedd yn taro i ni fod mewn ammheuaeth am ddiogelwch hwnw." Mae y gost yn ofnatsan, medde nhw," oedd sylw Hwmffre. Digon gwir," oedd ateb Rees. Ond mae yn llawer llai na chost rhyfel, pe buasai yn tori allan. Mae yn rhatach o lawer i ddyn dalu saith a chwech am glo da i gadw y Ileidr i maes, na myned i ddeuddeg punt o gost wrth ei alltudio ef,

PREGETH AR "HENGOEDIANA.",