Hide Articles List

1 article on this Page

EGrLWYSIG. v

News
Cite
Share

EGrLWYSIG. v Y GENADAETH DRAMOR AM 1862. MAE y tymhor wedi dyfod pan y bydd llawer o'n hegjwysi yn dwyn achosy byd paganaidd i sylw eu cynnulleidfaoedd. Mae Thai eglwysi wedi gwneyd yn barod, ac wedi gwneyd yn dda dros ben, tra mae ereill yn dechreu darparu er gwneyd eu casgliadau blynyddol o hyn i ganol mis Mawrth. Mae lIe i ofni, os na fydd i eglwysi Crist gyd- weithredu eleni, y bydd y casgliadau yn lIai nag arfer. Mae sefyIlfamasnach yn gyffredin trwy Loegr mewn cyflwr isel J&wn, a lie i ofni fod tlodi mawr yn cael ei ddyoddef mewn llawer o ardaloedd. Bydd nyn yn sicr o effeithio ar y casgliadau y flwyddyn hon. Mae yn ofid calon genym orfod dywedyd mai dyma gyflwr pethau mewn amryw o fanau yn Nghymru hefyd. Pe bai i ryw un gymmeryd taith o Lanelli, ir Frycheiniog, i Llanelli, Sir Gaerfyrddin, olwg hollol ddigalon ar bethau. Yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin, dyw- edir ei bod yn fwy marwaidd o ran ttiasnach nag arfer o lawer. Y gwaith yn ddifywyd, a'r gyflog yn iselânid oes dim ond y digalondid yn teyrnasu. Ar ein taith trwy ranau gweithfaol Abertawe, Tre- foris, Cwmtawe, Ystalyfera, Ystradgynlais, a Chwmtwrch, llais cwynfan a glywir bron yn mhob man. Yn Nghwm Nedd cawn y gweithiau yno yn agos oil a bod yn sefyll a channoedd o ddynion a fu yno unwaith yn ennill bywioliaeth gysurus, wedi gorfod ym- Wasgaru ar hyd y wlad i ennill eu bara beunyddioL Symudwn yn mlaen i Hirwaun, Un o'r lleoedd bach gynt mwyaf twt ar y mynyddau; ac o ran crefydd, un o'r lleoedd mwyaf gweithgar, selog, a ffyddlon vn y deyrnas ond yn awr dyna yr holl waith haiarn yn sefyll yn gwbl, a channoedd o adynion da wedi eu gwasgaru ar hvd y byd. Dyma Ddyffryn Aberdar dyffryn ag sydd wedi arfer bod fel lleueu mewn crachen, yn llawn bywyd-nid oes dim ond marweidd-dra yn gordoi yr holl le. Y gwaith yn fach, a'r huriau yn druenus o isel. Mae yma gannoedd o deuluoedd gonest yn cael mwy na .gwaith i ddyfod a dau pen y llinyn i gyfarfod. Nid yw Merthyr ddim yn well. Nid oes dim ond marweidd-dra yn nodi y tn gwaith sydd yn cerdded,Cyfarthfa, Dow- lats,.a'r Ply mouth; tra mae Ilenydaren yn edrych fel ysgerbwd wedi ei adaelgan y cwmpeini i darfu y brain o waelod Dowlais. Awn yn ein blaen trwy Rumni, Sirhowy, j-redegar, Glyn Ebwy, a Nantyglo, ni chawn ddim yn debyg i'r bywyd a'r gweithgarwch hyny ag ydym yn ei gofio cyn hyn; ond .hu"'j h. pan gyrhaeddwn Llanelli, cawn y cwblyno yn sefyll. Os bydd i ni droi trwy y Darcn- felen, Blaenafon, Farteg, Abersychan, Pont- newydd, Pontypwl, ac oddiyno i lawr trwyy gweithiau Alcam, nes cyrhaedd Dewi Bach yn Mhontymeistr, ni chawn ddim ond tes- tunau i'n digaloni; ie, digalondid yn mhob mah-llawer iawn o weithfeydd yn sefyll yn hoUolâIlawer ereill yn gweithio ond han- ner cymrnaint ag arfer, tra mae difywyd- rwydd yn nodweddu yr oil, heblaw fod y cyflogau yn isel iawn. Wei, paham y cofnodiry ffeithiau cy- mylog hyn wrth fyned i ddadleu dros y gen- adaeth? Yr ydym yn nodi y pethau hyn er dangos y bydd ein casgliadau eleni yn n y sicr o fodâyn wir, maent yn rhwym o fod mewn llawer manâyn llai nag arfer Pa fodd i wneyd y golled hon i fyny? Trwy gydweithrediad yr HOLL eglwysi gyda y casgliadau y flwyddyn hon. Credwn pe byddai i bob, Eglwys Fedyddiedig trwy Gymru wneyd ond ychydig eleni y byddai ein casgliadau at y Genadaeth Dramor, nid yn unig heb fod yn llai, ond y byddai yn fwy nag erioed. Nid rhyw lawer o symiau mawrion a allwn ddysgwyl o Gymru ar y goreu, ond i wneyd hyn i fyny, bydded i ni gydweithredu gyda'n gilydd, gan benderfynu fod rhyw gymmaint yn cael ei Wneyd yn mhob eglwys. Dichon y synai rhai o'n darllenwyr pe dywedem wrthynt fod UGEXN- IAU o eglwysi y Bedyddwyr yn Nghymru nad ydynt yn cyfranudim at y Genadaeth Er i ni gael golwg deg ar bethau, ni nodwn Z, yma nifer yr eglwysi sydd yn mhob Sir yn Nghymru, er i ni gael gweled pa nifer o' honynt sydd yn gwneyd, nid eu dyledswydd, ond rhywbeth at y pagan pell. Mae y Mynegiad Cenadol Cymreig" am 1861, a'r Drych am I860, ger ein bron; bydd y ddau yna yn ddigon agos i ateb ein pwrpas presenol. Mae y fantais cyn belled ag y mae yn myned o dy yr eglwysi. Ni a gym- merwn y Siroedd fel y maent yn gorwedd yn y "Mynegiad." Mae yn Sir Gaernar- fon nawarhugaino eglwysi yny Gymmanfa: mae pumtheg o'r rai hyn wedi casglu y llynedd, ac felly yn gadael pedair ar°ddeg heb gasglu dim. Mae yn y Gymmanfasydd yn cael ei gwneyd i fyny o eglwysi Siroedd Dinbych, Fflint, a M irionydd, dri ugain a thair o eglwysi; o'r rhai hyn, mae pumtheg ar hagain wedi casglu, tra mae naw ar hugain heb gasglu dim dimai goch. Yn Nghymmanfa Mon ni a gawn bedair ar ddeg ar hugain o eglwysi; mae pedair ar bumtheg o'r rhai hyn wedi casglu y lIynedd; tra mae pumtheg heb wneyd dim. Yn yr Hen Gymmanfa, yn cynnwys Siroedd Tre- faldwyn, Maesyfed, a Brycheiniog, cawn dri ugain a thair o eglwysi. Mae deugain ond un o r rhai hyn wedi cofio am y Genad- aeth y flwyddyn ddiweddaf, tra mae pedair ar hugain heb gyfranu dim. Yn Swyddi Caerfyrddin a Cheredigion, cawn un ar bumtheg a thriugain. o eglwysi; tra mae tair a deugain o'r rhai hyn wedi cyfranu, ni gawn dair ar ddeg ar hugain heb gofio am eu dyledswyddau o gwbl, mor bell ag y mae y genadiaeth yn myned. Mfle yn Morgan wg gant a dêg o eglwysi; o'r cant a deg hyn mae pumtheg a deugain wedi casglu yr hanner yn union tra mae hanner eglwysi Morganwg heb wneyd dim. O! Morganwg! Morganwg!! Yr wyt ti yn is ar y gofres na holl Siroedd Cymru. Mae yn Sir Fynwy driugain a deg o eg- lwysi ac nid oes ond deuddeg ar hugain o'r rhai hyn wedi casglu at y genadaeth y Mynedd tra mae deunaw ar hugain heb wneyd y sylw lleiaf o gais yr estron draw. Z3 0, Fynwy! yr wyt ti yn waeth na Morgan- Z5 wg. Credem ein bod wedi cyrbaedd eithafnod anffyddloiideb yn Morganwg; ond dyma ni gam yn is wedi dyfod drosodd i Fynwy! Mae yn Sir Beufro dri- ugain o Eglwysi, o'r rhai hyn mae deunaw ar hugain wedi casglu at y genadaeth y llynedd, tra mae yn aros ddwy ar hugain heb wneyd felly. Diolch i Dduw, mae hyn yn IIawHr gwell na Morganwg a Mynwy er hyny mae Dyfed yn cadw lie i wella. Dyma sefyllfa pethau, am y flwvddyn a aeth heibio. Cofied v darllenydd fod rhif yr Eglwysi yn llai nag ydvnt eleni; ond fod y casgliadau yn cael eu rhoddi am y flwydd- yn hon. Ar ol ystyried hyn, onid oes yna olwg dorcalonus iawn ar sefyllfa crefydd yn mhlith ein heglwysi? Onid oes yna ddi- faterwch anfaddeuadwy yn cael ei ddangos at gommissiwn mawr Crist, Eivch i'r holl fyd, a dysgwch yr holl genedloeddO 507 o Eglwysi Bedyddiedig yn Nghymru, nid oes ond 277 yn gwneyd casgliad at y Genadaeth, tra y cawn y mfer mawr o 230 o eglwysi cyfain nad ydynt yn gwneyd dim DIM DIM! 0, na aHem gyrhaedd clustiau a chalonau y DAU CANT A DEG AR HUGAIN eglwysi hyn, na wnaethant ddim y llynedd, er eu darbwyllo i ddyfod i'r maes eleni i wneyd eu rhan, neu o leiaf i wneyd rhywbeth, er cynnorthwyo yr achos cenadol. Y r ydym yn gwybod y bydd llawer un yn eglwysi y gweithfeydd eleni yn methuâie, coner, methu fydd hi-a chyflawnu ei dy- I,' muniad fel arfer; ond ni welid y golled mor fawr pe bai ereill yn dyfod yn mlaen, nad ydynt wedi arfer cydweithredu gyda y gen- adaeth. Da frodyryn yr Arglwydd, go. ddefwch i ni eich cynhyrfu at waith yr Ar- glwydd-bydded i ni weithio fel un gwr