Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

TRAETHODAU.

News
Cite
Share

TRAETHODAU. HUN AN-DDTW YL LI ANT. RHIF. II. GAN Y PARCH. D. OLIVER EDWARDS. SYLWASOM o'r blaen ar y pethau hyny gyf- ansoddant hunan-ddiwylliant; sef ymwyb- yddiaeth o gymhwysderau yn tywys i weith- garwch—ymgais i wrthweithio dylanwad anfanteision boreuol—yn nghyd a phender- fyniad i lynu nes rhagori. Dyma elfenau hunan-ddiwylliant. Y n awr, deuwn at yr ail ran o'r testun. II. Pa fodd mae i'r elfenau hyn i gael chwareu t6g i weithredu ? Pa fodd mae i ieuenctyd ein gwlad, yn ngwyneb eu rhwystrau a'u hanfanteision, igael eu dwyn o dan eu dvlanwad ? Gyda goiwg ar yr elfen flaenaf, gwna hon i fesur helaeth ofalu am dani ei hun. Mae cymhwysderau pob dynarbrydianyn gwneyd eu hunain yn wybyddus. Nid oes neb, mi debvgwn, mor ddideimlad nad oes ynddo yn awra phryd arall gynhyrfiad am ddiwylliant. Teimla fod galluoedd o ryw fath yn gorwedd ynddo. Y gwas cyflog wrth aredig y maes, neu'r bugail gwridgoch ar y bryn wrth fugeilio defaid, neu'r lJanc. glaswyn yn y pwll glo, cant i un os na theimlodd weithiau ryw biraeth nerthol Y11 ei fynwes i fod yn rhywbeth yn y byd, a sengu yn 61 traed y rhai hyny y gwel eu bod, trwy eu gwybod- aeth a nerth eu cymmeriad, yn cano dylan- wad bendithfawr ar ereill, ac yn cyfranogi o fwynhad uwch n&'r un a ddaw o besgi y corfF, neu ei ddilladu a gwisgoedd gwychion. Nid ryw delpyn marw, caregaidd, yw y galon, yn enwedig eiddo dyn ieuanc—yn enwedig eiddo dyn ieuanc wedi ei fagu rhwng mynyddau cribog arddunol a bardd- onol Cymru, gwlad y gan. Telyn ydyw, ae ardderchocaf anadliadau yn awr ac yn y man yn ysgubo drosti. Mae adlais rhyw fawredd na chyrhaeddodd etto yn oedi ar ei chlyw; dyebymmygion hededog yn esgyn ac yn disgyn ami; mae yn gweithio ynddi fedd- yliau a wibiant hwnt i foroedd lletaf, a mynyddoedd pellaf daear-hwnt i'r terfyn- gylch—hwnt i'r ffurfafen las ei hun; mae yna deimlad o allu — crwydrol, dibwynt, efallai; ond teimlad o allu, er hyny. Gwelir John Evans, Cross Inn, yn hogyn ar ochrau llymion bryniau Sir Gaerfyrddin yn pre- gethu. B'le mae'r gwrandawwyr genyt?" "0, hwy sydd i ofalu am hyny," ebeyntau. Christmas Evans—a'i tybed na chafodd y gornant wyllt a lifa heibio i Gastell-hywel nid anenwog, a'r rhosydd grugog o gylch, lie yr ymwolai a'r defaid ben bore, ddim llawer pregeth hwylus ganddo? Ac a fu dim meddyliau nerthol angylaidd yn pasio trwy galon John Elias pan yn llencyn gwelw uwch y gwydd, yn taflu y wenol yn rhyw hanner annghofus ac yn y nos pan wrth oleu canwvll egwan a wnaethai o'r ymeuyn ddyla8ai gael ei roi ar y bara barlys garw, y syllai am oriau meithion uwch rhyw hen gyfrol fratiog, ac yn benaf oil uwchben y Beibl, a gwersi yr hwn y maethodd ac y cryfhaodd ei enaid mawr ? Mewn rhai mae y teimlad o allu yn dangos ei hun yn fore, ac mewn ffordd amlwg a phenderfynol iawn ond weithiau mae eisieu deffroi hwn. Mae rhai yn fwy marwaidd a goddefol nag ereill. Deiliaid dylanwadau oddiallan iddynt yw y rhai hyn i raddau pell. Ni chredant fod dim gandJynt, nes y taerwch hyny wrthynt, ac y paroch iddynt, ar ôlliir yrnddadleu, dori allan Dichon eich bod yn dweyd y gwir, fod rhyw ddefnydd i gael yma." Mae angen am swmbwl annog- aeth a chyrnhelliad ar y rhai hyn-eisieu taflu manteision ar eu flordd-eisieu bod wrthynt nes deffroi y meddwl sydd oddifewn. Mae newid amgylchiadau yn ami yn dod a mawredd dirgel y rhai hyn i'r amlwg. Yr hyn oeddynt yn llesa; i grcdu ei fod yna, yr oedd yna wedi'r cyfan ac wrth bobl ieuanc o'r fath hyn, nid oes geuym ddim yn well i'w ddywedyd na, Peidiwch annghredu nac anobeithio nes gweled pa beth sydd ynoch. Gwnewch brawf teg yn gyntaf. Teflwch eich hunain i'r cyssylltiadau mwyaf tebyg o godi syched » n wybodaeth. Y A llyfr hwn darllenwch ef; y gan hon—dys- gwch hi; feallai y cyffyrdda hi a rhyw dant yn eich calon." Nid oes un ffaith yn fwy cynhyrfus na'r gallu cudd sydd yn lianfodi yn mhob lie, ac yn mhob peth. Nid yn unig ar y ddaear yma, nad yw oud ystordy dibendraw o adnoddau dirgelaidd, ond hefyd mewn gwlad o ddynion, ac yn enwedig i ieuenctyd. Pwy all ddweyd taint o allu ystor sydd yna o hyd,-pa fyd o feddwl sydd yna yn aros heb ei ddadguddio; a dim ond eisieu rhyw Fadog neu Golumbus i fyned ar ei draws. Mae y gloddfa (mine) i gael yna, dim ond i rywun ddodi y wreich- ionen gyntaf ynddi, a chynhesua wlad gyfan. Yn nesaf, pa fodd mae i'n hieuenctyd wrthweithio dylanwad ac anfanteision boreuol ? Un peth mawr tuag at hyn yw bod iddynt ddysgu sylwi. Ymddengys y cvfarwyddyd yn syml iawn ond i'n golwg ni rnaeyn bwysig dros ben. 0 dan yr am- gylchiadau y dygir y rhan fwyaf o'n pobl ieuanc fyny ynddynt, nid oes dim efallai yn cael ei esgeuluso yn fwy nâ'u harfer i sylwi ar bob peth. Yn naturiol mae y plentyn yn ymofyngar ond rhaid i'n ymofyngarwch wrth gefnogaeth a meithriniad, onide suddo yn raddol yn 61 i ddifaterwch a marweidd- dra anifeiliaid. Gadewir yn ami i blant holi, heb ofalu pa fath atebiad a roddir. Agorant hwy en meddyliau i dderbyn addysg ond yn Ile addysg ni dderbyn- iant yn ami ond rhyw sothach gwael. Fel y tyfant i fyny, a eu hymofyngarweh yn llai, os na cba ei roesawi gan eu rhieni a'u cyfeillion. Ac nis gwyddom am un golygfa yn fwy anobeithiol na llanc diym- 0 y chwil, diofal. Pe canfyddai gwmwl yn tori, fel y dywedir ni sylwai efe. Ca y blodeuyn prydferth, yr aderyn ami lywiog, y gragen dlos, hyd y nod s6r dysglaer-wawr y nef-pob peth, o'r lleiaf i'r mwyaf hynod -ddianc ei sylw, heb ddeffroi un cywrein- rwydd ynddo. Yn awr, rhaid i'r dyn ieuanc a fyno ddi- wyllio ei hun alw ei feddwl allan o'r fath gysgadrwydd a hyn. Heb sylwi, nid oes obaith y daw i wybod dim. Rhaid iddo fod yn llygaid i gyd. Daw rhyw beth teilwng o sylw o hyd gerbron. Cawn ein cylchynu bob awr gan y gwrthddrychau mwyaf rhyfedd. Pa wrthddrychau neillduol a ymgynnygant — ymddibyna byn ar yr alwedigaeth y caffo y dyn ieuanc ei ddwyn fyny iddi, neu'r lie y byddo'n byw. I forwyr, fel enghraiiit, y ser a'rgwynt ydynt y pethau tebycaf o dynu sylw. Os myn- yddwr, ffynnonau ac annifeiliaid fydd y testunau parotaf; os prentis mewn tref, gall weled miloedd o ryfeddodau celfydd- 5 ydol yn y ffenestri o amgylch, heb son am y lluaws o wrthddrychau dyddorol a gesglir bob amser o fewn ac o amgylch y dref. Dichon na fydd y cywreinrwydd ary cyntaf ond yn nghylch enwau; ond mae dysgu rhoi iawn enwau ar bethau yn llawer. Ad- waenom ddyn ag oedd pan yn blentyn, bob tro y cai genad, yn myned i dref gyfagos, yn arfer holi enw pob banc a bryn, pob afon a ffynnon, pob pentref a thy golygus ar y ffordd, ac yn rnhen blynyddau daeth yn enwog fel daearyddwr. Gwelsom biant yn fynych ar ddydd gwyl, a gaent yr hyfrydwch o ddianc o fwg y dwrnesi i rai o'r bryniau a'r glynoedd cyfagos, yn tori allan mewn

EGLWYSIG.