Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

EISTEDDFOD UNDEB Y BEDYDDWYR…

News
Cite
Share

EISTEDDFOD UNDEB Y BEDYDDWYR ABERDAR, NADOLIG, 1861. Cynnaliwyd yr eisteddfod ucliod dydd Nadolig diweddaf yn Neuadd Ddirwestol Aberdar. Fel y mae yn arferol gan y Pwyllgor i'r elw deilliedig oddiwrtho, fyned i'r gwahanol ysgolion bob yn ail, yr oedd honyn yr ystyr hyny yn perthyn i Bethel, Abernant, cangen o Galfaria, pa un oedd wedi gwneuthur y rhagbarotoadau angenrheidiol yn drefnus a gofalus. Am naw o'r gloch, cyfarfu v Pwyl!gor yn y Te .Keuadd, pa on oedd wedi ei addurno a gwahanol fenerau ac arwyddluniau perthynol i ysgolion Cal- faria a'i changhenau. Yn mhlith pethau ereill, pen- derfynwyd fod yr eisteddfod nesaf mown cyssylltiad (o ran yr elw), ag ysgol Cwmdar. Am ddeg o'r gloch, brysiwyd i ddechreu ar waith cyhoeddus y dydd, yr hwn a roddwn i lawr fel y daethant i sylw. Wedi ethol Mr. Henry Morgan o Heolyfelin i'r gadair', anerchodd y gynnulleidfa yn fyr mewn prydyddiaeth. Yna galwodd ar gor Calfaria i ganu yr hyn a wnaethant gyda chymmeradwyaeth. Wedi byn, anerchwyd ni gan amryw o'r beirdd ag 1 oedd yn bresenol—John Price, H. James, J. Wil- liams, J. Price, a D. James. Yn awr, dyma ni gyda y gwaith y dysgwylid am dano fwyaf pryderus, sef gwobrwyo y buddugol. Y testun cyntaf oedd, Traethawd ar Pa un ai daioni ynte drygioni y ttae dadleu yn ei gynnyrchu." Un cyfansoddiad a dderbyniwyd, sef eiddo D. Lewis, o ysgol Ynyslwyd, ac yr oedd yn teilyngu y wobr felly galwyd ef i'w derbyn. Yn nesaf, cfirau o blant dan bumtheg oed yn cystadlu ar G&n y Morwr." Dau gor ddaeth 1 r gystadleuaeth, sef Heolyfelin a Bethel; rhan- wyd y wobr rhyngddynt. Hanesyddiaeth Ys- grythyrol." Tri yn tynu am y dorch yr oedd B. Hinton, Calfaria, a J. Reynolds, Bethel, yn gyd- fuddugol. Adroddiad y "Rhych-ddryll." Pedwar lir ddeg o rai dan bedair ar ddeg oed yn cystadlu; rhanwyd y wobr rhwng W. Walters, Abercwmboy, a W. Jones, Gadlys. Gramadeg Siesneg. Tri yn cynnyg am dani; rhanwyd y wobr rhwng J. Jones a J. Reynolds, Bethel. Canu Yinweliad y Bardd." Yr oedd pedwar o fechgyn dan bumtheg oed yn cynnyg am y dorch yr oedd D. Davies, Calfaria, a S. Davies yn gydfuddugol. Yn nesaf, yr oedd pump o fechgyn dan ddeuddeg oed yn darllen am y goreu. Y buddugol oedd H. Rule, Aberaman. Adrodd pennill y Rhyfel." Yr oedd ppdair o rai bach dau ddeg oed yn adrodd yn gampus; y goreu ^edd E. Jones, Calfaria. Yn nesaf, caniadaeth Codiad yr Ehedyild." Tri chor yn cystadlu; y buddugol oedd cor Calfaria. Araeth ar destun rbtHJÚedlg ar y pryd. Dan, yn cynnyg, sef H. atneg a J. Jones, Calfaria. Y peth nesaf oedd arllen—merclied dan ddeuddeg oed dim ond un, set j. Mathew, Heolyfelin, ddapth yn mlaen, a der- >">o<ld banner y wobr. Yn iiesaf, canu "lesu rchafedig." Tri chor; y buddugol oedd cor Callaria. Beirniadaeth ar y bryddest ar Hanes v^rist o'r oruwch-ystafell i'r groes." Un bryddest derbyniwyd, sefeiddo H. James, Calfaria, yr hon oedd yn teilyngu y wobr. Adroddiad o Heddwch." Pump o torched baci) dan ddeg oed yn cystadlu; y oedd E. Jones, Calfaria. Yn nesaf, Canu, Duw a ddaeth o Teman." Tri chor yn tynu am ydorch rhanwyd y wobr rhwng cor Calfaria a JRfor Bethel. Yr oedd hyn yn derfyniad ar gwrdd y Goreu. o Wedi cael ychydig ltfniaeth, dyshwelwyd yn ol tf aeuadd erbyn hanner awr wedi dau. Heb golli amser, etholwyd Mr. W. Walters, Abercwmboy, r gadair, yr hwn wedi rhoddi anerchiad byr a alwodd ar gor Bethel i ganu ton. Anerchwyd y dorf gan y beirdd. Cawsoru annogaeth gari un o honynt i gadw yr eisteddfod yn yr haf, sef gan J. Howrells, Aberdar, y rhai a welir ar ddiwedd yr J*' Y peth c>'ntaf yn y cwrdd hwn oedd ad- odd)ad o Nedi Jones." Dim ond un cwpl oedd yn cynnyg, pa rai a adroddasant yn deilwngo'r wobr, a J. Howells, Heolyfelin. Yn nesaf, Daearyddiaeth Ysgrythyrol." Tri yn cystadlu; y buddugol oedd B. Hinton, Calfaria. Canu," My child was beautiiul." Yr oedd y gystadteuaeth hon rhwng merched dwy ar humtheg oed. Daeth dwy i gynnyg am dani; yr oreu oedd A. Parry, Bethel, a rhoddodd y pwyllgor yr un faint i'r Itall am ei hymdrech. Traethawd ar Hanes y Bedyddwyryn Morganwg." Ni ddaeth yr un cyfansoddiad i mewn ar y testun hwn. Yn nesaf, cyfieithad derbyn ar y pryd. Un ymgeisydd, sef J., Jones, Calfaria, yr hwn aeth trwy ei orchwyl yn deilwng or wohr. Canu y trio, When time was embalm- ing." Un party yn cystadlu y buddugol oedd, M. Llewellyn a'i gyfeiilion, Heolyfelin. Adrodd Carreg y Philosophydd." Dwy yn cynnyg; y huddugol oedd A. Mathew, Heolyfelin. Beirniad- aeth ar y Ganig areiriau Heddwch." Dau gyf- ansoddiad a dderbyniwyd; y goreu oedd eiddo J. Howells, Calfaria. Canll" Cymbelliad." Dau gor o blant dan bumtheg oed yn cystadlu y buddugol oedd cor Bethel., Adroddiad Y Ddeilen gun." Pedair o rai bach yn tynu am y dorch; J. Mat- thew, Heolyfelin, ennillodd y wobr. Canu Ba. varia." Dau gor yn cystadlu. Teilwng yw sylwi yma nad oedd y cor buddugol ar y don neu yr an. them gyntaf i gael cystadlu ary lleill. Dyfarnwyd y wobr i g6r Bethel. Cystadleuaeth darllen i ferched o unrhyw oed. Dwy yn ymdrechu; y goreu oedd M. Roberts, Calfaria. Y nesaf oedd beirniadaeth y gâllar Ragoriaeth Addysg." Ni chyfansoddodd neb ar y testun hwn. Cawsom gan y beirniad yn awr i'n difyru trwy ganu ei gan ar Glefyd y Sabboth." Y nesaf oedd adroddiad rhan o Farwnad Esgob Heber." Pump cwpl o dan ddeg oedd yn ymdrechu y goreu oedd, M. ac E. Thomas, Gadlys. Canu "Welcome as the cheerful light." Saith yn ymdrechu; J. Jones, Calfaria, ennillodd y dorch. Y gystadleuaeth nesaf oedd darllen-i wrrywod o unrhyw oed. Un ar bumtheg yn cystadlu J. Jones, Calfaria, oedd yn fuddugol. Gramadeg Cyinreig, uwclilaw ugain oed. Un ymgeisydd, a hwnw yn dangos medrusrwydd, sef J. Jones, Calfaria. Adrodd Y Tren." Wyth yn ymdrechu; rhanwyd y wobr rhwng T. Ed- munds, Abercwmboy, a T Rees, Heolyfelin. Canu yr anthem" Sleeper's Wake." Dau gor, sef Betbel a Heolyfelin rhanwyd y wobr rhyngddynt. Gyda hyn, terfynwyd y pwrdd prydnawnol. Wedi cael ychydig seibiant, dychwelwyd yn ol i'r neuadd i fyned trwy waith y cyfarfod hwyrol, yr hyn a ddechreuwyd drwy ethol Mr. D. Evans, Aberdar, i'r gadair. Wedi iddo anerch y gynnulll- eidfa yn fyr a phwrpasol, galwodd ar g6r Heolylelin i ganu ton. Wedi caelanerciliadau gan y beirdd, galwyd ar y cystadleuwyr mewn i adrodd Dew is bethau Hywel iygad cwsg." Daeth 3 i'rymdrechfatj y goreu oedd D. Phillips, Heolyfelin. Gramadeg Cymreig, yn gyfyngedig i rai na fuorit fuddugol o'r blaen. Un ymgeisydd, sef W. Richards, Caifarid, a chafoddy wobr. Canu y Duett, "Damon and Chlora." Pedwar cwpl yn cystadlu; y buddugol oeddynt T. Jones a F. Davies, Calfaria. Beirniad- aeth y traethawd. ar y "Fforddi ladd cenflgen." Un cyfansoddiad, a hwnw yn teilyngu y wobr, sef eiddo T. Daniel, Heolyfelin. Adrodd Lief o'r Lletty." Un cyfansoddiad, sef eiddo T. Davies, Calfaria, a derbyniodd y wobr. Canu Pa beth a wnaf." Tri chdr yn cystadlu; rhanwyd y wobr rhwng cor Calfaria a chor Bethel. Y gystadieuaeth nesaf oedd mewn darllen, rhwng merched dan ddeunaw oed. Dwyyn ymdrechu; M. Roberts oedd yn fuddugol. "Sillebiaetli yn ol dull y Gomerydd." Un ymgeisydd, sef J. Jones, Cal- faria, a derbyniodd y wobr. Adroddiad Yr lesu a safodd." Pedair yn cystadlu y -goreu oedd Elenor Morris, Heolyfelin. Beirniadaeth ary traethawd ar Ddyledswydd rhieni i roddi addytg i'w plant." Pedwar cyfansoddiad; T. Daniel, Heolyfelin, a J. Davies, Calfaria, yn gydfuddugol, Canu "Glancynnon." Un cor, sef Heolyfelin, yr hwn oedd yn deilwng o'r wohr. Adrodd Creu- londeb at Anifeiliaid." Wyth yn cystadlu; y buddugol oedd W. Thomas. Abercwmboy. Yn nesaf, darllen. Pedwar ar ddeg o fechgyn dan ddeunaw oed oedd yn cystadlu; rhanwyd y wobr rhwng D. Phillips a T. Rees, Heolyfelin. Beirn- iadaeth ar y cyfieithad o On steady." Dau ym. geisydd, sef John Reynolds, Bethel, a J. Jones, Calfaria, a rhanwydy wohr rhyngddynt. Cynnyg- iwyd banner coron o wobr am yrenglyu unodl union goreu i Arlun Tabernacl Spurgeon, yr hwn oedd wedi ei osod i fyny ar fur y Neuadd. Rhodd. wyd y cynnyg yn y cwrdd prydnawnol, a'r cyran- soddiadau i ddyfod i mewn yn y cwrdd hwyrol Daeth tri i law y buddngof oedd eiddo H. James', Calfaria. Y nesaf oedd canu solo, Ei gair yrnad- awo)." Tairyn cystadlu; Gwenllian Llewellyn, Calfaria, a Mary Thomas, Bethel, yn gydfuddugol. Adrodd "Brawdgarwcb." Un ymgeisydd, sef J. Matbew, Heolyfelin. Beirniadaeth ar y bryddest ar Ddinnsoedd y Gwastadedd." Dau gyfansodd- iad, sef eiddo H. James, Calfaria, a J. Price, Heol- yfelin, pa rai oeddynt gydfuddugol. Canu yr anthem Deffro Arglwydd." Dau gor, sef Calfaria a Heolyfelin rhanwyd y wobr rhyngddynt. Felly terfynwyd gwaith y dydd wedi cael diwrnod difyrut ac adeiladol. Cawsom gynnulleidfa luosog-yr oedd y neuadd fawr yn llawn; yr oeddem yn ofni na fuasai mor boblogaidd, am fodcyfarfodydd llen- yddol neu dea parties braidd yn mhob capel trwy y gymmydogaeth gan y gwahanol enwadau, etto ni wnaeth hyny fawr cyfnewidiad yn ein poblogrwydd ni. Gobeithiwn y fcydd i'n hundeb barhau, a bod yn foddion i'n clymu fel ysgolion yn fwy wrth ein gilydd, ac i fod yn foddion i ddwyn taleniau ein ieuenctyd i ymarferiad. H. MATHEW. YrEnglyn buddugol i'r Tabernacl Llys odiaeth er lies ydyw—y newydd Dabernacl digyfry w; Gwawl da bair, i gael Duw byw I hael arwain dynolryw. H. JAMBS.

Ychydig linellau yn annog…

CASGLU AT CARMEL.