Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
AWSTRALIA.
News
Cite
Share
AWSTRALIA. Ymddengys nad yw y cloddfeydd aur yn Aws- tralia vn awr mewn sefyllfa mor lwyddianuusag y buont." Er fod cloddwyr, ar v cyfan, yn gwne/d cyflogau lied dda, nid ydynt yn codi cymmaint o aur a'r llynedd. Dengys yr adroddiadau am 185!^ a 1860 i fyny i'r 18fed o Awst leihad yn agos i gan mil o wnsiau yn ystod y flwyddyu bresenol. Mae y cyffro gvda golwg ar gloddfeydd aur y Snowy Hiver wedi lleihau yn ddirfawr. Y mae y newyddion torcalonus a dderbyniwyd oddiyno wedi peru i lawer o gloddwyr roddi i fyny bob bwriad i fyned yno. Pe llwyddid i gael clodd- fevdd newvdd yno, y mae yn lie hynod o anfan- teisiol. Y mae yr oerni yn annyoddefol yn y gauaf, a'r ymborth yn ddrud. Y mae cpyn lawer o gyrchu i Phillips Flat, Ararat, ac y mae y rhag- olvgon yn ffafriol am blwm. Nid oes un cyf- newidiad o bwys wedi cymmeryd lie yn nosparth- iadau Avoca a Maryborough. Y mae cloddfeydd Inglt wood a Lamplough yn parhau i wellhau. C5 Mae ffordd haiarn Melbourne a Mount Alex- ander yn myned yn mlaen yn Uwyddiannus. Mae cyflogau llafurwyr, crefftwyr, a phob math o weithwyr, yn is Bag y buont.
llMbn;
News
Cite
Share
llMbn; Dysgwylir y bydd gan Piedmont 300,000 o ddynion o dan arfau erbyn y gwanwyn nesaf. Y ma" rhyfe! boeth wedi cychwyn yn Edinburgh yn erbyn cyfraith newydd y dretli flynyddol, yr hwn nid ydyw yn debyg o dertynu yn ff.tfriot i fanteision arianol y clerigwyr. Y mae cwmpeini y masnachwyr wedi dewis dirprwywyr trwy fwy- tfrif. Y mae Arglwydd Teynham mewn llythyr at ysgrifenydd mygedawl yr undeb diwygiadol gogleddol, yn cynnyg sefydla cymdeithas bolit caidd genedlaethol, yn gynnwysedig o gyng- horau a phwyllgorau lleol yn mhob sir. Y mae Ilywodraeth Sweden wedi rhodii cam o flaen holl alluoedd y cyfandtr. Y mae wedi pasio deddf yn diddyatu y gyftindrefn deithebol. Taenir y gair mai Arglwydd Alexander Gordon Lennox sydd yn debyg o fod yn olynwr i larll March yn nghynnrycbioliad West Sussex. Ymddengys oddiwrth adroddiadau yr heddgeidwaid fod 2,766 o ladron hvsbys y llynedd yn Llundain yn rhydd, achyf- lawnwyd 11,1930 droseddau. Dywed Rohebydd y Morninff Herald:—" Y mae un o fribion Garibaldi wedi marw o glwyfau a dderbyniodd o flaen Capua. Y mae y llall yn garcharor yn Gaeta." Dywedir fod llysgenadwr y Pab yn Madrid wedi anfon nwch law mittwn o ffrancs i'r Pab, y rhai oeddynt wedi eu casglu gan yr esgobion. Y mae y Frenines wedi gweled yn dda appwyntio Francis Pigott, Ysw., i fod yn lly wodraethwr Ynys Manaw, yn lie yr Anrhydeddus Charles Hope, yr hwn sydd wedi rhuddi ei swydd 1 fyny. Y llynedd dedfrydwyd 52 o bersonau yn Lloegr a Chymru yn euog o achosi marwolaeth eu cyd-ddynion a dienyddiwyd naw—oil am y trosedd o lofruddiaetb. Y mae Mr. Frederick Peel wedi derbyn y awydd o Ysgrif- enydd Cyllidol y Drysorfa, yr hon sydd wedi myned yn wag trwy appwyntiad Mr. Laing fel aelod o'r cynghor yn Calcutta. Dywed y Melbourne Argus eu bod wedi cael talp mawr o aur yn Ballarat yn pwyso 834 wna mewn dyfnder o 400 o droedfeddi. Cafwyd oddeutu 100 wnso aur yn dalpiau bychain o'i gwmpas. Y mae Mr. G. P. Tuxford, o'r Mark Lane Express, wedi ei ddewis fel yr ymgmydd rhyddfrydii; i lenwi y gtvigle yn nnhynnrychioliaA Boston, a achlysurwyd gan farwolaeth Mr. Herbert Ingram. Yr ym-eisydd ceidwadol ydyw Mr. Malcolm. Nwv WEIH EI WNEVD o DDWFH.—Y mae y gwestdy a elwir Greiird House, yn Philadelphia, yn cael ei oleuo gan nwy a wneir o ddwfr; ac y mae yn ateb y pwrpas mor dda, tel y mae parotoadau yn cael eu gwneyd mewn amrywiol fanau i wneyd y nwy hwn yn nhaleithiau Lloegr Newydd, Jersey Newvdd, a rhai o'r taleithiau gorllewinol. Y mae ei Fawrhydi amherodrot, Amherawdwr Rwssia, wedi gweled yn dda n.ddi i Mr. CHarles Frodsham, F. R..A.S., oriad- urwr enwog y Strand, Llundain (ilyfeisydd a Jlwneuthurwr y math newydd o oriaduron, ac awrleisydd ei {^rasuaaf Fawr- hydi y Frenines), til « s aur aHderchog, fel cydnabyddiaeth am • y gwasanaeth a wnaetli i Rwssia, drwy ei chyflenwi a chym- inaint o oriaduron (chronometers) cvwir, y rhai a hyrwydd- a ant gymmaint ar lwyddiant y tir-fesmia Rwsiaidd mawr. YuibwylKvch yn ochelgfir,ond nweithrcdwch y:) benderfyuol; ymostyngwch gyda ooneddigeiddrwydd, neu gwrthwynebwch gydapheoderfyniad. LI.WVDDIANT. — Y mae llwyddiant yn tywynu ar wahanol bersonau yn lied debyg fel y mae yr haul yn tywynu ar wahanol wrthddrychaiK Y mae yu caledurhai fel clai, tra y mae yn toddi ereill Jel cwyr. CY»vMMErMi.An AC ANOBAITH.A^orwch e'ch c;ilon igyd- ymleimlad, ond canwch hi i anobaith. Y mae y blodeuyn sydd yn yinagor l dderbyn y gwlith, yn ei gau yn erbyh y flymhestl. GVVIR ATHRONIAETH.—Y mae llwyddiant disymmwth yn gwneyd dynion yn wall^of mor ami ag »dfyd. Y mae gan bobi ddoeth, pa fodd byuag, eu llaw ddeheu i gjWoeth, a'u Haw aswy i dlodi, tra y mae eu penau yn ddifater yn nghylch pob un o honynt. YR ACHOS FOR V BYO YN ANNIWVGIKDIG.—Dywed Dr. Adams mai un rhes>vm paham y m.ie y byd hebei ddiwyuio vdyw, o h'^nvydd fod pob dvn wedi rhoi ei fryd ar ddiwYKio eredl, abyth yn meddwl fod ei Syrdd et ei hunyn sefyll mewn augen am ddiwygiad.
AWSTRIA.
News
Cite
Share
flwyddyn wedi dyfod yn ail Verona; y mae ganddi yn awr ddwy res o amddiffynfeydd. Mae llyng»'S o agerlongau yn awr yn gorwedd wrth angorau yn y porthladd. Nid ydyw amddiffynfeydd y Po wedi eu hesgeuluso mwy nag amddiffynfeydd y Mincio. Llvthyr o Turin a ddywed fel y canlyn :—" Y mae newyddion y dydd yn ddifrifol, ac y mae y llywodiaeth ar ei gwyliadwriaeth. Mae pum bataliwn newydd o'r gwarchodlu cenedlaethol i gael eu galw allan, ac y mae tymmor gwasanaeth y rhai sydd eisoes o dan arfau i gael ei estyn i 40 diwrnod. Cyn gynted ag y cyssylltir Naples yn swyddol, codir 100,000 o wyr yn Italy, a go- beithir y bydd y fyddin erbyn y gwanwyn yn rbifo uwchlaw 300,000. Os penderfyna Awktria ymladd, credir na bydd iddi roddi llawer o amser i ymbwylliad, ac y bydd ei hymosodiad yn gyflvrn a nerthol. Gellir gweled opiniwn Sardinia oddi- wrth yr iaith garilynol yn un o'r newyddiaduron swyddol:—" Yn ystod y tri mis diweddaf, buom yn danKos tueddiadau rhyfeIgar 1Jys Awstria, ac ni thwyllwyd ni erioed gan ei phroffes heddychol. Yr vdym yn ail ddweyd heddyw ar awdurdod I Y gredadwy o Vienna, eu bod yno yn edrych ar ryfel fel peth anocheladwy, a bod Awstria yn meddwl chwareu ei cherdyn olaf. Er y dichon na bydd y canlyniad o Lyntiadiedd Warsaw yn hollol ffafriol i'w hamcanion, nid oes neb yn ammheu na bydd iddo groesi y Mincio a'r Po yn ddioed. Ni raid i ni ddychrynu, ond rhaid i ni hefyd beidio cysgu." Mae yr iaith hon yn arddangosiad teg o'r teimlad sydd yn ffynu. yn holl gylchoedd y ilywodraeth, ac y mae gweithredoedd y Ilywodraeth yn hollol gysson a i thuedd.