Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

CYHOEDDIAD RHYFEL GAN Y MORMONIAID.

News
Cite
Share

CYHOEDDIAD RHYFEL GAN Y MORMONIAID. Yn ol y newyddion diweddaf o'r Unol Daleith- iau, deallwn fod hysbysiadau wedi eu derbvn yn Washington oddiwrth y Milwriad Alexander, yn llwyr gadarnhau yr hanesion fod y Mormoniaid mewn cyflwr cynhyrfus. Y mae Brigham Young hefyd wedi anfon allan y Cyhoeddiad canlynol at fyddinoedd yr Unol Daleithiau, yn herio y llyw- odraeth, ac yn annog y bobl i ymosod yn y modd mwyaf penderfynol:— CYHOEDDIAD GAN Y LLYWODRAETHWR. 44 Ddinaswyr Utah trawsruthir arnom gan fydd- in elynol, a ymesyd arnom fel y m&e yn amlwg er mwyn ein dadymchwel a'n dinystrio. Am y pirfa mlynedd ar ugain diweddaf, yr ydym wedi ymddir- ied i swyddogion y llywodraeth, o'r heddgeidwaid a'r ynadon, hyd y barnwyr, y Ilywodwyr, a'r Ilyw- yddion, a hyny i gael ein gwawdio, ein dirmygu, ein sarhau, a'n bradychu. Y mae ein tai wedi cael eu hyspeilio a'u llosgi, ein meusydd wedi eu han- rheithio, ein dynion penafwedieu Ilofruddio-a hyny pan dan nawdd addefedig y Ilywodraetb a'n teuluoedd wedi eu gyru o'u cartrefi i ymofyn yr achles hwnw yn y diffaethweh gwyllt, a'r oawdcl liono yn mysg anwariaid gelynol, a ommeddwyd iddynt yn nhrigfanau bostgar Cristioaogaeth a gwareiddiad. Y mae cyfansoddiad ein gwlad gyffredin yn sicrhau i ni oil yr hyn a bawliwn yn awr a phob amser. Os ydyw yr hawliau eyfansoddiadol a berthynant i ni fel dinaswyr Americanaidd wedi eu hestyn i Utah yn ol ei wir ystyr, ac yn cael eu gweinyddu yn deg ac anwhleidiol, yr ydym yn cael y cwbl a allwn ofyn—y ewbl a ofynasom erioed. Y mae ein gwrthwynebwyr wedi cymmeryd mantais ar y rhagfarn sydd yn ein herbyn, oblegid ein ffydd grefyddol, i anfon allan Iu dychrynllyd i'r dyben o'n dinystrio. Nid ydym ni wedi cael na rhagorfraint na chyfleusdra i amddiffyn ein hun- ain gerbron y genedl rhag y syniadau gau, halog- edig, ac annghyfiawn sydd yn ein herbyn. Nid yw y llywodraeth wedi ymostwng i drefnu ar fod i bwyll- gor.ymchwiliol, nac un person arall, gael ei anfon i ymofyn am y gwirionedd yn nghylch ein sefyllfa, fel y gwneir yn gyffredin yn y fath amgylchiadau. Gwyddom fod yr enllibiadau hyny yn dwyllodrus ond nid yw hyny yn tycio dim i ni. Condemnir ni heb ein gwrandaw, a gorfodir ni i gyfarfod a therfysglu arfog cyflogedig, a anfonwyd yn ein her- o byn ar gymhelliad ysgrifenwyr llythyrau dienw, a gywilyddiant arddel yr anwireddau bas, enllibus, a roddasant i'r cyhoedd—gan ia-swyddogionllygred- ig, a ddygasant gam-dystiolaeth yn ein herbyn gan ymguddio yn eu gwarth en hunain, a chan offeir- iaid cyflogedig a golygwyr udiadol sydd yn gwei thu y gwirionedd er mwyn budr elw. Y mae y canlyniad yma a ddirgymhellwyd fel hyn arnom yn ein gorfodi i fabwysiadu y ddeddf fawr gyntaf o hunan-gadwriaeth, ac i sefyll dros ein hamddiffyniad ein hunain-hawl a warantir i ni gan ysbryd sefydliadau ein gwlad, ac ar yr hon hawl y sylfaenir y llywodiaetii. Y mae ein dyled. swydd i ni ein hunain ac i'n teuluoedd yn gofyn na bo i ni dawel ymostwng i gael ein hymlid a'n' lladd heb wneyd cynnyg i ddiogelu ein hunain. Y mae ein dyledswydd i'n gwlad, i'n crei /dd sant- aidd, i'n Duw, ac i'n rhyddid a'n breintiau, yn gofyn na bo i ni sefyll yn ddigalon i edrych ar y llyffetheiriau hyn yn cael eu tynhau am danom, er mwyn ein caethiwo a'n dwyn yn ddarostyngedig i drawsawdurdod filwrol annghyfiawn, y fath ag a all darddu mewn gwlad yn meddu cyfraith gyfan- soddiadol yn unig o draisfeddiant, tra-arglwydd-. iaeth, a gormes. Am hyny, yr wyf fi, Brigham Young, llyw-. odraethwr ac arolygydd yr amgylchiadau Indiaidd .y dros diriogaeth Utah, yn enw pobl yr Unol Da- leithiau, yn nhiriogaeth Utah, yn gwahardd- Yn gyntaf-i bob byddinoedd arfog, o bob- darluniad, ddyfod i'r diriogaeth hon, dan unrhyw esgus bynag. "Yn ail—fod yr holl fyddinoedd sydd yn y diriogaeth ddywededig i fod yn barod ar foment o rybydd, i yru ymaith bob rhuthrgyrch o'r fath. Yn drydydd-fod cyfraith f lwraidd i fod yn y diriogaeth hon, o ddadganiad y cyhoeddiad hwn, ac na oddefir i un person fyned trwy y diriogaeth hon, nac allan o honi, na dyfod iddi, heb ganiatad: gan y swyddog priodol. Rhoddwyd dan fy llaw am sel I, yn ninas fawr y Salt Lake, yn nhiriogaeth Utah, y pumthegfed dydd hwn o Fedi, B. A. y deunaw cant a dwy ar bumtheg a deugain, a'r eilfed flwyddyn a phedwar ugain o annibyniaeth Unol Daleithiau yr America.. BRIGHAM YOUNG." Yn atebiad i hyn, bysbysodd y Milwriad Alex- ander i Brigham Young, fod y byddinoedd yno trwy orchymyn y llywydd, ac y trefnid hwynt fel y gwelai y cadfridog yn briodol.

NEWYDDION ETHOLIADOL.

UNOL DALEITHIAU AMERICA.