Hide Articles List

4 articles on this Page

Y CWMWL YN GWASGABTJ.

News
Cite
Share

Y CWMWL YN GWASGABTJ. l'it Arglwydd y byddo y diolch; mae y cwmwl tew a fu yn crogi uwchben Prydain ac America wedi ei wasgaru. Mae pob pryder am ryfel rhwng y ddwy wlad wedi darfod. Mae achos y Trent wedi ei der- fynu yn heddychol. Ymddengys yn awr fod y Llywydd Lincoln a'i weinyddiaeth yn hollol yr un farn a gweinyddiaeth Prydain ar y mater. Oddiwrth y talfyr- iad byr o'r llythyron sydd yn awr o'n blaen, mae yn amlwg fod y Llywydd Am- ericanaidd wedi barnu o'r dechreu fod gweithred Captain Wilkes yn gyfryw nas gallesid ei amddiffyn, ar bod Mr. Seward, y Prif Ysgrifenydd, wedi danfon brys- lythyr at Mr. Adams, y Llysgenadwr Am- ericanaidd yn Llundain, i'w hysbysu ef, a thrwyddo ef IarJl Russell, fod Captain Wilkes wedi gweithredu heb unrhyw orchymyn oddiwrth yr awdurdodau, a'u bod hwy yn America yn gobeithio y buasai awdurdodau Lloegr yn gymmedrol yn ei hawiiau am iawn ac yn mhellach, fod y Llywydd a'i gyd-gynghoriaid yn barod ar unwaith i roddi unrhyw iawn rhesymol. Yr oedd y llythyr hwn wedi ei ddanfon i Loegr cyn fod yr Americaniaid yn gwybod dim am deimlad y wlad hon ar y pwnc pwysig mewn dadl. Mae hyn ar unwaith yn dangos fod yr holl alluoedd mawrion trwy Ewrop ac America o'r un farn am y weithred, a phob un o'r galluoedd yn condemnio gweithred y Cadben Wilkes yn cymmeryd teithwyr odditan nawdd baniar Prydain, pan ag oedd y cyfryw deithwyr yn myned o un wlad ganolog i wlad ganolog arall. Yr ydym yn mhellach yn gwybod fod larll Russell, yn enw coron Lloegr, wedi danfon cais at Weinyddiaeth America, yn gofyn am iddynt hwy roddi i fyny y pedwar dyn a gymmerwyd o'r Trent, gyda gwneyd ym- ddiheurad priodol am y weithred. Der- byniwyd y cynnyg hwn mewn ysbryd heddychol gan y Llywydd Americanaidd ac mewn atebiad iddo mae Mr. Seward ar unwaith yn cydnabod hawliau Lloegr, ac yn dweyd nas gall wrthod y cais heb dros- eddu cyfreithiau y gwledydd, a'i fod ar unwaith yn caniatau i Loegr y peth a ddysgwyliai i America i'w gael o dan am- gylchiadau eyffelyb. Mae yn dywedyd yn mhellach, ei fod heb unrhyw betrusder yn barod i roddi fyny y pedwar dyn i Argl. Lyons ar unrhyw adeg, ac mewn unrhyw le ag y byddai i'w Arglwyddiaeth benodi. Fel yna, trwy drugaredd, mae pob ofn am ryfel wedi ei symud. Mae yn an- mhosibl i ni allu darlunio y teimladau boddhaol'sydd wedi eu creu trwy hyn yn yr holl wlad. Mae pryder, ofn, a dychryn wedi rhoddi lie i orfoledd, llawenydd, a diolchgarwch. Mae y tew gymylau yn rhoddi lie i belydrau yr haul i loni y ddwy wlad. Yr ydym yn credu wedi y cwbl mai nid drwg i gyd fydd y weithred hon. Mae dan beth wedi cael eu dadblygu, ag a fydd o wir bwys yn ol llaw. Mae hawliau teithwyr rhwng gwledydd canolog wedi ei sefydlu ar dir dealladwy; mae hyn o fwy o bwys na feddylir am dano gan lawer. Peth arall sydd wedi cael ei ddangos yn dro amlwg yw hyn, nad yw mor hawdd cael rhyfel rhwng v ddwy wlad ag y tneddyliodd rhai ei bod. Mae y pwyll, y doethineb, a'r teimlad da sydd wedi ei ddangos yn y drafodaeth hon, y sicrwydd goreu am heddwch parhaus rhwng America a Lloegr. Yr oedd pleidiau cryfion yn y ddwy wlad yn dymuno am, ac yn gwneyd eu goreu dros gael rhyfel; ond maent wedi eu siomi, tra y maent -ivedi cael gwers nas annghof- iant hi am dro maith. Bydd cryn waith gan y Times a'r Morning Post yn y wlad hon i fwyta eu geiriau; a bydd yn rhaid i'r New York Herald gywilyddio, os gall wneyd gweithred o'r fath. A beth fydd teimlad y Gwyddelod, o dan arweiniad y fath wallgofddyn a Meagher? Yr oeddynt wedi chwythu fyny fel pledren, yn y gobaith am ryfel; ond yn awr mae y cwbl wedi troi yn siomedigaeth o'r fath fwyaf chwerw. Meddyliodd y Times am godi ei gylchrediad o 30,000 i 90,000, fel yn amser rhyfel y Crimea ond mae gobaith ei elw yntau wedi darfod- dim gobaith am ryfel mwy. O'r tu arall, mae calonau rhai miloedd, oes cannoedd o filoedd, o Gristionogion, y ddwy ochr i'r Werydd, yn llawn o lawenydd yn y gobaith cryf fod y dydd yn mheil, pell, pan dyr rhyfel allan rhwng Lloegr ac America. Mae gwyr y South hefyd wedi cael eu siumi tuhwnt i fesur yn y weitbred o roddi fyny y carcharorion. Bunsai yn fil gwell ganddynt hwy i ryfel dori allan rhwng Lloegr a'r Taleithiau Gogleddol; ond trwy ddaioni Duw, maent hwythau wedi colli eu hamcan. Mae yn fwy na thebyg, cyn y daw y llinellau hyn o flaen y darllenydd, y bydd y pedwar dyu wedi cyrhaedd y wlad hon. Pa dderbyniad a ddylent gael oddiar ein dwylaw ? Dylent gael eu trin gyda dirmyg dystaw; 'ie, ys dywed y Sais, Silent Contempt ddylai fod eu groesawiad. Mason, y blaenor, yw awdwr y Fugitive Slave Law-y ddeddf fwyaf greulawn ac uifernol a wnawd erioed. Maent oil yn gaethfeistri, ac yn bleidwyr y gaethfasnach yn el holl eithafion o greulonderau. Yna, na ato Duw i ni fel pobl roesawi y fath,; ddvhirod diegwyddor. Yr ydym wedi eu rhyddhau yn unig am ein bod yn rhwym o amddiffyn hawliau ac anrhydedd Prydain; ond byddai gwneyd rhagor ni hyn yn ffolineb, ac yn bradychu egwyddorion rhyddid. Bydded iddynt gael deall mewn modd digamsynied fod eu lie yn llawer-mwy derbyniol na'u cwmpeini yn y wlad hon. Byddai yn annhraethol fwy anrbydeddus i ni roesawi pedwar o gaethion Sonth Carolina na r pedwar dyn hynârhai ag ydynt yn mas- nachu yn nghyrff ac eneidiau eu cvd-ddynion.

Family Notices

HANESION GREFYDDOU

Y PYTHEFNOS. t .'-