Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

r HANESION CYFFREDINOL.

News
Cite
Share

yno i'w ganlyn. Pan ddygwyddai na fyddai yno un caplan, arferai ddarllen y gwasanaeth, a phre- gethai i'r gynnulleidfa. Cadwai weddi foreuol bob amser yn ei dy, pa nifer bynag o ymwelwyr a fydd. ai gydag ef, a pha mor brysur bynag y byddai; ac arweiniwyd ereill gan ei siampl i wneuthur yr un peth. Tanysgrifiai £ 50 y fiwyddyn at genadiaeth Amritsar, a ehynnygiodd £50 yn rhagor bob blwyddyn, os gallem sefydlu ysgol i'r genethod. Cyfododd sefydliad i blant y milwyr Ewropaidd yn y bryniau, a thanysgrifiodd £1,000 y flwyddyn ato. Yr oedd ei elusenau a'i roddion yn ddiderfyn bron, ac yr wyf yn meddwl ei fod wedi marw yn ddyn tlawd. Bu fy ngwas unwaith yn ei wasanaeth a phan hysbysais ef am farwolaeth Syr Henry Law- rence, torodd i wylo yn chwerw. Galara India am dano am amser maith. Bu ei farwolaeih yn oll- yngdod dedwydd iddo ef. 0, am fyw yn wastad yn agos i dragywyddoldeb I" EGLWYS ESG'OBAETHOL YSGOTLAND.-Y mae ein darllenwyr yn cofio fod y llywodraeth, ychydig amser yn ol, wedi tynu yn ol y Regium Donum o jgl,200 a. roddid bob dwy flynedd i Eglwys Esgob- aethol Ysgotland, y rhai a renid rhwng yr esgobion a'r clerigwyr tlotaf. I wneyd y golled hon i fyny, y mae amryw o aelodau eyfoethocaf yr eglwys hono wedi casglu oddeutu jE14,000 neu £15,000, heb- law £1,000 at dai i'r esgobion. Rboddir pum mlynedd o amser i bawb a ewyllysiant dalu eu tan- ysgrifiadau.. Yn mhlith y prif gyfranwyr, y mae Syr John Maxwell, £2,000, y Due o Buccleugh, £ 1,000; Ardalydd Lothian, £ 500; Arglwydd Rollo, £ 500; Arglwydd Montague, £ 500; Syr Archibald Edmonstone, £ 500; yr Anrhydeddus W. E. Gladstone, £ 200, &c. DEDDF NEWYDD YSGARIAETH.-Mewn cyfrin- gynghor a gynnaliwyd yr wythnos cyn y diweddaf, gorchymynwyd ar fod i Ddeddf Newydd Ysgar- iaeth ddyfod i weithrediad ar yr lleg o Ionawr nesaf. Ymddengys na ddarfu i'r ddeiseb a anfon- wyd yn erbyn y ddeddf gan yr ucbel-eglwyswyr, wrth yr hon yr oedd enwau tair mil o offeiriaid, a chwech mil o leygwyr, gael yr effaith leiaf ar fedd- yliau gweinidogion ei Mawrhydi. Achosa hyn friw dwys i'r deisebwyr yn ddiammeu. PRIODAS Y DYWYSOGES FRENWOL.—Prif des- tun ymddyddan y dosparth pendefigaidd y dydd- iau hyn ydyw priodas y Dywysoges Freninol gyda'r Tywysog Frederick William o Brwsia, yr hyn sydd i gymmeryd lie ar y25ain o Ionawr nesaf. Wrth gwrs, gwneir darpariadau eang a chostus iawn go- gyfer a'r amgylchiadau. Yr oedd y Tywysog ieu- anc yn wyddfodol yn ystod agoriad y Senedd, ac nid ychydig ydoedd y sylw a delid iddo. Cyn ym- adael a Llundain, rhoddodd ei enw i lawr am gan punt tuag at Drysorfa y Dyoddefwyr yn India. CYLLID Y DEYRNAS.—Oddiwrth jyr adroddiad sydd newydd gael ei gyhoeddi gan y llywodraeth am y flwyddyn a derfynai ar y 30ain o Fedi di- weddaf, canfyddir fod cyllid y deyrnas yn jg71,178,662, a'r treulion yn llai oâ'r swm yma o £ 484,335. Defnyddiwyd uwchlaw pum miliwn ar hugain tuag at gynnal y fyddin a'r llynges, a threuliwyd £900,000 gyda rhyfel Persia t GWROLDEB MENYWAIDD YN INDIA. — Rhydd y Parch. Mr. Scudder, cenadwr Americanaidd yn India, mewn llythvr yn y Christian Intelligencer, yr enghraifft gantynol o wroldeb:—" Mewn un lie, ffodd boneddiges a'i g&r mewn cerbyd. Safai yn unionsyth. Cymmerodd hithau y ffrwyn yn w dwylaw, a gyrodd y ceffylau drwy ganol mintai o'r gwrthryfelwyr, pan y saethodd yntau un a gydiodd yn mhen y ceffyl, acun arall a ymdrechai ei daraw o'r tu 01. Yn mlaen yr aethant, hyd nes iddynt gael en hunain drachefn yn nghanol -y gelynion a chan fod rhaff wedi ei gosod yn groes i'r ffordd, nid oedd eu gobaith i ddianc ond gwan. Fodd bynag, gyrodd y foneddiges y ceffylau ar garlam gwyllt yn erbyn y rhaff, yr hyn a fu yn llwyddian- nus i'w dwyn i lawr; a diangodd hi a'i gwr, ernid heb dderbyn niweidiau drwg. Mewn man arall, darfu i foneddiges ieuanc, merch i swyddog mil- wrol, saethu saith o'r gwrthryfelwyr cyn iddynt ei Uadd hi. Darfu i gadben hefyd ladd 26 o Sepoy- aid a'i gleddyf cyn iddo gwympo ei liunan. Y PARCH. ARTHUR MURSELI- YN MANCEIN- ION.-Prydnawn Sabbath, Rhag. 13eg, traddod- odd y Parch. A. Mursell (mab y Parch. J. P. Marsell o Leicester) ei chweched darlith i'r bobl weithgar; ei destun oedd, Pwy sydd yn curo wrth y drws?" Pel arfer, yr oedd y lie (Free- trade Hall) yn orlawn, a chafodd wrandawiad as- tud. Diweddodd Mr. Murseli drwy wasgu ar y gynnulleidfa yr angenrheidrwydd iddynt guro wrth ddrws Crist, drwy weddi ffyddiog yn y boreu pan godent, a phob nos cyn rhoddi cwsg i'w llygaid ac nad oeddynt i roddi fyny curo. wrth ddrws Crist, hyd nes yr unent a'r dyrfa ddedwydd a waeddent yn barhaus, Y fendith, yr anrhydedd, y gogoniant, a'r gallu a fyddo i'r Hwn sydd yn eis- tedd ar yr orseddfainc, ae i'r Oen, yn oes oesoedd." Y GREFYDD WLADOL YN AWSTRALIA.—Yn ddiweddar, gwnawd ymdrech gan y Rhyddgarwyr yn y drefedigaeth hon i basio cyfraith er diddymu pob cynnorthwy oddiwrth y llywodraeth er cynnal crefydd. Dygwyd ysgrif i'r perwyl hwnw i'r Sen- edd, ac aeth drwy y T9 Isaf; ond cafodd ei gwrth- od yn y T9 Uehaf gan fwyrif bychan. Nid oedd y mesur, fodd bynag, i ddyfod mewn grym am dair blynedd; ac nid yw yn debyg y caiff un eisteddiad o'r Senedd fyned heibio etto, heb fod ymdrechiou eguiol i gael eu gwneyd er pasio yr ysgrif. BANCIAU CYDGYRFF (Joint-stock).- Y mae nifer mawr o fanciau dan yr enw hwn wedi eu sef- ydlu yn Lloegr er pan basiwyd deddf 7 George IV., 1826; sefydlwyd hwynt braidd yn mhob tref fawr yn y deyrnas. Yn 1840, swm y nodau a an- fonwyd allan gan y banciau hyn oedd, £4,136,618; y swm oedd mewn cylchrediad gan fanciau annghy- hoedd, yn yr un flwyddyn, oedd, £6,973,613 ;y cyfanswm yn cyrhaedd dros un filiwn ar ddeg. Y nodau oedd mewn cylchrediad gan fanciau ar y lafo Hydref, 1855, oedd, yn Lloegr, £ 3,990,800; yn Ysgotland, £ 4,280,000; ac yn yr Iwerddon, £ 6,785,000; cyfanswm, gyda'r banciau annghy- hoedd Seisnig, oddeutu 19 miliwn o bunnau; a chyda bane Lloegr, uwchlaw 39 miliwn o bunnau. Y LLOFRUDDIAETH YN BOLTON.—Yn mrawd- lys Llynlleifiad yr wythnos cyn y diweddaf, ded- frydwyd Aaron Mellor i gael ei grogi am lofruddio ei wraig yn Bolton. Dydd Llun wythnos i'r di- weddaf, gosodwyd y carcharor drachefn gerbron, a chyfarchwyd ef gan yr Ynad Weightman, yr hwn a hysbysai, o herwydd tipyn o afreoleiddiwch yn nygiad y prawf yn mlaen, y byddai i'r ddedfryd gael ei gohirio hyd nes y penderfynid y mater gan Lj#yr Appeliad mewn Achosion Cospawl. Yr af- reoleidd-dra a ddygwyddodd fel hyn :—Pan oedd y jheithwyr yn cael eu dewis, atebodd person o'r enw Thornley yn lie person o'r enw Thorn, a chafodd yr achos ei brofi o'i flaen effel un o'r deu- ddeg, yn He o flaen Thorn. 0 herwydd yr afreol- eidd-dra hwn, nid oedd y carcharor mewn ystyr wedi cael chwareu teg i wrthwyneba yr oil o'r rheithwyr; o ganlyniad, tybiodd ei arglvvyddiaeth yn addas i obirio y ddedfryd, hyd nes y penderfyn- id y mater gan y llys uchod.