Hide Articles List

1 article on this Page

HANESION CARTREFOL.

News
Cite
Share

Crietionogol a'i haddurnai, a'i gwnelai yn anwyl gan bawb a'i badwaenai. Cludwyd ei gweddillion o Hwl- ffordd i Ferthyr gyda'r rheilffordd ac o safle y rheil- ffordd i'r capel, yr oedd yr heol yn llawn o bobl, llu- oedd o ba rai a unent a'r orymdaith, er talu parch i goffadwriaeth un a berchid mor fawr. Deehreuwyd y gwasanaeth yn y capel gan Mr. Evans, Caersalem, Dowlais a phregethwyd yn Saesneggan Mr. Burdett, Achraw Ieithyddol Coleg Hwlffordd; a Mr. Jones, gweinidog y lie, yn Gymraeg. Areithiwyd ar lan y bedd gan Mr. Lloyd, Ebenezer. Yr oedd yr oil o'r siopau o safle y rheilffordd i'r capel wedi eu cau er parch i'r trengedig. Heddwch fyddo i'w llwch. ABERDAR.âY Sefyll Allan.-Oddiwrtb yrhys- bysiadau a ymddangosasant yn rhai o'r newyddiaduron Seisnig, gallesid tybied fod cymmydogaeth Aberdar yn y terfysg mwyaf-fod ymladdfeydd wedi cymmeryd lie -amryw bersonau wedi eu lladd a'u clwyfoâa'r siop- wyr yn y dychryn mwyaf rhag i'w siopau gael eu tynu i lawr da genym gael ar ddeall, fodd bynag, nad oes dim gwirionedd yn y fath chwedlau. Mae yn wir i gant o filwyr gael eu hanfon yma ond gwelwyd yn fuan nad oedd eu hangen, a chawsant eu hanfon ffwrdd. Y gwir yw, ni ddygwyddodd un peth annymunol yn y lie, ond yn unig fod y gweithwyr yn gwrthod gweithio, o herwydd fod gostyngiad wedi ei wneyd yn eu huriau. Yn mhob ystyraraU.ymddygai y gweithwyr yn ddoeth ac beddychol; a'r gred gyffredin yw, na fyddai un an- nealltwriaeth yn eymmeryd lie rhwng y meistri a'r gweithwyr, oni bai fod rhai personau dibrofiad yn cyn- hyrfu eu cydweithwyr. Yr wythnos cyn y diweddaf, cynnaliwyd cyfarfod yn marchnadle Aberdar, pan yr anerchwyd y glowyr gan H. A. Bruce, Ysw., A. S. Bernir fod dros 2,000 o lowyr, heblaw nifer mawr o fasnachwyr ac ereill, yn bresenol. Eglurodd Mr. Bruce iddynt sefyllfa bresenol pethau yn y byd mas- nachol, a'r egwyddor ar ba un y rheoleiddir symiau y cyflogau. Amdditfynai ymddygiad y meistriaid yn eu gwaith yn gostwng y cyflogau, gan ateb gwithddadleu- on y gweithwyr, a dysgrifio drygedd y ewrs a fabwys- iadasant; a thaer annogai hwynt i ddychwelyd at eu gwaith. Gwrandewid arno gyda'r astudrwydd mwy- af gan rai, tra yr edrychai ereill ar ei araeth fel chwedl ofer. Cyfieithodd y Parch, D. Price sylwedd araeth Mr. Bruce i'r Gymraeg, er mwyn y rhai nad oeddynt yn deall Seisonig; a gwnaeth rai sylwadau o'i eiddo ei hun. Llefarodd ychydig o'r glowyr, gan ddysgrifio y cam a wneid a hwynt; gan chwanegu nad oedd y meistriaid wedi egluro achos y gostyngiad yn deg iddynt; ond ar yr un pryd, diolchent i Mr. Bruce am yr eglurhad a roddasai iddynt. Pasiwyd penderfyn- iad "fod i'r dynion pertiiynol ilr amrywic, fweithydd glo i gynnal cyfarfod y noswaith hono, i sylwi ar y rhesymau a ddygwyd yn mlaen gan Mr. Bruce dros i'r gweithwyr ddychwelyd at eu gwaith, ac i benderfynu y cwestiwnây dynion peithynol i bob pwll areu penau eu hunain-trwy y tugel. Barnai amryw o'r gweithwyr fod amgylchiadau presenol y wlad yn galw arnynt i blygu, ac i dderbyn y gostyngiad a gynnygid iddynt; a da genym ddeall fod yn agos yr oil o'r gweithwyr wedi myned at eu gwaith yn awr. Dydd Llun, Rhagfyr 14eg, cynnaliwyd cyfarfod Ilu- osog gan y glowyr ar Gwmin Hirwaen, rhwng Cwm- dar a Heol-y-felin. Tybir fod o naw i ddeg mil o'r giowyr, ac ereill, yn bresenol, ac ymddygodd pawb yn weddaidd ac heddychol. Wedi i'r cadeirydd draddodi araeth fer ar yr achlysur, galwodd ar Mr. W. Wil- liams, glowr, Cwmdar, i anerch y cyfarfod, yr hwn a farnai nad oedd sefyllfa bresenol masnach y glo yn galw am y fath ostyngiad yn y eyflogau ag a gynnygid gan y meistriaid, ac enwodd amryw resymau dros y sefyll allan. Y na, galwwyd ar Mr. Lewis Morgan i anerch y cyfarfod, yr hwn a sylwai fod pris marchnad y glo yn Nghaerdydd yn cael ei guddio oddiwrthynt, yr hyn a ystyriai yn hollol annheg; ac honai hefyd fod y gostyngiad a gynnygid yn annheg, ac yn fwy nag yr oedd sefyllfa y lasnaeh yn gofyn. Yn nesaf, galwwyd ar Mr. Jones, Aberaman, i lefaru. Dywedodd fod y meistriaid am fyned a chymmaint arall bron oddiar y gweithwyr ag oeddynt hwy wedi ei golli; nid oedd Hog arian ond deg punt y cant, ond yr oedd gostyngiad yn y cyflogau o bumtheg punt y cant, yr hyn oedd yn hollol annheg tuag at y gweithwyr tlodion. Teinilent yn foddlawn i ddwyn rhan o'r baich, ond nid y swm annghyfiawn y dymunai eu meistriaid osod arnynt. Amddiffynodd y gweithwyr yii erbyn y cyhuddiad a ddygid yn eu herbyn, eu bod am rwystro ereill i fyned at eu gwaith. Yr oedd pawb at eu rhyddid o'u rhan h wy i fyned i weithio yr amser a fyneht, gan nad oedd dim a wnelent hwy a thorwyr glo y mor. Cwynai nad oeddynt yn cael gwybod prisiau y farchnad lo yn Nghaerdydd. Pan ostyngai y prisiau, caent glywed yn uniongyrehol; ond pan godent, cedwid hyny oddiwrth- ynt. Wedi i Mr. John Edmunds anerch y cyfarfod yn Saesneg, terfynodd yn dawel a boneddigaidd. CAIS AT HUNANLADDIAD.âNos Fercher, Rhagfyr 9ed, taft wyd cymmydogaeth Rhosymedre i fraw dirfawr, trwy i'r gair fyned allan fod dyn ger Brook Side wedi ceisio terfynu ei hoedl drwy dori ei wddf ag ellyn. Nid yw yr achos a'i cynhyrfodd i wneuthur hyn yn hysbys; ni ynganodd air wrth neb o berthynas i'r weithred cyn ei chyflawnu, ac wedi ei chyflawnu, yr oedd yn an- alluog i siarad yn eglur, gan fod yr archoll a wnaeth mor ddwfn, a thrwy hyny effeithio ar beiriannau yr ymadrodd. Yr oedd yr un dan sylw yn enedigol o Langollen, ac yr oedd ei dad a'i fam yn ddiarebol am eu duwioldeb ond nid ydynt hwy yn awr yn fyw i deimlo gofid a thristwch yn yr achos. Wedi marw ei rieni, ymfudodd i Lynlleifiad ymbriododd yno, a se- fydlodd mewn masnach. Yr oedd yn byw yn gysur- us yno; yr oedd haulwen llwyddiant yn tywynu yn brafarno; ond cyn hir, wele gwmwl tew yn ymgodi draw, ac y mae awyrgylch ei amgylchiadau yn duo. Dyna angeu yn ymruthro i' w deulu, ac yn cymmeryd calon ei anwyl hunan arall yn nod i'w saeth dreiddlym. Y mae hono yn disgyn yn ysglyfaeth i elyn dynoliaeth, ac yntau yn cael ei daflu i ymrwyfo goreu gallo rhwng tonau aflonydd gweiigi amgylchiadau. O'r diwedd, blinodd ar Lynlleifiad a'i thrwst masnachol; a dydd Llun, Rhag. 7fed, daeth i'r gymmydogaeth hon. Ond yr oedd rhywbeth yn ei ddull, ei ymddangosiad, a'i ym- ddyddanion yn dangos fod rhywbeth o'i le. Ni fedrai fwyta fel arferol, na chysgu fel cynt; ac os gofynid iddo reswm, sisialai, Nad oedd neb yn gwybod maint ei flinder ef." Coeliaf di, gyfaill; etto y dylasit wylio. Treuliodd dydd Mercher gyda'u berthynasau, ac wedi ei myned yn hwyr, cychwynodd i'r station, i ymofyn yn nghylch ei dools, a dau ereill gydag ef; ond gan ei bod mor hwyr, darbwyllwyd ef i droi yn ol, ac i fyned yno dranoeth; ac ar y ffordd wrth fyned yn ol y gwnaeth yr ymgais i osod terfyn ar ei fywyd. Boreu dranoeth, aethym i'w olwg, a byth nid annghofiaf yr olygfa. Er fy mod yn ei adnabod yn dda, ac wedi bod yn ei gym- deithas ddegau o weitbiau, etto prin y coeliwn fy llyg- aid fy hun. Rhyw olygfa annaturiol iawn yw canfod dyn yn hongian ar y crogbren ond beth yw hyny mewn cymhariaeth i'r olygta a welais yn nghongl yr ystafell yn Brook Side. Y dyn oedd yehydig amser yn ol yn llawn nwyfiant ac asbri, yn ddyn pert a golygus, yn wrthddrych ymhyfrydiad ei bertnynasau ond edrychwch arno yn awr, ei wyneb yn llwyd a gwelw, ei olygon yn drymaidd, ei wefusau yn ddulas, a'i anadl yn fyr-fyr, yn sefyll ar fin y tragwyddolfyd diddiwedd, yn y character o hunanleiddiad. Y mae yn fyw hyd yn hyn, ac yn cael edrych ar ei ol yn y Wrexham Dis- pensary. Dywedir mai gobaith gwan sydd am ei ad- feriad.âGOHEBYDD. LLANDUDNO.âDarlith ar India.-Traddodwyd darlith ar y testun uchod, nos Fercher, yr 2il o'r mis hwn, gan y Parch. John Philips, Bangor, yn nghapel yr Annibynwyr, Llandudno. Yr oedd y derbyniad i mewn trwy docynau chwe cheiniog yrun; yr elw i fyned at Graadiaeth y Methodistiaid Calfinaidd. Gal- wyd y Parch R. Parry i lywyddu; yr hwn, wedi mynegu yn fyr ddyben y cyfarfod, a alwodd ar y dar- lithydd parchus i ddechreu ar ei orchwyl. Yr oedd yr araeth yn bwrpasol, yn ddyddorol, ac yn deilwng, a gwrandewid y traddodiad yn astud. Wedi cynnyg a chefnogi diolchgarwch i'r darlithydd am ei ymweliad, gan Mr. Thomas Parry, a'r Parch. Hugh Jones, gwein- idog y Bedyddwyr, terfynwyd y cyfarfod. Yr oedd yr addoldy eang yn llawn a chafodd pawb eu gwir fodd- hau. Cyn ymadael, hvsbyswyd y byddai i ddarlith gael ei thraddodi yn yr un He, gan y Parch. R. Parry, ar ddiwedd y cyfarfod te, nos dydd Calan nesaf, ar