Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

PREGETH AR "HENGOEDIANA.",

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

PREGETH AR "HENGOEDIANA." GAN D. W. MORRIS. MAWH y difyrwch a gawsom yn ddiweddar wrth ddarllen yr Hengoediana." Da oedd genym ei ddechreu, ond drwg oedd genym ei fod yn di^eddu mor fuan. Dywenydd gyda ni fuasai gweled i'w barhau ar ei ol, a bod gobaith memrwn arall o'r un maint, yr un dullwedd, yr un corff, a'r un galon i gael ei roddi eilchwyl i'r enwad. Diolchwn i Williams am y goeden, i Jenkins am groaicl yr oesoedd, i Price am fanylion y filwrfa, i'r tri Evans am eu llithiau dawnus, ac i Dduw pob daioni am roddi Jubili ar Hengoed. Daeth testun o'r Hen Destameat i'n meddwl yn safon ein pregeth ar Hengoediana." Ein dar. llenyddion a fyddant mor garedig a darllen Deuter- onomium 33. 21,—" Edrychodd am dano ei bun yn y dechreuad canysyno yn rhan y cyfreithiwr y gosodwyd ef; efe a ddaeth gyda phenaethiaid y bob!, gwnaeth efe gyfiawnder yr Arglwydd, a'i farnedig- aethau gydag Israel." Moses ddywedodd yn y modd yna am lwyth Gad, ond rhagymadroddasom o'r blaen, ac vr vdvm vn svlwi. -d -1 1. Edrychodd yr Hengoediana am ddechreuad yr eglwys. 1 Ei dechreuad mewn egwyddorion. Mae y rhai hyn yn apostolaidd, yn Gristionogol, ac yn gorwedd yn ol gyda y Bedyddiwr boreaaf yn afonydd Canaan, dyfroedd Judah, a thbnau yr lor. ddonen ac yno y dechreuodd y sect hon o flaen y sectau,yr enwad hwn o flaen yr enwadau, a'r Uwyth yma o fiaen y llwythau diweddar o grefyddolion. Mab Zecharias oedd y wawr, aaab Duw oedd yr haul, a meibion ysbrydoiiad oeddser ei nefoedd ac "erfodydechreuad yn fychan, etto y diwedd a gynnyddodd yn ddirfawr." 2. Ei dechreuad yn Morganwg. Dywed un o'r tri Evans fod Simon selog, Joseph o Arimathea, a Bran Fendigaid yn tynuydorch am yr anrhydedd o ddwyn yr efengyl i wlad Morgan. Efallai mai mewn bad y daeth hi o'rEidal i Gymru, ac o Rufain i Lanilltyd Fawr, un o hen drefydd morawl Morgan. Tywynodd seren Duw ar y fro o flaen cymmysgedd Luther, cwmwl Awstin, a niwl y mynachod. Mae gwirionedd yn henach na thwyll, yn uwch ei urdd, ac yn hwy ei oes ar y ddaear. 3. Ei dechreuad mewn anneddau. Pererindodot o blwyf i blwyf, o fan i fan, ac o dv i dy, oedd eglwys Hengoed yn y dyddiau gynt. Agorodd rhyw Obededom ei ddrws iddi yn Llan- haran, rhyw Ddafydd yn Llantrisant, rhyw Phile- mon yn Eglwysilian, a rhyw Prisciliayn Llanfabon, am ba garedigion y dywedwn yn awr fod yr arch, yr achos, neu yr eglwys yn eu tt hwynt." Ac yn nrws rhyw dy, pan oedd addoti mewn amgeroedd enbyd," y dywedodd yr hen Saphin," «' nid oes ofn mewn cariad." Dyna yr oes yn yr hon yr oedd llawer ty yn gapel, llawer pentan yn bwlpud, llawer brawd yn biegethwr, llawer chwaer yn ddiacones, a llawer teulu yu gynnulleidfa i Grist. 4. Bi dechreuad yn yr addoldy. Ei blwyddyn gymmeradwy i gael pabell i addoli ydoedd 1710. Mynwyd meinl o'r creigiau, derw o'r coedwigoedd, aur o'r coffrau, a chrefftwyr o Gaerflili neu Gaerdydd, i godi teml i'r saint. Adeiladwyd yr addolfa nid yn y pant, ond ar y bryn; nid yn y ceudwll, ond ar y cefu nid yn yr ogof, ond ar y twyn. Efallai iddynt feddwl am y gair a ddywed, Dinas a osodir ar fiyn, nisgellir ei chuddio;" a gweddus oedd myned i weddi, a dweyd," Tyred, Arglwydd, i'th orphwvsfa di ag arch dy gadernid." Daeth efe yno yn 1710, ac arosodd hyd 1829, ac hyd heddyw, ni chiliodd y go- goniant o gapel newydd Hengoed. II. Edrychodd am dano ei huu yn "rhan y cyf- reithiwr." 1. Ei rhan oedd croesau blin. Awgrymir yn yr Hengoediana fod tair croes yn blino y plant yn yr adegau hyny. 1. Eu blino gan grefyddau ereill. Dywedir fod y fig Rhufeinig, yr Archesgob Brytanaidd, y Chwil-lys Duwinyddol, a Chromwel y gwerinwr, yn erbyn y blaid hon yn eu dydd. 2. En blino gan gymundeb cymmysg, pan oedd yr eglwys yn y Berthlwyd, a Lewis Thomas, y gweinidog, yn ymadael yn herwydd hyny. 3. Ei blino gan enciliad rhai o'r cyfoethogion, fel y gallai yr eglwys ddweyd am dani ei hun, Na elwch fi Naomi, ond gelwch fi Marah," canys gwelodd ami a blin gyatuddiau, ond yr oedd yn gallu byw ar lawr, dan lawer loes. 2. Bi chyfreithiwr oedd Crist. Efe yw Arglwydd ei chydwybod, Barnwr ei tfydd, Brenin ei llu, a Phen ei theulu. Hi ras a'i cadwodd rhag Arminiaeth Charles Winter, rhag Antinom- iaeth Eliseus Cole, rhag taenelliad. y Presbyteriaid, a rhag cymmysgedd crefydd Cromwel. Rhad ras oedd ar ei Human, dyfroedd lawer yn ei bedydd, ffydd yn ei phlant, a gwaed Emmanuel ar ei gwisg- oedd crefyddol. 3. Ei chyfraiih oedd cariad. Mae y Ilythyrau o Lundain ac o Dublin yn tystio fod caredigrwydd brawdol fel Ilinyn arian yn rhwymo qglwysi yr oes. Medrai John Jenkins, Rhydwilym, gerdded dau can milldir i ganadwledd- -oedd misol y wraig hon. Deallodd y Dr. John Jenkins yn ddiweddarach mai caer oedd hi, acadeil- adodd arni balas arian. Dywedai Ruth y Berth- lwyd wrth Naomi, Hengoed,.—"Nac erfyn arnaf fi i ymadael a thi;" ac nid o'i bodd y derbyniodd hi «' lythyr ysgar i ymgorffoli yn 1851. 4. Ei gosodiad yn ddwyfol. Am Gad yn y testun y dywedir, yn rhan y cyf- reithiwr y gosodwyd ef." Mae y Mawredd yn goddef pleidiau i godi, crefyddau i luosogi, a chyf. eiliornadau i lwyddo, ond nid eu gosod yw eu goddef. Mae efe yn goddef ty Esan, t^ Jereboam, a thy Saul; ond y mae efe yn gosod ty Aaron, t9 Joseph, a th^ Judah. III. Edrychodd am dani ei hun gyda phenaeth. iaid y bobl." 1. Penaethiaid mewn enwogr-cydd. Dyna yr Hengoediana" yn son am Thomas Llewellyn, o Rhegoes, yn bregethwr a bardd, yn dad i Dr. Llewellyn, ac yn dal cysswllt pwysfawr a'r eglwys sydd yn awr ar Hengoed. Ac er nad oedd merched breninoedd gyda merch y Brenin," na morwynion Tyrus gyda morwyn lesu, na gwr- agedd pendengion gyda Gwratg yr Oen etto yr oedd rhai o'r penaethiaid yn credu, yn arddel yr Atfiraw, ac yn codi baner y bywyd yn ei enw ef. 2. Penaethiaid mewn teitlau. Dywediram PritchardoLancaiach, ei fod yngolonel mewn swydd, ac Evans o Ddyffrynffrwd, yn gadben, nid ar forwyr mewn Hong, ond ar filwyr mewn cat- rawd. Dau e gedyrn Dafydd oedd y rhai hyn, ac fel Joseph a Nicodemus gyda y Gwaredwr ar ddydd niwlog. Dywed y hardd Dibdin fod Shakspeare dan goron Elizabeth, Milton dan goron Siarls, a Newton dan goron Anne; eithr am mai Sais oedd Dibdin, tebyg na wyddai efe am y Colonel Pritchard, y Cadben Evans, na neb o benaethiaid pobl Hengoed. 3. Penaethiaid mewn meddyliau. Mae Morgan John Rhys, a Jones y rhifyddwr, a meibion y cawr Dr. Jenkins, yn rhagbrawf fod Hengoed yn faes da er magu meddyliau ynddo. Adwaenom rai yn garaach eu penau na phobl Pont- aberpengam. A chofiaf di o dir yr Iorddonen, yr Hermoniaid a Bryn Misan; capel yr oruwch-ys- tafell oedd hwnw. Ardalyddd oddi.vma yw golygydd y Seren Orllewinol," modd yr Hengoediana." Diolchwn iddo am argraffu "Pennod y Mor yn Seren y Gorllewin." Mae groesaw iddo wneyd yr un modd a phregeth Hengoediana," ac na ry- fedded os gwel efe yr awdwr digalon wedi mentro dros y mor, ac yn sefyll yn ei swyddfa cyn hir. 4. Penaethiaid mewn egwyddor dda. Nid llawer o barch mewn mursendod sydd i neb yn adweddau Hengoed. Aufynych y maent yn meistrolinasuroathrawon crefydd yno. Mae yr ymadroddion Lewis Siams a Shon Shenkin, a thwyn Shon Evan, yn yr "Hengoediana," yn brawfion gosodiad hwn ac nid mewn geiriau denu yr oedd 7 Dr. duwiol ei hun yn parchu brawd, ond mewn gweithred a gwirionedd." Tebyg ydoedd i'r Deoa Jonathan Swift, yr hwn ni allai oddef rhedeg ar drugareddau Duw, drwy ddweyd nad oedd y boreu* fwyd, y giniaw, y te, na'r swper yn ddigon da i'r ymwelydd estronol.^Barn y Dr. oedd fod "pobpeth a greodd Duw yn dda, ond ei gymmeryd gyda diolch, llonyddwch meddwl, a symledd calon. Anerchai yr ben chwiorydd ef a chusan santeiddiol^ dychwelai yntau y moesgyfarchiad yn ol megys angel Duw, ac ni allai yr edrychydd ddim peidia meddwl mor hyfryd ac mor ddaionus yw trigo 0 frodyr yn nghyd," dan olew Aaron, gwlith Hermon, a bendith Sion, y mynydd santaidd. Efe am flyn* yddoedd a fu yn benaeth i'r bobl, meistr y gynnulU eidfa, a brenin mewn llu. Anfon Thomas Morris yn ol i sir Gaer oedd y tro bachrhyfeddafawnaeth penaethiaid Hengoed yn y canrif hwn. fiithr nid eiddo gwr ei ffordd, a thrwy wrthod un a derbyn y llall y cafodd Bedyddwyr Gwent a Morganwg, Jenkins, Hengoed, a Morris, Casnewydd, yn mhlith eu cadfridogion cymmanfaol. Diau nad oedd fy ewythr Thomas yn caru ei wrthod o'r Hengoed, a myned i fugeilio defaid ereill, y rhai nid y'nt o'r gorlan hon," ond yr oedd ef a Jenkins y goreu 0 gyfeillion er hyny. Derbyniodd fy ewythr barch penaetbiaid y Bedyddwyr am fwy na deugain mlynedd, a meibion Ammon a'i galwodd ef yn Dwm y deg capel," a'r un dosparth diddylanwad alwodd Mr. Rees, Hvilffordd, yn ferthyr dimai," or ei fod yn fwy na deg o gedyrn mewn dinas," ac yn well i ni na deg o feibion yn yr enwad. IV. Edrychodd arni ei hua dan rwymau ei Phen. 1. Arosodd gydag Israel. Mae rhai eglwyii yn ddiofal am gwlwm y frawd* oliaeth, dolen y gymmanfa, ac undeb enwadol. Eithr y mae Hengoed fel Judah yn blaenori y brodyr, yn llywodraethu gyda Duw, ac yn ffyddlon gyda y saint. Ac y mae felly er y dyddiau o'r blaen, ac wedi bod felly am lawer cenedlaeth ac oes, heb arwyddion yraollyngiad yn hoelion ei phabell. Derbyniodd lawer, daliodd ei da. ae ni ddygodd neb ei choron hi. Adwaenom eglwys ag y dyblwyd ei rhif drwy fedydd yn ddiweddar, ond cododd enwad arall gapel yn yr ymyt, nid am fod ei angen, ond rhag i'r holl wlad fyned i'r afon neu i'r pwll," meddent hwy. Ac yn fuan iawn, dyna un o hen weinidogion y Bedyddwyr yn anfon cyhoeddiad i'r capel hwnw, gan sefyll gyda Moab yn erbyn ei frodyr ei hun. Pe byddai y bodyn hwn yn yr un gymmanfa ag Hengoed, buan y dangosid iddo pwy a pheth ydyw, sef fod llawer plentyn pum mlwydd yn gwybod mwy nag a ddysgodd ef mewn pedwar ugain mlynedd ond nid yw efe yn yr un ewr o'r winllan, am hyny goddefir iddo gael lloffa mewn maes arall. 2. Daliodd yr tgmyddor o gyf awnder yn y goheg* Annhegwch mewn cynnulleidfa grefyddol yW proffesu un peth, a derbyn, dal, credu, earn, a chy- hoeddi egwyddorioa gwahanol. Dangosodd Hen* goed, medd yr Hengoediana," fawr ofal calon ank ddirgelwch y ffydc*, am iachuseiriao ein Haehubwr. ac am yr athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb, ar hyd yr oesoedd. Ac nid gwair, a gwellt, a eofl yw ed bwyd wedi bod, ond gras trwy gyfiawnder yn teyrn- asu i fywyd tragwyddol. Mae y ddeddf ganddi yn Uaw Cyfryngwr, yn rheol ei buchedd, ac nid yn ammod ei bywyd. Ni symudwyd hi gan y cenllif oddiwrth ras Crist at efengyl arall, ond safodd yn y cwbl o ewyllys Duw. Rhaid mai Cymmanfa ddon- iolfawr ar Hengoed oedd haf y flwyddyn 1812, paa y pregethodd Hiley, a Fuller nos yr ua dydd yno. Defaid gwastadgnaif yn dyfod i fyny o Gilead, a phob un yn dwyn dau oen oedd hi yno. Pedair blwydd oed fel gweinidog oedd v Dr. Jenkins y dydd hwnw, ac nid oodd yr esboniail na'r palas mewn bod. Aeth Mr. Fuller i ben ei daith yn hir o1 flaen, arosodd Mr. Hiley ychydigar ei ol, ond y mae y tri ar y mynydd santaidd yn awr fel Pedr, lago, II loan ¡yd. WIll, I I.