Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

+ ELUSENDOD THOMAS HOWELL,

News
Cite
Share

+ ELUSENDOD THOMAS HOWELL, O.C. 1540. 0 BWYS I YMNEILLDUWYR CYMRU Tkimlwn fod gan Ymneillduwyr Cymru ddylanwad nid ychydig yn* Senedd-dy Pry- dain Fawr, ac mai priodol fyddai iddynt arfer eu dylanwad er dwyn oddiamgylch well trefn- iad o'r arian sydd yn awr yn caeleu cymhwyso 1 ddybenion pleidgarol a chwbl annghyd- weddol ag amcauion gwreiddiol yr Elusendod dan sylw. Y mae diolch lawer yn ddyledus i Thomas Falconer, Ysw., Ynad Llysoedd Sirol Mor- ganwg a Brycheiniog, am ei ymdrechion teilwng a llwvddiannus i ddynoethi y cam- ddefnydd cywilyddns a'r gwastraff anferth wnawd o'r arian hyn pan adeiladwyd ysgoldai gorwychaidd Llandaf a Dinbych. Cafwyd caniatad yr ynad enwog hwn i gyfieithu yr hyn a feddylid yn angenrheidiol o'i waith, ac ar gais cyfaill hoff, ac Ymneillduwr selog, ar- gymmerasom a'r gorchwyl o osod y cwbl o'r llyfr cyntaf, a rhyw gymruaint o'r ail, mewn gwisg Gymreig. Felly, gyda chydsyniad Golygvdd parchus Sbren Cymru, ymdden> gvs ynddi ysgrif ar ol ysgrif, hyd oniorphener y gwaith. Rhydd Mr. Falconer enw fel hyn i'r llyfryn, If The Mystery of Improvidence," gan chwareu a'r gair mewn dull nas gellir ei osod allan yn ein hiaith ni. Ystyr y gair Improvidence yw gwastraff neu afradlondeb eithr yr awdwr, a'i lygad ar yr ymadrodd cyffredin Dirgel- wch Rhagluniaeth," a gyfenwa yr enghraiflFt hon yn Ddirgelwch Afragluniaetb," ond nid oes genym y fatb air yn y Gymraeg. Argraff- ydd y llyfr Seisnig yw C. W. Reynell, 16, Little Putteney St., Haymarket, Llundain. Gyda hyn o ragnodiad, awn rhagom a'n cyf- ieithiad Darfu i Thomas Howell, yn ol ei ewyllys, dyddiedig 1540, yr hon wnaed ganddo tra yn preswylio yn Seville, Yspaen, gymunu fel y canlyn Y Peth- Y r wyf fi yn gorchymyn fod i'm cymuniaduron a adewir genyf yn Seville, (incontinent), yn union ar ol fy marwolaeth, anfon i ddinas Llundain 12,000 ducat o aur,* drwy ddylebau cyfnewid (bills of cambio), i'w trosglwyddo i'r ty a elwir Draper's Hall, i'w trosglwyddo i warchawdwyr y cyfryw dy; a bod i'r gwarchawrdwyr crybwylledig, mor fuan ag yderbyniorttyr unrhyw 12,000 ducat,brynu a hwynt 400 ducat o rent yn flynyddol dros fyth, mewn perchenogaeth annherfynol. A'm ewyllys yw fod y 400 ducat a nodwyd i'w dos- parthu i bedair morwynig-rhai amddifaid, agosaf i'm hach a'm gwaed—i'w priodas-os gellir eu cael allan, bydded i bob un gael 100 ducat—ac oni cheir hwynt o fy nbylwyth fy hun, yna i'w rhoddi i bedair morwynig ereill, er nad allent fod o'm tylwyth I-os byddant amddifaid, yn onest, ac yn cael gair da, a phob un o honynt 100 ducat—ac felly, bob blwyddyn i briodi pedair morwynig dros fyth. Ac os pryn y 12,000 ducat crybwylledig ych- waneg o dir, yna y bydd y 12,000 ducat cry- bwylledig i'w gwario i briodas gwyryfon, rhai amddifaid, gan ychwanegu y pedair morwynig rhpgddywededig, fel yr ymddengys yn unol a doethineb y rhagddywededig feistr a gwarch- awdwyr ty y Draper's Hall a nodwyd; a bod y cofnodiad hwn i barhau mewn ysgrifen yn Llyfr Coffawdwriaethau y cyfryw dy yn y fath foud nas dadwneir n*o hono un amser yn dragywydd." Yn y flwyddyn 1543, wedi i'r Draper's Company dderbyn 8,720 ducat, ar gyfrif, ac fel rban o'r cymunrodd crybwylledig, pryn- asant gan Harri VIII. dai, &c., a nodir yn ol llaw, yn ninas Llundain, pa rai a fforffedwyd i'r Goron pan euogfarnwyd Thomas Cromwell, larll Essex, y mwyaf a'r grymusaf o'r diwyg- wyr eglwysig, a osodasant awdurdod Eglwys Rhufain yn y deyrnas hon, a gallu ei hoffeir- iaid, yn gydwastad a'r llawr; ac ar dros- glwyddiad y meddiant, cyfammododd y Cwm- peini a'r Brenin i gyfranu a gwario y rhentiau a'r elw allai yn ol llaw ar unrhyw adeg ddeill- iaw oddiwrth y tai, &c., a ragnodivyd, dros ac uwchlaw treulion a chostau adgyweiriad, i ac er mwyn gwyryfon tlodion, rhai amddifaid, Ducat o Aur.Dywed Caerfallwch fod y ducat aur yn werth 10s." Ceir darnau arian ac aur o'r enw yma yn awr mewn rhai gwledydd ar y Cyfandir, er nad yn yr Yspaen. Yn Hamburg, Germany, ac yn Awstria, ceir ducat o werth 9s. 6c. o'a harian ni. yn ol doetbineb meistr, brodyr, a chwioryddy cyfryw Gwmpeini ar y pryd. Ar yr adeg hono, gwnaed ammodeb, dyddiedig Mawrth 31, 1543, a chadarnhawyd hi drwy letters patent, dyddiedig Gorph. 4, 1545, rhwng Harri VIII. ar y naill law, a Meistr, &c., y Company of Drapers ar y rhan araIl; ae am £1,200, rhoddodd y Brenin i'r Cwmpeini dy rhagorol a dwy ardd, ac adeil- adau ereill cyssylltiedig yn mblwyf Saint Peter le Rov, o fewn dinasran (ward) Broad Street, yn ninas Llundain, ac yn mhlwyf Saint Stephen, Coleman Street, gan dalu yn flynyddol ddeg swllt a phedair ceiniog i'r Court of Augmentation, ac mewn atdaliad a boddhad pellach eyfammododd y Meistr, jbc., i wario y rbentiau a'r elw er llesoli merched amddifaid fel y rhagddywedwyd. Y mae y tai a'r gerddi yn-cael eu nodi allan mewn modd arbenigol yn y letters patent. Mae ty a'r gerddi rhagorol wedi eu cyffiflio yn Broad Street South, a rhai tai a thyddyn- oedd a seleri a orweddunt yn nghyd yn agoi i Eglwys Mynachlog Augustine Brothers yn y plwyf crybwylledig, ac yn ninasran Broad Street, ac wedi eu cyffinio ar yr heol sydd J4 arwain tua Lothbury ar y dehau, a'r fiordd sydd yn arwain i Briordy yr Augustines ar y gogledd; hefyd ty, seleri, a chlwyd-dy, yn gwynebu'r dehau tua Broad Street, aeyh. eyffinio yn ogleddol ar gladdfa y Mynachdy crybwylledig, ac a dwfrffos, a dwfr rhedegog i'r tai rhagorol a nodwyd, a flbrdd yn perthyn i'r cyfryw dy, a thyddyn rhagorol wrth y porth a elwir Friar's Gate i Broad Street. Yn y flwyddyn 1559, a phedair blynedd ar bumtheg wedi marwolaeth Thomas Howell, gosodwyd cwyn yn y Court of Chancery (Chrystley v. Chester) gan rai merched tlodion amddifaid a honent eu bod yn berthynasau y cymunwr (testator), ac nad oedd y Cwmpeini wedi gwneyd defnydd priodol o'r cyllid, ac yn dymuno derbyn budd yr elusendod. Dyg. wyddodd hyn yn y flwyddyn gyntaf o deyrn- asiad v frenines Elizabeth. "Addefodd y Cwmpeini drwy eu hatebiad, iddynt dderbyn 8,700 ducat, a bod y tai a'r gerddi a brynwyd yn cynnyrchu 105 o bunnau yn flynyddol. Dywedent eu bod wedi derbyn y naill flwyddyn gyda'r llall, dros ac uwchlaw pob treulion,Jy swm o 70 o bunnau, pa rai a gyfranasant at briodasau merched amddifaid, a bod angen 30 o bunnau yn flynyddol gyferbyn ag adgyweiriadau-eu bod bob amser wedi bwriadu, ac yn ol ewyllys Duw, yn bwriadu, mor aws ag y gallent, gyflawnu ewyllys y cymunwr crybwylledig, gyda chymmaint o'r rhenti ag a ddeuent yn glir i'w dwylaw, droa ac uwchlaw pob treulion. Os gellid sicrhau pa ferched neu blant amddifaid o dy neu dylwyth y cymunwr, ddylent, yn ol iawnder, gael yr un* rhyw ewyllysroddion yn gydsyniol a'i ewyllys, yr hyn nas gallent hwy yn gyflawn ei wybod. Ar wrandawiad y cwyn uchod (Meh. 24, 1559), pennodwyd drwy ddeddf: Fod unwaith yn mhob blwyddyn, ar wyl y Puredigaeth, dysteb (certi. ficate) i gael ei gwneyd allan o ryw ach neu etifeddiaeth a grybwyllir yno, yr hon dysteb ddylid ei gwneyd gan Esgob Llandaf ar y pryd, neu, os yn wag, gan Ddeon ac Offeiriadgor yr Esgobaeth, mewn ysgrifen wedi ei selio yn briodoi, ac wedi ei throsglwyddo i'r meistr a*r gwarchawdwyr a nodwyd, yn sicrhau ac yn profi fod y pedair amddifaid a enwid ynddi yn agosaf berthynasau tylwyth a gwaed y cimuttwi.

TRAETHODAU.