Hide Articles List

2 articles on this Page

Y RHYFEL YN AMERICA.

News
Cite
Share

Y RHYFEL YN AMERICA. Gosodwn gerbron grynodeb o'r newydd- ion a ddaethant i law yn ystod y pythefnos diweddaf: Yr oedd dwy o gatrodau yr Undeb wedi glanio yn Ynys Ship. Ar ol glanio, anfon- odd y Cadfridog Phelps deyrngri allan yn datgan y rheolid gweithrediadau ei fyddin gan y meddylddrych fod pob talaeth a dderbyniwyd i mewn i'r Undeb fel talaeth gaeth, ar ol mabwysiadu y cyfansoddiad, wedi ei derbyn yn groes i'r cyfansoddiad hwnw. Dywedid fod y tpyrngri wedi achosi anfoddlonrwydd ynm hlith llynges yr Undeb. Gwnaed ymholiad yn y gyd- gyngborfa ar ba awdurdod yr anfonwyd y teyrngri allan. Y r oedd Tt y Cynnrychiolwyr wedi pasio ysgrif i ganiatau miliwn o ddoleri i wneyd gwnfadau yn y dyfroedd gorllewinol. Yr oedd y Gydgynghorfa wedi rhoddi mil o ddoleri fel iawn i'r llestr Brydeinig Perthshire. Yr oedd y Hong Brydeinig Cheshire, a gymmerwyd gor Ynys Tybee, wedi cyr- haedd i New York o dan ofal dwylaw gwib- long rhyfel. Cynnyrchwyd cylTro dirfawr yn mhlith y bobl gan y newyddion am y parotoadau rhyfelgar yn Lloegr, a ddygwyd gan yr Suropa. Nid ydyw y teimlad yn erbyn rhoddi Meistri Mason a Slidell i fyny, yn ymddan- gos mor gryf ar ol derbyniad newyddion yr Europa a'r Jura, a ffynai yr argraff yn gyff- redinol nad a'i llywodraeth yr Undeb i ryfel ar y cwestiwn hwn, ac os oedd gofynion y llywodraeth Brydeinig am eu rhyddhad wedi eu geirio mewn ymadroddion tyner a chymmedrol, y cydsynid a hwynt. Yr oedd pobl Canada yn mawr gymrner- adwyo ymddygiad y llywodraethgartrefol. Cyrhaeddodd negesydd y Frenines i Washington ar ganol nos yr 16eg o Ragfyr. Barn Mr. Seward ar achos y Trent" Ar ol dadlu sefyllfa y rhyfel cartrefol, y mae Mr. Seward yn sylwi mewn ysbrvd teg a chyfeillgar, ar waith Lloegr yn cydnabod y Taleithiau Enciliedig fel plaid mewn rhyfel. Yna y mae yn cyfeirio at achos y Trent, ac yn dweyd ei fod yn credu yn gadarn fod y ddwy lywodraeth yn meddu digon o synwyr a chymmedroldeb i beidio tori y perthynasau cyfeillgar hyny a ystyrir gan Mr. Seward o'r pwys mwyaf i iwydd- iant politicaidd a inasnachol yr unol Daleith- iau." Y mae yn gofidio o herwydd y pwys gormodol a roddir yn y wlad hon ar ddanganiad brysiog o opiniwn mewn cyfarfodydd cyhoeddus, ae ysbryd rhyfelgar newyddiaduron New Yoik, ac vn ertyn ar i deim!ad y llywodraeth tuag at Loegr, gael ei larnu wrth y bryslythyrau swyddoJ, y rhai, meddai, a fyddant yn berffaith fodd- haol i'r wlad hon. Cynnwysa yr Herald y sylwadau canlynol ynmherthynas i Canada:â Os bydd i Loegr yn ei ffolineb gyhoeddi rhyfel yn erbyn yr Unol Paleithiau, nid oes un ammheuaeth na chyssylltir meddiannau Prydain yn Ngogledd America a'r Unol Daleithiau, at y rhai yr edrychai Mr. Seward yn mlaen yn yr areithiau a draddodwyd ganddo cyn i'r weinyddiaeth brasenol ddyfod i awdurdod. Rhwng Vermont a Minesota, gallem anfon 150,000 o filwyr i Canada mewn wythnos, a meddiannu y dalaeth mewn tair wythnos chwaneg. Cymmêrai fwy oamser i orchfygu amddiffynfa Quebec, ond etto gwna amser y gwaith. Cynnorthwyid ni yn yr ymosodiad hwn gan nifer mawr o'r trigolion, dwy ran o dair o ba rai ydynt yn ffafriol i gyssylltiad &'r Unol Daleithiau." Dichon fod newyddiaduron y wlad yn amlygu opiuiwn gwahanol, ond nid ydynt yn rhoddi amlygiad têg o deimlad y bobl ar y mater. Gallem, pe bai eisieu, ddwyn miliwn o wyr i'r maes mewn amser y byr, i sicrhau goruchafiaeth. A pha wrth- wynebiad allan o Quebec a allai y llywodr- aeth Brydeinig ei roddi i attal ymosodiad ? Dim nas gellid ei orchfvgu yn hawdd, hyd yn oed gan ran o'rgallu a ddygem i'r maes. Nid ydyw ei byddin yn Ngogledd America ond bechan, a nifer ei hainddiffynfeydd ond ychydig a phell oddiwrth eu gilydd, ac y mae ei therfyn yn hollol ddiamddiffyn. Gan hyny, byddai Canada wrth ein tru- garedd o'r diwrnod y croesem y terfyn. Yn y cyfamser, yn ngwyneb y tebygolrwydd o ryfel si Phrydain Fawr, bydded i'r gyd- gynghorfa ddiddymu ein cytundebau a. Chanada, oddiwrth ba rai y mae hi wedi cael y fath fanteision masnachol mawrion, a bydded i ni ar frvs dori pob cyssylltiad rhyngom a'r dalaeth." Y mae y newyddion a dderbyniwyd o'r amrywiol wersylioedd yn ddyddorol, er nad yn bwysig. Ar y 19eg o Ragfyr, cymmerodd ysgar- mes bwysig teyn Mhwynt y Crigiau, yr hon a derfynodd yn ffafriol i'r Undebwyr, y rhai a honant eu bod wedi ennill y dydd heb golliundyn. Hona y Cadfridog Pope, un o lywyddion yr Undeb yn Missouri, ei fod wedi ennill bnddugoliaeth yn swydd Johnson, gan orfbdi byddin y gwrthryfelwyr i encilio a chymmeryd oddentu 150 o ddynion. Yr oedd Price vn parhau i aros yn y deheu i'r Osage. Hysbysa newyddion cyfrinachol o New Mexico fod y gwrthrytelwyr wedi eu gyru yn ol i Texas. Ymladdwyd brwydr galed ar y lOfed o Eagfyr, yn swydd Pocahontas, Virginia Orliewinol, rhwng cadfridog milwyr yr Undeb, a'r Cadfridog Johnstone, llywydd y gwrthryfelwyr, yr hon a barhaodd o doriad y dydd hyd dri o'r gloch y prydnawn. Nifer milwyr yr Undeb oedd 750, a nifer y Peheuwyr oedd 2,000. Gorchfygwyd y gwrthryfelwyr, rhoddwyd eu gwersyll ar dan, a gorfodwyd hwynt i encilio tu hwnt i derfynau Virginia Orllewinol. Y mae dygwyddiadau pwysig wedi cym- meryd lie ar y Potomac Uchaf. Y mae Jackson, Cadfridog y gwrthryfelwyr yn y parth hwnw, wedi derbyn adgyfnerthion yn ddiweddar, o tua 9,000 o wyr, ac y mae wedi coledd y syniad y gall efe anturio croesi y Potomac. Gan hyny, oddeutu naw o'r gloch y nos, ar y] 7eg o Ragfyr, efe a wthiodd oddeutu banner cant o fadau i'r dwfr, dau o ba rai oeddynt yn ddigon mawr, i gario magnelau. Modd bynag, anfonwyd hysbysrwydd dioed o'r symudiadau hyn i'r Cadfridog Banks, ac anfonwvdnifer digonol o wyr traed a gwyr meirch yn ddioed i Wil- liams-port i'w hattal i groesi. Derbyniwyd newyddion o Port Royal yn hysbysu fod milwyr yr Undeb wedi cym* meryd meddiant 11 wyr o Beaufort, a bod symiau mawrion o gotwm yn cael eu dwyn i'r glenydd. Cyfrifir nad ydyw y goUed oddiwrth y tan a ddygwyddodd yn Charlestown yn ddim llai na saith miliwn o ddoleri Llosgwyd 500 o dai yn lludw, ac yn eu plith amryw o'r adeiladau harddaf a gwerthfawrocaf yn y ddinas. RHYDDHAD MASON A SLIDELL. Ar yr 8fed o Ionawr darfu i swyddog priodol llywodraeth Lloegr gyhoeddi ioa telegram wedi cyrhaedd y Swyddfa Dramor oddiwrth Arglwydd Lyons, yn hysbysu fod Llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi cytund rhoddi y carcharorion i fyny iddo ef pryd ac yn mha le y gwelai yn dda. Newyddion o America gyda'r Jura a ddygant yr ohebiaeth ar y pwnc hwn, yn cynnwys llythyron Mr. Seward, Ysgrifen- 0 ydd yr Unol Daleithiau. Mae Mr. Seward yn dweyd yn ei lythyr o ollyngdod nas gallasai yr Unol Daleithiau gadw y carchar. orion hyn mewn dalfa yn unol a deddfau ac egwyddorion sylfaenol ei wiad. Dywed Mr. Seward pe buasai diogelwch y wlad yn gofyn carchariad y dynion hyn, y buasai yn iawn iddo eu cadw; ond y mae yn dda ganddo nad yw y gwrtbryfel¡ o'r fath natur, na'r dynion hyn o ddigon pwys i'w gyfiawnhau yn hyny.

COLUMBRIA BRYDEINIG. ' 1