Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

. SIOP Y &OP.

News
Cite
Share

Wel," meddai Sion, "oni weles i lyfre ereill heb rhai 'na yma ?" Do," ebe John mewn atebiad i'w dad "mae Hwmffre yn derbyn y Diwygiwr, fydda' i yn cael benthyg y Bedyddiwr gan Dafydd y Wheelwright, a bydd ynte yn cael golwg or y SEHEN gen' innau ac fel hyn i ni'n treio cael golwg ar y rhan fwyaf o'r cyhoeddiadau trwy'n gilydd. A chyda golwg ar y y ddau news, fel y gelwch chi nhw, nhad, weda'i chi sut mae rhai 'na'n dod; yr ym ni yma, Billy, a finnau, a Hwmffre, a Dafydd y Wheelright, a Job ei bartner, yn clwbio Aln gilydd i gael Seren Cymru a'r Amserau, a bydd un yn myn'd i Siop y Wheel- wright yn gyntaf, a'r Hall yn dod yma yn gyntaf, fel bo ni yn cytuno ac ar ddiwedd y flwyddyn, yr ym ni yn gwerthu yr hen stock i'r uchaf ei bris; a chi synech, nhad, 'dyw y gost fawr o beth rhyngom fel hyn." Ar hyn, mentrais ofyn i Sion ei farn ar y pwynt ag oedd wedi cael ei ddadblygu trwy yr ymddyddan blaenorol; sef, pa un gwell oedd gweled y bechgyn fel hyn yn derbyn pob un ei fisolyn, ac yn dangos awydd i wybod cynnwysiad amryw fisolion, heblaw cytuno i dderbyn dau newyddiadur Cymreig; ac felly, trwy ddiwallu y meddwl. yn ymgadw o'r dafarn yn yr Wythnos; ac ar y Sabbothau yn ddi- wyd gyda'r Ysgol Sul a,lmoddion gras; ie, pa un gwell hyn, neu fod fel bechgyn Cymru hanoer can mlynedd yn ol, neu, yn wir, ddeng mlynedd ar ugain yn ol, pan nad oedd ond ychydig yn gallu darllen iaith y wlad-pan dreulid hirnos gauaf i adrodd a gwrando chwedlau wrth y tan, a'r rhai hyny yn ami am bethau na fuont erioed, ac na fyddant byth ? Yn awr, Sion, onid yw y bechgyn vn ymddw yn yn gall ? Mae yn wir fod eu cyfleus- derau yn hynod o fawr—y fath na chawsoch chwi, Sion bach, na finnau erioed gynnyg arnynt; ond hyfrydwch gan fy enaid i, yn fy hen ddyddiau, yw gweled y bechgyn yn iawn arfer eu breintiau. Yn awr, Sion, onid yv^ Jti yn Well ufi phan oeddechcliwi a finnau yn fechgyn ? Wet, Capten Simon," meddai Sion, wedi tynu y bibell o'i enau> a tharo y llwch allan at ewinei fawd chwith, "'weda chi beth, mae llawer o flyn- ydde er pan oeddwn i yn facligen; ond 'rw' 'i yn cofio gystal a thuse hi ddo' lawer o bethau ag o'dd y pryd hyny. 'Do'dd dim un capel yn Cwmber- llan y pryd hwnnr, na dim un, YsgolSul am flyn- ydde wedi i fi ddechreu gweithio; ac ar y nos- weithie 'rw'i yn cofio o'r gore am lawer o chwedleue ofnadw' yn cael eu hadrodd gan un a'r llall; a rhyngoch chi a fine, Capten Simon," meddai Sion, gan ostwng ei lais, ac edrych yn fwy sobr nag arfer, 'rw'i er's btynydde yn credu fod mwy na.'u banner yn gelwydde ;rhonc.. Ond yn awr, da gweyd y gwir, 'do's dim fel yna os na fydd hi yn noswaith i fyn'd i'r cwrdd, mae un ne'r llall o'r bechgyn yma yn darllen tipyn o'r news, ne'r llyfrach erill yma ac fel hyn, i chi'n gwel'd, Capten, 'r ym ni yn gw'bod siwd mae'r byd yn troi, fel ma' Johny mab yn dweyd weithiau. Ac am y Sabboth, 'do's dim use whalu, gwell yw hi yn awr fil o weithie na phan oeddwn i tuag oedran Billy yma; mae 'ar hyny ddeunaw mlynedd ar ugain pan ddelo Gw'lfair nesa'. Pryd hyny 'do'dd dim son am fyn'd i'r cwrdd—dim son am Ysgol Sul; ond 'ro'dd y dynon ifene broil i gyd—ie, a'r ben ddyrton hefyd, a llawer iawn o'r men'wod, yn cwrdd ar odreu y Maesmawr, ne' ar y traeth; ac yna buse match i gico foot; ball, neu 'hware bando. A gweles fi weithie yn myn'd gyda lot o fechgyn ar ddydd Sul i'r AUtfawr i hela daearfoch; ac ar ot ei ddala, myn'd yn y prydnawn i yard y Foa and Hounds, i wel'd y cwn yn baito y mochyn; a chyn hir buse yn myn'd yn yinladd cwn; diwetha i gyd luse i'r dynon ymladd, a ban- ner lladd eu gilydd. 'Rwy'n cofio un tro ddau blwyf yn ymladcl Ian gilydd o achos ffrae am hen fando ond diolch i'r Argl^ydd," meddai yr hen wr, gan godi ei olwg i fyny, fel un yn teimlo yr hyn oedd yn ei ddywedyd, diolch i'r Arglwydd fod hyny wedi darfod yn awr. 4113' i ddim gweyd i chi, Mr. Simon, mor ddedwydd w'i'n teimlo ar y Sabboth, pan yn 'iste' i lawr yn yr Hen Gapel, a Mari fach ar y'm arffed, a Pali a'r plant yno i gyd yn gwrando y gweinidog yn dweyd am lesu Grist, wrth gofio am y pethe a weles pan yn ifanc yn Cwmbeillan. Ac mi 'weda chi beth, fechgyn, os yw y SEREN (fel ma' Capten Simon yn dweyd ei bod), a'r llyfrach er'ill yna—wn i ddim beth yw enwe' eu banner nhw-wedi helpu i gael diwygiad mor fawr a da, rhwydd hynt iddi nhw, medda I, fechgyn, bid fyno; ond gobeithio na ewch chi ddim yn Chartists, 'run siwd." Derbyniwyd araeth Sion gyda chryn syndod, ond gyda boddlonrwydd mawr; canys nid yn ami y celid gan Sion i gvfaddef fod dim a wnelid yn yr oeshonynrhagori ar arferion yr he;1 bobl dda a boblogent Gym) u banner can mlynedd yn ol. Tra yr oedd hyn yn cymmeryd tile, yr oedd Hwmffre yn meddwl am air bach air oedd John wedi ddywedyd am y codiad cyfl'rtdinol a ddys- gwylid yn huriau y gweithwyr, ac yr oedd yn awyddus iawn am gael ail sylw i'r pwnc hwnw; yna, wedi crafu ei gern, dywedodd,- Meistr, a gl'wsoch chi beth oedd John yn ei dd'eyd rwan fach ?" Yh, do, naddo, ar wn i, 'dw'i ddim yn cofio yn awr, beth o'dd e'?" meddai Sion. 11 Wel, dyna o'dd e' meddai Hwmnre, fod yr huriau yn cwni 'n mbob man, ac yr—ow'n—i'n—meddwl—y— dylse—chi——" Mawr wel 'rwyt ti'n cofio, Hwmffre," meddai Sion, cyn i Hwmffre gael amser i orpheti ei 'stori; ond dyna fel mae'n wastad, am gwni'r pris; ond 'do's neb o honoch am ei dynu lawr un amser. Os posib', Hwmftie, dy fod ti'n meddwl cael cwnad, a thithau 'n cl'wed fod yr ha'rn yn cwni mor 'nafus heblaw hyny, ma'r te, canwyllau, a'r sebon, i fyny i ilwle yn siop Beni Morgan a gwyddoch o'r gore' mai nid peth bach o rhei'ny sy' eisie' 'nawr y gaua' 'ma." Fi gents nhw," meddai Hwmffre, dipyn yn sarug, os bydd tipyn o gyffro yn y gwaith ha'rn a glo, fe fydd y siopwyr yn siwr o godi pob peth yn y fynyd. Pwy eise' codi'r canwyllau a'r sebon sy' 'nawr, wn i, ond eu hawydd gwancus i gael y bla'n ynunion 1" Cymmer bwyll, Hwmffre," meddai John yn araf, wyt ti ddim yn cofio 'rhyn ag o'wn i yn adrodd wrthot ti pwy nos yma ?" Nac w'i," meddai Hwmffre, beth o'dd e', John ?" "Wel," meddai John, "gan fod y Capten yma, 'nawr, mi 'weda y stori etto, a fe ftyr e' os o's gwir yn y peth neu beidio. 'Rych thi, nhad, yn cofio pan fues i yn rhoi tro am newyrth William, er's mis yn ol ? Odych, fi wn. Wel, y nosweith o'wn i yno, o'dd newyrth yn dweyd fod gwr boueddig, a Justis y lie, yn rhoi araeth i'r gweithwyr ar y Clybiau a'r Savings' Bank, a fi etho i yno gyda newyrth William yr o'dd yno lon'd y Ile o weith- wyr yn gwrando; fe a'th y gwr boneddig dros y clybiau; ae yr o'dd e' yn barnu nad o'dd setyllfa llawer o honynt yn dda ac yr o'dd yn ofni cese llawer o ddynion yn eu nenaint eu siomi ynddynt, achos nad o'dd y tal i mewn a'r tal i ma's ddim yrt gyfartal. Yna yr oedd yn cymmeradwyo y Savings' Bank fel lie diogel i'r gweithiwr ddodi y geiniog fydd dros ben; ac wedi iddi ddo'd yn swm bach cryno, yr oedd am i bob gweithiwr dreio cwni if iddo ei hunan, gan y buasai hyny yn dwyn gwell use ar yr arian na dim arall; a buasai y dyn yn cael vote dros y sir hefyd, ac wrth hyny yn d'od yn fwy cyfrifol yn y wlad. Ond yr oedd ef yn dweyd fod y meistr a'r gweithiwr yn erbyn y Savings' Bank.- Fel hyn, ebe fe,—Yr o'dd y meistri yn erbyn hyny, rhag ofn y buasai y gweithwyr, wedi savio tipyn go lew o arian, yn debyg o sefyll ma's vn erbyn y meistri; ond 'ro'dd ef yn meddwl mai ffolineb o'dd hyny, gan na fuasai y fath ddosparth o weithwyr fyth yn cymmeryd eu harwain i sefyll ma's yn ddi- achos ond buasai y dynion hyny, wrth ddysgu by w yn sobr, a gofalu am eu teuluoedd, yn debyg o fod y dynion goreu i'r meistri yn y pen draw, ond i'r meistri wneyd chware' teg a nhw. Ar yr ochr arall, meddai efe, yr oedd llawer o'r gweithwyr yn erbyn dodi arian yn y Savings' Bank, rhag i'r meistr w'bod fod ganddynt arian, ac yna i beidio rhoi cwiiad pris iddynt, achos nad o'dd dim eise amy* nhw, am fod ganddy' nhw arian yn y Bank. Ond 'roedd y gwr boneddig yn rhoi ei air, nad o'dd dim grym yn y meddwl yna am, meddai ef, mi 'weda chi pa'w,—-nid oes dim modd gan un meistr, na meistri'r gymmydogaeth, i stopo y pris i gwni, gan fod cyflog y gweithiwr yn cael ei reoli gan bethau mwy na dymuniad y meistr; a bod cyflogau y gweithwyr yn codi neu yn dod i lawr yn ol sefyllf* masnach y wInd. 'Nawr, meddai efe, osbydd mwy o weithwyr nag sydd o waith ar eu cyfer, mae y pris i lawr; ond o'r ochr arall, os bydd mwy o waith nag sydd o ddynion i'w wneyd e', mae y pris i fyny. Mae yr ha'rn yn codi 'nawr, am fod mwy o alw am dano nag sydd o ha'rn i gael; ond pe byddai mwy o ha'rn yn y farchnad na fyddai jno o brynwyr, delai y pris i lawr; ac yn yr un modd, prinder dynion sydd yn codi y pris yn y cyflogau a chyf- lawnder o ddynion sydd yn dyfod a'r gyflog i lawr. Ac os bydd dynion yn brin, 'do's dim diolch i'r meistr am roi pris am y gwaith ond pan fyddo gormod o ddynion, mae'r meistr yn siwr o ostwng ac 'roedd e'n tystio fod y rheol yna trwy'r byd." Rw' in ffaelu gwel'd," meddai Hwmffre, "pa'm na alia' nhw roi pris da heb y pethau yna ?" Ie, dealla di, Hwmffre," meddai John, wnaiff y meistr ddim rhoi pris mawr os caiff e'r gwaith am bris bach, ond mae yn rhaid iddo fyned yn ol y farchnad, meddai y gwr boneddig. Edrych di, Hwmffre, mae bugail yn Awstralia yn cael pedair punt ar ugain yn y flvyddyn, a'i fwyd yn y fargen, a bwyd ffamws yw e' hefyd pan ceir digon yma am saith i wyth punt a'i fwyd. Wel, b'le mae'r gwahaniaeth? Yn byn, i ti'n deall, prinder bu- geiliaid sydd draw, a gormod sy' yma; canys y gwir yw hyn, pe bai dyn yma yn gwrthod wyth punt, mae dau ueu dri yn -barod i fyn'd &'i Ie fe. Pan fo pethe yn stac, mae dyn yn foddlon gweithio am banner torth cyn bod heb ddim. Rhaid i ti ddeall etto, fod dau reswm dros y tipyn cytfro sy' yma 'nawr, sef mwy o alw am ha'rn, glo, tin. copr; ac o gwrs, mae eise' mwy o ddynion. Wel, a gyda hyny, mae miloedd lawer o'r dynion ag oedd yma ddwy flynedd yn ol, wedi myn'd off, wcF di, a gadael y gwaith i'r rhai sy' ar ol a phe elai rhagor off, goreu i gyd fyddai etto. Dyna filoedd yn myn'd i Awstralia bob mis, ac fe fydd eise' ha'rn aphethnu ar y rhai yna a ni o'r wlad hon gaiffei hala fe." "John, John," meddai yr hen wr, mewn cryn syndod wrth glywed y mab, he'b wybod b',le yr oedd y cwbl i ddiweddu, "John! fachgen, 'rwyt ti yn dweyd fel counsellor; ond beth am y canwylle a'r sebon ? a ddywedodd y dyn dyeithr,-y-y gwr boneddig w'i yn 'i feddwi-rywbeth am bethach fel hyny ?" Naddo," meddai John, Ie wedKs y gwr bon- eddig ddim am hyny ond 'ro'wn i yn siop Mr. Sponk, y siopwr newydd, echnos, a phwy oedd yno ond John Reform, mewn pangau enbydus am y canwyllau ac 'roedd Mr. Sponk yn tystio mai nid arno fe o'dd y bai, ond mai prinder gwer o'dd y peth i gyd-nad o'dd fawr wer yn y wlad 'nawr, ac fod ei bris e' wedi myned i fyny i r'wle; ond chredse John Reform ddim o hono, ac 'roedd yn taro y counter a'i ddwrn, ac yn taeru mai trick y siopwyr altogether o'dd e', ac na fase dim daioni nes cael y Charter, ac yna ceise nhw wet'd arhyn, ac er dofi John, cyrchodd Sponk bapyr New. Sasnig-Mark Lane Express, o'dd ei enw e'—a darllenodd, nad oedd Rwsia wedi danfon ond llai na'r hanner o wer eleni mewn cymhariaeth a llynedd, a'i bod yn stop bellach ar gael dim oddiyno hyd y flwyddyn nesa', am fod y rbew yn stopo y liongau i drado. Ac yr oedd Sponk yn dweyd nad