Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

TY YR ARGLWYDDI.

News
Cite
Share

TY YR ARGLWYDDI. Rhag. 7.—Dygodd Iarll Granville genadwri i 'fyny oddiwrth y goron, yn annog rhoi tal-wobr i'r Cadfridog Havelock, a gorchymynwyd ei chymmeryd dan sylw dranoeth.- W rth gynnyg am adroddiadau yn nghylch Deddf Arfau, a chyfyngiad y wasg yn India, condemn- iai Iarll Ellenborough y modd y gweithredai Argl. Callning.-Amddiffynai larll Granville y cwrs a fab- wysiadwyd yn India. Dywedai fod Deddf yr Arfau wedi ei ffurfio yn y dull arferol, a gallai Ewropiaid gael trwydded i gario arfau a chyda golwg ar y wasg, dywedai fod y newyddiaduron brodorol wedi ufyddhau i'r ddeddf, tra y parhai y rhai Seisnig i arfer iaith lem tuag at y llywodraeth, yr hyn a'i gwnelai yn angen- rheidiol eu gosod dan yr un ddeddf.—Wedi peth dadl- eu, cytunwyd &'r cynnygiad. Rhag. 8.-Wedi i larll Granville roddi adroddiad o'r gwasanaeth gwerthfawr a gyflawnwyd gan y swydd- og dewr Havelock, cynnygiodd benderfyniad yn am- lygu cydsyniad cyflawn y T9 â'r cynnygiad i roddi tal-wobr o £1,000 yn y flwyddyn iddo.—Wedi i Iarll Derby ac ereill siarad, cytunwyd yn unfrydol &'r pen- derfyniad.—Ar gynnygiad am ail ddarlleniad y mesur gyda golwg ar addoliad cyhoeddus, eglurodd larll Shaftesbury amcan ei ddygiad yn mlaen. Bwriedid y mesur er symud rhai attalfeydd oedd heb eu cyffwrdd gan ddeddf 1855 mewn canlyniad i'r hyn y rhwystr- wyd clerigwyr i gynnal gwasanaeth yn Neuadd Exeter, drwy fod person y plwyf, yn ol sefyllfa bresenol y gyf- raith, yn meddu bawl i wneyd hyny. Nid oedd ef am ymyraeth a'r gyfundraeth blwyfol, ond cynnygiai na byddai y fath awdurdod gan y clerigwyr mewn plwyfi yn cynnwys dros ddwyfilo boblogaeth, ond yn unig drwy gydsyniad esgob yr esgobaeth. Yn ganlynol, cymmerodd ychydig ddadl o natur eglurhaol Ie, pan y siaradodd amryw. Nid oedd Esgob Tyddewi yn gweled un rbeswm digonol yn galw am y mesur. Yr oedd Esgob Llundain, o'r tu arall, yn bleidiol i'r mesur; a dywedai fod yn dda ganddo hysbysu y byddai Westminster Abbey i gael ei agor er cynnal gwasanaethhwyrol yn mis Ionawr nesaf. Yr oedd ef yn benderfynol i gefnogi a dwyn yn mlaen y gwaith da, pa un bynag ai yn yr eglwys gadeiriol ai mewn rhyw le arall y dygid ef yn mlaen, Wedi i Esgob Ripon, Argl. Cawnpore, ac Argl. Panmure lefaru o blaid y mesur, gohiriwyd y ddadl hyd Chwefror 8fed. Rhag. 9.—Darllenwyd mesur diogeliad Ariandy LIoegr y waith gyntaf; a thranoeth, darllenwyd ef yr ail waith. Ni fu dim arall o bwys dan sylw y T9. Rhag. 11.—Mewn atebiad i Argl. Shaftesbury, dy- wedai Argl. Clarendon fod cytundeb wedi ei wneyd rhwng llywodraeth Ffrainc a th9 masnacbol i gael cyf- lenwad o negrciaid i'r trefedigaetbau Ffrengig, ar yr ammod iddo fod yn ymfudiad rhydd. Yr oedd lly- wodraeth ei Mawrhydi yn ymwybodol o berygl un- rhyw gynllun o'r fath, ac wedi dwyn y pwnc dan sylw llywodraeth Ffrainc, yr hon a addawai gymmeryd y mater dan sylw. Ar ol peth siarad pellach, darllen- wyd ysgrif Diogeliad yr Ariandy y drydedd waith, a phasiwyd hi. Rhag. 12.—Wedi rhoddi y cydsyniad breninol i ysgrif Diogeliad yr Ariandy, dywedai Argl. Panmure nad oedd un sail i'r adroddiad a ledaenid drwy y wlad fod annghytundeb wedi cyfodi rhwng Syr Colin Camp- bell ac Argl. Canning; a darllenodd ddyfyniad o lyth- yr oddiwrth y blaenaf, yn sicrhau fod yr undeb per- ffeithiaf yn ffynu rhyngddynt.—Yna gobiriodd y Tt am 25 mynyd wedi tri, hyd ddydd Iau, Chwefror lydd.

TY Y CYFFREDIN.