Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

FFRAINC.

News
Cite
Share

FFRAINC. Mae holl Benciwdodau Ffrainc, gyda'r eithriad o'r Penciwdawd Bosquet, wedi eu cynnull yn Paris. Boreu dydd Mawrth, Hydref y 23ain, cymmeras- ant foreufwyd gyda'r Amnerawdwr yn St. Cloud, a threuliasant amryw oriau gydag ef wedi hyny yn y llysdy. Dywed y Constitutionel :-H Ar yr amser pan ag y mae yr ymweliad yn Warsaw yn achosi pob math o sylwadau, deallir gyda dyddordeb fod yr Amherawdwr wedi derbvn llythyr oddiwrth y Czar; a chredwn ein bod yn gywir wrth ddweyd fod y llvthyr hwnw yn egluro nad oes dim yn wrthwynebol i Ffrainc yn yr ymweliad." Mae traethodyn hynod o'r enw Cf Cynghrair a Lloegr, neu Cynghrair a Rwsia," newydd ym- y ddangos yn Paris. Yr amcan ydyw dangos fod cynghrair a Lloegr yn anmhosibl, nid yn unig 0 herwvdd y gwahaniaeth mawr sydd rhwng cym- meriad y ddwy genedl, ond hefyd 0 herwydd y troseddau lluosog a gyflawnwyd gan Loegr yn erbyn Ffrainc. Mae yn dechreu gyda brwydr Hastings, yr hon a barodd i goron Lloegr ddis- gyn ar ben un o'n dugiaid," ac y mae yn dyfod i lawr at v profion o ddrwg ewyllys Lloegr, ei gwrthwynebiad i Gamlas Suez, cyssylltiad, Savoy, &c. Ymddengys ar hyn 0 bryd nas gall milwyr Ffrainc ymadael o.Syrra yn mhen chwe mis, fel y penodwyd. Dywedir fod y Porte yn hollol anallu- og i amdd'.ffyn y Cristionogion, ond cyhuddir y milwyr Tyrcaidd o fod yn gyfranog o'r liofrudd- iaethau. Mae llyngesydd Ffrainc wedi cyrhaedd i Gaeta o Naples gyda phedair 0 longaurhyfel. Dywedir vn Paris fod yr ysgwadron i attal taubeltniad Gaeta.

RHUFAIN.

SYRIA.

DERBYNIAD Y LLENG SE1SNIG…

NAPLES.