Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Family Notices

Family Notices
Cite
Share

GENEDIGAETHAU. Rhag. 13, priod Mr. Owen Roberts, orierydd, Caernarfon, ar ferch. Rhag. 7, priod Mr. Thos. Griffiths, Meidrim, Llan- defeiliog, ar fab. PRIODASAU. Rhagfyr 8fed, yn Bryn Efan, gan y Parch. Isaac Williams, Trelech, a cherbron y cofrestrydd, sef Mr. Timothy Thomas, ieuengaf, Castellnewydd Emlyn, Mr. William Phillips, Dilledydd, o bentref Trelech, a Miss Mary Davies, hen forwyn Mr. John Davies, Cwm, Trelech. Rhagfyr 12fed, yn eglwys Cwmaman, gan y Parch. Thomas Thomas, Periglor y lie, Mr. John Morgan, Glowr, a Miss Mary Anthony, y ddau o Gwmaman. Anrbydeddus yw priodas Yn mhob dyn medd gair ein Daw, 'N anrhydeddus bo'r ddau yma Gyda'u gilydd tra b'ont byw Gwenau'r nefoedd fyddo arnynt Ar eu taith trwy hyn o fyd, Nefoedd gwed'yn fo'n eu derbyn Idd ei hardd drigfanau clyd. Ty'nydomen. W. EVANS. MARWOLAETHAU. Rhag. 10, yn Llandyssilio, Mrs. Mary Owen, Bush, yn 82 mlwydd oed. Yr oedd yr ymadawedig yn adna- byddus i'r rhan amlaf a deithient drwy y parth hwn o'r wlad, a theimlir galar ar ei hol. Rhag. 17, yn 101 oed, Jemima Jenkins, Heol-y-dwfr, yn y dref hon. Medi 7, yn America, Mr. John Davies, mab Mr. Thomas Davies, Gilfach, Trefilan, ger Llanbedr. Er myned i Americ der, k 'Gael pleser mwynder maith, Daeth angeu, Och! i'w gwrdd yn syn, Rhoes derfyn ar ei daith. Trefilan. D. JONES. Y DIWEDDAR J. DAVIES, LOGIN. Y mae'r byd yn mha un yr ydym ni yn preswylio yn Hawn o gytnewidiadau; heddyw gwelir yr haul yn dysgleirio yn ei holl ogoniant, natur yn ei gwisgoedd goreu, a dedwyddwch yn gordoi pob mynwes, ond yfory gwelir y cwmwl yn gwgu, anian ynbruddaidd yr olwg ami, a'r dagrau tryloywon yn gwlychu y grudd- iau mwyaf rhosynaidd. Y mae cenedlaeth yn dyfod ar ol cenedlaeth rhai a enir, ac ereill a ant i ffordd yr holl ddaear. Y mae y flwyddyn sydd yn awr bron ar ei therfyn wedi achosi llawer o alar a dagrau i filoedd o'n cydwladwyr, ac wedi cario rhyw nifer fawr o hon- ynt i ddyffryn cysgod angeu ac yn eu plith, John Davies, Tanygaer, yr hwn a hunodd yn yr Iesu go- beitbiwn ar y lOfed dydd o'r mis presenol, yn 46 oed. Crydd oedd y trancedig wrth ei alwedigaeth, yn byw yn ardal Login, ac yn aelod hardd o'r eglwys hono am amryw flynyddau. Bu o wasanaeth i grefydd, ac yn ffyddlawn gdlga 'r ysgol Sul hyd ei fedd a tbeimlir colled ar ei 01 gan yr ardal a'r eglwys. Yr Arglwydd a ddyddano ei weddw, ac a fyddo yn gysur i'w blant. 0 moransicr yw ein bywyd. Dyma flwyddyn etto at flynyddoedd ein hoes bron cael ei rholiaw ymaith gan ystormydd amser. Y mae'r borfa yn tyfu yn wyrdalas ar feddau cannoedd ag oeddynt yn iach ar dir y byw blwyddyn yn awr; ac y mae yn ddiammeu y bydd llaweroedd o ddarllenwyr sirioI SEREN CYMRU wedi eu priddo yn y ddaearen ddu cyn gweled blwydd- yn etto. 0, am fod yn barod erbyn delo angeu.—D. OLIVER EDWARDS.

HANESION CARTREFOL.